Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
... CYMRU A'R RHYFEL.
News
Cite
Share
CYMRU A'R RHYFEL. LLETY'R BYWYD. Yn y Flwyddyn I. Dim lie! Dim lie Mae'r llety'n llawn, A ehynmvys ynddo fwy nis gwnawn; Chwi Galileaicl tlawd di-fri, Ewch yn eich blaen! 'Does le i chwi." Na nawr, mi wn, eich tyner fron Ni omedd gomel gwaeli hon, I orwedd. ennyd o dan gudd, Ei hamser yn nesau y sydd." A! anhawdd gennym wrthod lie I'r -i-eu,anc deg yn Ilety'r dre'; Arhoswch, hwyrach, y cewch ran Yranifeiliaâd yü y man."
Yn y Flwyddyn 1917
News
Cite
Share
Yn y Flwyddyn 1917 Dim lie! Dim lie! Dim Ile i" Ti, Y Gwr ynig Ngalidea fu; Mae'r ty yn llawn,a mwy na llawn, Dos yn dy flaen! It" le nis gwnawn. Ond os y deui y ffordd hon Ryw arall dro am lety lion, Ac os rhyw gornel ddel yn wag, Cei aros yno heb un nag. Dos yn Dy flaeni, yn awr, yw'n cri, Mae'r ty yn llawn, 'does le i Ti. Trisant. Cyf. T. MASON JONES, Aeth y Meddyg R. W. Richards, Llandudno, drosodd dydd Gwener, Gorff, 13, i gymryd gofal vsbyty yn Ffrainc. -+' Yn Sir Drefaldwyn yn unig mae eisoes 275 o ddynion analluog wedi eu hanfoni adref o'r fyddin, 24 yng ngafael darfodedigaeth, a 32 a'u ealon wedi ei amhaxu. Dydd Sadwrn, Gorff. 14, bu Arglwydd ac ATglwyddes Colwyn yn agpr ward newydd, god- wyd ar gost 0 ^500, ynglyn ag Infirmary Sir- oedd Caernarfon a Mon, ym Mangor. Os yw cyfoeth yn cynhyddu, mae haelioni, hefyd. Bwriedir cynnal CynhadJed9 o bleidwyr hedd- wch yn Llandrindod, Medii 3—5, a chyfarfydd- an.t yn nhy cwrdd y Crynwyr. Cyflwynir yno nifer o benderfymadau ynglyn a pherthynas y cenhedloedd, a'r moddion i sefydlu heddwch. Derbyniodd Syr Henry Lewis, Bangor, y newydd prudd am farwolaeth ei fab hynaf, Lieut, Arthur Lewis, mewn ysbyty yn Bagdad, oddiwrth effeithiau y malaria fever.' Yr oedd yn 42 mlwydd oed, a gedy weddw ac un plentyn, y rhai sydd ynyr India. Yn y Ty yr wythnos ddiweddaf, gofynai Mr. Morrejl i'r Is-Ysgrifennyddi Rhyfel a wyddai fod dynion yn perthyn i adran neilltuol yng ngwersylH Croesoswallt, oeddynt yn fydd'ariaid, yii unllygeid,iog, ac yn gloffion, ac oniid gwell i'r wlad fyddai iddynt fod gyda'u gorchwylion ar- ferol. Ni wyddai'y Swydd'fa Rhyfel ddim am danynt oeddl yr ateb. Trefnwyd at home i oddeutu cant o filwyr claf a chlwyfedig gan ymwelwyr a pherchennog y Gwalia, Llandrmdod, dydd Iau, Gorff I2fed. Diddorwyd hwy a. gwledd a chyngerdd. Llywydd y cyngerdd ydoedd Mr. G. T. Row- land's, Lerpwl (mab y diweddar Barch. Daniel Rowlands, Bangor), ac anogai' westai eraill i ddilyn esiampl, dda y Gwalia. EiF3 Bachgen ieuanc o Birmingham, a'i fryd ar fod, yn ysgolfeistr, ac wedi pasio yn Uwyddian- nus arholiadau Llundaiin, wedi ymuno yn ddi- weddar a'r R.A.M.C., a chael ei hun ar fyrder drosodd yn Ffrainc. Cáfodd, ei rieni lythyr oddiwrtho yn ddiwedd'ar, yn tystiio fel yr oedd yn colli yr Ysgol Sul Gymreig, ac er ceisio gwneud y diffyg if fyny, darfu iddo ef ac un araill o'r milwyr ymneilltuo ar brydnawn Sul, i ddarllen eu Testamentau, a cheisio myfyrio ar y gwir- ioneddau. Yr oeddynt yn cael llawer o gysur yn eu djesbarth o ddau. Atebai y fam, mor dda oedd ganddi glywed,a sicrhall ei bachgen fod yno Drvdydd yn bresennol gyda. hwynt! -< .= Hyfryd yw gweled yr undeb sydd rhwng y caplani'aid Ymneilltuol yng Ngwersyll Croesos- wallt. Cynhelir yno un gwasanaeth Cymreig yn awr, oherwydd amlder, y 'parades.' Mae cyd- weithrediad y Parchn. D. Hoskins (M.C.), W. Waldo Roberts (B.), ac E. Wynne Owen, vn eu llafur gyda'r bechgyn ac ynglyn a'r Ysbyty, megis ernes o'r undeb enwadol gwedi'r tryb- estod. Derbyniodd y Parch. Lodwig Lewis, Aber- tawe, y many lion o'r modd y cyfarfyddodd ei fab ieuengaf, 2nd. Lieut. Lodwig Lewis, a'i ddiwedd ar faes y frwydr. Disgynnodd 'shell yn y ffos lie yr oedd ef a chyd-swyddog yn ar- olygu'r gynnau. Bu y gwrom ieuanc farw'n uniongyrchol, a chludwyd ei weddillion o'r ffos mewn parch, a chladdwyd ef gan y caplan Ym- neilltuol. Mae cydymdeimlad mawr a Mr. Lewis a'r teulu yn yr amgylchiad trist. Gofynodd Mr. Ellis Davies, A.S., yn y Ty dd'ydd Mawrth diweddaf paham na chyhoeddid yr Adroddiad Swyddogol am wrhydri bechgyn Cymru yn y brwyclro diweddar. Daeth y son am eu gorchestiion drosodd i Gymru, a phaham na adewid i'r byd wybod, fel y gwoeir gyda gwaith milwyr rhannau eiraitll o'r Ymherodr- aeth? Yr ateb oedd mai ar y Pen-cadlywydd yr oedd y peth yn gorffwys. Pa bryd y cawn Ben- cadlywydd Cymreig, tybed? I aros hynny, ai gormod disgwyl am i fechgyn Cymru ga-el chwarae teg? Fu yng Nghastell Caer erioed fawr o gariad at Gymru.
-"-----------"',.--.-----------PERSONOL.
News
Cite
Share
PERSONOL. Hysbysir fod y Parch. T. R. Jones, Towyn, wedi cydsynio a'r' alwad o eglwys glannau Llyn Tegid, ac y bwriada symud at ddechreu'r gaeaf. Yn y Drych ysgrifenna Dr. Daniel Williams hanes Cymry cyntaf Wisconsin,—pen- nod ddiddorol lawn yn hanes Cymru'r Unol Daleithiau. Bwriada y Parch. Dr., Dixon, o'r Metropolitan Tabernacle, dreulio yr oil o mi's Awst yn Llan- drindod', ac erys ei briod-yno hyd ddiwedd Medii ♦ Mae'r Parch. SimonG. Evans, M.A., gynt o Bwllheli, wedi pasio gydag aorhydedd y rhan gyntaf o'r Arholiad terfynol fel meddyg ym Mhrifysgol Liverpool. -+- Penodwyd. Mr. Davies Jones, M.A., athro cynorthwyol yh Ysgol Ganolraddol Llandrini- dod, ar staff Ysgol Ganolraddoi, Caergybi. Bydd yn dechreu ar ei waith yno Wedi'r gwyliau. Treulia Dr. JT D. Jones Bournemouth, ychydig amser yn Towyn, lie y preswylia, ei fam a'i frawd (Mr. Haydn Jones, A.S.). Pregeth- odd nos Sul yng nghapel Saesneg y Methodist- iaid. Mr. Edgar H. Trewartha, B.A., prifathro- mewn ysgol bechgyn yn y dref, a ddewiswyd yn arolygydd ysgolion dari bwyllgor addysg Caer- dydd. Canmoliaeth uchel a roed i Mr. Trew- artha gan Saeson o Fanceinion a Chaerdydd. Penodwyd Mr. J. D .Evans, mab hynaf y Parch: a Mrs. J. C. Evans; Tremydon, Borth, yn brif arolygydd' cwmni' y Globe Insurance dros Ganolbarth Lloegr. Dyma dro iawn a milwr l-yddhawvd o'r fyddin wedi ei glwyfo yn Delville Wood. Diolch calon roddai eglwys Lon Swan, Din- bych, i'r gweinidog, y Parch. James Charles, y nos Sul o'r blaen, am ei rodd ardderchqg i'r eg- lwys. Trosglwyddodd oddeutu pedwar cant o lyfrau o"i fyfyrgell i gyychwyn llyfrgell iddi, ac hefyd darlun o hono,ei hun wnawd gan filwr ieuanc o'r eglwys sydd yn Ffrainc. + Penodwyd Mr. G. S. Farnifield, M.A. (Canr- tab.) yn brifathro Ysgol Ramadegol Croesos- waItt. Meistr Dosbarth Milwrol yn Uppington ydoedd Mr. Farnfield; a chyn hynny yn gyd- brifathro a'i dad yn Ysgol Sidcup, lie y dysgai Ddlosbarth Milwrol, ac un mewn Mathematics, a dau Ddosbarth mewn Diwinyddiaeth. Mae iddo chwe brawd yn dal comisiwn yn y fyddin. T LI.'bd "e -J Mae'r Parch. W. Bayley Roberts, B.A., bugail eglwys Saesneg y M.C., Rhos, wedi cymryd y radd o M.A., mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Liverpool. Daeth y newydd pan y mae efe yn gweithio gyd'a"r Y.M.C.A. yn Ffrainc. • ,¡ Yr wythnos ddiweddaf bu Dr. • Cynddylan Jones ar ymweliad' a I-landdowror. Pregeth- odd y Sul a'r Llun yug nghapel y 1L c., a phryn- hawn Sul bu yn Eglwys y Plwyf,—-lie sydd wedi ei wneud yn adnabyddus gan enw a gwaith Griffith Jones. Collwyd un eto o blith casglwyr a gwerthwyr 0 -yr hen lyfrau drwy farwolaeth Mr. John Benett, fu am dros hanner can,rif yn dwyn ei waith ymlaen yn yr Amwythig. Deuai gwyr lien enwog ato i ymgynghori yn ami, ac un o'i brif gefnogwyr ydoedd Mr. Gladstone. -+- Dr. Mary Phillips ydoedd y foneddiges gyntaf fel efrydydd meddygol yng Ngholeg Prifysgol y De, a bu allan yn gweithio gyda ffoedigion Serbia. Y dyddiau hyn teithia ganolbarth Cymru i adrodd -eil hanes, er budd cronfa at ysbytai a gwaith meddygol ymysg. ffoedigion; De- heubarth Ewrop. ■■ Penodwyd Mr. J. Jones-Morris, Porthmadog, yn Gofiadur Heddwch, dros Sir Gaernarfon, ac fel arwydd o werthfawrogiad wasanaeth yn cynrychioli ei Sir ar Fwrdd Llywodraethol y Gwallgofdy am ugain mlynedd, cyflwynwyd an- rheg iddo ddydd Mawrth diweddaf yng nghyfar- fod chwarterol Pwyllgor y Gwallgofdy. +- Tybia yr Henadur J. H. Howell, Y.H., Aber- aeron, fod penodiladathro ysgol sir y rhanbarth hwnnw yn ddiogelach yn llaw pwyllgor lleol nag a fuasaii yn Haw pwyllgor sirol ac experts.' Cytuna yr Henadur a'r farn gyffredin fod pwyll- gor o experts y greadigaeth fwyaf trwstan a mwyaf ago red i wneurl camgymeriad yn y byd. Nid bob amser yr esgynnir i Gadair y Gym- deithasfa, dros lwybr tcilyngdod. Gwyr pawb wyr rywbeth fod yna ffyrdd eraill. Ond ym Merthyr etholwyd gwr ag y cydnebydd pawb sydd yn gwir haeddu'r anrhydedd, a dylasai fod wedi ei anrhydeddu er ys blynydoedd. Ond nid' yw'r Parch. W. Lewis, Cwmparc, yn credu mewn utganu yn ei utgom ei hun, a chasbeth ganddo yw gwthio ei hun. Gwenau'r Nefoedd fyddo ar flwyddyn ei lywyddiaeth. Cydymdieimlir yn ddwys a Mr. John Howells, llyfrwerthwr, Tonypandy, ac un o flaenoriaid eglwys Seion, Trealaw, yn ei brofedigaeth ddyblyg 0 golli ei frawd a'i briod ar yr un adeg. Yr oedd ei frawd yn aelod gweithgar yn Nazareth, Pent re, ac yn arweinyddy gan yno er ys blynyddoedd, ac mewn cryn fri, fel cerddor, ond er galar cyffredinol torrwyd' ef i lawr yng nghanol ei flynyddoedd. Ac ar sodlau y brofed- igaeth hon wele'r ergyd trwm arall o farwolaeth ei annwyl briod. Da gennym weled y Parch. Gwilym Davies, M.A., yn dwyn gair da i'r Prifweinidog, a hynny ar waethaf y derbyniad oeraidd roddwyd i'r Ddirprwyaeth o Gymru. Nid peth bach, meddai, yw ymddangos gerbron, ein cydwladwr, ac oddieithr fod un yn hollol sicr otil ffeithiau, y mae yn-sicr o gurfa ddigyffelyb. Clywsom Dr. Campbell Morgan yn tystio. yn gyffelyb, a dywedai na.d anghofiai efe rfa.'r aelodau eraill o'r ddirprwyaeth Seisnig fyth anerchiad: y Prif- weinidog iddynt, fel un o'r pethau clefra ac hyotlaf glywsant yn eu bywyd. +- Llawenydd gennym yw deall am Iwyddiant y Parch. Isaac Charles Roberts, Gwern y Mynydd, yn ennill iddo'i hun radd dda. Y mae yn "Fellow of the Royal Meteorological Society, a dvnodir ei radd gyda F. R. Met Soc. Derbyniodd Mr. Roberts ei dalenit i ddeall natur a'i thywydd, &c., oddiwrth. ei fam, ac y mae yn ei datblygu'n llwyddianrius. IJongyfarchwp ef ar ei Iwyddiant. Llongyfarchwn y ParcfT T. Miiles Jones, Treuddyn, hefyd. Y mae yntau wedi pasio'r arholiadau cyntaf am r:add gerdd- orol. Apharatoa-amyrarholiadterfynol. Er nad oes llawer o wyr graddedig ymysg gweinid- ogion Sir Fflint, ceir crvn amrywiaeth graddau, B. A., &c.