Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

.-----..___---_.__-----GOHEBIAETHAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHAU. « (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgrifenwyr). PEN BLWYDD CLADDU ANN GRIFFITHS AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Awst 12 yw'r pen blwydd hwnnw, ac eleni digwydd fod yn ddydd Sul. Awgrymwn i'r eglwysi ganu rhai o emynau anfarwol yr emynyddes enwog o Ddolwar Fach. Eneiniwyd hwynt ag olew gorfoledd, a chyn- orthwyasant gynulleidfaoedd Cymru i folii'r Ceidwad. A fydd arweinyddion y gan mor garedig a chofio'r dydd yn y modd y barnont oreu? Yn wladgar, D. ARTHEN EVANS, Ysg. Cyff. Undeb Cenedlaethol y Cym- Barry, deithasau Cymraeg. Gorff. 17, 1917. Y MYFYRWYR A'R RHYFEL. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Gan bod achos y Parch. B. Meyrick wedi ei godi i lys uwch, nid yw yn briodol gwneud sylw amo nes bydd y cyfryvy lys wedi ystyried y mater a rhoddi ei ddyfamiad, ond dymunaf alw sylw at y mater yn ei wedd gyffred- inol. Ai ni ddylai awdurdodau y Colegau Diw- inyddol gydweithio i hawlio bod y trefniant yn 1916 i fyfyrwyr oedd eisoes yn yr Athro- feydd i gael eu hystyried ar yr un tir a gweinid- ogion ac i fod yn rhydd o'r fyddin I Pe gwnelid hyn mae yn sicr y llwyddid. Beth a ddaw o weinidogion yr Efengyl yn y dyfodol os na cheir neb i bregethu ond y rhai nad ydynt gyfaddas i'r fyddin. Os oes rhyw alwedigaeth yn hawlio A i., pregethu yw hynny. Dealler yr ystyriaf bregethu yn llawer mwy na galwedigaeth, ac yr wyf yn defnyddio y gair yn unig o gyfleustra. Mae cyflwr pethau wedi myned yn eithaf drwg os yw yr egrwys i gael ei llywodraethu gan y Swyddfa Ryfel. Hyderaf y cymer pwyllgorau yr Athrofeydd y mater i fyny o ddifrif, a hynny nid yn unig er mwyn y bechgyn eu hunain, ond er mwyn llwyddiant yr Efengyl yn y tir. < Yr eiddoch, &c., Corwen. H. C. WILLIAMS, UNDEB CENEDLAETHOL Y CYM- DEITHASAU CYMRAEG. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Danfomvyd llythyr Saesneg i Gym- deithasau brodorol yr Alban, Iwerddon, Llydaw a Manaw, yn eu gvvahodd i Gynhadledd 011- 'Geltaidd a gynhelir yn Birkenhead, Medi 3. 4, 1917, ac y mae sicrwydd eisoes y bydd cynrych- iolaeth gref o'r gwahanol Iwythau Celtaidd yn y Gynhadledd' uchod. Gwahoddir pob Cymdeithas Gymraeg i ethol un neu ychwaneg o'd haelodau i'w chynrychioli yn yr Wyl er sicrhau mynegiant pendant o gyd- symad y Cymry a'r mudiad ardderchog hwn. Diddorol gennym hysbysu y casglwyd at ei gilyddv gan yr Ysgrifennydd Celtaidd, Gym- deithasau Cymraeg trefydd Lloegr a'r Alban, a bwriadant hwythair anfon rhyw ddeugain o gyn- rychiolwyr i'r Gynhadledd. Trefnwyd am y waith gyntaf yn eu hanes gyfarfod Cymraeg iddynt hwy eu hunain, a thebyg y'i cynhelir ef ar brynhawn Llun, Medi 3. Anfoned Ysgrifennydd pob Cymdeithas enwau a chyfeiriadau'r cynrychiolwyr a etholir ganddi i'r Ysgrifennydd Celtaidd, Mr. D. Rhys Phillips, F.L.A., Beili Glas, 15, Chaddesley Terrace, Abertawe, fel yr anfoner i bob un cyn canol Awst Drwydded Swyddogol a Rhaglen y Gynhadledd. ( Yr eiddoch yn bur, 15, Somerset Rd., D. ARTHEN EVANS, Barry. Ysg. Cyffredinol. $ EMYNAU DYFED. [Ysgrifennwyd y llythyr canlynol o Rywle yn Ffrainc," a chyfeiriwyd ef i Dyfed. Gan ei fod yn rhoi mynegiant i deimlad llawer o'n darllenwyr, cyhoeddir ef yma.-GoL. ]. Dear Syr,—Yr wyf yn cymryd yr hyfdra o ysgrifennu atoch, i ddiolch i chwi am y penhill- ion bendigedig o'ch eiddo yn y CYMRO, a gyhoeddwyd June 20. Cyfaill i mi gafodd y papur- o Ddolgellaii, ac fe ddaeth i'm Haw innau, a'r peth cyntaf dynnodd fy sylw oedd y penhillion hyn o'ch eiddo. Gallaf ddweyd "y. -< wrthych i mi gael bendith i'm henaid yn y camp yn Ffrainc, yng nghanol tyngwyr a rhegwyr, y rhai. sydd yn ddigon i ddychryn dyn a'r fatli iaith sydd ganddynt. Y mae yma bump Cymro yn eu canol yn sefyll yn gadarn dros deyrnas Iesu Grist. Y sawl sy'n ysgrifennu'r llythyr hwn, un o fechgyn Pontypridd ydyw, a'r pedavi. arall o North Wales. Fe allaf ddweyd wrthych ein bod yn cael cyfarfodydd gweddi bach Cym- raeg gyda'n gilydd, unwaith neu ddwy yr wyth- 110s, mewn rhyw gongl fach dawel. Cawsom un heno rhwng muriau hen dy ag y chwythwyd part o hono i lawr gan y-Germaniaid, ond nid yw o un gwahaniaeth pa le i addoli Duw, ac yr y'm yn cael ein talu yn fendigedig am yr ycliydig funudau ydym megis yn eu hysbeilio. Clod 1'w Enw glan. Y mae wedi ein dwyn allan trwy bethau mawr y mis hwn. Mae'n bosibl i chwi ddarllen hanes y frwyd>r ddiweddaf, yn yr hon yr oedd y pump Cymro, ac yn anfon, ami ochen- aid i fyny at yr orsedd, ac yn cael eu gwrando. Maddeuwch i mi am fod mor hyf ag ysgrifennu atoch-allaswn i ddim peidio gyru gair o ddiolchgarwch i chwi am ddarl^n mor wir, ac mor ;gywir o brofiad ami i Gymro, a Sais hefyd o ran hynny, ar y maes yn Ffi^inc. Bendith y nefoedd a orffwyso arnoch, ac a'ch cadwo t gyfansoddii llawer o benhitllion cyffelyb i'r rhai hyn etc. Yr wyf yn terfynu yn awr, gan ofyn i chwi faddeu am y llythyr annhrefnus hwn. Yr eiddoch yn gywir, PTE. E. GRIFFITHS. ADDYSG UWCHRADDOL YNG NGHYMRU. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr—Un o effeithiau amlycaf y rhyfel ydyw'r sylw nei'lltuol a roir i Addysg yn ei holl agweddau. Danghosodd y Llywodraeth bwys- iced yr ystyriai'r mater drwy benodi Gweinidog Addysg na fu erioed ei debyg yn Ilai-iwl r swydd, a thrwy gyfrannu'n fwy haelionnus o'r Cyllid. Ceisia'r Llywodraeth wneuthur dysg yn fwy gwerinol, fel y sylwodd Mr. Fisher dro'n ol: Nid yw igallu meddyliol yn eiddo unrhyw ddosbarth. H Ond, yn ol rheolau newydd y Bwrdd y mae'n ofnus mai croes i hynny a fydd yr effaith yng Nghymru, mai i ychydig yr estynir y fraint o fanteisio ar Addysg Golegawl, os na ddeffry'r Pwyllgorau Addysg mewn pryd. o dan reolau'r Bwrdd bwriedir cyfrannu swm ychwanegol o- ^400 y flwyddyn it nifer fechan o ysgolion yng Nghymru a Lloegr, fel y galier penodi mwy o athrawon yn yr ysgolion hynny i baratoi ychwaneg o ysgolheigion cymwys i'r colegau. Ond paham y gwahaniaethir rhwng ysgol ag ysgol ? Beth bynmag am Loegr, y mae pob' ysgol ganolraddol yng Nghymru, bid sicr, eisoes yn darparu ar gyfer gwaith uwchraddol, a dilynir y cwrs uchaf (Honours Course) gan blant ymhob ysgol bob blwyddyn, o'r bron. Onid o'r ardaloedd gwledig, o'r ysgolion by chain, y cod- odd enwogion disgleiiriaf ein cenedl ? Nid ar- ddangosodd gwerin unrhyw wlad awydd mwy angerddol am ddysg a drwylliant nag a wnaeth gwerin Cymru.yn y gorffennol. Ond, os caniat- eir i'r Bwrdd Addysg gyflawni ei) fwriadau, y mae'n! ofnus had all mwyafrif yr ysgolion canol- raddol gystadlu a'r ychydig ysgolion hynny a dderbynia'r swm ychwanegol. A'r canlyniad sicr fydd mai; llai, ac nid mwy 0 ysgolheigion cymwys a anfonir i'r colegau. 'Fe chwilia'r rhieni nad allant fforddio talu treu'liau'u Plant mewn ysgolion pell en nig am alwedigaiethau eraill iddynt. Onid doethach, yng Nghymru, a fuasai rhannu'r arian rhwng pob ysgol, boed fach neu fawr, neu ddarparu mwy o ysgoloriaethau 1 alluogi ychwaneg o blant cymwys i fyned i'r colegau? Y mae nifer yr ysgoloriaethau yn resynus o brin yng Nghymru, a methodd ami i ysgolor gwych, oblegid tlodi ei rieni, fanteisio ar gyfleusterau addysg golegawl. Yn wladgar, CYWARCH. ) LLYTHYR 0 MACEDONIA. AT MR. D. T. PETERS, TREORCI. Fy Annwyl Gyfaill,—Derbyniol iawn oedd eich llythyr, yr hwn a dderbyniais tua pythefnos yn ol. Nis gallaswn fod wedi ei ateb yn gynt, gan i' ni fod ar daith hir ar draws y wlad yma, a gwlad ofnad'wy yw hon i gerdded ynddi. Y mae bryniau hen Gymru annwyl yn diflannu'n llwyr wrth eu cynihani â. hwynt; ac nad yn unig -n_ y mae y bryniau'n uchel, ond torrir hwynt mor ami gan ryd'weliau, nentydd, a llifogydd mawr- ion, fel mati anhawdd iawn teithio o le i le, heb ddilyn y llwybrau sydd yn dirwyn yn ddiderfyn bron hyd y llechweddau. Buom dros wythnos yn symud, gan wersyllu dros nos mewn- gwahanol fanau, a chychwyn drachefn trannoeth gyda'r hwyr (yn yr hwyr y teithiem fynychaf, wedi gwres y dydd). Wrth deithio'r nos, ni welem lawer o brydferthwch y wlad; ac y mae darnau o honi yn brydferth dros ben, ac ofnwyf pe gwelem, na byddai i ni ei werthfawrogi, oblegid ebychiadau glywn yn fyiu ychach na sain .can a moliant. Ond yn ystodi y dydd- pan orffwyseIIl, gwelem ambell bentref, a gwelais yn-un o honynt lawr- dyrnu, o'r un oatrwm gallwn feddwl a'r lloiriau- dyrnu yn amser yr hen Foses. Dau ych yn tynnu trol neu fen drom, ar yr hon yr eistedd- ai y gyrwr, yr hon a, chwalai'r ýd, gan ei phwys- au, dyna'r peiriant dyrnu. Daeth dam o'r gyfraith i fy meddwl wrth weled yr olygfa, Na chau safn yr ych pan yn dyrnu." A chwareu teg i'r ffermwr, nid oedd safn ei ych wedi ei rhwymo. Ymhellach ymlaen ar y dydd, gwelais ran arall o'r gorchwyl, sef nithio. Pe bai rhai o'r esbonwyr sydd gennym ond cael sjolwg ar,b, fel y maent, byddai yn llawer haws iddynt esbonio, debygwn i. Pan welais y wraig (y tro hyn) yn nithio, gair arall redodd1 trwy fy meddwl —" Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanha ei lawr-dyrnu." Nid rhyw hanner glanhau a wnaed ar y llawr cyn cychwyn. Yr oedd y llawr g'leted a. charreg bron, a gofalus dros ben oeddynt i gael pob llwchyn oddiarno cyn cychwyn. Gafaelais y wraig mewn dau ddarn o bren a llwy ffIatar flaen pob un o honynt. Codai y grawn a'r us i fyny gyda'u gilydd, gan eu gadael i gwympo drachefn i'r ddaear. Ond yn y gwaith o syrthio, byddai'r awel yn dwyn ymaith yr us i'r naill ochr, tra'r gwenith yn cael ei adael ar ol. Y mae pob rhan o'u gwaith bron yn henafoL yn y gwneuthuriad o hono, gan fod! eu hoffer yn hen iawn eu harddull. Aradr bren wrth gwrs dau ych yn tynnu, a'r gyrwr o'r tu oil,, a chorn yr aradr (un com sydd iddii) yn un Haw, a'r swmbwl yn y llaw arall. Diolch am y CYMRO. Darllenais ef yn ofalus, gan fod ynddo bethau diiddorol i mi, ond gan i ni gychwyn ar y daith, a phob owns yn bwysig, rhaid oedd ei adael ar ol. Collais yr un pryd gyfeiriad y Gol., neu bwriadwn anfon yr englyn hwn iddo, yn gosod allan mewn ychydig eiriau fy syniad i o'r wlad hon wedi bod yma am flwyddyn bron. Efallai yr anfonwch chwi ef iddo. Macedonia. Gwlad morgrug man a chrwbanod—gwlad brudd, Gwlad y brain a'r piod; Lwydaidd ei gwedd, gwlad ddi-god, Yn ubain ei Ichabod." Meh. 23, 1917. MYFYR AFAN.

!- .-___--. BRYNAMMAN.