Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYFARFODYDD MISOL.

News
Cite
Share

CYFARFODYDD MISOL. AMSER Y CYMDEITHASFAOEDD A TI-IREFN Y C.M. Cy mdei t ha s f a' r^5-og 1 edd—Caernarfon, Awst 21, 22, 23 Cymdeithasfa'r De—Hope a Tydfil Hall Merthyr, Gorff. 18, 19. Brycheiniog-Llysweu, Medl. Dwyrain Dinbych—Hyfrydle, Cefnmawr, Gorff. 23. Bwyrain Morgannwg.—Jerusalem, Ton, M.edi 2ofed. Gor. Meirionydd-Bethesda, Medi io, ii. Gogledd AberteifL—Dewi, mis Medi. Glamorgan Presbytery West—The Mission. Hall, Neath, Sept. 27, at 10.30 a.m.. Llundain—Gorffennaf 18. Lleyn ac Eifionydd-Llithfaen, Medi 3. -lianchester-Onwarcl Buildings, Gorffennaf 31. Sir Fflinrt-Trelogall, Gorffennaf 31am. Trefaldwyn Uchaf—Llandinain, oddeutu diwedd Medi. Trefaldwyn Isaf.—Rehoboth, Awst is. 16. BRYCHEINIOG.—Heartsease, Gorffennaf 3, 4. Cadeirydd, Mr. John Owen, Llandrindod Wells. Dechreuwyd trwy fawl a gweddi gan y Parch. LI. Davies, Llangorse.- Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y- cyfarfod blaenorol. Penderfynwyd mai c}'nrychiolwyr apwyntiedig i Gymanfa Awst oedd i fyned i'r Gymanfa nesaf. Darllenwyd llythyr tros- glwyddiad Mr. Augustus Richards o Gyfarfod Misol Saesneg Dwyrain Morgannwg, ar ei waith yn ym- gymeryd a bugeiliaeth eglwysi Tanhouse a Heart- sease. Croeshawyd ef i'n plith gan y cadeirydd a'r Parch. Rees Evans a brodyr eraill. Penderfynwyd danfon apel daer i'r Gymanfa nesaf am iddo gael ei ordeinio cyn gynted ag y byddo modd. Datganwyd cydymdeimlad ag eglwys Talybont-ar-Wysg yn y golled gafodd trwy farwoLaeth Mr. Samuel Williams, blaenor duwiol a haelfrydig—gwr oedd wedi sylwedd- oli mai er gogoniant i'w Arglwydd y dylasrai ddefn- yddio pob peth oedd wedi dderbyn oddiwrtho. Mawr obeithiwn y bydd ei ysbrydolrwydd a'i haelfrydedd yn cydio gafael mewn eraill eto. Pasiwyd i ddan- fon pleidlais o gydymdeimlad a pherthynasau y di- weddar Mr. W. Price, blaenor ffyddlawn yn eglwys iLlanwrtyd. Penderfynwyd hefyd danfon llythyr at Mr. E. Price, Prestatyn, i ddatga-n ein gwerthfawr- ugiad o'i lafur a'i ffyddlondeb diwyro gyda'r achos yn Heartsease am lawer o flynyddoedd. Cani'atawyd i Mr. F. T. Davies, Watton, i eistedd yr arholiad am fynediad i mewn T'r Athrofa Ddiwinyddol. Galwodd y Parch. T. Howai. B.A., sylw at y pwysdgrwydd o hyfforddi ein p; ieirainc yn y fath fodd fel y gali- ont wynebu pery £ • bywyd gyda gwybodaeth, doeth- ineb, dewrder. A plu \rd fod yr Ysgrifennydd i ddanfOn y penderfyniad canlynol at.yr holl eglwysi: "That we earnestly urge our churches., ana especially the parents to emphasize the advantages of a pure Life for the proper developmelllt of both body and soul." Cafwyd ychydig o hanes yr achos yn y lie; ac er nad yw nifer yr aelodau yn fawr, teimlid fod tine obeithiol ar y cyfan. Rhodd-odd y Parch. Rees Evans rai ffeithiau dyddorol am yr eglwys fechan hon ddeugain mlynedd yn ol. Gwasgwyd ar sylw y frawdoliaeth y priodoldeb o .ethol bLaeiioriaid. A phenderfynwyd gofyn am 'grant' o £20 i'w cynorth- wyo o Drysorfa y Genhadaelh Gartrefol. Pender- fynwyd hefyd cyflwyno yr eghvysi hyn i sylw caredig Pwyllgor lleoedd gweiniaid y C.M. Rhoddwyd hanes yr achos yn y gymydogaeth gan. y Parchn. F. Jackson,, Rhayarler, a H. Rees, New Radnor. Aw- durdodwyd y Cadeirydd gyda Mr. E. R. Davies, Elandrindod, a'r Parch. S. George, B.A., i ymgyng- hori a'r brodyr yn y Gwystre er ceisdo cael mwy o dæfn a chydwethrediiad -i'w plith. Penderfynwyd fod y teithiau Sabothol yn y Dosbarth i barhau fel y maent. Y C.M. nesaf i'w gynnal yn Llyswen, ym. mis Medi. Cyhoeddwyd i bregethu y Parchn. Rees Evans, Llanwrtyd, J.* D. Evans, M.A., Pontypridd, a J. W. Thomas. DYFFRYN CLWYD.—Valle St., Dinbych, dydd Iau, Gorffennaf 5ed, 1917. Llywydd, y Parch. R. H. Thomas, Llansatrnan. Dygwyd tystiolaeth i. gywirdeb cofnodion y C.M. blaenorol,, a chadarn- hawyd hwy. Hysbyswyd fod llythyrau wedi eu derbyn oddiwrth nifer o bersonau yn, diolch, am ddatganiad o gydymdeimlad a hwy mewn eystudd, a phrofedigaeth. Daeth cenadwri i law ynglyn a darbodaeth a chynhildeb, a phasiwyd 'nifer o beii- derfyniadau ar hyn i'w cyflwyno it ystyriaeth yr eg- lwysi. Gwnaed y cywiriadau angenrheidiol ar gyfer y Dyddiadur a'r Blwyddiadurc am y fiwyddyn ddyfodol, ac enwyd y Paroh. R. H. Thoiiia-st i ysg- rifennu nodiadau co'ffadwriaet.h'ol i'r Blwyddiadnr am y diweddar Barch. James Richard's,, Gyffylliog. Dewiswyd y Parch. R. Richards a Mr. R. Owen, Y.H., i gymryd ill.aiis, eglwys 'T'refnant yn newisiad swyddogion, a'r Parch. 0. R. Owen, B.A., a Mr. William Evansi, Rhewl, i fyned ar neges gyffelyb i eglwys Bethania, Rhuthyn. Hefyd, penodwyd y Parch. H .0. Hughes a Mr. Francis Dowell i gym- ryd llais eglwysi Clawddnewydd a Derwen yn newis- iad: bugail. Pasiwydi ein bod yn gofyn i'r pwyllgor adeiladu weled fod ymchwiliad yn cael ei wneud i gynnwysi Ciist y C.M. yn unol1 a,'r Rheolau Sefydlog. Cyflwynwyd enwau ymddiriedolwyr newydd ar yr eiddo yn Uanfairtalhaearn a'r Dymyn. Hefyd hys- byswyd fod chwaer w,edi gadael degpullt at yr achos yn Llanelwy, a'r ddiweddar MIïsi. Williams, Groes Ef,a, wedi gadael banner can punt at yr achos yn y Dyffryn. Pasiwyd ein bod yn anfon datganiad 0S1 diolchgarwch pu,raf i'r Ysgutorion yn y ddau achos. a hefyd yn unfon hysbysiad am hyn i'r Gymdeith- asfa. Hefyd, awgrymwyd fod cyfeillio-n y Dyffryn yn ymgynghori a'r Pwyllgor Adeiladu ynglyn a buddsoddi'r arian. Galwyd isylw at y cassliad ar- bennig tuag at y Genhadiaeth Dramor, a phasiwyd i cYfyn i'r iGweinidogion a;lw sylw ato Y'11 yr eglwysi y byddont yn gwasanaethu yndidynt. Awdurdodwyd -io swyddogion y Drysorfa Gynorthlwyol i ystyried y oeisiadau a ddaw i liaw. a'u pasio .os yn rheoLaidd. Gwnaed sylwadau rhagorol ar Ystadegau .1916 gan Mr. T. P. Roberts. Prion, a diolchwyd yn g}Tnnes iddo am ei wasanaeth. Gwnaed co.ffad dwys am d.ri o frodyr yinadawedig, sef, y Parch. James-Richards.. Gyffylliog, -Alr.-I.ewis Evans, Cénmeiriadog, a -A John Jones, Gyffvlliog. Dywedwyd yn dda am y brodyr annwyl hyn, y iri wedi cyfLawni gwasanaeth rhagorol drcs y deyrnas, a phasiwyd fod datgania.d o gydymdeimlad Ilwyraf-y Q.M. yn cael ei anion at eu teuluoedd, a hefyd at nifer o frcdyr eraill sydd mewn gwaeTedd a phrofedigaeth. Yn yr ail gyfar- fod galwyd sylw at nifer o gasgliadau. Gan na bydd C.M. eto cyn mis Hydref, awdurdodwyd swyddog- ion y. Gronfa Fenthyciol; i ystyried y cefeiadau ddaw i law. Ynj wy'neb y gost ychwanegol ynglyn ag ar- gr.affu, penderfynwyd fod adroddiiad y casgliad cen- hadol am eleni yn cynnwys yn unig y syniiau a'r anerchiad. Pasiwyd i gynn'al y C.M. nesaf ym IMhentrgcelyni, Hydref 18, yn yr hwn y derbynii blaen-oriaid newydd. Mater yr holi fydd Hanes y Croeshorgliad," yn ol Efengyl loan, pen., xix. Pen, dierfynwyd 'fod pwyllgor yr yttiwelwyr yn cyfarfod yn Nhrefnant', yr Ysgrifennydd i dre'fnu'r dyddiad. Gwnaed yr etholiadau a ganlyn :—.(i) Llywyddion am 1918, y Parch. Owen Owens, Llanelwy, a Mr. Thomas, Roberts, 1hy1. (2) Cynryehiolwyr i'r ddwy Gymdeithasfa nesaf,y Parch. W. R. Owen, B.A., a'r Mri. Henry Evans, Tanyfro-n, a Griffith Jones, yr Eglwys Wen. (3) I Gynhadledld yr Eglwysi Saes- neg, y Parch. R. H. Thomas. Hefyd, pasiwyd fod Ysgrifennydd y Cyfarfod Misol yn parhan yn ei swydd am flwyddyn arall. Yng Nghyfarfod y Blaen- oriaid gallwyd sylw ,at gwestiwni y gydnabyddiaeth am y fugeiliaeth a'r weinidbgaeth ar hyn o bryd, a phasiwyd yn y C.M. ein bod yn galw .sylw'r eglwysi 'at hyn,, gan ofyn i bob ITe; yn ol eu, ganu gyfarfod y gofyilio-i) ychwanegol sydd ar ein pregethwyr. Ar- weiniwyd gyda hanes yr achos yn y lie gan Mr. Lloyd, Prestatyn, a.'r Parch. J. 13. Owen, a Itoii- gy-farchwyd: y cyfeilliion ar eu hymdrech'ion ynglyn .a'r achos yn wyneb llawer o anfanteision. EN-NN, vd y Parch. 0 .R. Owen, B.A., a Mr. E.dgar Williams, Llanelwy, i wrando hallleis yr achos yn y C.1. nesaf. Derbyniwyd adroddSadau'r pwyllgorau a ganlyn,— Dirwest a Phurdeb,, y Gofalaethau, a'r Ysgol Saboth- ol. Cyhoeddwyd 1 bregethu y Parchn. Owen Owens a W. J. Jones, B.A. TRE.EALDWYN ISiAF.-—^Llangynnog, Mehefm 26, 27. Llywydd, y Parch. Owen R. Owen. Dechreu- wyd gan Mr. Thomas Jones, Glan.'rafon, LlansiLin. Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Cyd- nabyddwyd cydymdeimlad y C.M. gan y personau canlynol:—Miss Nancy Roberts, Birmingham Mr. a Mrs. Hopkins, Birmingham; Mrs. Pritchard, Pwll- helii; Mrs. a Missi Jones, Llanantffraid Mrsb Robert Morris, X^langynmog; Mr. Sam. Jones, Birmingham Mr. John Morris, Hirnant; Mr. R. Roberts, Bod- ynfol; Mr. Thosl. Jones, Ll,anis!Iiin; Mr. M. D. Morris, Medfod 31rs,. Morgan, Amvvythig, a Mr. Thos. Ed- wards, Llanfyllin. Rhoddwyd ystyriaeth i apel a dderbyniwyd oddiwrth Dr. WilLiama, Wrecsam, yug. lyn a'r ymgyrch genedlaethol o blaid cynh'ildeb a darbodaeth yn ystod y rhyfel, a chyflwynwyd y pen. derfyniadau a ganlyn gan y Mri. Thos. Jones, Llan- siilin, ac E. Pugh, Y.H. Elim, a phasiwyd hwy. 1. Ein bod yn annog e,in heglwysi mewn modd difrifol i "roddi eu cefnogaeth i'r ymgyrch genedlaethol o bliaid cynbildeb a darbodaeth ar gyfer y dyfodol drwy (a) Alw sylw at y mater yn gyhoedtdus; (b) Drvvy roddi eu dylanwad 0. Maid; y pwyilgorau lleol sydd yn gofalu am yr achos hwn yn y gwahanol ardaloedd. II. Ein bod yn gofyn i Dr. Williams i anfon copi o'r apel ynglyn a hyn yn uniongyrchol i'r eglwysi; ac awdurdodir ef i anifon copi o'r penderfyniadau hyn ynglyn a'r apel. Enwyd y Parch. O. T. Davies yn j-pgriiennydd y pwyNgor adeiladupwyngor nevoid i'w ddewis yn ddiweddarach. Hysbyswyd fod eg- Ilwys, Llanrhaeadr wedi talu ^50 o'i dyled a chyf- lwynwyd y nodyn am y cyfryw i'r C.M. Daeth hys- bysiad hefyd o'r un dosbarth fod. Llyfr Safon VII. aillan o argraff, a phenderfynwyd ar loan xi-ii.-xxi. fel.maes, llafur yr Ysgolion Sabothol yn ei le. Cyf- lwynwyd cenadwri o eglwys! Salem yn gofyn am ad- newyddu nodyn am ,f ioo, a'r personau canlyno] i'w c harwyddo y Patch. C. Jones a'r Mri. John Lewis a John Pierce. Caniatawyd y cais. Cyflwynwyd cenadwri oddiwrth swyddogion eglwys Llanwddyn yn güfyn: am nifer o frodyr i edrych i mewn i achos neilltuol perthyniol i'r eglwys. Penodwyd y llywydd, y Parchn. W. M. Jones, H. E. Griffith, M,A., a Mri. Ellis Jones, Llanfechain, ac Edward Jones, Castell. Y Uywydd i fod yn gynullydd. Daeth cenadwri i law oddiwrth y Parch. E. Griffiths yn galw sylw y C.M. at y dyniunoldeb o ddathlu dau can mlwydd- iamt Williams Pantycelyn. Cymeradwywyd hyn, a phenderfyirwyd fod pob ■ dosbarth i wneud ei drefn- iadau ei hun. Hysbyswyd gan y cenhadon, y Parch. W. C. Jones a Mr. Lewis., Trefonnen, fod taith Oefn- canol yn rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. W. J. Jones, Ynys Enlli, i ddyfod i'w bugeilio. Cadarnha- wyd yr alwad. Iiysbyswyd,. hefyd gan y cenhadon, y Parch. O. R. Owen a Mr. E. Ellis, Caepenfras, fod eglwys Rehoboth wedii dewisi yn flaenoriaid y Mri. Francis Arthur, Tycapel; Thos. Francis, Ty'nrhos a David Jones, Bryncyrch. Gwnawd y trefriiadau canlynol i'w derbyn yn y C.M. nesaf, a'r rhai sydd wedi eu dewis, mown, eglwysi eraill.—I holi am wybodaeth, y Parch. J. T. Jones. Profiad, Mr. R. Williams, Meifod. Cyngor, Mr. Thos. Gittins, Hafodtalog. Y mater yr holdr arno yn cael ei ym- ddiried i'r holwr, ac yntau i roddi hysbysrwydd buan i'r brodyr. Cafwyd hanes- yr achos yn Llangynnog, a phrofiad- y swyddogion dan arweiniad y Parch. W. C. Jones. Mae eglwys. Llangynnog wedi colli ei bugail, drwy iddo dderbyn galwad i. "daith arall, a'i blaenor hynaf, drwy farwolaeth, er pan fu y.C.M. I yno ddiweddaf, a theimlant yn amddifad i fesur oher. wydd hyn, ond y mae nifer 0 swyddogion byw a medrus yn aros, a cherir y gwaith ymlaen yn hwyl- us, er y teimlai an,gen am fugail. Lleiheir y ddyled yn raddol, ar yr adeiladau heirdd a ch}rfieus sydd yn eiddo iddynt, a chymerir mesurau i beri na bo dim dyled .i'r trysorydd ar ddiwedd y flwyddyn yn nhreul- iau cyson yr achos. Cwynwyd fod y weinidogaeth- yn fylchog—^anliawdd cael pregethwyr ar hyn o bryd, ac amryw yn torri eu cyhoeddiadau. Yr Ysgol Sab. othol yn bur dda ar y cyfan. Y cynuUiadau cystal a'r cyffredin, a rhai cyfarfodydd gwir dda. Yr oedd profiadau y brodyr yn dyner a d wys. Teimlid fod poffes o grefydd a byw crefydd yn bethaugwahanol iawn. Anhawdd cadw mewn cymundeb cyson a Duw. Eto cafwyd tystiolaeth o gariad Iesu Grist, a dyddordeb mawr yn ei achos. Crediniaeth yng d Nghrist, ac ofu colli y cynulliadau. Teimlid angen am adfywiad, ac ainlypvyd,ofn o fod wedi mynd yn ol er y diwygiad diweddaf. Gwnawd coffad am Mr. Robert Morris., Efe ydoedd blaenor hynafeglwys Llangynnog. Teimlir colled ar ei ol. Yr oedd yn „hynod o ffyddlon, yn brysur iawn gyda'r byd a'i bethau, a chafodd crefydd fantais o hynny. Bu yn dda wrth yr achos, ac o gymorth mawr gyda'r adeil- adau a'r ddyled. Gadawodd _/ico. at leihau y ddyl- ed, yn ei ewyllys. Bydd y gwaith yn drymach o'i golli. Pasiwyd i anfon cydymdeimlad y C.M, a Mr. M. D. Morris, Meifod, ar farwolaeth ei chwaer. Dechreuwyd cyfarfod y prynhawn gyda gweinyddiad o'r Ordinhad o Swper yr Arglwydd, dan arweiniad y Parch. J. Prichard. Yr oedd ein hybai\^h frawd ar ei uchelfannau. Trefnodd i gael cyfres o weddiau byrion gan nifer o frodyr i ddechreu. :Gwasanaeth a hir gofir ydoedd y gwasanaeth cymundeb yn Lian. gynnog. Adroddiadau: Dygodd Mr. Harold D. Jones gasgiiad yr ysbytai i syhv gan ddymuno iddo gael ei wneud yn Gorffennaf. Dangosodd y pwysig- rwydd o wneud y casgliad pe ond i sicrhau tocynau yn unig. Cyfarfu Pwyllgor Au-drefudad y Cyfarfod- ydd Misol am 9.30, ac hysibysodd ysgrifennydd y pwyllgor eu bod wedi trefnu fel y canlyn ar gyfer 1918 :-Ionawr, Seion Mawrth, Amwythig Mai, Beulah Mebefin, Elim Gorff. neu Awst Medi, Salem; Tachwedd, Llanfyllin. Y Genbad- aeth Dramor: Galwodd y Parch. C. Jones, sylw at y > casgliad arbennig a'r llwyddiant eithriadol ynglyn ag ef. Gafwyd rhoddion o 1;50, £25, a £ 10. Yr oedd y casgliaâ eisoes bron yn ^200, a braidd na obeithid am £300. Amlygwyd gvverthfáwrogiad o lafur Mr. Jones yngltyn a'r casgliad. Nid oedd yn gyfleus, i gael adroddiad Pwyllgor y Lleoedd Gwein- iaid, gan nad oedd y trysorydd yno. Teimlid helyd fod eisiau ffurfio pwyllgor o'r newydd—yr ystgr.en.- nydd i anfon i bob # dosbarth i ofyn iddynt cidewis cynrychiolydd ar y pwyllgor crybwylledig. Y Drys- orfa Gynorthwyol —Cadarnhawyd adroddiad yr ysg. rifennyddcynorthwyol, y Parch. T. II. Griffith, a phasiwyd y ceisiadau, ac arwyddwyd hwy gan y llywydd. Cafwyd adroddiad yr archwilwyr, y Parch. 0. T. Davies a Mr. D. P. Lloyd ar lyfrau eglwys Llangynnog. 'Iystiwyd fod y llyfrau yn cael eu cadw yn lan a threfnus. Mae gan yr eglwys lyfr cofrestr, neu gofnodion, yr hwn a gedwir gan un o'r swydd- ogion. Cofnodir ynddo yn fanwl bob symudiad o eiddo yr eglwys, a bydd y llyfr yn ddiau o werth a o dyddorcleb neilltuol i'r oes, ac efallai i'r oesau a ddel. Ychydig mewn cymhariaeth o'n heglwysi sydd yn cymryd poen i gadw yn fanwl lyfrau o'r fath. Galwyd sylw gan y trysorydd, Mr. John Price, at Gasgiiad' y Drysorfa Fenthyciol, a rhoddwyd anog- •ae-th daer i gwblhau' y casgliad ar unwaith. Atgof- iwyd y frawdoliaeth o'r swm sylweddol sydd wedi ? ei gael i gylch y C.M. eleni. Penderfynwyd fod y C.M. nesaf i fod yn Rehoboth, Awst 15, 16. Mater y Seiat, "Crefydd yn yr ymarferiad," Titus ii. 10. I'w agor gan y Parch. O. R. Owen. I holi hanes yr achos a phrofiad y swyddogion, Mr. Urias Jones, .Llansilin.. I archwilio llyfrau Rehoboth a Gosen, y Mri. John Hughes, Llanfyllin, a W. A. Jehu, Y.H., Lanfair. Rhoddwyd rhybudd o gynhygion gan y Parchn. W. M. Jones, ac O. T. Davies. Cyhoedd- wyd i bregethu y Parchn. E. Anwyl, W. Phillips, B.A., O. T Davies, T Ashton, W. M. Jones, a Dr. Moelwyn Hughes. Terfynwyd trwy weddi gan y llywydd. x

DYFET-HA BWYD.