Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
RUNCORN.
News
Cite
Share
RUNCORN. Nos. Sadwrn, Mehefin. 3oain, a'r Saboth, Gorffen- naf iaf, cynhaliodd yr eglwys Fethod-istaidd Gym- reig ei gwyl bregethu flynyddol, pryd y caed. gwas- anaeth y Patchn. Daniel Davies, Webster Road, a David Jones, Edge Liane, Liverpool. C'aed hin ddymnftol a chynulleidfa gref. Teimlwn fel eglwys yn wir ddiolchgar i aelodau eghvysi Cymreig Moore I-ane, a Milton St., Widnes, am eu fiyddlondeb a'u cefnogaeth i ni yn yr holl gyfarfodydd.
AMLWCH.
News
Cite
Share
AMLWCH. G'WRON.—-Diwrnod mawr yma oedd dydd lau, Al&hefin 28, pan y croesawyd y Seaman William Wil- liams, Weil St., Borth, ac y llongyfarchwyd ef, ar ei waith yn ennill y 'Distinguished Service Medal.' Caed gorymdaith drwy y dref fel- y canlyn:—Boy Scouts, Band y Clio, y Coastguards, a Volunteers Marcond, yr arwr a'i rieni mewn modur, y Cyngor 1 refol, tua 500 o blant ysgoiion Amlwch a'r Borth \na anrhegwyd W. Williams ag oriawr aur, a chaed areithiau gan Mr. W. T. Jones, Capt. Owen, Dr. Jones, a Mr. Hughes, 1 ron, a chaneuom gan blant yr ysgoiion dan arweiniad Mr Hefin Jones. I orffen caed gwledd a chwareuon i'r plant. Deallwn i'r gwron wneuthur gwrhydri neilltuol, ac ar ol hynny wneud gorchest arall, ac y mae erbyn hyn wedi cael 'recommendation' am y V.C. CYMANFA PLANT.Gwahanol lawn i arferoedd y Gymanfa eleni. Nid oedd degfed rhan plant am- bell i ysgol yn bresennol ddydd Mercher. Protest- iwyd yn erbyn gwaith Cyf. Ysgol Amlwch a Llan- erchymedd yn gwrthwynebu y Gymanfa, a chwith oedd gweled Llawer o'r plant ddaeth wedi cerdded milltiroedd ac heb drefniant bwyd. A yw yn iawn atal yr unig wyl gyffelyb ga'r plant drwy'x flwyddyn, a dwyn y rhyfel yn nes at eu meddyliau bach? BARDD IEUANC.—Dyma fel y canodd un o fechgyn Amlwch, 18 oed, fu farw yn y camp yng Nghroesoswallt:— 0, lesu mwyn, pa bryd daw hedd A therfyn ar y miniog gledd, Sydd gwmwl rhyngom a dy wedd I wel'd dy wyneb Hon p Mae erchyll Ryfel dan fy mron Rhwntg drwg a da y funud hon 0, rho ddaioni gario n lion Trwy nerth dy gadarn ftaich. Gwnia ni yn ffyddlon trwy dy ras I ymlid ffordd y gelyn cas, A chael y goncwest gyda bias Ar elyn dynohrw.
O'R YSTWYTH I'R DDYFI.
News
Cite
Share
O'R YSTWYTH I'R DDYFI. T'ONAU'R GYMANFA GENEDLAETHOL.— fiellach mae'r illyfr Hen Nodiant i law, ac ar y wyn- eb nis gellir peidio canfod fod camgymeriad difrifol wedi ei wneud yn ei ffurf a'i faintioli, yr hyn sydd yn hollol watoanol i'r Llyfr Sol-ffa. Canlyniad hyn ydyw nas gellir eu rhwymo yn un llyfryn fel ag y gwnaed a channoedd o gopiau y llynedd. CYFARFOD DAUFISOL.—Cynhaliwyd yn Hor- eb, y Saboth oyntaf o'r mis. hwn, o dan lywyddiaeth Mr. Hugh Hughes. Holwyd y plant yn y Rhodd Mam gan Mr. Thomas Evans, Bont, a rhoddwyd an- erchiad iddynt gan Mr. Daniel Jenkins, Waen. Yn y cyfarfod athrawon, cafwyd papur ar "Addysg Crist yn 91 Epistol loan," gan- Mr. Benjamin Dan- iel, Pantycrug, a' chafwyd trafodaeth ar ei gynnwys gan y cynrychiolwyr. Am ddau o'r gloch, holwyd y rhai mewn oed yn loan xv. gan y Llywydd. Yna cafwyd ymdriniaeth ar yr awgrymiiadau a roddwyd gerbron gan y Parch. R. J. Rees, M.A., yn y gyn- hadledd yn Penparoiau y nos Fercher flaenorol. Penderfynwyd cymeradwyo y cyfryw, a rhoddi an- ogaeth i'r ymweiwyr ym mis: Medi eu gosod gerbron pob ysgol. Yn y cyfarfod terfynol cafwyd anerch- Aadau sylweddol fel y canlyn:—"Rhan yr Eglwys ynglyn a'r Rhyfel presennol," Mr. Benjamin Joel, Gosen; "Y moddion goreu i sicrhau llwyddiant yr Ysgol Sul," Mr. R. J. Williams, T'ancae "Gadwr- aeth y Saboth," Mr. David Davies, Saron;" Perth. ynas crefydd deuLuaidd a chrefydd gyhoeddus," Mr. Isaac Jones, Tabernacl. Pasiwyd yn unfrydol bleid'lais o gydymdeimlad a'r llywydd a'i deulu yn eu profedigaeth o gliywed fod ei fab Mr. John Arthur Jones ar gol.1 yn Ffrainc. LLWYDDIANT /YSGOL.-Mae Miss, Lilian M. Davies, B.A., prif-feistres Ysgol y Cyngor, i'w lion- gyfarch ar ei llwyddiant yn cipio yagoloriaethau yr Ysgol Sirol. O'r tair ar ddeg o ysgoloriaethau i- ferched, lhvyddodd yr ysgol hon i gipio deg, ac yn eu pHth yr uchaf ar y rhestr, a'r ail a'r trydydd, ac amryw yn dilyn yá agosi.
MANTEISION TYBIEDIG CENEDLAETHOLI,…
News
Cite
Share
yn awr ? Y gwir ydyw y mae parhad y busnes a'r Hog yn fater pwysig gan y rhai sydd ynglyn a'r busnes yn awr. Wrtih glywed son am ■(Id'aeargrynfaau mewn mannau prysurant i rag- flaeriu dinistr y. fasnach trwy ei chenedlaeth- o>li. Bydd hynny yn diogelu swm penodol o lag ar eu harian, ac erbyn adio< at hwnnw y penodiadau fydd gan lawer ohonynt ynglyn a'r busnes, byddant yn well allan dan y drefn new- ydd na than yr hen drefn. Y mae y cynhygiad i Genedlaetholi yn dod fel peth newydd, ac ar draws y pethau ag yr oeddym fel gwlad wedi ein paraboii iddynt. Am hynny y mae yn hollol deg i ni ofyn i'r rhai sydd yn cefnogi y symudiad ateb ein cwestiSynau a ohlirio yr anhawsterau sydd ar ein ffordd i ddeali yr hyn a gynhygiant. Nid wyf wedi gweled neb o'i gefnogwyr yn myned i mewn i gwestiwn y 'vested interest' o ddifrif i geisio ei egluro, a dangos pa fodd y gwneir i ffwrdd ag ef. Heblaw yr hyn a grybwyllwyd eisoes. y mae yma amryw bethau eraill, pethau ynglyn a dygiad y busnes ymlaen sydd yn myned ymhell ia wn i ddangos y bydd' yma rywrai, ar ol y prynu, yn teimlo, mwy o ddyddordeb ym mharhad y busnes nac eraill. Rhoddir ar ddeali i ni, fel yr awgrymwyd eis- oes y bwriedir gosod i fyny fwrdd cyhoeddus (Publilc Authority Board) gwai.th yr hwn fydd arolygu, prynu, a gwerthu y ddiod. Dylem fel treth-dalwyr wybod a ydyw y bwrdd hwn i ga-el el dalu a pha, faint? Dteallwn y telir cyflogau mawrion i'r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith yma gyda chwmni, y bragwyr yn awr. Ac nid. ydyw yn debyg y telid llai iddynt fel gweision y wladwriaeth. Ystyrir cyflog dyn bob amser»yn fydd personol. Pa fodd nad ydyw yn yr achos hwn ? Heblaw hyn nid oes dim yn y cynllun, fel y mae yn awr, yn dangos fod unrhyw rwys,tr ar ffordd aelodau y bwrdd cyhoeddus gael eu dewis 0 blith y rhiai fydd garnddynt arian ar y busnes. Ac y mae eu profiad gyda'r busnes yn gwneuthur hynny yn debygol. Yn ycihwanegol at hyn, o ran dim a ddywedir i'r gwrthwyneb, nid oes dim yn rhwystro i'r hwn sydd ganddo* arian ar y bus- nes ac yn aelod o'r bwdd cyhoeddus i fod hefyd yn ynad heddwch i, eistedd ar y fainc lie y penderfynir swm oosb yr yfwr. Dan yr hen ddeddf ni chaniateid i un eistedd ar y fainc ar achosion o yfed os byddai ganddo fudd yn y busnes yn y rhanbarth hwnnw. Os bydd y gwaith yn ormod i,, Ir bwrdd cy- hoeddus, fel y mae yn ddiameu y bydd, gwna hynny yn angenrheidiol cael byrddau lleol— sirol a phlwyfol hwyrach. Wrth siarad am y byrddau lleol hyn, dywed Mr. Sherwell y dylent gael eu penodi am eu hoes a chael eu talu am eu gwaith. Y mae Mr. Sherwell yn nes at ei anian yn y fan yma o lawer na phan yn son am Ddewisiad Lleol—penodiad- au oes a chyfloig. Ac fel yn achos y bwrdd cyhoeddus, felly yn achos y bwrdd lleol, gellir eu penodi o blith rhai fydd ganddynt arian ar y busnes, yn gystal a. bod yn ynadon, o1 ran dim syddyn y golwg hyd yma i rwystro. Er- byn talu i'r byrddau gwahanol hyn oil trwy y teyrnas bydd y swm yn fawr. A bydd dwyn yr un personaiu i mewn i'r cysylltiadau gwa- hanol a nodwyd yn elfen o lygredlgaeth an- hawdd cael gwared a hi. Meddylier hefyd am yr holl filoedd o weithwyr, y cyfeiriwyd atynt mewn ysgrif flaenoirol, y rhai y bydd eu byw- oliaeth yn dibynu ar y fasnach. Eto disgwylir i ni gredu na bydd eu cyflogau hwy yn ehv neu fuddiant personol iddynt. Dyma ddyn wed-i, ei ddwyn i fyny mewn galwedigaeth, neu dreuiio. blynyddoedd yn dysgu a deall cangen o fasnach oddiwrth yr hyn yn awr y derbynila gyflog mawr; ond nid ydywo, ddim pwys gan- ddo am yr alwedigaeth na'r cyflog. Hen chwarel y bu cannoedd o deuluoedd y gymvd- ogaeth yn dilbynu arni wedi sefyll. A dim ohwarel arall yn y golwg, a llawer o'r dynion wedi. myned yn rhy bell ymlaen mewn dyddiau i ddysgu crefft newydd. At ba gangen bynnalg y troant eu Haw byddant yn llai o werth fel gweithrwyr. Ond pa bwys? Pa bwys i'r mil- oedd |ydd yn derbyn eu bywoliaeth oddiwrth y fasnach, ar ol ei phrynu, pa un a lwydda y busnes. ai peidio, ni bydd dim 'vested interest' ynglyn a hi! Wel, os na byddai yn. golled i'r miloedd yna am eu cyflogau trwy i'r busnes fethu ar ol ei brynu; pa fydidai, i'r un bobl am eu cyflogau heddyw, pe torrid y bus- .r:. nes i fyny cyn ei brynu ? A phaham y sonnir am iawn? Un peth y rhoddir pwys mawr arno ynglyn a'r cwestiwn hwn ydyw. y tafarnwr newydd a elwir yn arolygwr ('manag-er'). Bydd hwn yn derbyn swm penodol 0 gyflog; am hynny ni bydd ganddo demtasiwn i, hudo neu -gymheil neb i yfed, meddir. Os bydd yr yfed yn cyn- yd.du ni chaiif ragor o gyflog. New os ai,ff i lawr, ni ostyng-ir id do. Y mae y ddadl hon yn cymryd yn ganiataol na wna pobi ddiim yl'ted hcb eu cymhell. Onid ydyw ein cyfeillion yn cofioi fod ynglyn a'r busnes a brynodd y wladwriaeth dyrfa fawr o hen gwsmeriad ag eisiau diod arnynt. Nid oes ar chwant eisiaii ei gym hell. A mwy na hyn dyma, y peth yr oedd yr hen dafarnwr yn methu ei reoli. Ac y mae y tafarnwr newydd yn Carlisle yn methu ei reoli hefyd. Peth arall, nid er mwyn arian yn uniig y mae dyn yn pechu. Dywedir na wnay tafarnwr newydd hudo i yfed am na bydd arian i'w cael am wneud. Pa ddydd- ordieib sydd gan hen regwr me-wn magu dis- gyblion i regu, pan nad oes dim arian i'w cael am hynny ? Paham y mae hen yfwr yn hudo y llanc iddechreu ? Yr un ydyw y natur ddyn- 01 o hyd. Y mae y&bryd y dafarn a'i busnes yn gwneuthur disgyblion megis heb yn wybod. Ond heblaw hyn, er fod y tafarnwr newydd yn d'erbyn swm penodol o arian, eto y mae ganddo oibaith ei symud i dafarn fwy at gyflog gwell, ond y mae yn debyg y dibynai } rvv ar ei lwyddiant yn y dafarn lai, a'r llwyddiant fyddai gwneud i'r busnes dalu, ac i'r pwrpas hwn, rhaid cael rhywun i yfed. A thra pery yr yfed pery y '^psted interest' fydd yn canghenu allan i'r holl gyfeiriadau gwa- hanol hynny. Bydd miloedd ar filoedd o deu- luoedd ein gwlad yn ennill eu bywoliaeth yn uniongyrchol oddiwrth fusne-sl y dafarn new- ydd. A chan belled ag y gwelir yn awr byd'd y dyrfa fawr yma yn cael ei gwneud i fyny o'r un bobl a'r dyrfa fawr sydd heddyw yri cario busnes yr hen dafarn ymlaen. Dywed Mr. T. P. Whitaker yn un o'i bamffledau fod yn bwys- ig sicrhau gwasanaetih y rhai sydd yn awr yn y busnes am y byddai eu medr a'u profiad hwy yn help i'r busnes dalu. Er son am ddewis- iad lleol mai yntau am i'r busnes dalu. Beth pe newidid y dyrfa fawr hon, a gosod dynion a chydwybod ganddynt yn y gwaith, darf'ydd- ai y busnes ar unwaith. Y mae yn bwysig cael rhai medrus a phrofiadol mewn gwaith tafarn; rhai yn deall tafarnyddiaejh yn dda; rhai wedi eu dwyn i fyny yn y busnes, a'u gwneuthurganddo yn ddibris o gysuron, a moesoldeb cartrefi ein, gwlad; er mwyn i'r busnes dalu. Onid ydyw yn syn clywed cefn- ogwyr cenedlaetholi yn dweyd fod; y cynllun hwn yn symud y 'vested interest' tra y bydd yr holl dyrfa fawr yma yn cyflwyno eu hunain i fyny i'r busnes, ac yn derbyn eu bywoliaeth yn uniongyrchol oddiwrtho? Bydd gn Iawer o'r rhai sydd yn derbyn budd oddiwrtho hedd- yw ran fawr yn ol pob tebyg mewn gweithio allan ddarpariadau y cynllun yn ei fanylion, ac os ydyw eu dylanwad yn ddigon cryf i beri i'r winyddiaeth fabwysiadu cenedlaetholi yn hytrach na gwa,harddiad neu Ddewisiad Lleol y mae yn naturiol meddwl y bydd eu dylanwad yr un mor gryf ar ffurf a darpariadau y Cyn- llun yn ei fanylion. A'r tebygolrwydd mawr ydyw y bydd y mwyafrif, os nad yr oil o'r iihai sydd yn awr mewn cysylltiad a'r busnes ar eu mantais yn fawr, mewn ystyr ariannol trwy y cenedlaetholi. Dywedir wrthym eu bod yn cael Hogau mawrion ar eu harian yn awr. Ond cant bedair punt y cant o log sefydlog etc, ar ol prynu. Yn ychwanegol at hyn. bydd ynglyn a'r busnes swyddau dirifedi, y cyfarwyddwyr Cyffredinol, yn derbyn miloedd fel cyflog hwyracih; aelod a u y pwyllgorau lleol yn der- byti cannoedd mae'n dehyg; yr arolygwyr yn amrywio o gyflog tafarn fach y pentref, hyd at y Midland Hotel ym Manchester a'i thebvg, a llu o benodiadau eraill nas gallwn fed'dwl am danynt. Bydd eisiau ychwanegu at y peth- au hyn oil flwydd-dal i'r dyrfa fawr yma. "Wedi i'r creadur yma dreulio deng mlynedd ar hugain o'i oes i lygru moesau y pentref "a'r dref bydd raid i'r bobl -roddi blwydd-dal iddo ac edrych arn yn treulio gweddill ei ddyddiau o flaen eu llygaid fel gwr bonheddig; ys dy- wedir, a trueiniaid y dinistriodd eu cymeriad, eu cy&ur, a'u cartref yn y carohar neu ar y plwyf. Wedi rhoddi y pedair punt'y cant o log blynyddol, a chyflog rheolaidd, a blwydd- dal at eu gilydd, a ydyw y gwr yma ar ei gell- ed, a ydyw y 'vested interest' wedi ei symud? Cynllun pwdr ydyw'r cynllun, yn myned yn waeth po bellaf yr edrychir i mewn iddo. Gwyn fyd na allem ddangos ei ddrwg yn gyf- ryw nes cyffroi ysbryd ein cydgenedl yn.ei erbyn yn y fath fodd nes gwneutliur i'r sen- edd wybod pa un bynnag a fyddai hynny o bwys ganddl ai peidio, os gwthia ei chynllun o genedlaetholi ar Gymru y gwna hynny yn groes i argyhoeddiadau y genedl, gan ddiys- v tyru llafur llawer o gymwynaswyr goreu y genedl am flynyddoedd micithion.,