Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

-------___-PERSONOL

News
Cite
Share

PERSONOL Parhau yn llesg y mae y Parch. J. Pryce Davies, M.A., Caerlleon, ac yn gystuddiol er ys cryn amser. -+- Mae'r Parch. S. T. Jones wedi penderfynu ymgymeryd a bod yn weinidog ar eglwysi Rhiw Road a Seion, Colwyn Bay. -+- Aeth Mr. James Venmore, Y.H., Liverpool, i Fon yn, ddiweddar i orffen gwella. Mae'r ffaith iddo symud yn profi ei fod yn gwella. -+- Dydd Mawrth penderfynodd Awdurdodau Trwyddedu Sir Aberteifi gau deg o dafamdai trwy roddi iddynt yr iawndal. Dyna gam bras. -+- Anfonodd Mr. D. S. Davies, Y.H., Dinbych, fil o bunnau at drysorfa Mr. R. J. Thomas i godi cofadail i'r dewriion sydd wedi cwympo yn y rhyfel. Derbyniodd y Parch. R. G. Roberts, B.A., Johnstown a Moriah, Rhos, wahoddiad i fyned yn weinidog ar eglwysi Clawddnewydd a Der- wen, Rhuthyn. -+- Sibrydir fod Sir J. Herbert Roberts, A.S., yn debyg o gael ei benodi yn olynydd i'r di- weddar Gyrnol Cornwallis West fel Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych. „, -+- Mae'r Parch. J. H. Davies, Pensarn, Aber- gele, wedi penderfynu rhoi i fyny ofal eglwys Saesneg y lie hwnnw. Clywaf fod ei dynfa yn ol i gymydogaeth Gwrecsam. Derbyniodd y Parch. T. Bowen £ 100 ddydd Sadwrn at y Gronfa Ganolog, oddiwrth rywun o Llandovery, Sir Gaer, roddodd ei enw yn II Bráwd, ,Cioo at y Gronfa, am Bantycelyn." 6 Mae Mr. H. Seymour Berry wedi cynnyg rhodd o io, at godi sefydliad i gyfrannu Z ooo addysg. gelfyddydol ym Merthyr er cof am ei dad1, y diweddar Mr. J. M. Berry, Y.H. -+- Dyna Gymro eto yn Mus.Doc., sef Mr. R. Maldwyn Price, y Trallwm. Mab yw efe i Mr. T .Maldwyn Price, awdwr Croesi'r Ania.1 a'r Pysgotwyr." Nid yw ond 27ainoed. F+: Ceir dlarlun rhagorol o'r Parch. S. E. Prytherch,Minneapolis, yn, y 'lC'yfai,ll.' Prin: y buaswn yn ei adnabod oddiwrth y darlun, ond erbyn sylwi, nid oes dim ond y lliw wedi newid. -+- Da gennyf ddweyd fody Parch. John Owen, Anfield, yn gwella. Dywed rhai ddylent wybod, ei fod yn edrych yn well o lawer er pan y mae efe a'i briod yn mwynhau tawelwch ac awyr iach Sir Drefaldwyn. Hyd yn hyn, nid oes air wedi dod o hanes Pte. J. Rees Jones, mab Mr. Rees Jones, The Em- porium, Tregaron. Hysbysodd yr awdurdoclau o Ffrainc ei fod ar goll. Hyderir y goreu, ac mae cydymd'eimlad cyfifredinol a'i d.ad yn ei brvder. PR Mewn misolyn crefyddol, o dan nawdd ein cenhadaeth yn Lushai, y mae pregeth o eiddo y Parch. Oscar Symond, B.A., Pembroke Dock, wedi, ei chyfieithu i iaith y Lusheaid gan ein cenhadwr ffvddlawn a diwyd, y Parch. F. J. Sandy, Aijal. -+- Drwg fydd gan ein darllenwyr ddeall am farwolaeth Mr. Frank Crowe, Gwrecsam, yn 38 ml. oed. Yr oedd yn un o lyfrwerthwyr mwyaf adnabyddus y wlad, ac yn hysbys drwy y deyrnas hon a gwledydd eraill. Aeth drwy ei ddwylaw ef lawer o'r llyfrau sydd ar silffoedd1 y Llyfrgell Genedlaethol Gymrefg. Gyda llawenydd mawr y derbyniodd eglwys ac ardal Ynyshir y newydd cysurus fod Mr. D. Charles Morgan, mab y diweddar Barch. John Morgan, Ynyshir, wedil ennill y radd o B.A. ym Mhrifysgol Cymru. Y mae Mr. D. C. Morgan wedi gweithio yn egniol iawn, ac y mae yn glod iddo eir fod wedi dringo mor uchel. Y mae Mr. Morgan hefyd yn bregethwr cymerad- wy iawn. Bendith y nefoedd a orffwyso arno ef, ac ar ei fam weddw yn y dyfodol fel yn y gorffennol. -=- Hysbysir fod gwaed eich gohebydd talentog, y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., yn lan oddi- wrth lawer o'r gwallau yn Llyfr Canu'r Eistedd- fod ag y cyfeiriai y Parch. T. Mordaf Pierce atynt. Gormod o goginwyr oedd gyda'r gwaith. Anfonodd Syr E. Vincent Evans lythyr at y cofrestrydd yn hysbysu fod Dr. Owen Pritchard, I lundain, aelod o Gymdeithas y Cymrodorion, am waddoli ysgolcriaeth wyddonol, gwerth ^50 y flwyddyn am ddeng mlynedd yngJyn a Clio leg y Gogledd ym Mangor. Yr ysgoloriaeth yn ago red i rail o Fon ac Arfon. Mae Lieut. J. G. Llewelyn Jones, mab Mr. F. Llewelyn Jones, cyfreithiwr, Wyddgrug, wedi cymryd ei radd o B. Sc. ym Mhrifysgol Cymru. Gweithiodd ar gyfer ei arholiad pan yn glwyfedig mewn ysbyty milwrol. -+- • Byd<J yn ddrwg gan gylch eang o gyfeillion glywed fod y Parch. W. M. Jones, Llansant- ffraid, wedi cyfarfod a damwain ddifrifol. Cwympodd oddiar ei feisicl pan yn. dyfod adref o'i gyhoeddiad, a niweidiodd ei ben. Bu yn anymwybodol am beth amser. Da gennyf glywed ei fod yn gwella cystal ag y gallesid di-sgwyl. Er ar wely mewn ysbyty nid yw awen Pedrog yn diffygio. Dyma ei englyn diweddaf ar 1 0 Amynedd,'—y peth prinaf ymhob man, a'r gras anhebgor mewn yshrty Grym enaid yw gwir amynedd,—gwydnwch Ei gydnerth cyfrodedd; O ofid tyn dangnefedd, A Ilawn bwyll o wyneb bedd. Rhyfedd fel y gwahaniaetha pobl yn eu barn! ac anodd yn fynych yw gwybod pwy i gredu. Er enghraifft, dywed rhai fod y derbyniad rodd- wyd i Ddirprwyaeth Eglwysi Rhyddion Cymru gan y Prifweinidog yn bopeth ellid ei ddymuno, tra o'r ochr arall y deil y Parch. Gwilym Davies ac eraill i daeru mai' anfoddhaol i'r eithaf yd- oedd. Yn awr tystiolaeth pwy sydd i'w derbyn, canys y maent o'r ddeutu yn wyr anrhydeddus. Mae Dr. Emyr Owen Price, Bangor, yn gorfod ymneilltuo, ynddyn trigain mlwydd oed, am fod ei iechyd wedi torri i lawr. Bu yn swyddog iechydol am 2gain mlynedd, ac er ys pedair blynedd mae yn wael. Nid oes dim sy'n dangos mor darawiladol ag amgylchiad fel hwn pa mor fyr yw braich dynol i estyn ym- wared. Peth cyffredira yw gweld meddygon yn rhoi eu hunain Vw gwaith, ac yn torri i lawr yn ddynion cymharol ieuainc. Dewisddyn eglwys Nasareth, Pentre Rhon- dda, yw y Parch. David Davies, B.A., Blaen- clydach. Bu am beth amser yn weinidog yn Miscin, Mountain Ash, ac er ys saith mlynedd y mae wedi bod yn bugeilio eglwys Libanus. Mawr obeithir y bydd iddo gydsynio a'r gwa- hoddiad, a. chaiff un o'r cylchoedd goreu yn y De i lafurio. Cyd-ddigwyddiad diddorol yw mai ei ragflaenydd fydd ei gymydog agosaf. Caiff Blaenclydach y fraint o fagu bugeiliaid i ddosbarth uchaf y Rhondda. Bydd yn dda gan ein darllenwyr glywed fod ein Gohebydd Arbennig ffyddlon a medrus, Mr. W. Wiliams, Manchester, wedi gwella, ac ail ddechreu gweithiol, gyda'r CYMRO. Efe heb amheuaeth yw'r gohebydd gair am air, Cymraeg a Saesneg, rhagoraf yng Nghymru,, a'i adrodd- iadau ef sydd wedi rhoddi bri ar Seiat Fawr Lerpwl drwy'r wlad. Yr wythnos hon, bydd p yn croniclo gweithrediadau Cymdeithasfa"r De ym Merthyr, a bydd adroddiad llawn yn y rhifyn nesaf o'r CYMRO. m Druan o Arglwydd Rhondda! Tra y cyhuddir aelodau y Weinyddiaeth fel rheol o dawedog- rwydd, cyhuddir y Cymro hwn o fod yn siarad gormod, a hynny gan Olygydd y British Week- ly. Ai tybed y gwyr am y ddihareb honno Y meddyg iacha dy hun." Ond dyna, nid yw yn 'adnabod Arglwydd Rhondda, neu fe ddylai wybod mai nid yn ei ddawn siarad y mae ei ogoniant. Ond fe ddeil D.A. bob ymosodiad. Y mae wedi cynefino a phethau o'r fath, ac y mae eit groen, chwedl yntau, wedi ei rhinocer- eiddio." -f- :=;=,= Y mae Mr. W. Michael Lewis, B.A., A.R.C.C., mab Mr. a Mrs. Michael Lewis, Mynydd Isaf, wedi ennill ei M.A., ac wedi, pasio'r arholiad canoi am ei Mus.Bac. Llawen- ydd a rydd hyn i 'w gyfeillion yn yr hen sir. Athro cymeradwy dros ben yw Mr. Lewis yng Xgholeg Caerlleon ar Wysg. Arwisgir ef ym Mangor, Gorff. 18fed. Dro bach yn ol beiddiasom ddywedyd fod Mr. Clement Edward's, A.S., yn sicr o ddod i ddwr poeth am fentro siarad mor rydd-agored ar rvvymedigaeth yr awdurdodau ÍI orfodi ychwan- eg o"r glowyr ieuainc dibriod i ymrestru yn y fyddin. A gwir y proffwydasom, canys y mae'r cwmwl wedi torri, a diferion bras o gynddaredd rhai o'r arweinwyr eisoes yn dechreu disgyn arno. Ond gall fforddio bod yn dawel am dymor er cael gweld beth fydd dylanwad hyn oil. Beiddiodd rhywun gwyno yn ddiweddar ar safle gweision ffermydd ym Mro Morgannwg. Awgrymai yr edrychid arnynt fel bodau is-radd- ol i"w cyflogwyr; a thra 'roedd y diweddaf yn gwledda ar frasder y tir, rhaid oedd i'r cyntaf ymfoddloni ar y briwsion syrthiai oddiar eu bwrdd. Gwr sydd wedi treulio ei holl oes yn y fro yw Mr. Illtyd Williams, A.S., St. Athan, a gellir dibynnu ar ei air, a da fydd gan bawb ei glywed yn tystio yn groew nad oes yn y cyhuddiad uchod yr un gairo wir. -+- Mae eglwys Rhosygwalia, Llwyneinion, Cefn- ddwygraig, a'r Glyn,-pedair eglwys fechan yn y wlad brydferth yng nghymydogaeth y Bala,— yn estyn galwad i'r Parch. T. R. Jones, Towyn. Mae'r newydd wedi peri syndod a gofid yng Ngorllewin Meirionydd, lie y mae'r lienor chwaethus yn uchel iawn ei barch a mawr iawrn ei ddylanwad. Gwr yn hoff o'r encilion ydyw Mr. Jones, a diau fod yn nhawelwch y wlad swyn mawr iddo ef. Ond hyderir y gwel* ei bod yn rhy gynnar iddo il gymryd ei swyno gan y mynyddoedd, ar adeg pan y mae gwir angen am ei arweiniad, a'i brofiad yn nes i'r mor. Gofyniad bair lawer o bryder i garedigion yr achos yw, Beth fydd nodwedd ein Heglwysi pan ddaw y milwyr adre;'? Dywed un milwr wrtli ysgrifennu i'r Ymofynydd': Ni chyfarfydd- ais a neb yn gwadu bodolaeth Duw, ac ni chlyw- ais neb yn; gwneud rhodres o'i grefydd. Mae arwyddio'n clir mai newyn a syched am gyfiawn- der fydd nodwedd crefydd y dyfodol." Go- beithiwn o galon fod y broffwydoliaeth uchod yn wir, ond rhaid inni gyffesu nad ydym heb sail i ameu i fesur pan, yn gweled arwyddion o ddifrawder a difaterwch i'r pethau goreu ar ran llawer o'r bechgyn ddychwelant am seibiant o faes y frwydr. Gwelais adroddiad da yn y Darian o Gyn- hadledd Cymdeithasau Cymreig rhan o Forgan- nwg. Cadw'r iaith yn fyw yw prif amcan y Cymdeithasau hyn, a da gweld fod yr Ysgol Sul yn cael ei lie yn y mudiad. Dywedai y Parch. M. H. Jones, B.A., fod yn syndod fod y Gym- raeg yn fyw yng nghanol y dylif Saesneg, a dadleuai dros egni a phenderfyriiad i droit y Hanw yn ol. Ond a yw Mr. Jones yn disgwyl troi y llanw yn ol pan y mae dysgu'r Gymriieg yn yr ysgol bob dydd yn fethiant, a bron yr oil o fechgyn a merched y Colegau yn myned yn Saeson Yr wyf o galon dros y mudiad, ond ofer bod yn dd-all i'r nerthoedd newyddion sydd ar waith wrth wraidd bywyd Cymru. Myfyriwr ieuanc sydd gyda'r R.A.M.C. yn Salonica a ysgrifermai adref ei fod, gyda. mil- oedd o filwyr eraill, ger un 0 bentrefi budr ac anhardd gororau Groeg. Teimlai yn lluddedig, ac megis mewn breuddwyd gwelai y deml. leiaf a, harddaf welodd erioed, ar ochr bryn bychan gerllaw. Cerddodd yn hamddenol ati, a chan fod y drws yn agored aeth iddi,, ac os oedd yn hardd tn allan, yr oedd yn fil harddach o'r tu mewn. Rhyfeddai at y swyn a'r tawelwch. Methodd a pheidio syrthio i lawr ac addoli. Meddyliai ei fod yn unig, ond pan gyfododfi, gwelodd fod un milwr arall wedi ymlwybro yno, yntau'n addoli. Dechreuasant siarad, ac er ei syndod, Cymro oedd hwnnw hefyd. Wedi deall cafodd mai bachgen o Flaenau Ffestiniog yd- oedd, ac un o Bwllheli oedd yntau. Capel i Gymro, ynt £ O