Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

.GOHEBIAETHAU. ._----

LLYTHYR - O DY'R CYFFREDIN..…

LLYFR TONAU BIRKENHEAD.

News
Cite
Share

LLYFR TONAU BIRKENHEAD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Gwelir yn ysgrif y Parch. T. Mordaf Pierce, Dolgellau, yn y CYMRO am yr wythnos o'r blaen ar Raglen Cymanfa Birkenhead," ei fod yn lied, lawdrwm ar waith y Pwyllg-cr yn dewis tonau estronol. Y mae ei sylwadau i raddau yl-i hollo-l resymol. I raddau, meddaf, am iod lluaws mawr o donau sydd heb fod yn gyfansoddiadau o'r eiddom ni y Cymry, yn hawlio ein hedmygedd, oherwydd eu rhagoroldeb ynghyda'u gwerth. O'r llawer hynny enwaf rhyw dair ton, fel engharifft, a fyddant byw am amser maith (i) 'Sandon,' ton 6 waith C. M. Purday, ar y geiriau Lead, kindly Light.' r (2) 'Rutherford,' Psalmydd Lausanne, geiriau, 'Bydd gwel'd gogoniant Iesu.' (3) St. Agnes,' Parch. J. B. Dykes, Rwy'n edrych dros y bryniau pell.' Tonau oil yn llawn, o'r peth byw a'r parhaol. Sicr y teimlwn yn ddiolchgar i'r P'arch. T. M. Pierce. am ddwyn y mater i sylw, yn ol ei graffter a'i yni arferol. Ond yng nghysgod sy'wadau Mr. Pierce, mae gennyf finhau un gwyn, sef yw hynny, gadael b allan o Lyfr Tonau y Methodistiaid Calfinaidd amryw o donau ardderchog,* ac yn eu plith y don byd-glodus Hyfrydol (R. M. Pritchard), geiriau, 'Marchog, Iesu, yn llwyddiannus.' I ben a chalon-pwy y daeth v fith- Ton sydd wedi, ac yn bod, yn ysbrydiaeth i gynulleidfaoedd Cymru, er's llawer blwyddyn. Un y mae yr enwog a'r efengylydd Gipsy Smith wedi cael ei-ysbrydoli lawer gwaith trwyddi, yng nghyflawniad ei waith mawr fel gweimdo- yr 'efengyl' gyda'r mikedd 0 wrandawyr. Hyder- wn na chaiff y fath wall gymryd lIe yn y dyfcd- ol. EDMYGWR. CYNHALIAETH Y WEINIDOGAETH. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwy4"Syr,-Carivn gael lie i air neu ddau ar yr uchod. Mae yna arwyr" ymhiith gweinidogion Ymneilltuol Cymru y dyddiau hyn—rhai yn dioddef yn ddistaw a didwrw dros egwyddorion Crist mewn newyn ac angen, eto yn ceisio cadwvurddas eu swydd. I mi maent yn dioddef bron cymaint a'r bechgyn dewr ar, faes y frwydr. Tybed nad ydyw yn hen bryd i Anghydffurfwyr Cymru ddihuno. Mae y gweith- wyr yn ennill mwy nag erioed, ac wedi; cael cod- iad sylweddol. Mae bron pob cylch o gym- deithas- wedi cael cydnabyddiaeth resymol ond y weinidogaeth. Mae undebau wedi llwyddo i sicrhau gwelliantau iddynt, ond y mae y weini- dogaeth druan allan 0 bob undeb. Dibynna ar wirfoddolrwydd haelioni a gras, ac y mae y rhai hyn mi ofnaf yn llawer lie yn fwy o sliding scale i ostwng tuag i lawr nag ydynt i godi. Bum yn edrych i fyny Aroddiád y Bwrdd Mas- nach am ugain m.lynedd (1894—1913). Yn. ystod yr amser yma mae cyflogau gweithwyr y t, i. wedi cynhyddu tua ^300,000 yr wythnos; yr. engineers tua ^100,000 yr wythnos. Mae cyfl.ozau yn gyffrednol wedi chwanegu chwe miliwn o bunnau y flwyddyn. Os ydoedd felly yn 1913, beth ydyw heddyw yn 1-9171 Mae yn sicr o fod wedi dyblu os na threblu yr uchod, Os-ydoedd costau byw 1894—1913 wedi myned i fyny 13,y cant (percenh), a chyflogau 5 y cant (per cent.), heddyw mae costau byw wedi myned i fyny yn a os i 70' per cent ar 1914, a chyflo ;au o 15 i ^5 per cent. Ychydig iawn, iawn, ntae y weinidogaeth wedi gael yn eu cyflogau. Dywedir i mi fod Iluaws mawr o'n gweinidogion a'u teuluoedd ar y 'minimum (sustenance) line,' os nad yn wir yn dioddef angen. Tybed nad allai y Parch. Thomas Bowen-ael y ffeithiau yma i'n codi at ein iiyled. swyddau. Dylai gweinidogion gweithgar a duwiolfrydig.a'u teuluoedd fod uwchlaw pryder y dyddiau yma. Os nad oes diwygiad buan yn dyfod, bydd Eglwysi Anghydffurfiol Cymru ynghau i"n pobl ieuainc mwyaf addawol. Mae pi., .Ipiici Cymru hyd yn hyn wedi bod yn dynfa i dalentau disdeiriaf Gwalia Wen. Mae yr Eg- Iwys Wladol yn dihuno.. Deallaf nad oedd un Curad ieuanc o'r ColeT dan fl i z.o y flwyddyn cyn y rhyfel, a teby? ei fod yn a^osach i .£150 heddyw. Pan ddel DatTysyFtiad, synnwn ni d'dim t weled y safon yn uwch fyth. Pe byddai y Parchn. John Morgan Jones- a Cynddylan Jones wedi ymuno a'r Eglwys Wladol yr un pryd a phan adawodd Esgob presennol Ty- Ddewi y Methodistiaid, buasent heddyw yn Esgobion yn derbyn £5,000 y flwyddyn-ond sylwn er ennill iddynt hwy—y 'go)led fuasai hynny i werin Cymru ac Anghydffurfuieth. Mae Undeb yr Athrawon wedi casglu tua. ^106,coo c y tair blynedd diweddaf at Gronfa i gynorth- wyo gwragedd a phlant y rhai a gollwyd. Rhil eu haelodau ydynt- 100,000. Tybed na allwn ninnau yn rhifo yn agosi 200,000 wneud ym- gais. i sicrhau yr Achos Mawr yn ddiogel y "dyddiau hyntrvyroddi y lie amlycaf i Gynhal- iaeth y Weinidogaeth.. Pontygwaith, D. T. DAVIES, YMNEiLLTUWYR CYMRU A'R FYDD1N. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Yn eich rhifyn cyn y diweddaf geilw eich gohebydd sylw at "safle anfoddhaol trefn- iadau yr Ymneilituwyr" gyda Chaplaniaid y Fyddin," ac at. y "diffyg cefnogaeth ddang- hosir i filwyr Cymreig.a'u Capalniaid." Gwna eich gohebydd wasanaeth wrth ddwyn "y mater- ion hyn i sylw, a theimlaf yn sicr os edrychir arnynt yng ngoleuni llwyddiant dyfoddl Ym- neilltuaeth yng Nghymru, y cydnabyddir eu hawl i ystyriaeth ddifrifolaf a dwysaf ein har- einwyr. Er pan.yr ymunais a'r Fyddin rhyw ddwy flyned-d yn ol, nid ydwyf heb deimlo, gar- tref ac oddicartref, fod ein trefniant, neu ein 'anhTefniant presennol a Swyddfa'r Rhyfel' ynglyn a Chaplaniaid, yn un sydd nid yn unig yn anfoddhaol, ond yn annioddefol, ac ar gyfrif hynny yn annheilwng ohonom fel Ymneilitu- wyr, ac o'r aberth beunyddiol a wneir drosom gan ein meibion dewr. Gallwn fel Ymneilitu- wyr Cymreig ymffrosflo yn y rhan bwysig gymerir gennym yn.y rhyfel presennol,—mawr ydyw nifer ein haelodau a'n gwrandawyr sydd yn y Fyddin,—ond er eu lluosoced,'nid oes gennym i'n cynrychioli ond rhyw ddeunaw 6 Gaplaniaid. Tueddir yn gyftredin i. feio Swyddfa'r Rhyfel am y sefyllfa hyn ar bethau, ond gyda ychydig o ystyriaeth gwelir yn fuan y gorwedda y ba.i yn y modd aneffeithiol y trefna ",aw,durdodau y gwahaaiol gyfundebau gyda Swyddfa'r Rhyfel. Amharod iawn.ydwyf un rhyw adeg i gydnabod rhagoriaeth y Saeson ar ,Y I y Cymry mewn rhagddarbodaeth, ond ar y cwestiwn hwn, gorfodir i mi gydnabod eu bod ymhell iawn ar y blaen. Yn Lloegr, cydnab* yddocid Swyddfa'r Rhyfel bedwar enwad na chydnabyddodd yn flaenorol. i'r- rhyfe!. Unodd yr enwadau hyn a"u gilydd, ac adnabyddir hwy wrth yr enw United Board." Y canlyniad i'r Undeb hwn, ac i'r gydnabyddiaeth swydd- ogol a nodwyd ydyw fod y pedwar enwad yn llwyddo i sicrhau cynrychiolaeth deilwng o 0 Gaplaniaid i weinidogaethu ymhiith meibion eu heglwysi. Oni ellir sicrhau undeb cyffelyb yng' h Y-,ii r u Dyweder, Bwrdd ."Unedig cyfan- soddedig o bersonau wedi eu dewis gan yr Anni- bynwyr, Bedyddwyr, a'r Methodistiaid. Gad- awaf y Wesleiyaid allan oherwydd nad yw hyn yn angenrhe.idiol iddynt hwy. Gelygaf i'r Bwrdd hwn weithrédu yn uniongyrchol a Swyddfa'r Rhyfel. Sicrheid felly nifer deg o Gaplaniaid ar gyfer y Cymry. Tybed a ydyw Undeb o'r riodwedd hwn yn amho-sibl yng Nghymru? Yn y ffosydd yr ydym bawb yn un. Ai gormod ydyw gofyn a disgwyl am undeb cyffelyb vgartref ? Cydolygaf yn galonnog a'r sylw arall a wna eich gohebydd. Mae'n wir amheus gennyf a ydyw mwyafrif o'n heglwysi wedi dadebru j;'w cyfrifoldeb a'u cyfleusterau. Beth feddyliwch chwi am beth fel hyn ddigwyddcdd yma rhyw ychydig ..wythncsau'n ol. Trefnwyd cyfarfodydd prègethu gennym, a chafwyd dau o'r hoelion wyth i addo v ein gwasanaethu. Cyhoedd\vyd y cyfarfodydd -drwy y gwersyll, ac edrychem bawb ymtaen at yr wyl. Ond rhyw wythnos cyn y dydd penod- edig ysgrifennodd y ddau frawd i ymesgusodi. Metha un a chadw ei addewid oherwydd fod yr erJwys addawodd*ei gwasaiiaethu yn gwrthod ei ryddhau; metha y Hall a dyfod erwydd fod yr Eglwys gartref yn codi anhawster ar ei ffordd. I^elly bu rhaid' siomi'r bechgyn Nid rhyfedd y gofynodd un Tybed a "wyr yr eg- Iwysi fod rhyfel yn bod?' Ie, tybed he-fyd a wyr yr eftlwysï: fod rhyfel yn bod Mawr obeithiaf mai eithriadau ydynt. YMNEILLTUWR.