Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

r--..---.—— v . ' NODION CYMREIG,,.!

News
Cite
Share

r — — v NODION CYMREIG, ALLORAU SEION. Esgyn wnaf i Fynydd Seion, Glynaf wrth allorau'r nef; Lle'r offryma'r pereriniori Ebyrth moliant iddo Ef; Ac yl)g lio-,()I-eii'r (Iwyfol dhii,, < Gwelaf borth y Wynfa lan. I Wrth allorau y cynteddoedd, Cofiaf am yr Aberth mawr; A daw bendith oreu'r nefoedd v Ar fy offrwm innau i lawr; Mae yn dod ar oreu dyn Ddoniau goreu Duw Eil hun. Yn encilion hedd y Mynydd, t Caf fy.- meiau dan fy nhraed; g Ar fy ol ni ddaw'r diaiydd, I: Yn ei syched am fy hgwaed; ■L Mae golly ngdbd llawn i mi, & Wedi'r gwaed ar Galfari. V Ar y Mynydd mae fy noddfa, p A'r allorau'n hedd i gyd; Ac. mae'r Arch a'r Drugareddfa Y tu ol i'r lien o hyd; Gad.i'm henaid, O1! fy Nuw, Gadw'r tân Q hyd yn fyw. DYKED. <4 • Mewn- cyhoedrliad Seisnig.yr oedd sanhedrim Aberaeron yn hysbysebu am wr yn medru siarad Cymraeg i fodyn brifathro yn yr Ysgol sir. --+-- Mae Cor meibion Cymreig yn Alexandria, yi Aifft, a rhoddasant gyngerdd er budd ysbyty Cymreig Netley, .yr elw yn £ s°- '-+-- Mae trysorfa yr Annibynwyr at godi lleiaf- swm cyflogau y gweinidogion wedi cyrraedd ^26,000. Cyfranodd Arglwydd Rhondda £ *000 ati. -+- 65. Difodir chwech o dafarndai yn Sir Ddinbych- g. yn awr, gyda'r ad'-daliad a roddir gan y tafarii- |_ wyr eu hunain. Awgrymiadol yw'r cof- f nod nad oedd neb yn gwrthwynebu'r difotliad. ♦ Mae llawer o Gymry ieuainc sydd yn y Tal- eithiau Unedig wedi Vymrestni, a sonlr am gael catrawd Gymreig. Os ceir hynny yn y fyddin Americanaidd, mae Jonathan yn well dyn na John Bull. -+-- Prin y mae pawb yng Ngogledd Cymru yn -credu mewn. cael Cyngor Addysg i Gymru. Ofnir y golyga hynny i'r Gogleftkl gael ei lyncu :g( y De. Gwell gan y Gogledd gael ei Ilyncu gan Loegr na chany De • -——♦ Mae llythyrau Lieut. Einion Evans, mab I Golygydd y CYMRO, yn cael eu codi; i'r Cyfaill, cyhoeddiad swyddogol y Methodistiaid yn yr tJnol Daleithiau. Gresyn fod swydd Einion erbyn hyn yn rhwystro iddo ysgrifennu i'r wasg. Dywed y Western Mail' fod y Llywodraeth yn dechreu .sylweddoli os na chaiff y gweithwyr ragor o gwrw y bydd yna row. Ar ol iddynt gael rhagor y bydd row yn gyfFrediln', ac o'r ddaugwell fyddai cael row y Western Mail na'r un ydym wedi arfer gael. —— Dywed v Parch. T. Charles Williams, M.A., fod eisiau saethu'r 'profiteers,'—hynnv yw Pawb sydd wedi gwneud elw ar ymborth y wlad. Am y rhai sydd wedi gwneud elw teg ac anrhy- "deddus, mae am eu goflwng yn rhydd ond' iddynt dalu dirwy yn v ffurf o rodd anrhydedd- Us at symudiadau da', felmudiad coffadwpaethol y milwyr. \r Cododd aelodau Cyngor Trefol y. Bala gyda'u gilydd ac aethant allan fel protest yn erbyn gwaith Mr. W. Owen yn gwrthod ym- ostwng i benderfyniad y cadeirydd. Eisiau diddymupenderfyniad a basiwyd gan y Cyngor ynglyn a .Gwahaxddiad "oedd ar y tafarnwr. Nid yw Cymru wedi: cael cynrychiolydd ar y pwyllgor sy'n edrych faint sydd eisiau i brynu'r Fasnach. Ai tybed fod prinder dynion cymwys at fater fel hyn yng Nghymru? P'o fwyaf o ddylanwad fydd gan y Toriaid yn y Weinydd- iaeth, lleiaf oil o le gaiff Cymru. -+-- Dywedir fod y llythyrau yma wedi pasip yr wythnos ddiweddaf rhwng dau wr mawr. Syr Parch. W. Robertson Nicoll at Arglwydd Rhondda," Siaradwch lai, gweithiwch fwy." Arglwydd Rhondda at Syr Parch. W. Robert- son Nicoll: "Ysgrifennwch lai, gweithiwch fwy. '—— Apelir i'r uchel lys yn erbyn gwaith ynadon Bangor yn dirwyo gweinidog ordeiniedig gyda'r Bedyddwyr i ddwy bunt a'r costau am beidio mynd i'r fyddin. Y pwynt i'w benderfynu ydyw, a yw y rhai a ordeinir wedi pasio y ddeddf filwrol ar adeg y gelwir. hwy i fyny yn rhydd oddiiWrth ddarpariadau y ddeddf. ♦ '■ Chwech o erthyglau sydd yn rhifyn y Gwan- wyn (1) o'r Beimiad,pedair gan weinidogion, a dwy gan brif athrawon. Yr hyn sydd yn od yn y rhifyn ydy^ hwn,—son am ddiwinyddiaeth y mae'r ddau leygwr,—Syr Harri Reichel a Mr. David Samuel, M.A., a son am feirdd, llenor- ion, a milwyr, y mae"r gweinidogion,—oil yn dda iawn wrth gwrs. -1 Mabinogion Abertawe ydyw enw llyfr I harddsydd wedi ei gyhoeddi gan Mr. D. Rhys b Phillips, F.L.A. Hanesr cyfarfodydd bord gron a chlwb cerdded Abertawe ydyw, heb ormod o drefnu na. thrwsio ar ddim,'ond y cyfan wedi eu crynhoi i un o'r cyfrolau glanaf ddaeth o swyddfa Spurell erioed. Darfod' mewn mWg a gwledd y mae gwibdclthiau a chyrddau llen- yddol yn gyffredin, ond dyma iyfr gwerth ei fe(i(luei d,darlleii, a'i gadw. !—— Dywed Mr. A. P. Morgan, Llangollen, fod chwech o achosion. crefyddol Saesneg yn cael eu cynnal mewn rhai trefi yng Nghymru pan y buasai un yn hen ddigon. Da iawn. Ond a ddisgwylir i Saeson Cymru ragori ar y Cymry ? Gwn am amryw bentrefi hollol Gymreig lie y mae hanner dwsin o eglwysi Cymreig yn llyr- guno byw. Ysywaeth, nid yw pobl yn 1 lai enwadol wrth droi yn Saeson. Mae problem enwadaeth yn un fawr ac anhawdd. Rhyfedd gymaint o red tapeism sydd ymhob cylch, ac yn neilltuol felly mewn cylchoedd a rhyw gymaint o awdurdod yn perthyn iddynt. Hyn yw'r esboniad ar y gohiriad poenus ynglyn a chyhoeddi rhestr newydd Ynadon Heddwch Sir Forgannwg. Metha'r awdurdodau gytuno, ac mewn ystyr ymgecrant a'u gilydd, Pwy sydd fwyaf ? 'Dyw fod hynny yn peri anghyfleustra 1 eraill yn poeni dim arnynt. Syrthied y byd, rhaid i rywrai gael eu ffordd. '■ Mae Cyngor Cenedlaethol Eglwysi Rhyddion Cymru yn apelio ar i'r holl eglwysi neilltuo dydd Sadwrn, Awst 4, a dyd<f Sul, Awst 5, yn ddydcliau o ymbil. Bydclwn erbyn hynny wedi byw trwy dair blynedd lawn o ryfel, a'r blyn- yddoedd hyn wedi dwyn profiadau dieithr i'n rhan, ac wedi trymhau beichmu bywyd. Go- beithio y gwrandewh' ar genadwri'r apel, ac y ceir gweled cenedl gyfan yn plygu mewn ymost- yngiaid gerbron Duw. Mewn cyfarfod pregethu y dydd o'r blaen yn Llandyfeiliog, Sir Gaer, pregethwyd gan Anni- bynnwr, Bedyddiwr, Methodist, ac Eglwyswr. Gresyli i'r..Weslead gael ei adael allan. Dyma symudiad er daioni', ac un ffordd effeithiol i gael- y llwythau at eu gilydd, yw cael gan yr arweinwyr i ddod ynghyd. Proffwyda rhywrai mai un o ganlyniadau y rhyfel fydd peri inni anghofio ein man wahaniaethau. Boed felly yn wir. Yng Xghyngdr Sir Gaernarfon pasiwyd cyn- hygiad Mr. William George yn gofyn am i Gymru gael bod yn ddosbarth ar wahan i Loegr gyd'ag archwilio cyfrifon y Cynghorau Sir. Ar hyn o bryd, rhwymir Cymru wrth gynffon rhyw ran Seisnig, ac fel mater o drefn dda. ac iawnder i'r genedl dylai Cymru gael ei threfniad ei hun. Yn raddol y caiff Cymru hunanlywodraeth, a chymwynaswyr cenedl yw y rhai sydd yn parhau i ofalu am y man bethau hyn ydynt gyda'u gilydd yn cyfanu bywyd Cymru. V ♦—;— Da gennym weled graen iach Y Cofiedydd am y mis hwn. Ceir ynddo lawer o arwyddion bywyd ac ieuenctid, ac yn wir felly y dylai fod, canys sylwn ar ei wynebddalen fod iddo o leiaf saith o olygwyr. Awgryma'r Golygydd Cyffre- dinol mai un Athrofa. fydd gan y Cyfundeb o hyn allan, a bod y rhyfel wedi penderfynu pwnc yr uniad. Ceir gweld. Deil dywediadau y Parch. Joseph Thomas i'w hall-advodd, acheir pennod ddyddorol ohonynt yn y rhifyn hwn. Dylai eu darllen godi syched yn y darllenydd am feddu ei Gofiant. --+-- Y mae Cymru'r Plant' am Gorffennaf mor swynolag erioed. Da y gwnaethpwyd i gof- nodi ateb brawd Daniel Owen i'w athraw yn yr Ysgol Sul mai gwaith angylion pan yn; dod i'r ddaear oedd gweithredu fel registrars births and deaths.' Hyfrydwch hefyd i bawb o'r dar- llenwyr fydd parhau i ddarllen ysgrifau byw Ifan ab 0. Edwards.* Ond er cystal yw'r mis- olyn hwn, gresyn meddwl nad yw'r Golygydd yn cael dim am ei lafur, na neb yn cael proffit o'fath yn y byd, ac oblegid y-codiad yn y prisiau rhaid am chwe' mis ddyblu ei bris. Ni ddylai neb omedd ei gefnogaeth- Nid heb achos y rhoddwyd amlygrwydd i sylwad,au yr Archdderwydd wrth gyhoeddi Eis- teddfoa Genedlaethol Castellnedd. Gwahanol a iawn oedd sylwadau lolo Morgannwg, yn Eis- tecldfod Caerfyrdclin gan mlynedd yn ol. id Meddai-: Yr ydym ni yn byw yn nyddiau tawel heddwch, boed inni obeithio y cofrestrir hwy gan yr oesoedd a ddel fel dyddiau gwir grefydd a moesoldeb, a bydded inni ag ydym yn byw yn y dyddiau hyn^ymdrechu i sefydlu ein cymeriad fel y cyfryw. 0 Gaerfyrddin boed i angylion gwybodaeth a phob rhinwedd gymryd eu ehed- iad i bob parth gan gawodi arnom o'u hesgyll auraidd holl fendithion d'e, doeth- ineb bur, tangnefedd, a dedwyddwch. ,—— Ganwyd y Parch. Edward Morgan, Dyffryn, ar yr 2ofed o Fedi, 1817, mewn ty bychan to gwellt yn y Pentref. Llangurig, ■ rhyw filltir a hanner o.dref Llanidloes ar y ffordd i Aberyst- wyth. Mae can' mlynedd wedi pasio er hynny, ond mae y gwaith a gychwynwyd gan Mr. Morgan yn fyw ac yn mynd rhagddo. Efe oedd tad y fugeiliaeth ymhlith y Methodistiaid, ac an-odd prislio dyled Cymru iddo- Mae v cyfeillion yn y Dyffryn a Chyfarfod Misol Gor- llewin Meirionydd' wedi pasio i gynnal cyfarfod coffadwriaethol can'mlwyddol ar yr 2ofed o, Fecn. Bydd yno wyl: bregethu, a threulir un cyfarfoct ison am Edward Morgan waith. Awgrymir, hefyd, mai. da fyddai rhoddi maen., coffa yn y capel.