Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

---------- - NODION CYMREIG.|

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. ———— Y BREICHIAU TRAGWYDDOL. Mi ganaf am drefn i'm gwaredu Ogoniant i enw fy Nuw; Yng nghariad anfeidrol yr Iesu, Mae gobaith i minnau gael byw; I'w fynwes yn ol y dihangaf, Ni chollir pwy bynnag a gred; Mae'n disgwyl yn dyner am danaf, A'i freichilau tragwyddol ar led. Yng nghanol pryderon a thrallod, Siomedig yw troion y byd; Mae hen gyfamodau'n ymddatod, Ac angeu'n eu chwalu o hyd; Ond dyfnder trueni nid ofnaf, Mae Ceidwad a wrendy fy lief; A'r breichiau tragwyddol o danaf, Mor gadarn a gorsedd y nef. Ysgydwed sylfeini'r mynyddoedd, A llamed y bryniau i'r mor; Diffodded yr haul yn y nefoedd, Ni siglir addewid fy lor; Uwchlaw y rhyferthwy'n ddihangol, Caf yno anadlu yn rhydd; 0 danaf, y breichiau tragwyddol, Yn cynnal fy enaid a fydd. DYFED. Da gennyf weled fod Mr. W. Watkin Davies, B.A., mab y PaTch. J. Gwynoro Davies, Aber- maw, wedi ei benodi yn athraw yn Ysgol Sir Abermaw. Wyth ugain a, phump oedd rhif yr ymgeiswyr am y swydd o arolygydd ysgolion dyddiol Caer- dydd, a dengys hyn fod digon o ddyniion; ar gael pan fydd swydd a chyflog yn galw. --+- Mae ynadon Meirion wedi penderfynu fod Hen Dafarn, Corris, a'r Victoria Inn, Corwen, i'w cau, a'r perchenogion i gael ad-daliad. Dywedai y Prifgwnstabf y derbynid o ^300 i ^400 eleni at roi ad-daliad. ♦ Mae pwyllgor adldysg Ceredigion a'i fryd ar leihau costau addysg yn y sir, a disgwylir cyn- hilo £ 1,400 y flwyddyn drwy uno ysgolion. Mae'r awydd am gynhilo yn debyg o ladd en- wadaeth mor bell ag y mae'r anghenfil hwnnw yn dangos d ben yn yr ysgolion. --+-- Nos Saboth diweddaf, Gorff. 8fed, hysbys- odd y Parch. William Thomas, eglwys Seion, Llanrwst, ei fod yn bwriadu ymneilltuo o ofal- aeth yr eglwys ymhen y tri mis. Mae Mr. Thomas wedi bod yn bugeilio yr eglwys er ys un mlynedd ar hugain, a, chyn hynny bu yn bugeilio eglwys Penmount, Pwllheli, am wyth mlynedd. ——- Cyflwynodd caredigioll 0: Flaenau Ffestiniog cheque am £70 ac album goreuredig i Capt. Carey Evans ar ei briodas a Miss Olwen Lloyd George. Hefyd cyflwynodd eglwys y Bedydd- wyr cheque am /io. Danghosodd yr ardal- wyr mewn llawer modd eu teimladau da nid yn unig at y par ieuanc, ond hefyd at Dr. Evans, tad y priodfab. —■. •» I.. Un o eglwysi pwysicaf Cyfarfod Misol Dwyr- ain Morgannwg yw Nazareth, Pentre, a theimlir cryn ddiddordeb yn ei dewisiad o olynydd i'w chyn-weinidog, y Parch. Daniel Davies, Ler- pwl. Y mae'r eglwys wedi ymddiried y gwaith o chwilioi am wr cymwys i bwyllgor, a dywedir fod y Pwyllgor hwnnw wedi syrthio mewn cariad a gweinidog ar eglwys yn yr ymyl. Dyma bwyll-gor na-, gellit ei gyhudd'o o fod ei lygaid yn eithafoedd y ddaear, a mawr lwc iddynt. Hyderilr y llwvdda yn ei ymchwii. Deallaf yr hyderir agor Ysgol Clynnog at ddechreu y tymor gaeaf. Erbyn hyn mae Cyfarfodydd Misol Gorllewin Meirionydd, Mon a Dyffryn Conwy, wedi ymuno at Arfon a Lleyn ac Eifionydd i gario yr ysgol ymlaen. Cyfarfu y pwyllgor unedig dydd lau diweddaf, a phen- derfynwyd penodi prifathro yn y pwyllgor nesaf. Yn ol wyf yn deall ni hysbysebir am geisiadau. — Yn yr ad'roddiad o arholiad terfynol Cymdeith- as y CyfreithWYT, a gyhoeddwyd yn y Times am ddydd Sadwm, ceir enw Mr. Emrys Evans, B.A., LL.B. (Cambridge), LL.B. (London), yn drydydd ar restr o 33 o ymgeiswyr, gyda, Hon- orary Distinction yn y trydydd dosbarth. Efe'n ail fab Mr. E. W. Evans, Y.H., a Mrs. Evans, Frondirion, Dolgellau, ac wedi gwasanaethU) ei amser yn swyddfa Mri. Lloyd George & George. Da gennym, hefyd, weld yn yr un rhestr enw Mr. Milwyn Jenkins, mab hynaf y Parch. Joseph Jenkins, Llanymddyfri, a fu'n gwasanaethu ei amser gyda Mr. White Phillips, Blaenau Ffes- tiniog: Mae Mr. T. 1. Jones, mab Mr. J. M. Jones, Caergai', Llanuwchllyn, hefyd, wedi pasio'r arholiad canoln —1 4 Ymgasglodd nifer fawr o brif swyddogion Cymdeithas Cofeb Genedlaethol Cymru yn y brif swyddfa yng Nghaerdydd ar y 3ydd cyfisol, pryd yr anrhegwyd Mr. Gwilym Hughes a silver salver a set o lestri arian ar ei ym- neilltuad o'r swydd o brif ysgrifennydd y gofeb. Llywyddwyd gan Mr. D. W. Evans, y Rheolydd Cyffredinol, yr hwn a ddesgrifiodd y dysteb fel arwydd o'r lie cynnes yr oedd Mr. Hughes wedi ennill iddo ei hun yn mynwesau holl swyddog- ion y Gymdeithas drwy Dde a Gogledd Cymru. Er, meddai, eu bod yn colli Mr. Hughes o'r brif ysgrifenyddiaeth, nid oeddynt i golli ei ddiddordeb yn y Gymdeithas, canys, yn ol pen- derfyniad y Cyngor, yr oedd i gael ei ethol yn aelod o'r Cyngor ar y cyfle cyntaf, a llongyfarch- II odd Mr. Hughes ar y warogaeth uchel hon i'w wasanaeth gwerthfawr ynglyn ag un o'r symud- iadau cenedlaethol mwyaf pwysig a welodd Cymru. Y mae ail flwyddyn Cymdeithas Hanes y Cyf- j undeb wedi gorffen gyda mis Mehefin, a'r ddau ysgrifennydd (y Pa,rchn. D. D. Williams, Ler- pwl, dros y Gogledd, ac M. H. Jones, B.A., .Ton Pentre, dros y De) yn crynhoi'r tanysgrif- iada.11 dyledus <xldiwrth aelodau ac yn paratoi rhestr gywir o'r aelodau i ymddangos yn Rhifyn iv. o'r Cylchgrawn. Yn herwydd oediadau an- orfod gyda'r argraffu a chywiro proflenni, ni fydd y Rhifyn a berthyn i Fehefin allan o'r wasg dan ddiwedd Gorffennaf. Apelir at y cyfeillion sy'n gofalu am fuddiannau'r Gym- deithas ymhob Cyfarfod Misol yn ogystal ag at yr aelodau'n bersonol i fod garediced ag hys- bysu un o'r ddau Ysgrifennydd uchod am eng- hreifftiau 0 newid cyfeiriad, o ddiffyg nodi gradd neu .deitlau swyddol rhai o'r aelodau. Carem fod mor gywir a chyflawn ag sydd bosibl ¡ wrth gyhoeddi Rhestr flynyddol aelodau'r Gym- deithas. ¡ .—4—. I Un o'r blaenoriaid mwyaf ffyddlon. a chywir yn holl gylch Sir Drefaldwyn yw Mr. M. D. Morris, y fferyllydd amryddawn o Feifod, sydd a'i olygon wedi bod yn pallu gweithredu; ac 1 yntau mewn canlyniad wedi bod dan driniaeth i law-feddygol ym Mirmingham. Mae cydym- deimlad dwfn iawn a Mrs. Morris a'i chwaer yn ¡ y mynych brofedigaethau a gyfarfyddasant yn, ddiweddar, a mawr hyderir y caiff ef ynghyda'i I gyd-swyddog, Mr. Roberts, Alltfawr-yntau wedi bod yn cwyrro—a'u gweinidog hoff a defn- ydd'iol, flynyddoedd eto i gydlafurio yng ngwinllan eu Harglwydd. "—— Un hynafgwr arall sydd gennym ym myd y gwe b gweinidogion, sef y Parchedig John Prichard, Crcesoswallt,-gwr nodedig o fedrus a galluog fel meddyliwr a diweinydd, fel y gwyr Cymru oil. Pregethai yn rhagorol odiaeth yng Nghyfarfod Misol yr Adfa y mis diweddaf, ac efe yn ei 85ain mlwydd oed. Gweinyddai hefyd gyda melusder neilituol yng ngwledd cymundeb Cyfarfod Misol Llangynog. — 0 Mae llywyddion a mawrion Eisteddfod Birk- enhead i gael croeso gan Arglwydd Leverhuime. Am y gweddill, gwahoddir ceisiadau am danynt. Mae Godygydd y Bryihon, gyda'i arabedd vdi- hafal, yn gofyn pwy sydd am letya angylion! Pan gofir fod beirdd a beirniaid mewn angen llety, nid bach yr anturiaeth o alw'r gweddill yn angylion.' Teimlir cryn bryder gan lawer oherwydd y newydd fod dynion sydd wedi ymuno a'r R.A.M.C. yn awr yn agored i gael eu symud i'r fyddin gyffredin. Gwyddis i lawer gynnyg eu hunain i wasanaeth eu gwlad nad oeddynt yn barod i ymladd. Gwell fuasai ganddynt ddi- oddef unrhyw gosp na gwneud hynny. Ac a ydyw yn deg eu symud os ydynt yn gwneud eu rhan yn eu safle bresennol? 1 "fr Diwrnod mawr yng Nghastellnedd oedd yr 28ain o Mehefin. Ni weiwyd y fath dorfeydd yn y dref er ys llawer blwyddyn. Yng nghanol tywydd anwadal gwenodd haul—llygad goleuni, ar y dref, ac ar yr ardd brydferth He y rhoed Gorsedd Beirdd Ynys Prydain i lawr. Ar awr anterfh ymgynhullodd nifer o urddasolion lyr orsedd, er myned trwy y ddefod o'i hagor- esgynodd yr Archdderwydd i'r Maen Llog.' Dywedodd nad gweddus dadweinio'r Cledd.' y diwrnod hwnnw, pan oedd cleddyfau'r teyrn- asoedd yn feddw ar waed Galwodd 'Gwen-i- ogle i offrymu Gweddi'r Orsedd, wedi hynny b cyhoeddodd yr orsedd yn ohiriedig hyd bedwar o'r gloch y prynhawn. Am hanner awr wedi tri cychwynodd yr orymdaith fawreddog a phrydferth oddiwrth Neuadd Gwyn, yn cael ei blaenori gan y Gerddorfa, i orymdeithio trwy y rannau o'r dref ar ei ffordd i'r orsedd. Wedi cyrraedd esgynnodd yr Archdderwydd i'r oy orsedd ynghanol arwyddion o longyfarchiadau'r dorf anferth oedd wedi llenwi'r ardd. Dywed- odd eto mai gweddus oedd i gledd mawr yr orsedd i gael gorffwys yn ei wain ar y fath amser a hwn, pan y mae tuag ugainl o deyrnasoedd y ddaear yng ngyddfau eu gilydd. Cafwyd anerch- iad galluog ac hyawdl gaiiddo. Ymddangosai yn well mewn iechyd ac asbri ysbryd nag y gweL wyd ef er ys llawer Mwyddyn. Offrymwyd gweddi'r orsedd gan y Parch. J. LI. Thomas, Aberpergwm. Cyflwynwyd yr Aberthged i'r Archdderwydd gan Faeres Castellnedd. Can- wyd penillion gyda'r delyn gan Eos y Gog- ledd,' a Megan Glan Tawe wrth y delyn. Caf- wyd anerchiad gan y Prif-feirdd Cadvan a Gwili, y ddau ar eu huchelfannau. Hyawdl hefyd oedd anerchiad Gwynedd.' Gwnaed coffad am y rhai a hunasant, sef Y Fones Llewelyn, Cynhaiarn., T. Mathews, M.A., Gwydderig, a Dewi Medi; gan Vincent, Penar, D. R. Phillips, Ap GWyddon, ac eraill. Caf- wyd anerchiadau brwdfrydig gan yr aelodau seneddol, John Hinds a Llewelyn Williams. Yr oedd Mr. T. J. Williams hefyd yn bresen- nol. Ei araith ef oedd ymgeleddu"r Beirdd yn y Castle Hotel! Yr oedd anerchiadau'r Beirdd yn rhagorol, ond yn rhy luosog i'w henwi bob yn un o ac un. Gweithi'wr mawr, ond diym- hongar, ac or golwg, yw Eifionydd,' Cofiadur yr Orsedd. Yr oedd Mr. Phillip Thomas, yr ysgrifennydd cyffredinol, wedi gweithio yn egniol, fel y medr efe, ddydd a nos er sicrhau llwyddiant yr wyl hon.