Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.!

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. NID OFNAF NIWED. Mi ymddiriedaf yn fy Nuw, Diddanydd mawr fy enaid yw Yn holl ofidiau' r bycl; Gorffwysaf ar Ei fynwes byth, Ac yn ei gariad gwnaf fy nyth, Yn ddiogel ac yn glyd. Nid ofnaf ddiluw dwr na than, Gwaredwr yw fy lesu glan, I mi y lleiaf un; Gelynion, fyrdd a geidw draw, A cha fy ysbryd yn Ei law Dangnefedd Duw Ei him. Clodforaf byth Ei enw Ef, Arlwyodd inn fwrdd y nef,- A'm ffiol sydd yn llawn; Nid ofnaf mwy, ymlaen yr af, A 'threulio tragwyddoldeb gaf Ar felys ffrwyth yr lawn. Anturiaf i gysgoclau'1' glyn, Caf yno ras Calfaria fryn Ynfalm i wella 'nghlwy; Yn nistryw mawr yr olaf ddydd, A swn taranau'r farn a fydd, Nid ofnaf niwed mwy. DYFED. -+-< Dywedir yn awr fed bwriad i godi capel ynglyn a Choleg Bangor er cof am y milwyr. Nis gwn pwy sydd wedi penderfynu hynny. Onid gwell fyddai gadael y dull y defnyddir yr arian i'r cyfranwyr? -+- Mae C.M. Trefald'wyn U chaf wedi pender- fynu codi Ueiafswm y gydnabyddiaeth Saboth- ol o 30s. i 32s. 6c., yn holl deithiau y C.M. i weinidogion y cylch. Erbyn ystyried y codiad yn nhrael teithio, nid yw hyn yn gadael llawer dros bunt yn liogell y pregethwr ar fore Llun. — -V I ■» Er nad oes dim sail swyddogol i'r dybiaeth, hyd y gwn i, prin ydisgwylir yn y Bala mai ynoi y bydd y Coleg Undebol y fiwyddyn nesaf. Deallaf mai'r farn gvffredih yn y Deheudir yw mai nid da i'r dalaith fod heb- Goleg am y drvdecld fiwyddyn, ac na fyddai anhawster f mawr i gael llety i'r athrofa yn Aberystwyth dios fisoedd y gaeaf, ond trefnu mewn pryd. — Cafwyd addewid am £100 a ,£5 yn flynyddol oddiwrth Councillor W. S. Miller, J.P' Forest Lodge, Brecon, a 4 25 yr un oddiwrth Mr. Henry Jones, Abertawe, a Mrs. Morgan, Glan- camlas, Ystradgynlais, at Gronfa Gynhaliaeth- ol y De. Cyferfydd PwyUgor Cyffredinol, y Gronfa yn Heol y Dwr, Caerfyrddin, Gwener, Mehefin 22, am ddeg o'r gloch. Mae y Parch. John Roberts-, M.A., Caer- dydd, wedi danfon at Fwrdd Addysg Mynwy restr o'r Gweinidogion hynny sydd yn barod i wneud gwaith athrawon am dymor yn yr ysgol- ion yn ystod y rhyfel. Dyddorol fydd gweld pa dderbyniad roddir iddynt; gobeithio y bydd yn foneddigeicldiaeh nag eiddo rhai Byrddau eraill, canys gan y rheiny carreg roddwyd iddynt yn lie bara, a sarff yn lie pysgodyn. — .j. Clywa is wythnos yn ol fod y llong y mor- dwyai Dr. Carey Evans adref ynddi, wedi ei suddo. Achubwyd pawb oedd ar fwrdd y llong. Mae'r digwyddiad yn sicr o beri oed- iad yn nyddiad priodas y Capten a Miss Olwen Lloyd George. Yn Llundain, o Downing St.. y cymer y briodas le, a bydd Dr. Dr. Gwen Davies, a Mr. Nicholas, bugail seglwys Castle Street, yn gwasanaethu. Yn adroddiad eglwys Crosshall Street, Liver- pool, ceirclarlun cia; o hen gapel. Pall Mall, Liverpool, a adeiladwyd yn 1797, ac a dynwyd i lawr yn 1879. Mae hyna'n ddigon i roi gwerth ar yr adroddiad. Ond mae ei gynnwys, hefyd, yn werth ei ddarllen, oblegid dengys fod yr eglwys yn weithgar ac yn drefnus. ——1 A glywsoch chwi sut yr enillodd John Jones ei V.C. heb fyned allan o'r sir y ganwyd ef ynddi? Os na, trowch i dudalen gyntaf Cymru am y mis hwn, a.c ni fydd yn edifar gan neb wneud, canys ceir yn yr hanes ddefnydd chwerthin iach brofa yn feddyginiaeth i lawer calon drom. Diolch am yr amlygiad o'r haen newydd hon yn noniau amryfal y Golygydd mwyn. Ni fHna neb ar saig gyffelyb eto. Cychwyna Cymru ei gyfres newydd yn gryf a heiny. -+- Rhifyn rhagorol yw'r Welsh Outlook am Mehefin. Ni chafwyd ei well o'r cychwyn. j Rhoddir mwy o le nag arfer ynddo i faterion sydd o ddyddordeb i Gymru, ac ysgrifennir arnyn.t gan ddynion mewn, cydymdeimlad ag anghenion y genedl. Traetha Mr. John Owen ei" farn ar y Fasnach Feddwol yn glir a chryf, a swynol yw ysgrif yr Athro David Samuel ar Edward Richard o Ystrad Meurig. Dyddorol odiaeth hefyd yw y cyffelybrwydd olrheinir rhwng y Prifweinidog a Gambetta. | --+--1 Cwynai Watcyn Wynn flynyddoedd yn ol foil gormod o'r hanner o amscr yn cael ei dreulio yn y Colegau Enwadol gyda'r hyn na wneir defnydd ohono yn y dyfodol, a chanlyniad hyn, meddai ef, yw fod llawer o ysbryd pregethu yn cael ei ladd, a"r tan yn cael ei ddiffodd yn- hytrach na'i borthi. Ac oni ddywedodd lawer o wir? Gwawried y dydd pan welir diwygiad yn y cyfeiriad hwn, a phan y byddo holl: efryd- iaeth y Coleg yn gydnaws ag amcan ac ysbryd y weinidogaeth. Mynych mewn cwmni o Gymry llengar y y bycid Mynyddog a Cheiriog yn cael eu dal y naill aT gyfer y llall a'u cymharu. Yn ol Wat- cyn Wynn yr oedd yn y ddau lawer o bethau tebyg; yr oedd y ddau yn deall beth oedd yn- mynd. Credai fod Ceiriog yn fwy O fardd, ag edrych arno o safon gyfTredin beirniadaeth barddoniaeth, ond yr oedd Mynyddog yn fwy o ddyn. Y mae Ceiriog, meddai, ambell dro wedi codi yn uwch ond lawer tro wdi disgyn yn is. Baban oedd Ceiriog lawer tro, ond wag 'eddi .Mynyddog o hyd." --+-- Gohebydd a ysgrifenna: Diolch i'r CYMRO I ac i'r Parch. Thos. Francis, Hendre, am yr i ysgrif ar Gynhadledd Amanford, ond ai tybed nad oedd yn dychrynu wrth ysgrifennu rhai o'i frawddegau Er enghraifft: Pan oedd Cym- deithasfa'r De yn Llanreafh yn chwarae a dathlu dau can'mlwyddiant Pantycelyn,' &c. Eto, Pan oedd Cwrdd Misol Caerfyrddin yn treulio ei amynedd i wrando areithiau wylofus o achos y &c. Da iddo nad oedd Censor Cyfundebol neu buasai y llinellau hyn wedi eu crcesi all an fel rhai yn cablu urddas yr awdurdodau! ———1 Tybid; mewn llawer cylch mai teitl newydd mabwysiedig Svr Ifor Herbert fyddai Arglwydd ) Llanofer; ond hysbysir yn awr nad oes sail i'r dybiaeth. Beth tybed a fydd ? A phwy fydd ei olynydd fel aelod Seneddol dras y rhan hon o Fynwy? Etyb llawer yn ddiymdroi mai«yr Henaclur S. N. Jones, Y.H., ddylai fod. Anodd cael neb cymhwysach nag ef. Mae | ganddo ben clir a chalon fawr yn llawn o dan fcymrdg, ac nid gorchwyl hawdd fyddai dewis neb sydd wedi gwneud mwy nag ef dros Gymru a Chymraeg. Da gennym ddeall fod ym mryd lluaws o Eg- lwysi i' ddathlu coffa Williams Pantcelyn eleni. Mantais fawr fydcl hyn i'r oes sy'n codi. Pwy bynnag o'r tadau sydd yn spent forces yn hanes Cymru, nid yw Williams felly. Erys yn ddylanwad presennol ac arhosol ymysg ei gyd- wladwyr, ac nid yw y gelyn diweddaf yn yr ystyr hyn wedi cyffwrdd ag ef. Amhosibl yw i neb orbrisio na, iawnbrisio gwerthfawredd ei wasan- aeth i'r genedl. Bendith ddeillia o'r gwaith o gofio am dano. ——• Daeth llyfryn bychan i'm Haw y dydd o'r blaen yn dwyn y teitl, "Sut i Ddarllen, a Pha beth i'w Ddarllen." Ad-argraffiad ydyw mae'n debyg o ysgrifau gyhoeddwyd yn un o'r cylch- gronau eglwysig, o waith y Canon Davies (Dyfrig), Bangor. Anhawddi darllen dim mwy Cymreigaidd ei ysbryd, na dim a rydd well cyf- arwyddid i'r ieuenctid i gael allan y llyfrau goreu yn yr iaith. 0 na ddeuai rhyw don dros bobl ieuainc Cymru i benderfynu dilyn cyfar- wyddiadau yr awdwr. Hyderwn fod y Canon yn gwella, ac fod hir oes iddo i ysgrifennu llawer yn yr un ysbryd. Rai blynyddoedd yn ol penwannodd llawer o eglwysi'r wlad hon ar eu hoffter at deitlau wrth enwau eu gweinidogion. Aethant i gredu nad oedd neb o un gwerth oddieithr fod ganddo nifer o lythrennau yn gynffon. Dyma'r allwedd aur i agor pob porth. Erbyn hyn edrychir ar bethau mewn goleuni gwell, a bemir dyn yn ol ei, wertli. Ond ymddengys fed yr un pla yn ffynnu ym myd y cerddorion, ac yn y Cerddor am mis hwii cyfyd gohebydd ei lais yn gryf yn ei erbyn, a dywed Dyw'r ffaith fod dyn wedi igraddio am' ei F. neu A.R.C.O., neu F.T.S.C., ddim yn golygu fod ganddo 'run gronyn mwy o gymhwyster i feirniadu canu na dyn wedi ennill ei M.R.Ph.S." -+- Cyrhaeddodd y newydd ddydd Iau fod Dr. Hermann Ethe wedi marw yn Clifton. Bu'n gwaelu am hir amser, a diau mai drygioni -ei Ymherawdr ei hun oedd achos annniongyrchol oy ei ddihoeniad. Deallaf y bu'r-Parch. Maurice Griffiths, M.A., sydd yn byw yn. Clifton, oddi- ar ei ymadawiad o: Aberystwyth, yn estyn cryn garedigrwydd a chyfeillgarwch i'r hen athraw yn ei unigedd a'i alltudiaeth. Diau y bu- asai'n well i Goleg Aberystwyth ac i'r proffes- wr oedrannus pe gomeddasid iddo. ei gais i ddychwelyd yn 01 i'r wlad hon ar ddechreu'r rhyfel,, ond diniweidrwydd 'o'r ddwy ochr a arweiniodd i'r brofedigaeth. Ond erbyn heddvw na chofjer am ddim ond ei wasanaeth i Goleg Cenedlaethol cyntdf Cymru, a bydd pawb yn cydymdeimlo a"i weddw ieuanc, sydd yn Seisnes o genedl, a brawd ganddi, mae'n debyg, yn y fyddin Brydeinig. —- Adroddiad hynod o galonogol a roddwyd o gyflwr pethau ynglfn a'r LIyfrgell Genedlaethol yn y cyfarfod blynyddo! a gynhaliwyd yn yr Amwythig o dan lywyddiaeth Mr. Herbert Lewis, oherwydd anallu Syr John Williams i fod yn bresennol. Cyflwynwyd adroddiad Pwyll- gor yr Adeilad'u yn dangos fod yr adnoddau angenrheidiol i dalu am yr adeilad gwych pres- ennol wedi dod i law er gwaethaf y rhyfel a'r dinistr a ddaeth o'r herwycld. Pan fo heddwcfi wedi dod i deyrnasu unwaith eto bydd i'r sefydliad gwerthfawr hwn le mawr. ym mywyd Cymru Fydd, canys "nid byd, byd heb wybocl- aeth. Rhywbeth aflunaidd a gwa.g a, fydd heb ei reoli gan wybodaeth a deal!. Erys y Llyfr- gell yn goffadwriaeth oesol i'r Barwnig ti'rion o Blaenllynant, Syr John Williams, a'i gariad at Gymru a'i thrysorau llenyddol. Cafodd fyw i dderbyn ei Frenin yn gosod ei charreg sylfaen. Cafodd fyw i weled llawn gwblhad y gwaith a garodd.