Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
CYD NAB Y DDI AETH Q. G Y…
News
Cite
Share
CYD NAB Y DDI AETH Q. G Y D YM DEI ML AD. Dymuna Mrs. Owen a'r teulu ddiolch yn gynnes i'w cyfeillion. a'u cymydogion am gynifer o lythyrau cydymdeimlad yn eu galar a'u profedigaeth, pa rai fu yn foddion. cynhalliaeth a sirioldeb mawr iddynt yn eu profedigaeth. Tiycerrig, Llanifaohreth. Mai 26, 1917.
Y DIWEDDAR MR. W. ROiBERTS,…
News
Cite
Share
Y DIWEDDAR MR. W. ROiBERTS, BRYNCRUG. Dymuinia Mrs. W. Roberts, Bryncrug, a'r tenlu, gyd- nabod yn ddiolchgar iawn y llu o'u cyfeillion a an- fonasant lythyrau caredig i gydymdeiniio a hwynt yn eu hail broffedfigaeth lem, o golli priod a thad. Gwerthfawr iawn ydynt oil yn eu golwg ond nis gallant ar hyn o bryd anfon i ddiolch yn bersonol am danynit. "Duw sydd noddia."
Advertising
Advertising
Cite
Share
if. David Williams, (Bynt Mri. Edwards & Williams, Dental Co., Limited), BOBGWYNEDD, PORTHMADOG, A ddymunia hysbysu ei fod wedi cymeryd drosodd y busnes uchod yn y rhan bon o'r wlad, ac yn parhau i ymweled yn rheolaidd a'r lteoedd canlynol:— I BLAENAU FFESTINIOG Bob dydd Llun, o 12 hyd 6 yn nhy Mr. Roberts, 42, High Street (y drws nesaf i'r Maenofferen Hotel). LILANRWST-Bob Dydd Mawrth, a phob Ffair (ond y dydd Mawrth o flaen y Ffavr, yn nhy Mr. David Jones, Coaknerchant, Garswood House, Station Road (gyferbyn a'r Boar's Head), 0 11 hyd 4 o'r gloch. PWLLHELI:—.Bob Dydd Mercher, yn nhy Mr. Roberts, Chemist, o 11 hyd 4. CRICCIETH Bob Dydd Mercher, yn nhy Mrs. Davies., Llys Caradog, High Street, o 4.30 hyd 6. PORTHMADOG Bob Dydd Gwener, yn 76, High .Street, 0 9 hyd 8, a bob nos ar ol 7. HALA :-Bo.b Dydd Sadwrn a phob Ffair yn nhy Mr. David Jones, Saddler, Tegid Street on hyd i. DOLGELLAU AC ABE.RMAWTrwy apwyntiad ax Ddyddiau Sadwrn^ Extracted by the Latest Process. Teeth tilled and Scaled. ARTIFICIAL TEETH REMODELLED AND REPAIRED. '—
ER COF.7;
News
Cite
Share
ER COF. 7 RICHARD JONES (YR HEN FLAENOR). GAN Y PARCH. J. E. DAVIES, TREFFYNNON. Brodor o Hienllan., ar ffiniau Hiraethog, ydoedd Yr Hen Flaenor. Pan tua 15eg oed aeth i Fanceinion i ddysigu y grefft o Aisiedydd Coed (Joiner), a ffurfiodd gwmni o fechgyn o'r un oedran ac anianawd; a d-lau iddynt fod yn gymorth i'w gilydd i wrthsefyll hudol- iaethau amryw a di,eithr y ddinas boblog. Wedi treulrio, 8 mlynedd aeth odddyno i LlyniLleifiad lie yr ymaelododd yn eglwys, Bedford St.. Ar Ebrill 15, 1863, yng nghapel Netherfield Rd., aeth i gyfamod priodasol a Louisa, ail ferch Mr. Ed- ward. Jones, got penigamp a drigai yn Saithaelwyd, ger Treffynnon. Daliodd y cwllWm heb dorri hyd o fewn rhyw 2 flynedd yn ol, pryd y cyinerwyd ei annwyl Mali, chwedl yntau, oddiwrtho. Ymffroisitiai mai Dir. Saunders a'u priododd. Cyn.- hyrchodd yr Unideb hapus hwn naw o blant, o ba rai y mae pedwar yn fyw, sef 3 mah ac i ferch. Yr hynaf ydyw Mr. Arthuir Jones, un o golofnau yr achos. ym Mag illllt. Wedi treulio. ysbaid. 2 flynedd yn Llynlleifiad dyrchafodd ei lygaid i fryniau.yr hen. wlad, a char- trefodd yn Nhreffynnon:. Odmyno symudodd i Fag- lillt, lie y bu yn flaenor uchel ei barch. am. dros 20 tiuilynedd'. Yna dychwelodd i Dreffynnon, ac ymun- odd a'r ddiiadell Seisinig, a dewiswyd ef yn flaenor, a dygodd bwysau y swydd yn yr iaith honnio am tua 10 mlynedd. Yna Slymudodd i Saron ar y Mynydd, a dewiswyd ef yn fl,a,enor yno hefyd. Gwieliai y naill leglwysi ar ol y Hall gymhwyster blaenor ynddo, ac os bydd dewis. biaenoriaid yn y net, syrth y coelbren, yn lied siicr, arno ef. 0' ran ei ddyn oddiallan, benidithiwyd ef a chorff crwn a chadarn, cryf ac iach, a golwg tra urddasol arno. Symudai ym ei flynyddoedd diweddaf yn drwm ac araf; yr oedd yn lied sicr ei gam, a phan y dodai ei droed i lawr, cadwai hi yno. nes. iddi wneud ei hoi. r a Treullliodd tua 40 milynedd yn y 'Set Fawr,' ac ar- ferai. bwyll a gochelgarwch yn holl amgylchiadau dlyrysi yregJiwYSii y bu ynddynt. Ni achosodd ef i'r un don gythryblus godi i fygwth tangnefedd mewnol, a diogelwoh y lie sit r. Llywiodd lestr y Cyfarfiod. Mis- .01 gyda'r un medr a gochelgarwch. Dywiedodd un am dano, "Nid yw yn siaradus, er fhynny y mae yn eithaf sil aradwr." Nid cur-wlaw » ei anerchiadau, eithr gwilith-wlaw ar ir-weUt, ac megis oawiodydd ar laswellt. Gallem feddwl fod cryn waith cynhyrfu arno; gorchest yw darositwng cedyrn amddiffynfleydd arafwch a phwyll. Nis gwel- som ef erioed wedi colli yr enfa o',i law, a chymryd ,gw,i,bdiaii,th i diriogaeth bell-y colli arno. ei hun. Y ddau wr adawsant fwyaf o argraff arno oeddynt Mr. Gee a Dr. Saunders. Delw y blaenaf yn drwlll ar ei wleidydddaeth, a'r diweddaf ar ei. Ddiwinydd- iaeth. Yr oedd gwydnwch y naill yn. ei gredo gwleid- yddol, a niesur o dynerwch y Hall yn ei gredo cref- yddol. Peth.au trymaf y Gyfraith ydoedd blasus- fwyd ei feddwl, cynhyrchion goreu yr iaith, a'r rhai hynny mewn Gyniiraeg ciain a chryf ac yn oriau ham- dden ei gystudd, cymerodd at ddadIren Cofi,antau gOireu y genedl. Cawsoni y fraint o roi benthyg am- ryw iddio, a darUenodd hwynt yn lan ac awchus, a dychwelodd yr oil heb eu llychwino. Bu y pin ysgrdfennu, fel gwenol. gwehydd yn: brysur odiiaeth yn ei law,y:n, enwedig felly ym mlynyddoedd ei seibiant. Ysgrifennai yn bert a chartrefol gan ar- Iwyo ei seigiau gogyfer ac arcbwaeth y Werinos. Gwnaeth hynny d'r 'Cymro,' 'Y Goleuad,' a'r 'Bryth- on,' a nifer fawr i'r 'County Herald'—y Lladmerydd trefol. Y dull a gymerai yn y 'County Herald' yd- oedd hdlli ac ateb.—-Solomon a Ralph. Materion gwlieidyddol a threfol dxafodid yn, yr YSigrythyrau hyn. Meddai hefyd, ar fedr arbennig i bortreadu pregetbwyr: nid oes odid un yn esgyn pulpud y Myn- ydd ilia cheid portread ohono yr wythnos ddiilynoi, a gwnaeth hyn gyda degau heb glwyfo neb. Cadwodd yn gwbl rhag trochi ei bin mewn bystl-rh,agoriaeth arbennig. Trefnodd ei gladdedigaeth yn fanwlynÜaen Haw, eto ofnai awr yr ymddatodiad. Yn ystod. ein. hym- weliadau ag ef, diealliasom hyn, ac ni ynganwyd gair ond fe slyrthriwlydar gynllun arall, sef diarlilen un o'n pregethau iddo., a mwynhai hynny yn ddirfawr: a gwelsom yr hen golofn gadiarn1 yn sdglo dan bwys ,ambell sylw, a deigryn diolch yn disgyn gydag araf- wch dros ei rudd. Tystiwn na chawsomerioed well degwm am bregeth na dagrau gloewon yr 'Hen. Flaenor.' Pan ddaeth y diwedd ymadawodd yn daw- ,e: a diigyffro, a'i law yn llaw ei unig ferch, a'i ben yn goxffwys ar fynwes, esmwyth ei Waredwr. Gv'as- anaethwyd uwchbenei weddillion gani y Parchn. E. Lloyd (Tegfelyn), a J. E. Davies. "Melus ydyw gorffwys, Wedi gwaith y dydd; Melusach y oodi, O'r beddrod yn rhydd."
TYiSTEB Y PARCH. G. CEIDIOG…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
TYiSTEB Y PARCH. G. CEIDIOG ROBERTS, LLANI.LYFNI. Cydnabyddwyd eisoes 83 15 10 Parch. R. D. Riowliands (Arithropos) 0 10 0 'Parch. W. J. Owen, Bangor .040 iMr. J. Jonies Owen, Bryncoed, Talysarn. 0 10 6 Mr. T1. H. Griffith, Nebo, C. School .030 Mr. R. G. Owen (Pemoerdd Llyfnrwy) 0 3 o D'yuiundr hysbysu fod y Dysteb i gael ei chau Meh- hefin 3oain, a bydd y Pwyllgox yn ddiolchgar am i'r gweddH o'r Tanysigrifiadau ddiod i law yn fuan. Mr. O. W. JONES, Snowdon St., Penygxoes, Mr. J. B. DAVIES, C. School, Llanllyfni, Yegrffenyddioli.2
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
gynt B'lajenclydach, a mab i r diweddar Thomas Richards, P ontrhyd f endigaid. Griffiths.—Mai 24, yn 73 mlwydd oed, Mr. Griffith Griffiths. Henbliaa, Abermaw. Gittins.—Mr. John Wyddelan Gittins, Cefn Gated, ac etc ond 3oain oed. Cydymdeimldr yn ddwys a'i annwyl fam sydd wedi gweled claddu ei phriod, a thyaid 0 blant—oil bron ym mlodau eu dyddiau. G weinydd wyd yn yr angladd gan y Parch. E. Anwyl, y gweinidog. Hughe,s,Mai 24am, yn 103 mlwydd oed, Mrs. Mar- garet Hughes, Abbey Grove, Dolwyn Bay. Gan- wyd hi yn Roe Wen, Awst n, 1813, a bu byw dan deyxnasiad chwech o bennau coromog Prydain. I-lugh,esi.-M,ai 25, yn 91 mIwydd oed, Mr. Williams Hughes, Awelon, Conwy, blaenor hynaf eglwys Garmel, ac un, o'r trefwyr parchusaf. Gad aw odd dair chwaer. Cymerodd yr angladd le yn y fyn- wenit gyhoeddusr, yn gwasanaethu y Parchn. E. Hughes, H. Barrow Williams, Llandudno, Thomas Parry, Y.H., Owen Evans, William Jones, a T. Gwymedd Roberts. Hughes.—.Mai 27, yn 47 mlwydd oed, Mrs. Mary- Hughes, annwyl briod Mr. Robert Hughes, Peny- bont, Llanuwchllyn. Claddwyd dydd Mercher, yn y Fynwent Newydd, gan y Parchn. John Davies (Bardd Glas), ai Owen EHis, Glanaber. Jones.—Mai .31, yn 36 mJwydd oed, Mrs. Mary J. Jones, annwyl briod Mr. Hugh Jones, Garnedd, Bala. Claddwyd ddydd Sadwrn, yn myuWient Llanfor (preifat). Jones-Mai 17, yn 61 miwydd oed, Mr. John Jones, BTyntirion, Bodfari. Jones.—Mai 24, yn 62 miwydd oed, Mrs. Janie Jones, Llwyn View, Dolgellau. Jones.—Mai 2.3, yn 67 miwydd oed, Mrs. Jones, Votty Tyisa, Llanfihangel, annwyl briod y diweddar Mr. Robert Jones, Voty Tyisa, ydoedd, a mam y Parch. R. Ernest Jones, Oldham. Bu Mr. Robert Jones yn siwyddog ffyddlon yn eglwys y M.C. am flyn- yddoedd, a gwyr pawb am y gwaith da wneir gan y Parch. R. E. Jones, yn Oldham. Nid oedd Mrs. Jones yn ol mewn ymdrech gyda phob peth i buro a gwella cymdeithas. Bu'n fanwl ofalus .0 Gym- « de,ithas Ddirwestol y Chwiorydd. Fiej Llywyddes gyntaf y Gymdeithas yma gwnaeth waith rhagorol. Nid oes gylch crefyddol na bu yn ffyddlon iddo. Boed hin. dda neu ddrwg, hyd y gallodd, bu'n fan- wl selog gyda phob gwasanaeth. Hoffai wrandaw'r Efengyl y Saboth, a bu'n ffyddlon i'r Ysgol Sul; 0 yn y Seiat ceid ganddi broflad melus. Eir cymaimt trafferthion byd, crefydd lesu Grist oedd ymlaen popeth. Mae colli cymeriadau tebyg o eglwys fechan yn golled fawr. Bu Mrs. Jones farw fore M-ercher, y 23iain, wedi cystudd blin a thrwm, yn 67 mlwydd oed, a chymerodd y gladdedigaeth le ddydd Sadwrn yn myn wnt Eglwys Llanfihangei. Tystiai y dorf fawr ddaeth ynghyd le y chwiaer uchod yn serch y cylch. Cafodd giaddedigaetli tywysoges. Cymerwyd rhan ym, y gwasanaeth gan y Parchn. T. Jones, Ficer, Llanfihangel, J. M. Jones, Cerriigydruidion, R. R. Jones, Ysbyty, a J. R. Jones, gweinidog yr Eglwys. Jones.—Mai 29, yn 21 mlwydd oed, Mr. Lewis Jones, mab Mr. a Mrs. John Jones, Esigeiriau, Rhydymain, ger Dolgellau. Meddai ar gorfi lluniaidd a chryf, ac ymunodd a'r Welsh Guards. Aeth allian i Ffrainc, lie yr anafwyd ef yn dost. Bu raid torri ei fraich ymaith," a bu'n gorwedd am fisoedd mewn. ysbyty yn Dorset. O'r diwedd caniatawyd iddo ddod adref, ac aeth Dr. Hugh Jones yno i'w geis- io. Ond er iddo sirioli llawer wedi dyfod adref, gwaelu yr oedd, a bu farw yr adeg a nodwyd. Cyd. ymdeimlir yn fawr a'r perthynasau oil. Lewis.—Mai 23, yn 23, Aubrey Road, Porth, Lewis William Lewis. Lloyd.—Ebrill 216, yn sydyn iawn, Mrs. Lloyd, annwyl briod Mr. John D. Lloyd, Holland Patent, N.Y. Ganwyd hi yn Penrhos, Trawsfynydd, Ohwefror 4, 1838, a bu'r teulu yn byw wedi hynray yn Tyddynrhiw, Llianfachreth, Doligellau, Dol- wreiddiog, ac Abergynolwyn. Yn 1871 symudasant i America, a phriododd hi a Mr. John D. Lloydi. Yr oedd yn wraig rimveddol, yn briod annwyl a mam ofalns. Claddwyd hi yn mynwent Penycaer. au, wrth ochr ei hannwyl blant, y Parchn. Lewis Williams ac R. Hughes, D.D., yn gweinyddu. O'liver.-Ymhen y m,is i'x diwrnod wedi claddu ei annwyl briod, yn 50am mlwydd oed, bu farw Mrs. Richard Oliver, y Cwm, vn 56am mlwydd oed. Mae ardal gyfan yni cydymdeimlo yn. fawr a'r plant, —pedwar ohonynt, yn llied ieuainc a dibrofiad. Gwneir ymdrech gan yr ardalwyr i gael yr hynaf ohonynt—newydd droi 2oain oed rhydd o'r fyddin i ofalu am y fferm a'r cartref. Owen.—.Mai 25, yn 73 mlwydd oed, Mr. R. Owen, 93, High Street, Blaenau Ffeatiniog. P,arr,y.-M,ai 28aiin, yn 45 mlwydd oed, Mr. Samuel Parry, Llewesog Isaf, Llanrhaiadr, ger Dinbych, mab hynaf y diweddar Mr. a Mrs. Joseph Parry, o'r un He. Yr oedd yn aelod dichlynaidd o eglwys y Mtethodiistiaid yn Llanrhaiadr, ac yn fawr ei barch drwy'r holl ardal. Ar farwoliaeth ei rieni daeth cyfrifoldeb y fferm i raddau helaeth ar ei ysg'wyddau ef, ond gyda chynorthwy ei frodyr a'i ichwiorydd lilwyddodd i gadw'r aelwyd yn gynnes a chroesawgar fel o'r blaen. Claddwyd yn myn- went y Rhewl, Rliydycilgwyn. P.r,itchard,Mai 28ain, yn 65 mlwydd oed, Mrs. Catherine Pritcbard, Penybanc, ger Dinbych, gweddw Mr. Pierce Prichard. Pritchard.—Yn ei breswylfod, Feathers Shop, Cefn- mawr, Ruabon, Mr. Robert Pritchard, ar y 31am o Fai, ac efe yn 74 miwydd oed. Symudodd 0 Xewmarket. Swydd Ffl-in!t, i'r Acre fair dros hanner can mlynedd yn ol, ac yn brentis i Vaelfa Fawr y New British Iron Co., lie hefyd bu y Mri. John 'Davies, Tycoch, iiangollen, Hugh Davies, Ilawarden ac erailil, Parchn. David Jones, Dis- gwyHa, Arfon, a'r diweddar John Elias. Hughes, Llanelwy. Yn eglwys. Acrefair yr ymaelododd, ac efe oedd y blaenor hynaf yno. Dr. LIugwy Owen oedd y bugail cyntaf. 10 mlynedd yn 01 cafodd ei godi i'r Faiiiic Ynado). Athraw da yn yr Ysgol SuI, a holwr dan. gamp. Magodd deulu lluosog, ac maent hwythau yn ddefnyddiol gyda'r Achos niawr. Brawd iddo yw Mr. Owen Pritchard, Croes- oswallt. Cafodd gladdedigaeth dywysogaidd ddydd Sadwrn., Mehefin 2, Cynhaliiwyd gwasan- aeth yng nghapel Bethel, o dan. arweiniad y gwedni;- doig, a chymerwyd rhan gan aniryw o'r brodyr yn lien a Ileyg. Iiiebii-yliigwyd ei weddilliion i'r Garth, .a gosodrwyd ef yn Macpelah y teulu, He hefyd yr erys llawer sant hyd gandad yr utgorn diweddaf. Robe rts,I,ai 24 ar ol hir afiechyd, Yinl 63 miwydd oed, Dr. Robert Roberts, Llan Ffestiniog. Ric,hards,M,ai 30 yn 74 miwydd oed, Mlr. Robert Richards, Turnpike, y B'ontfawr, DolgeMau, am flynyddoedd yn glochydd yn. Eglwys' St. Mair. Gadawodd fab a merch y rhai fuont yn dyner iawn o'u tad. Claddwyd. ddydd Sadwrn yn mynwent yr Eglwys. R,ob,e,rts,Ma,i 26, wedi 15eg mlynedd o gystudd, iMrs. Roberts, priod Mr. R. J. Thomas, 4, Windsor .Street, Birkenhead. Rowlands.—Ebrill 25, Mrs. Rowlands, annwyl briod Mr. Thomas Rowlands, Granville, N.Y., merch y diweddar John H. ac Eliza Roberts, Cae Haidd, Bethesda. Roberts.—Mai 25, yn 81 mlwydd oed, Mr. Evan. Rob. erts, Ty'nyw.e,rn., Dimnael, Corwen, aelod ffyddlon gyda'r M.C. Rhoddwyd ei gorrf yn mynwent capel Diinmael y Parch. J. Henlyn Owen yn gwaslan. aethu. Williams.—'Mai 21, yn 75 nrliwydd oed, Mr. Ellis Wil. liams, cyfrifydd y fwrdeisdref, Dinbych, brodor o'r Biithdir, ger Dolgellau. Williams.—Mai 28, yng nghartref ei merch (Mrs. Nunn Davies, Llanbedr), yn 81 miwydd oed, Mrs. Williams, mam Mr, Thomas Williams, Garth, Porthmadog.