Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Parch. J. H. Williams, Portlimadog.-

News
Cite
Share

Parch. J. H. Williams, Portlimadog.- Wel, frod.yr a chwiorydd, mi ddywedaf air mor fyr ag y medraf ar ol y pethau gwerthfawr a ddywed. wyd eisoes. Yr wyf fi yn teimlo fod y rhyfel yma wedi deffro yr ymdeimlad o'r anweledig yn y byd yma. Cyn. y rhyfei yr oedd cryn. lawer o son am fateroliaeth, ond y mae adfyd a chystudd wedi goddi- weddyd dynoliaeth ac wedi gwneud materoliaeth yn amhosibl dau ddoctor da iawn i wella'r byd o glef. yd m.ateroliaeth ydyw Doctor Adfyd a Doctor Cys- tudd. Ond ar yr un pryd, rhaid i ni beidio disg-yvyl gormod wrth y rhyfel; nid yw'n ymddangos i mi ei bod wedi deffro yr hare-Ulan isaf a mwyaf crefyddol yn eneidiau dynion. Y mae byd crefydd oddimewn; i ddyn yn fyd mawr iawn y mae iddo ei Baradwys a'i Gehenna; ac nid wyf yn gweled fod y galanastra yma yn Ewrop wedi deffro y dyfnderoedd isaf mewn dynion; ac yn lie troi at Dduw mewn profedigaeth, y maent yn troi at bob math o ofergoeledd.. Y mae'n dda iawn gennyf nad oea yna ddim gair Cymraeg eto, hyd y gwn i, am y gair Saesneg, 'mascot;' ond y mae'n ddrwg iawn. gan ddyn, feddwl am filiynau o filwyr yn Ewrop yn troi at bethau felly yn lie troi at Dduw ac y mae'n ddrwg gan ddyn feddwl fod crefydd Rhufain yn gweled cyfle i broselytio bechgyn Prydain yn Ffrainc i fynwes yr eglmys bonno; ac y mae'n ddrwg gennyf feddwl am y miloedd sydd yn troi at 'mediums'—at ysbrydegiaeth yn Llundain a mannau eraill. Gwyn fyd na ddeuai pobl at amyn- edd a diddanwch yr Ysgrythyrau. Yr wyf yn cofio i mi ear ys talm, ddechreu rhyw bregeth ag yr oedd gennyf gryn, feddwl ohoni y pryd hwnnw trwy ddweyd fod cryn lawer o'r dynol yn y Beibl yma. Nid oeddwn yn deall y gelnau fy hun y pryd hwnnw fel yr wyf yn eu deall heddyw. Yr wyf, wrth ddar- llen llyfr y Salmau yma, a'r proffwydi, yn. faich fod yma gYITuaint o'r dynol yn y llyfrau rhyfedd hyn. Darllenwch eich Beiblau, gyfeillion, i weled pobl dduwiol yn cyfeiliorni, yn crwydro yma a thraw, ac mor ddigalon a chwi a minnau, lawer ohonjTit. Y mae Jeremiah yn dwrdio ei Dad nefol yn ami iawn- yn dwrdio- Duw.' "Fe wnest Ti dro sal ami," medd. ai Jeremiah wrth yr Arglwydd, ryw ddiwrnod—"0 Arglwydd, Ti a'm hudaist, a mi a hudwyd cryfach oectdit na mi, a gOirchfygaist." A dwrnod arall y mae'n cwyno fod Duw wedi cau ei ffordd a cherrig nadd. Ac y mae flosea yn son am Dduw yn cau ffordd dyn a drain. Fe awn trwy y drain hwyrach yn ara' deg, ond anh'awdd iawn fyddai mynd tx_wy fur o gerrig nadd. "Efe a gauodd fy ffordd i a cherrig ii,ddd." 'Does dim tusw o wellt na pheth yn unlle, na dim lie i roddi fy nhroed rhwng dwy garreg. Dyna i chwi deimlad ddigalon. Ac wed'yn, mae'r Salmydddon, yma yn cwyno. Yr wyf fi yn deail mwy y dyddiau yma o'r salmau dialgar nag y bum; nid wyf yn eu cymeradwyo. "Gwyn ei fyd a gymero ac a darewo dy rai bach wrth y meini." "LliCHSigasanit holl srynagogau Duw yn y tir," ac felly ymlaen. Ndd ydych yn synnu dim at bobl yn cael eu meddiannu gan ysbryd dial yng ngwawr datguddiad Duw i'r byd yma. Fe fyddai yn dda i bobl sydd yn cwyno ar ysbryd dial llyfr y Salmau ddarllen llyfr y Salmau i gyd, a'i ddarllen drosodd a throsodd, ac fe welwch bethau fel hyn. Salm xxii., S'altm y Messiah, Salm Iesu Grist; dyna'r Salm ag y mae mwyaf o ddioddef ynddi o'r holl Slalmau i gyd; ond yn y Salm hanna, nid oes son am dddal o gwbl yn- ddi. Ysbryd digalondid oedd yn troi yn ysibryd dial yn yr hen sainit; ac y mae rhai ohonynt yn ymliw a Duw yn rhyfedd iawn, ac yn dweyd wxtbo, "Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio," meddent, "ac oni bydd efe boddlawn mwy? A ddarfu ei dru. garedd ef drosi b.yth? a balLa ei addewid ef yn oes oesoedd?" Y mae y copi yma sydd gennyf yn fy Haw gennyf er ys blynyddoedd, lawer, ac yr wyf wedi ysgrifennu ynddo.. "A anghofiodd Duw drugarhau ?" "No," meddwn innau. "A gauodd Efe ei drug,an. eddau mewn soriant?" "No" wed'yn. Does; dim eisieu i chwi goel-io pob peth sydd. yn y Beibl yma y mae rhai o'r Sia,int yn dangos tipyn o dd.iffyg sens; y maent yn c,olil,ir ffordd weithiau: "Dyma fy lugwen- did"—peidiweh a'm ooeldo yn y pethau a ddywedais y dydd o'r blaen; wandro tipyn yr oeddwn i, medd- ai—^(chwerthin)—mewn clefyd nid oeddwn yn gyfrif. ol am y pethau yr oeddwn yn eu dweyd. Peidiwch chwi a choelio rhai adnodau yn y Beibl yma ag y mae'r saint yn eu dweyd pan wedi colJii'r ffordd. Y mae'r Salmydd un diwrnod yn ei rhoi hi i fyny 'for a bad job.' Mi rof i fyny, meddai. "0 na byddai i mi adienydd fel colcin-en." Wei, beth a wnaet a hwy? Yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn." Yr oeddwn yn pregethu yn rhywle yng Nghymru, ac mi lediais ddau benmiH hollol wah.anol i'w gilydd, er mwyn gweled sut y byddent yn eu canu-(chwerthin) Un oedd "Yn y rhyfel mi arosaf," &c., a dyna ganu sal oedd. ar hwnyna. Y Hall oedd "Dwy aden col- omen pe cawn," &c., ac yr oeddynt yn canu yn ar- dderchog ar hwnyna. Fe gafodd Dafydd fynd i'r anialwch yn bur fuan ar ol gweddio fel yna; ond wedi mynd i'r anialwch yr oedd yn gweled gwerth yn Jerusalem yr .adeg honno; yr oedd mynd ar beth- au pan oeddwn yn Jerusalem: "Aethum gyda'r gyn- ulleidfa, cerddwn gyda hwynt i dy Dduw, mewn sain can a moliant fel tyrfa yTi cadw gwyl." Ond yn yr anialwch yma wn i ddim beth ddaw o'm crefydd. Dyn yn meddwl fod unrhyw le yn dwyn meddygin- iaeth. Y mae'n dda gennyf feddwl am Un ag yr oedd ganddo adenydd digon cryfion i'w godi oddiar fynydd y gweddnewidiad i fynwes ei' Dad mewn banner eiiiad, Ond yn lie eu lledu a mynd i fyny fe ddaeth i l'awr o'r mynydd, ac "Fe rodd ei ddwylaw pur ar led, Fe wisgodd goron ddrain." Yn lie gweddio am fynd o'r byd yma gofynwn am weled adenydd y Brenin mawr. Y mae arnaf ofn. i'r rhyfei yma yrru pobl dduwiol yn rhy bell oddiwrth Dduw fel na fedr yr efengy-l mo'u cysuro. A fydd- wch chwi yn mynd a phop peth at Dduw, fel Thomas Boston er ys ta",m--jawdwr "Pedwar Cyflwr Dyn." Ei wraig yn sal ryw ddiwrnod Boston yn mynd ar ei Idniau i ofyn i Dduw paham. Y bachgen yn marw ddiwrnod arall; Boston yn mynd ar ei lindau i ofyn i Dduw paham. Ystorm o eira ddiwrnod arall yn ei rwystro i fynd i'r cymundeb Boston yn mynd i'w y.s,tafell ddirgel i ofyn. i Dduw paham. Y mae eisieu i ni fynd at Dduw a gofyn am eglurhad ar bethau. A dyna ein bangen mawr nerth i "ymwroli fel rhai yn gwelted yr Anweledig." Gwelais frawddeg— mae'n debvg mai brawddeg athronyddol ydyw, a minnau yn deaH mor ychydig o hynny: "The great need of this age is the realization and assimilation of the unseen, background." Y mae hi yn amser i ni fynd o ddifrif ar ein pennau ein hunain i baratoi ar gyfer dyfodiad y bechgyn gartref trwy ga-el 'type' uwch o grefydd bersonol na'r hon ..sydd gennym. Gall'ech feddwl ar rai pobl pan yn son am baratoi ar gvfer y bechgyn, mai eisieu te parti sydd arnynt. Nage, eisdeu dod at grefydd gynhesach sydd ar y bechgyn. A fyddwch chwi yn torn tipyrn o dir new. ydd ar eich pennau eich hunain? A fyddwch chwi yn gweddio ar eich eistedd wedi bldno gweddio ar eich gldndau, ac ar eich traed, wrth gerdded, wedi bldno ar eich eistedd? Fe ddarllenais. am was, ffarm yn Cornwall yn amser diwygiad fe ddaeth at William Haslam tua deg o'r gloch y nos. "Beth sydd arnoch ei eisdeu heno?" meddai Mr. Haslam. Y mae arnaf eisdeu, cael gafael ar Dduw cyn mynd oddiyma," meddai yntau. "Arhoswch ychydig, meddai Mr. Hasdam. Y mae yn gweddio am ddwy aiwr am drugaredd. Yr oedd Duw wedi trugarhau wrtho ar yr edldad cyntaf, ond fe fu y dyn am ddwy awr heb wybod hynny. Fe ddarllenais am Wr oedd yn yr ardd unwaith, a dyna ddywedir am dano, "Wedi iddo- fyned ychydig ymlaen efe a syrthiodd ar ei wyneb." Eich Gwaredwr chwi ar ei hyd ar law yn cael ymddiddan A. i Dad the realization of the unseen background." Wrth eistedd i lawr, a gaf fi alw eich sylw at adnod yr ydych eisoes wedi eiohianu mewn. rhyw ffurf ? Duw sydd yn ei chanol, mid ysgog hi, Duw a'i cynorthwya yn fore iawn. Mi fum yn meddwl, pan yn methu cysgu'r nos, yn meddwl am farw; eisieu He sych mewn mynwent i'm claddu ond pan ddaw'r bore y mae'r cwbl yn diflannu. "Duw a'i cynorthwya pan ddelo'r bore." Y mae rhai ohonoch fydd yn derbyn llythyrau oddi- wrth yr Army Council yn cydymdeimlo a chwi; Duw a'n cynorthwya y bore hwnnw hefyd. Fe ddaw adeg y marw Duw a'n cynorthwya y bore hwnnw hefyd. Meddai un brawd oedd mewn cystudd wrth Evan Philips, Castellnewydd, "Y mae'r adnodau wedi mynd; nid wyf yn cael dim." "Wel, fyddwch chwi yn cael tipyn o gwmni'r Gwr?" "0 byddaf," medd. ai'r brawd. "Y mae'r adnodau, felly, wedi gwneud eu gwaith," meddai Mr. Philips, "ac yn retirio i'r background jnrwan,, ac yn gadael rhyngoch chwi a'r Iesu mawr ei hun." Duw a'ch cynorthwya pan ddelo'r bore. "Un o'r 'winter apples' wyf fi," medd- ai John Evans, Llwynffortun "y mae Jacky Davy wedi marw, 'my dear sir,' a Morgan Thomas wedi marw, ac yntau yn ddyn duwiol, 'my" dear sirun- o'r 'winter apples' wyf fi; mi fyddaf fin-nau yn aedd- fed tua 'November.' Yr oedd yn a'eddfed yn 'Oct- ober,' ac fe aeth "trwodd o farwolaeth i fywyd." Duw a'n synorthwya pan ddel y b,cre-("Diolch").

Y Parch. J. Puleston Jones,…

Parch. Joseph. Jenkins, Llandovery.