Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

h" CYMRU A'R RHYFEL.

News
Cite
Share

h" CYMRU A'R RHYFEL. 1,.i.£-: EMYN HEDDWCH. -õ( ■ (Rhydd-gyifeithiad o Emyn H. W. BAKER), ft Tôn-II Holly. B 0 DDUW yr heddwch, lor di-lyth, B Gwna i ryfeloedd beidio byth; B Cynddaredd dyn, 0 torr i lawT, B A heddwch dyro inni'n awr. 0 cofia"th ryfeddodau cu m 1 'n tadau gynt, yr oesau fu; Na chofia staen ein beiau mawr, 0 Dduw, rho heddwch inni'n awr. 1 'Does gennym, Arglwydd, ond Tydi I bwyso arno, clyw ein cri; I- Ni siomwyd neb wrth D' orsedd fawr: ? 0 Dduw, rho heddwch inni'n awT. it' I fyny fry mae'r oil yn un, Saint ac angylion yn gytun, Rho ninnau yn y gadwen fawr, A dyro heddwch dyro'n awr. Criccieth, Mai, 1917. GLANFRYN, ii;r. Mae Dr. Owen, Birkenhead, wedi glanio yn Salonica, i weim,* ar v cleifion a'r clwyfedig. Ysgrifenna dau filwr ataf i ofyn paham y mae'r enwadau Cymreig yn rhoi cymaint o sylw i wersyll Kinmel Park tra y mae mwy o Gymry yn ardalaeth Croesoswallt ? Gwrthododd Mr. J. Maethlon James, Y.H., dynu yn ol ei ymddiswydidiad o fod yn gadeir- ydd tribunlys Towyn, Meirionydd. Dewiswyd ei gydflaenor, Mr. Meredith Jones, Y.H., yn gadeirydd yn ei le. Da gennym gofnodi fod Dr. D. W. F. Jones, o Aberaeron, yn "specially mentioned gan Syr Douglas Haig yn Despatch am Fai 29. Ad- nabyddir ef yn LIundain fel Medical Super- intendent y Brompton Chest Hospital. Dihangfa gyfyng a gafodd Pte. leuan Hos- kins, mab y Caplan David Hoskins, pan yn tynnu i lawr un o aeroplanes y Germaniaid. Yn ffodus llwyddodd i lywio ei beiriant i randir y » Prydeiniaid, a diangodd o berygl mawr. Cafodd y gweithwyr tanddaearol lonydd rhag ýmuno a'r fyddin am amser bellach; ond sonir yn awr fod yn rhaid i nifer fawr o honynthwy- thau fynd. Dywed un Aelod Seneddol y geUir hepgor 120,000 o fechgyn ieuainc dibriod o'r pyllau glo, a'u bod yn disgwyl am yr alwad. Faint bynnag o wir sydd yn y gosodiad cyntaf o'i eiddo, pell ydym o gredu ei ail osodiad. Blin gennyf gofnodi marwolaeth un o blant Salem, Aberystwyth, ar faes y frwydr, sef Mr. Harold Thomas, mab ieuengaf Mr. John Thomas, North Parade, a brawd-yng-nghyfraith y Mri. Jenkin James, M.A., a E. Derry Evans, M.A., Caergybi. Brawd yw Mr. John Thomas i'r Cynghorwr Daniel Thomas, Y.H., un o gedyrn Shiloh yn Aberystwyth. Mawr gydym- deimlir a'r teulu adnabyddus yn eu trallod. Y mae mab arall i Mr. John Thomas dros y m6r. Yr wythnos ddiweddaf gadawodd dau arall o weinidogion y M.C. yn nosbarth LIangollen eu heglwysi er myned i weinidogaethu gyda'r Y. M. C. A. yn Ffrainc, sef y Parch. John Lloyd Jones, B.A., Bryn Seion, Trefor, a'r Parch. Wm. Rowlands, Bethel, Acrefair. Y mae y ddau wr parchedig yn bur gymeradwy yn y dos- barth, ac wedi bod yn bur llwyddiannus yn eu heglwysi, a sicr gennym y gwnant waith ragorol yn eu meusydd newydd. Dadleuir yn frwd mewn ami i eglwys pa un ai priodbl neu amhriodol o dan yr. am<xy]chiadau Presennol ydyw rhoddi y wledd arferol i blant yr Ysol Sul. Yn herwydd prinder rhyw fath ar nwyddau, dywed un dosbarth y dylid ar bob cyfrif wneud i ffwrdd a'r wledd, tra y dywsd dosbarth arall fod y prinder yn cyfiawnhau y wledd, gan y bwytir Iliad pan fydd nifer fawr gyda' u gilydd na phe bai pob un ,wrth ei fwrdd ei hun. Addawodd y Parch. James Charles ohirio am chwe' mis ei vmddiswyddiad o fugeiliaeth eglwys Lon Swan, Dinbych. Mae dros 70 o aelodau'r eglwys hon yn y fyddin. Pasibdd awdurdodau Coleg Llanbedr i gwtogi tymor addysg yr efrydwyr sydd wedi myned i'r Fyddin, Bydd yn rhaid newid llawer obethau pan ddaw'r bechgyn yn ol. Dywedir fod y rhyfel wedi rhoi diwedd ar grwydriaid, ac felly cauir yr adeiladau a wnaed ar eu cyfer ynglyn a thlotai Cymru. Dros adeg y rhyfel, cofier. 'Does dim byd tebyg i ryfel am greu crwydriaid, os nad yw "trefn y weinid- ogaeth yng Nghyfundeb y Methodistiaid. Y mhlith y rhai glwyfwyd yn yr ymosodiad di- weddaf yn Ffrainc y mae y Lieut. Morgan Thomas, Pontrhydyfcn, mab i'r diweddar flaenor adnabyddus, Mr. Thomas Thomas.! Y mae ar hyn o bryd mewn ysbyty ym Manceinion. Bu mewn f.yflwr dlfrifol am wythnctsau, ond yn 01 y newyddion diweddaraf y mae yn araf wella. Yr ydym yn mynegu teimlad'au ei lu cyfeillion yn Ne a Gogled-d, Cymru am ei adferiad buan. Cydymdeimlir yn gyffredinol a Mr. Jenkin Jenkins, blaenor hynaf eglwys Saron, Treffor- est, a'i briod annwyl, yn eu profedigaeth lem o golli eu bachgen hoff Mai y 4ydd. Yr oedd ar y Hong yr ymosodwyd ami gan y gelyn, ac a suddwyd. Baehgen ahoffid yn fawr gan ei gyd- nabod oedd Vaynor Alun, a hiraethir yn ddwys ar ei ol. Y mae mab arall i'r rhieni caredig hyn yn Ffrainc. Ein gweddi yw am i angel yr Arglwydd gastellu o'i amgylch. Yn ol yr adroddiadau y mae'r Gwasanaeth Cenedlaethol eisoes wedi costio yn ddrud i'r wlad, ac ychydig mewn cymhariaeth ywffrwyth yr arian wariwyd, ac a werir. Bu cryn dipyn o swn, ond ychydig yw'r sylwedd. Lluosogwyd ZD swyddogion, ond ni chredodd llawer i'w hym- adrodd. Bron nad oedd' y cathod cyn luosoced @a'1' llygod. Ond mewn trybMtli fel yr ydym ynddo hawdd yw gwneuthur camsyniadau, a n chwareu teg dengys yr awdurdoda-u barodrwydd i fanteisio arnynt, a diwygio. Er yng nghanol cyflafan ofnadwy y rhyfel, nid esgeuluswyd dathlu gwyl y Sulgwyn, a da hynny, oblegid etifeddiaeth werthfawr yw'r gwyliau, a chollai bywyd lawer o'i gysuron heb- ddynt. Dywed rhywun fod ffeithiau mawr hanes y Ceidwad yn canoibwyntio o gylch pump gwyl-y Nadolig i gofio ei ddyfodiad i'r byd, Sul y Blodau i gofio am ei ymdaith i Jerusalem, y Groglith am ei fynediad i'r Groes, y Pasc am 4D ei atgyfodiad o'r bedd, a'r Sulgwyn am ei esgyn- gyniad i'r nefoeddi. Un o bregethwyr ieuainc gobeithiol y Corff yw Mr. D. T. Morgan, Abercynon. Fel llawer eraill ymunodd yntau o'r Bala a'r R.A.M.C., ac yn Ffrainc y bu am ysbaid maith bellach yn gweini cysur goreu tnedrai i'r clwyfedigion, a Mr. W. H. Williams, myfyriwr arall o Beny- giraig, gydag ef. Mewn Stationary Hospital yn y Boulogne Base y mae D.T. ar hyn o bryd, ac wedi cael breakdown mewn canlyniad i -waith caled a chyson, ac nid yw yn credu y bydd yn ddigon cryf i fynd i fyny'r line mwyach. Parchus iawn ydyw'r ddau frawd yng ngolwg eu swyddogion, a derbyniasant bob caredigrwydd" ganddynt. Nawdd ynef a fyddo drostynt. Mae'r Parch. D. Edwin Davies, B.A., Tavi- stock (mab y Parch. W. T. Davies, Llwydcoed), wediei alw allan i l,anw'r swydd o gaplan. Croesodd drosodd yr wythnos o'r blaen yng v nghwmni ei gyfaill a'i ddiweddar gyd-fyfyriwr Major Chaplain y Parch. E. Mathias, New Inn. Mae Mr. Mathias wedi llanw y swydd allan yn Ffrainc gyda'r fyddin gyda pharch a chymer- adwyaeth. Gwiaeth ei eglwys yn Tavistock roddi gollyngdod i Mr. Davies am ddeuddeg mis, a gwrthodasant dderbyn ei ymddiswyddiad. Cyflwynwyd' iddo ganddynt wallet a nifer dda o Treasury notes, rnewn cwrdd ymadawol. Cafodd hefyd ollyngdod am bum mis y flwyddyn ddi- weddaf er gwasanaethu gyda'r Y.M.C.A. allan yn Ffrainc, a gwnaeth hynny gyda chymeradwy- aeth fawr.

PERSONOL.