Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
GOHEBIAETHAU.
News
Cite
Share
GOHEBIAETHAU. (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgnfenwyr).
Y PARCH. W. M. LEWIS, TYLLWYD.
News
Cite
Share
Y PARCH. W. M. LEWIS, TYLLWYD. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—Mae dau gam-gymeriad wedi llii-t-h.ro ilr er-thygl yn y CYMRO ar Mr. Lewis. Dywedir iddo fod yn Ysgol Normalaidd Bangor. Yng Ngholeg Normalaidd Abertawe y bu, ac yr oedd y Parch. W. Evans, M.A., yn gyd-efrydydd ag ef. Dywedir, hefyd, mai tair o terched oedd iddo. Y mae iddo bedair. Y bedwaredd yw Mrs. Evans, Abergwaun. Yr eiddoch yn gywir, W.M.
CYFARFOD MISOL SIR GAERFYRDDIN,…
News
Cite
Share
CYFARFOD MISOL SIR GAERFYRDDIN, CARMEL, MExiEFIN 12, 1917. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr,—A fyddwch chwi mor garedig a chan.atau i hysbysu y treinir cerhydau i gwrdd a'r trens 11.12 yn Lland-ilo, a 10.32 yn D-rysiiwyn., bore dydd y Cyfarfod Misol. A phob un sydd yn bwriadu bod yn bresenn-oi, dymunir arno ddanfon ei enw, ynghydag enw yr ors-ai y bwriada ddyfod iddi, ar un. waith i Mr. David Evans, Gymrig, Llanfynydd, Golden. Grove. Yr eiddoch, dros yr eglwys, J. EDWARDS (Gweinidog).
THE DEPUTATION TO THE PRIME…
News
Cite
Share
THE DEPUTATION TO THE PRIME MINISTER. TO THE EDITOR OF THE CYMRO. Dear Mr. Evans,—In reply to your note with refer- ence to the deputation which waited upon the Prime Minister on Friday for the purpose of expressing the strong feeling in Wales in favour of prohibition for the war, I need not say how glad I was, as Chairman of the Welsh Liberal Members, to have an op- portunity of meeting the deputation before they pro- ceeded to Downing Street. As the interview with the Prime Minister was, private, I can only say that the character and position of those who constituted the deputation could leave no doubt as to the strength of the move- ment which lay behind it. As you are aware, I have throughout my career in Parliament persisted in emphasising in the House of Commons and in the country, the right of Wales to separate treatment in regard to the liquor traffic, ana I was truly glad that this important fact was- emphas- iaed by the deputation. Believe me to be, Yours- faithfully, > J. HERBERT ROBERTS.
-•Y FYDDIN A'R GYMRAEG.
News
Cite
Share
Y FYDDIN A'R GYMRAEG. AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Yn eich rhifyn diweddaf gwelais gwyn i,,a chawn ni fel milwyr Cymreig allan yma ysgrifennu llythyrau yn e,in hiaith ein hunain. Ar un amgylchiad cefais fy ngwrthod fy hunan fan un o'r swyddogion. Gofynais am gael mynd o aen y prif-swyddog gan fy mod yn credu nad oedd ganddyn-t bawl i fy rhwystro. Dyn:a ddywedwyd wrthyf:-O-s, carwn "ysgrifennu Cymraeg byddai raid i mi amgau fy llythyrau mewn 'envelope' arall a chyfeirio hwmn-w i'r 'Base Censor," B.E.F. Yr wyf wedi gwneud hyn droion beHach, ac eithro rhyw didiiwmod neu ddau o oed-iad, mae y llythyrau yn mynd yn iawn. Mae y 'green envelopes' yn bur brin y dyddiau yma, ac hwyrach fod Cymro yn rhywle h-eb fod yn fwybod hyn, ac o ganlyniad yn amddifadu ei hun o'r yn mae ganddo hawl iddo. Trwy garedigrwydd cyfaill byddaf yn derbyn y CYMRO bob wythnos, ac y mae yn gydymaith aiddan. M i mi yn fy adfyd a fy hira-eth am yr hen wlad. Yn bur, SAPPER J. IDWAL JONES, R. E. Signals, 6th Corps, Rhywle yn Ffrainc. B.E.F.
PA FODD I GAEL HEDDWCH ?
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
PA FODD I GAEL HEDDWCH ? AT OLYGYDD Y CYMRO. Syr,—Yr ydym yn dra diolchgar i chwi am eich sylw ar Y Deyrnas, ac yn arbennig am godi i amlyg- rwydd yn eich tudalennau y ewestiwn pwysig "Pa fodd y mae cael yr heddwch y dadleua'r 'Deyrn:as' drosto?" Ceisio ateb y ewestiwn hwn yw ein gwaith, a dyna faich y mwyafrif o'r ysgrifau a ymddangosodd yn 'Y Deyrnas' o'r dechreu ond byddwn yn ddiolch- gar os caniatewch i n: osod cryn-hodeb. o'n syniad- y au a'n cymhellio-n gerbron eich dar'.lenwyr. i. Ceisiwn berswadio dynion mai ffordd cymdd a maddéuantffordd Crist-yw y ffordd oreu, a'r unig ffordd un:awn, i benderfynu perthynas gwLad a gwlad, a chenedl a chenedl. 2. Y cam cyntaf i gyfeiriad heddwch yw cael pobl i dderbyn yr athrawiaeth hon fel yr iachaer ysbryd, y purer amcanion, ac y dyrchafer ymddygiad cenedl at genedl. Golyga hyn, roddi heibio pob syniad ac awydd am ddial a gormes-u, ac arglwyddiaethu a theyrnasu, pob trachwant am ymherodraeth a chyf- oeth tiroedd a moroedd pell, pob uchelgais am sefyll uwc.hlaw cenhedloedd eraill yn y pethau hyn. Rhaid meddu ysbryd heddychol ac ewyllys tangnefedd cyn byth y daw heddwch gwerth ei gael i'r byd. Amlwg yw mai ystad fewnol ac ysbrydol yw, hon rhaid ei chvrraedd yn -uni-gpl a phersonol drwy fyfyrdod, gWyli adwriaeth a gweddi ond byddai'r cam mwyaf ymarferol i sicrhau haddweh. 3. Oofynwn i Bryd-ain Fawr gymiyd mesurau ar uniwaith i wybod ai ni eillir cael heddwch heb chwan- eg o ymladd. Ond fyddem yn debycach o sicrhau pob amcan gwerth ei gael a broffesir drwy drafod- aeth p G wahoddodd y gelyn ni i ymresymu gwrth- odwyd hynny. Onid mwy cyson ag Ysbryd Crist a fuasai ein bod wedi rhoddi prawf ar y cynhygiad? Y mae pob diwrnod o ddinistr a gwaed yn ychwanegu at resymoldeb trafodaeth rhwng y pleidiau. 4. Amod anihepcor tuag at heddrweh yn awr, ac ar ol hyn, yw i ni fel teyrnas roddi heibio ein syniadau a'n nwydau ymherodrol, ac i'r holl drefedigaethau Prydeinig gael dod, fel y dadleu,ar C>ad-Lywydd .,n Smuts., yn weri.niaeth.au hollol rydd, hollol gydradd a Phrydain, fel y byddom yn frawdoliaeth o werin- i,aethau rhydd a heddychol, yn hytrach nag un un ymherodraeth fawr filwrol yn peri ofn ac o.iddigedd mewn cenhedloedd eraill. 5. Rhoddem felly esiampl a chynlliun effeithiol i'r holl genhedloedd i ymffurfio'n Gyngrair Heddwch i ddiogelu'r holil fyd rhag rhyfel mwy. Cymhellwn yr egwyddorion a'r cynlluniau hyn ar Brydain, nid am y tybiwn fod ysbryd milwriaeth yn waeth ynddi hi, nag yn wir cynddrwg ynddi hi ag mewn gwledydd eraill; ond am mai dyna ein cyflrifoldeb eglur ni, a rhaid i ni gyflawni ein rhan ein hun, fel y disigwyl- iwn i eraill wneud, er sicrhau heddwch. Am fanyl- ion yr awgrymiadau hyn, caniatewoh i ni eich cyf- eirio at wabanol rifynniau'r Deyrnas, ac yn arbennig rhifyn Chwefror. Y reiddoch yn gywir, Bangor. GOLYGWYR 'Y DEYRNAS.' Mai 28, 1917.
"Y SILLIADUR."
News
Cite
Share
"Y SILLIADUR." AT OLYGYDD Y CYMTO Mr. Golygydd,—Gan mai un o amcanion y CYMEQ yw ,g wasan.aethu llenyddiaeth, efalliai y caniatewch i mi dalu ychydiig sylw i hen lyfr a argraffwyd yn ein • ihardal, Dros driugain mlynedd yn ol pendironais lawer uweh ei ben, a da oedd gennyf gael copi glan ohono y dydd o'r blaen. Dyma ei deitl, "Silliadur Newydd Llythyregawl; neu arweinydd hyrwydd ac esmwyth i ddysgu silliadu, diarllain, a deall yr Iaith Gymraerg," &c. Ceir ychwaneg na hyn fel rhan o'r teitl. "Gan John Jones, A.Y., y trydydd argraffiad, wedi ei ddiwygiaw. Dolgellau: Argraffwyd gan Richard Jones, 1844, entered at Stationer's Hall." Yr awdwr oedd John Jones, ac athraw ysgol a gynrychiolir gan yr A.Y. Preswyliai yr awdwr ym Mhenparc, gerllaw pentref Bryncrug, tyddyn a amaethai, a chadwai ysgol yn y "Capel Mawr" yn y pentref. Dywed Idriswyn ei fod yn un o ysgolfeis-tr- ia.id Mr. Charles. Beth bynnag, mae ei "Silliadur" yn ddigon o brawf o'i gymhiwyster. Bu birawd i mi dan ei hyfforddiant, ac anfynych y byddai ef a'r bech- gyn eraill heb fod dan gleisiau ffon John Jones. Ond nid oedd cwyno yn herwydd diSigybIaeth I;em y dydd- i,au hynny, a chredaf nad oedd plant yn tyfu i fyny mor warsyth a phen uchel a dicreol ag y gwna llawer- oedd ohonynt yn yr "oes oleu hon," pan y mae'r Wladwriaeth wedi cymryd cryn lawer o gyfrifoldeb y teulu yn nygiad plant i fyny. Yr oedd John Jones yn wr b.Aenil.law, a cheir ei enw ymhlith enwau y rhai. a arwyddodasant y weithred gyfansoddiadol. Daeth yr argraffiad cyntaf o'r "Silliadur" o'r wasg yn 1828, a bu y llyfr mewn gwasanaeth am faith flyn- yddau; ond erbyn hyn wedi myned i dir anghof. Cynmun rhagOloI a roddwyd i'r Uyfr. Arweinid y plentyn gam a cham trwy bedair rhan. Cofiaf fel pe buasai ddoe, wrth lin fy mam; yn adrodd "eph, iph, oph, uph, wph, yph." Gweda y gwersi isaf, eir ym- laen at y lliithiau darHlen: y gyntaf "Am Dduw a'i Briodoliaethau (mewn wyth wers-), yna rhiai "Am Gwjanp Dyn," "Am Berson Crist," ac yn y blaen. Ar ddíwedd y rhan gyntaf mae John Jones yn canu: "Llawen gan y famaeth addfwyn Wei'd y bach yn dechreu cychwyn Ond nid mwy na'r Athraw ffyddkm Am wel'd cynnydd plant ysgolion." Gwersi darllen geir yn yr ail ran,, pob gwers ar ei phwnc ei hun, ac md curo'r awyr ag ymadroddion dibwrpas. Ar ddiwedd yr ail ran cefnogir y bychan g,an ei athraw fel hyn :— 'Nawr ti ddxingaist ddwy o risia, Da gwel'd plentyn yn d'od yma; Gwn fod awydd myn'd i fyny, Os wyt yrr barnu'th hun yn dysgu." Ar ddiwedd y drydedd ran :— "Dringaist eto un o'r grisiau (Da i mi,* a gwell i tithau) Cymer galon, blentyn hoffus, Ti ddoi bellach yn lied hwylus." Yn naturiol mae geiriau y bedwaredd ran yn rhai lied anhawdd, liaws ohonynt, a chawn'yma "gor- uwchaniaiioldeb," "athronddysgedigaethau," "anng. hyfnewidi01ediga.ethau." &c. Ond ceir cymeradwy- aeth a chalondid ar derfyn y rhan yma:- "Gwel ti gefaist ben yr yrfa, 'Rwy'n gobeithio mewn gwyleidd-dra; Ac os deuaist yma'n rhigl Cais ymofyn am dy Feibl." At yr Hen Lyfr yr oedd y cwbl yn arwain !-yng ngeiri.au Eglwys Loegr,—i'w "ddarlten, ei chwilio a'i ddysgu, ac i'n mewn ed fwynhau." Yr eiddoch, HTWYN.
CEIRIOG A'l ENWAD.
News
Cite
Share
CEIRIOG A'l ENWAD. AT OLYGYTit) T CYMKO. Syr,—Gwelaf fod ewestiwn Ceiriog a'i Grefydd wedi coclri unwaith oto. Yn y CUIRO amser yn 01, gofynwyd i'r Parch. H. Harri,es D.D., am ed seiliaa dros ddweyd fod eawad neilltuol yn y Gogledd yn hawlio Ceiriog fel eiddo ei hun. Gwnaed yr honiad yn y Gervinenmewn ysgrif ar "Undeb yr Enwadau," gydag ymosodiad brwnt ar yr "Enwad" am ei drach- want. Gwelaf fod sylw yn yr Eurgrawn ar hyn. Ymddengys nad yw Dr. Harries am ateb a gellir yn rhwydd dynnu'r casgliad am ei ddistawrwydd. Mae'n deg dweyd mai nid hawdd yw gwybod beth oedd cwyn Dr. Harries. Pa un ai beio y mae fod enwad crefyddiol o fath yn y byd yn hawlio Ceiriog; ai ynte fod ihyw enwad hebliaw y Bedyddwyr yn ei hawlio. Os y cyntaf, popeth yn dda. Dylai yr "En- wad' a ymostyngai i wneud peth felly gael ei gau allan o bob Undeb Cristionogol. Ond meiddiwn ddweyd pa ddrwg bynnag sy'n perthyn i'r enwadau yn y Gogledd nad oes yr un ohonynt, y Bedyddwyr yn eu plith, hyd yn hyn wedi mynd i'r tir isel yna. Os ydym yn camgymeryd dylai Dr. Harries roddi y bennod a'r adnod, ac nid gwneud cyhuddiad penagor- ed. Onid gormod o wrando a chredu chwedlau di- sail sy'n cyfrif am bellter yr enwadau oddiwrth eu gilydd? Tueddiir i briodoli dywediadau unigolion i ddosbarth o ddynion, a megir drwgdeimlad heb fod achos. Mae'n wir mai mewn anwybod y gwneir, hyn, ond dylid gwrthnodi'r arfer fel na phechir mwyach. Anffodus iawn oedd Husgo hanes Ceiriog i unrhyw gyloh crefyddol, ac anfaddeuol oedd defnyddio ei enw i ffilangellu enwad crefyddol, pa 'Enwad' bynnag oedd lhiwnnw. Ysgrifenwyd lilawer ar ol y prif-fardd gan flaenion pob enwad yn ddiwahaniaeth, ond gofalwyd cadw'n dddgon clir a'i hanes crefyddol. Gwyddai pawb oedd vi yn ei adnabod mai goreu po lieiaf a sonid am hynny er mwyn Ceirriogei hun yn ogystal ag er mwyn cref. ydd. Ond-gan fod Dr. Harries yn ei godi fell addurn lenwadol na ddylai neb ei hawllio ond y Bedyddwyr, angenrhaid a roed arnom i ddatguddio'n gynnil yenydig o'i hanes 'crefyddol.' Ganwyd Ceiriog yn Nyffryn Ceiriog yn 1832. Ymadawodd i Fanceinion yn 1848, ac i Lanidloes yn 1865. Yn. 1870 symudwyd ef i Dowyn, ac yn 1871 symudwyd ef i Gaersws, lile y bu hyd ei farwolaeth yn 1887. Felly treuliodd 16 mlynedd yn Nyffryn Ceiriog, 17 mlynedd ym MaA- oeinion, a1 22 mlynedd ym Maldwyn a Meirion. Rai blynyddoedd cjm gadael Manceinion yr oedd dirywiad amlwg wedi dod i fywyd y bardd. Ceisiwyd ei gadw ar ei draed trwy ei symud i Gymru, ond yng Nghym- ru el&i o ddrwg i waeth. Symudiadau "ar i la-wx" oedd pob symudiad yng Nghymru, ac y mae ystyr ddofn i'r gan, "Wrth fyned ar i lawr." Yn ystod yr ugain mlyn.edd diweddaf o'i oes ni fynychai na Llan na Chapel ond yn achlysurol. Elai i'r Eglwys Wl&d- ol ar y gwyliau, ac i ambell gapel pan y damweiniai i un o'r "hoe-lion wyth" ymweled a'r ardaloedd. Cartref Ceiriog tra y bu ym Maldwyn a Meirion oedd y dafarn 3, dylifai'r bobl yno ato. Gwnaeth fwy i hyrwyddo y fasnach feddwol ym Maldwyn na thorf o afradloniaid hefo'u gilydd. Treuliai lawer .■ o'i Suliau yng Nglanyrafon, a byddai fel rheol yn mynd adref "rhwng banner ac un yn y bore." Pan y symudwyd ef o Dowyn i Gaersws, ar gyflog llai, ac i dy llai, addawodd yn bendant y byddai j iddo ddiiwygio. Dechreuodd fynychu'r Eglwys j Wladol yn gyson am beth amser, a gwnaeth ei briod 3 ffyddlon bob ymdrech dichonadwy er gynorthwyo ] i feistroli ei chwant. Nid yw hanes- ymdrechion ar- | wrol y foneddiges rinweddol hon wedi ei ddatguddio etc. Ond er gwaethaf pob ymdrech, o bell ac agos, 1 aeth Ceiriog druan o dan draed ei elyn yn is nag erioed. Yn ei gladdedd-gaeth gwein-idogion yr Eglwys Wlad- ] ol yn unig oedd yn gw-eini. Yr oedd pigion y ped- j war enwad Ymneilltuol yn y gymdogaeth, ond nii ofynwyd i'x un ohonynt gymryd na rhan na chyfran yn y gwasanaeth, ac nid yw'n debygol iawn fod awydd ar yr un ohonyn1 i wneud hynny. Oddiwrth y pethau hyn gwelir mai'r Eglwys Wladol feddai j J fwyaf o hawl ar Ceiriog; er efallai, ys dywed hen gyfaill iddo, mai Ymneilltuwr oedd y bardd yn y bon. Fodd bynnag, nid oes yr un enwad yn y Gog- ledd yn ei 'hawlio fel ei eiddo ei hun," ond yn hytrach y mae pob un o'r enwadau yn ei fwrw ym- aith "fel y bwriai Iddew fantell y gwahanglwyf oddi. wrtho," yn ol dymuniad Dr. Harries. Nid hyfrydw-aith yw son fel hyn am wr o athrylith fel Ceiriog Hughes. Ond pan y defnyddir ef i geisio --j creu rhagfarn rhwng enwadau crefyddol a'u gilydd, | angenrhaid yw galw sylw at ffeithiau sy'n mynd o ] dan sail y cyhuddiad dialw-am-dano. -] MALDWYN. J — ■. 1 'A
EDRYCH YN OL. 'j
News
Cite
Share
EDRYCH YN OL. j Y mae'r rhan fwyaf ohonom, ar un adeg neu gil. ydd. wedi bod mewn dyryswch ynghylch pa gwrs i'w gymryd. Yn ddiweddarach, wrth edrych yn ol ar y 1 penderfyniad wnaed, yr ydym wedi gofidio na buasem wedi dilyn y cwrs arall. Y mae hynny oblegid fod un ochr i'r darlun yn parhau yn guddiedig, tra y mae y Hall wedi ei ddatguddio i ni gan brofiad. Y mae yna fodd bynnag, liaws- o bethau nad ydynt yn dyfod o fewn ein profiad personol. Gan fod hynny felly, rhaid i ni gael ein harwain gan brofiad eraill. Y mae degau 0 filoedd wedi datgan fod Mother Seigel's Syrup wedi cyfnewid er gw-ell holl gwrs eu bywyd. Y maent oil yn tystio fod Mother Seigel's Syrup yn meddu dylanwad rhyfedd er d-aioni ar yr holl gyfansoddiad treuldadol. Am yn agos i banner canrif y mae y rheolwr hwn at y cylla a'r iau-wedi 1 ei wneud o agos- i ddwsin o amrywiol fathau o wreiddiau, rhisgl a dail—wedi profi ed effeithiol- rwydd niewn, atal a symud Diffyg Treuliad ac an- -hwylderau y cylla a'r afu. Os, yn- awr, nad ydych yn mwynhau eich Haw-n yni ac ieuengrwydd iechyd, man-teisiweh ar brofiad eraill, a chymerwch Mother Sei gel's Syrup i'ch cynorthwyo heb oedd.