Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

NODIADAU WYTHNOSOL.

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. YR EGWYL YN Y GORLLEWIN. Hyd yr adeg y dechreuwn ein cronicl wyth- nosol y tro hwn, parha yr egwyl gymharol, ar,y ffrynt yn y gorllewin. Wrth gwrs, nid oes wir egwyl i'r milwyr sydd yn y llinell dan; a pha un bynnaga oes rhuthr mawr a symudiad amlwg yn mynd ymlaen ai peidio, deil y rhyfel i fynd ymlaen, y cyflegrau i ruo a'r perygl ganol dydd a lliw nos i hofran yn yr awyr o gylch ein bech- gyli glewion yn y ffosydd. Ond "da cael ynys ar for mawr ac y mae rhyw f ath o egwyl yn werthfawr i'r bechgyn, pe ond i'w cadw rhag llethu eu cyrff a gor-lafur; er fod eu hysbryd hwy ar dan am fynd ymlaen yn ddiorffwys. Mae'n amlwg nas, gellir disgwyl hynny o dan amodau diweddar rhyfel. Nis gall big push obeithio bod yn long push a mwyaf effeith- iol a fydd y gwthiad, cyntaf oil y gallwn ddis- gwyl iddo ddyfod i ben; a dyfod i ben wedi gwneud ei waith am y pryd. Rhaid wedyn baratoi gwthiad pellach, tray pery nerth y gelyn yn ddigonol' i'w alluogi i wrthsefyll a, gwrthym- osod. Anghoifir hyn gan Jawer o honom sydd ymhell o'r maes; a chlywir datganiadau o siom fod yr ymgyrchoedd yn syrthio"ii fyr o gyrraedd ein disgwyliadau. Felly y bu y llynedd ynglyn ■- a. rhuthr y Somme; ac felly i raddau llai y mae eleni; a rhydd datganiad Prifwehlidog Jvfrainc, a'r ad-drefnu fu'n ddiweddar ar y prif swyddog- ion milwrolyna, le inni gredu fod gobeithion a disgwyliadau pobl mewn awdurdod yn uwch na'r cyflawniadau. Nid) ydym yn honni unrhyw wybodaeth arbennig am y sefyllfa filwrol; ond gwyr ein darllenwyr ein bod yn gyson wedi at- gofio'r perygl o or-hyder ar gyfnodau o lwydd- iant eithriadol i'n byddinoedd. Dylai hanes ymosodiadau ac ymgyrchoedd Germaiii ei hun ddysgu cymaint a hyn inni. Er ei huwchafiaeth ym mlwyddyn gyntaf y rhyfel, methodd gyrraedd Paris, methodd dorri trwy ein rhengau teneu yn Ypres, a methodd, wthio, ei lluoedd i Calais a phorthladdoedd y Sianel, a methodd ddarost- wng Verdun. Nid ydym am dynnu casgliaddi- obaith i ymgyrch y Cynghreiriaid yn y gorlle- win oddiwrth fet 'hiannau'r gelyn yn y gorffennol. Ond dylent beri inni weithredu amynedd. Yn ol ton holl wasg Germani, a datganiadau ei holl awdurdodau milwrol, y mae pob gobaith. am ennill dim yn y rhan yma o'r maes wedi diflannu yno; a'u hunig obaith yw darostwng P'rydain ar y mor cyn eu gorchfygiad terfynol hwy eu hunain ar y tir yn Ffrainc. Mae'r addeHad hwn yn ddigon i brofi ei bod ar ben ar Germani yn y gorllewin, ac na raid pryderu am y canlyn- i'ad. Coiier hefyd fod y chwyldroad yn Rwsia wedi ei galluogi i anfon atgyfnerthion i Ffrainc, sydd am y pryd yn rhwym o arafu'r symiidiad yn ei herbyn. Ond gallwn fod yn sicr nad yw General Petain a, Syr Douglas Haig ddim yn segur yn yr egwyl; ond eu bod yn trefnu ac yn paratoi sut i gario allan y symudiadau pwysig ar y Scarpe, ar y Meuse, ac yn Champagne, ac i .fantei'sio vn llawn ar yr hyn a enillwyd ar gychwyn y symudiadau. (

TREIALON RWSIA.

HELP YR AMERICA.

TRYCHINEB FOLKESTONE.

Y SUDDLONGAU.

CYNHADLEDD STOCKHOLM.

SENEDD AWSTRIA.

GERMANI A PHOLAND.

YMDDI SWYDDI AD ARGLWYDD DEVONPORT.