Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

MODION CYMREIG

News
Cite
Share

MODION CYMREIG FE DDAW. Molianned cenhedloedd y ddaear, Gyd-ganed ynysoedd y byd; O dir y caethiwed a'r galar, Y cesglir y llwythau ynghyd; Cyhoeddir o Seion ymwared, Gap utgorn efengyl yn glir; A rhaid yw i'r Iesu gael gweled 0 lafur Ei enaid cyn hir. Gorchfygodd y cadarn a'i luoedd, A moliant i'w enw a fydd; Fe wariodd holl gyfoeth y nefoedd, I brynu y gaethglud yn rhydd; Mae swix y tadwynaun ymddatod, A thannau'r telynau yn llawn; A seinir ar ludw'r eilunod, Glodforedd i rinwedd yr lawn.. Daw heddwch i mewn fel yr afon, Cyfiawnder fel tonnau y mor; A llenwir pydewau marwolion A ffrydiau trugaredd yr lor; Gwirionedd a dardd or anialwch, Yn fywyd i gal on y byd Y ddaear fydd lawn o ddiddanwch, A'r nef yn orfoledd i gyd. DYFED. + Aeth deg a thrigain o ferched o Gaerdydd i Ffrainc i weithio fel clercocf. Dyma ffrwyth cyntaf cenhadaeth Lady Mackworth. -+ -+- Camgymeriad yw dweyd mai personiaid yn unig sy'n cael eu codi yn Sir Aberteifi. God- wyd x88,938]}. at gronfa cynhilo' at y rhyfel mewn un gaeaf. -+- Anifeiliaid rhagor Dynion ydyw pennawd ysgrif Canon Camber-Williams ar wrthwynebiad Ymneilltuwyr i ail-agor cwestiwn Dadwaddol- iad. Hynny yw, dengys fod y gwylltfilod rheib- us yn rhagori ar yr Ymneilltuwyr. Da gennyf weled fod y Canon yn gwella, ac nad yw ei afiechyd maith wedi niweidio ei arddull. Beth sydd wedi' digwydd gyda chwestiwn Dadwaddoliad yr Eglwys? A wnaeth Arglwydd Crawford gaiftgymeriad yn Nhy yr Arglwyddi t A roddodd Mr. Lloyd George ei droed i lawrl Dyma ddau gwestiwn a ofynir, a. neb yn ateb. Nid yw'r blaid Eglwysig yn cysgu. Cymryd arnynt eu bod y maent, ac yn disgwyl dal y Prifwei'nidog. Gall fod y Prifweinidog yn brysur, ond nid yw yn cysgu. A phe digwydd- ai fod yn rhy brysur mae Mr. Towyn Jones yno gerllaw, yn gofalu am Gymru. Ac nid yw arian byw byth yn cysgu. Dyma ddywed Gwili, M.A., am ymweliad Dirprwyaeth Gwaharddiad a'r Prifweinidog: — (t Rhaid inni, unwaith eto, fynegi mai pur siom- ediig y teimlwn, wedi darllen. a chlywedateb y Prifweinidog i'r Ddirprwyaeth gref a anfonodd Eglwysi Rhyddion Cymru ato i ofyn am Waharddiad llwyr am chwe' mis wedi diwedd y Rhyfel. Credem y gwelid mwy 0 wydnwch a phlwc yn y gwr a ddywedodd mai gelyn gwaeth- afPrydain oedd y Ddiod, ac ni allwn lai na 1 thadogi ei fynegiad o blaid polisi amwys arall Fwamgylchoedd newydd. Hyderwn nad ydym yn gwneuthur cam a'n cyd-wladwr, ond credwn ein bod yn mynegi barn llawer iawn o Ymneill- tuwyr Cymru, heblaw'r rhai y mae eu barn j gennym wrth law, wrth ysgrifennu fel hyn. Ein j hunig ofn yw y daw darllawio i ben ohono'i hun, a heb ddeddfwriaeth, yn fuan, a hynny am na, bydd dim i Iw d,roi'n, ddiod gadarii. Nid rhyfedd mai1 enw llyfryn diweddaf Mr. Arthur Mee yw The Fiddlers. Dywedir mai Cymro o'r enw Mr. Arthur Gri- ffiths, oedd sylfaenydd y Gymdeithas Wyddelig a elwir Sinn Fein. C. Mae cwestiwn yr Eglwys yng Nghymru yn debyg o gael llonydd gan yr Eglwyswyr. Ofer iddynt ddisgwyl cael gan y Llywodraeth ei gyffwrdd. Ond nid yw'r aelodau Cymrelg yn dawel, a rhoddodd Mr. Llewelyn Williams rybudd o gynhygiad yn gofyn am i'r Llywodr- aeth beidio pleidio'r cais am newid amodau dadwaddoliad. Mae Mr. A T. Davies, ysgrifennydd yr adran Gymreig o'r Swyddfa Addysg, yn galw sylw yn ei adroddiad at waith rhai o ysgolion sir Cymru yn esgeuluso"r iaith Gymraeg. Addefa mai pryder rhag i'r ysgolheigion ddioddef sydd wrth ¡ wraidd y difaterwch. Ond caniateir rhyddid yn awr i'r ysgolion drefnu eu maes llafur, a gallant ymroil ati i astudio iaith a llenyddiaeth ¡ Cymru heb ofn niwed ariannol na llesteirio J dyfodol yr ysgolheigion. { -+• Cyfarfu Pwyllgor neilltuol o vun o bob dos- barth perthynol i Gyfarfod Misol Gorllewin Morgannwg yng Nghastellnedd. Etholwyd Mr. James Clement yn ysgrifennydd. Cadeir- iwyd gan Mr. Williarri Harrison. Mater y cyf- arfod oedd ystyried pa lwybr ellid gymryd i I atal y gwario arian mawr yn y trens gan weinid- • ogion. Awgrymid y priodoldeb o gael y wein- idogaeth yn fwy sefydlog, a, chael gan weinidog- ion i gyfnewid eu hymrwymiadau Sabothol. ¡ Pasiwyd fod cyfarfod neilltuol o bob dosbarth ¡ i'w alw er cael o liydi rhyw gynllun unffurf o weithredu. -4- Mae'r Parch. D. Francis Roberts, B.A., B.D., Blaenau Ffestiniog, wedi paratoi Gwers- lyfr ar Hanes Abraham ar gais Pwyllgor Y sgql I Sul C.M. Gorllewin Meirionydd. Adnabyddir j Mr. Francis Roberts fel ysgolhaig o radd uchel, ac fel awdwr ysgrifau safonol ar destynau Beibl- aidd. Nid dyma"r tro cyntaf iddo baratoi gwerslyfr i ieuenctid Meirion. Credaf. y bydd hwn ar hanes Abraham o werth amhrisiadwy i athrawon, ac fel y gallesid disgwyl po fwyaf a astudir ar y llyfr rhagoraf a pherffeithiaf y profa ei hun. Gwyn ei byd y wlad lie y mae ei gwyr dysgedicaf yn rhoi eu gwasanaeth ar allor yr Ysgol Sul. Mae popeth am y prif-fardd Ceiriog yn ddydd- orol i bawb o'ch darllenwyr, ac nid oes angen ymesgusodi dros ddifynnu'r nodion hyn o at- gofion Mr. David Jones, Van, yn yr Eurgrawn. "Vr ydych wedi ysgrifennu cryn lawer ar gymeriad nad oedd yn rhyw or-gymeradwy tua Chaersws yma," meddai un wrthyf y dydd o'r blaen. Efallai, ond ymhle yr oedd y diiffyg f "No man is a hero to his valet, that is probably true; but the fault is at least as likely to be the valet's as the hero's." Cili'a,sai'r Qymraeg o Gaersws cyn i'r bardd ddod yno. Ac ni wydda.i r., ardalwyr nemor ddim am Ceiriog yn ei' arwedd- au eryfaf a goreu. Nid oedd un ymhob cant ohonynt yn gwybod dim am ei Fyfanwy," a'i Alun Mabcn," nac erioed wedi cael ei symud gan ei ganeudfr miwsigaidd. Y cwbl a wyddent hwy am dano oedd ei weled, druan gwr, yn ym- j drybaeddu ymhlith tryci'au glo, caJch, manure, a'r cyffelyb, y naill ddydd ar ol y llall. j Mae hyn- yn fy arwain at fater pwysig y ceis- j iaf roddi eglurhad arno, sef, fod Ceiriog wedi bod yn anffortunus iawn yn ei ddewisiad o al- wedigaeth. Naturiol oedd i'w rieui' feddwl am i John gael ei ddwyn i fyny'n ffermwr, ac ilfod f felly yn ddilynnydd teilwng i'w hynafiaid. Ond buan y prof odd y bachgen na ellid gwneud j i ffermwr 0 hono. Cymerwn yn ganiataol yr r edrydd ei brofiad ei hun yn ei awdl ar Y Mor.' Cychwynnodd yn y gwaelod sef cadw'r gwaxth- eg a'r defaid, &c. Dyma ei dystiolaeth ef ei hun— Gwyliais yn bur ddigalon,—y buchod, Lloi bach ac ebolion; Defaid a gwartheg dofion, A geifr ar gaeau y fron." A geifr ar gaeau y fron." Ceisiwyd ei ddysgu i gau, ac i ofalu am y ceffyl- au, ond methu fu ei hanes— Druan gwr, nis medrwn gau—ar ochor Y gwrychoedd a'r cloddiau; Aethus son, mi fethais hau, ¡ A ff aelais drin ceffylau." Ar lechwedd y wedd unwaith A redodd i ddireidwaith, A redodd i ddireidwaith, ¡ Diog os y'ch yn deall'd Ow'n i gynt wrth esgyn gallt; A rywsut, fel mae'n resyn, I lawr a.'r hen drol i lyn; A march drud ym mreichiau y drol Foddodd mewn dull rhyfeddol. I Ychydig o ddireidwaith o'r fath uchod a fyddai yn ddigon i ddifetha ffermwr go gefnog. I¡ Gwelwyd ar unwaith nad oedd yn bosibl gwneud y bachgen yn amaethwr. A chan ei' fod wedi dangos ar hyd yr amser ei hoffter o lyfrau, yn ddoeth iawn y penderfynodd ei rieni ei osod yn brentis o argraffydd. Ar derfyn ei dymor prawf, gofynnai yr argraffydd iddo wasanaethu I am saith mlynedd; ac ar y graigrwystr hon y ¡ drylliwyd cynHuniau y rhieni, ac y gwnaed llwybr, bywyd y bachgen yn druenus ar ei hyd. ¡ Y chydig o ysgol a gafodd, a thra y bu yno y Z, ) rhagorai yn amlwg mewn gramadegu. Yr oedd I ar y blaen i'w gydysgolheigion yn y gangen ¡ hon. Ond yr oedd yn llawn mor amlwg ar ol mewn rhifyddiaeth. Yr oedd yn gyfrifydd mor wael fel y dywedai ef ei hun unwaith rhwng, I difri a chwarae, y rhaid nad oedd ef yn. fod cyfrifol." Eto, fel cyfrifydd (clerk) y gosod- wyd i'ddo, gan ffawd neu anffawd, i enill ei ¡ damaid o hyn ymlaen. Teg yw dweyd iddo ¡ lwyddo yn rhyfedd tra y bu ym Manceinion, er I' ei holl anfanteision. A chafodd ei benodi yn orsaf-feistr yn Llanidloes swyddogaeth bwysig, a llawer o drafferthion yngltn a hi. I Golygai cydgyfarfyddiad y ddau Gwmni—y Midland a'r CambriaTi-lavi-er o waith iddo. I Ychydig a wnaeth gyda'r awen a chyda'i' lyfrau tra y bu yma. A Llanidloes ydoedd y ffon uchaf a gyrhaeddodd yn rhawd ei alwedigaeth fydol. ¡, 0 hyn ymlaen, mae gennym ofn mai dringo ar i lawr fu ei hanes mewn ystyr fydol. Symud- odd oddiyno i Dowyn, ac o Dowyn i Gaersws, yn oruchwylydd y line fach o Gaersws i'r Van. Yr oedd y safle hon yn gwbl annheilwng o wr o alluoedd disglair Cei"riog. Ac-mi wn mai cyd- nabyddiaeth fechan oedd ei ran. Gallasai un- rhyw un fedrai gyfri, Six and four is ten (ys dywed Derwenog) gyflaw-ni gorchwylion Hon. Ond yma y bu Ceiriog yn ymboeni am ddwy- flynedd-ar-bymtheg yn ceisio cadw cyfrif o dryc- iau plwm, glo. a chalch, a'i feddwl mewn byd gwahanol hoiH>L Dyma engraifFt darawiadol o ddyn wedi colli'r ffordd, ac yna yn gorfo^l j ymladd a'r canlyniadau oreu gailai. J -4— -4- i Sut lla fuasai llenorion a gwyr dysgedig Cymru, yn meddwl am gychwyn cyhoeddiad j cenedlaetho], misol, neu ddau neu dri-misol, a Cheiriog yn olygydd iddo Cyflawnai unrhyw waith llenyddol gyda. graen. Wedi ei farw 1 dangosir cryn lawer o awydd i'w barcl-ii-i a'i fawrygu ac i anrhydeddu ei goffadwriaeth. Gresyn na ddangosasid mwy o hynny tuag ato pan yn fvw. Hawdd bod, yn ddoeth wedi iddi fynd yn rhy ddiweddar. Heddwch i'w lwch!