Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
NODION O DDYFFRYN CLWYD.
News
Cite
Share
NODION O DDYFFRYN CLWYD. Y CYFARFOD MLSO'L.—Cynhaliwyd y Cyfarfod Misol yn Rhuddlan 4dydd lau. Gan fod arbenig- rwydd yn perthyn i'r C.M. hwn, daeth mwy nag arfer o'r brodyr ynighyd. Aed trwy y gweithnediadau ar- ferol yng nghyfarfod y bore, pryd y delrbyniwyd wytho flaenoriaid yn aelodau o'r C.M., a thraddod- wyd cyntgor buddiol iddynt gan lVIrr Ezra Roberts, IRhuthyn. Mynegodd Mr. Roberts fod 3oain mlyn- edd er pan y cafodd y fraint hon o'r iblaien, a'i fod am ddarllen (iddynt y cyngor hwnnw. Yr oedd yn amliwg ioddiwrth red i ad y cyngor, mai ar ysgwyddau y blaenoriaid yr oedd rhan drymaf o waith bugeiliol yr adeg honno; ond erbyn heddyw eithriad ydyw i ,eghvys ,ford. heb fugail arni yn Nyffrjyn Clwyd. Yn He dauleisteddilad, trefnwyd i galel tri yn Rhuddlan y tro hwn, sef cael trafoda,eth am 5 o'r gloch ar "IGenradwri yr ,amgylchiadau presleninol i'r eglwys." Agorwyd yr ymddiddan yn rymus, gan y Parch. W. R. Owen. Abergele, a brodyr eraill \n dlilyn, a chred- wn y ceir ffrwyth daionus ac amserol o'r dtafodaeth. Y mae gwedd lewyrohu's ar yr Achos yn Rhuddlan. Yr oedd pregeithu yn cael lIe amlwig yn y ddau Gyf- arfod Misol) diweddaf, ond nid oedd pregethu yn (Rhuddlan, ond y ddwy noswaith, Net y Parch. Owen Owens nos lau, a'r Parchn. W. Llewelyn Lloyd, yr hwn sydd yn Gaplari gyda'r milwyr yn Kinmel, a Thomas Willliams, Caergybi, nos Wen,er. MARWOtLAETH A CHLADDEDIGAETfH MRS. Wm. JONES, BODGWILYM, RHYL.—Cymerwyd y chwaer ;rinweddal uchod, yrnaith yn, bur ddirybudd, bore dydd Miawrth, heb nemor gystudd, a pharodd y newydd brudd-der trwy y dref, gan ei bod yn ad- inabyddus (i gylich eang e,r ys talim o amser bellach. Yr oedd yn foneddiges rinweddol, dyner a oharedig yn aellod hynod o ffyddlawnae ymroddedig gyda igwai,th yr Arglwydd yn eglwys Clwyd Street, a'i phriod yr un modd yn aelod gweithgar, nid yn unig yn CIlwyd St., ond hefyd ynglyn a'r achos cenhadol ym iMIorfa bach. Yr oedd Mrs. Jones yn hannu o deuliu parchus yn Rhuddlan, ac yn chwaer i'r di- weddar Mri. Llewelyn a Charles Jones, Timber Mer- chants, yn y dref hon. Y mae dwfn gydymdeimlad a'r teulu galarus yn eu trallod. Y mae dau o'r meib- lion yn y, fyddin, ac, un ohonynt wedi bod adref o I 0 .e- Ffrainc ychydig amser yn ol, ac wedi cael y frairit o weled ei annwyl fam, y pryd hynny am y tro di- weddaf, a'r mab arall yn Canada er ys tro, ac ar fedr dychwelyd, os nad erbyn hyn wedi cyrraedd Prydain, i ymuno a'r fyddin. Y mae yn chwith meddwl, nad ,oes yn aros o deulu lluosog y 'Cwybr,' v He y magwyd Mrs. Jones, ond ei chwaer, sef priod yr llenadur Maurice Jones, Y.H., Pwlilheli. Cafodd ein chwaer ymadawediig angladd deilwng o'i chymer- iad prydferth, yr hyn a gymerodd le dydd Gwener di- weddaf yn mynwent y dref, pryd y daeth tyrfa yng- hyd o feiibion a merched. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parchn. W. J. Jones, B.A., eglwys Seisnig Princes St., R. Richards, E. James Jones, M.A., a Lewis Owen. Yr oedd hefyd yn bresennol y gweiniidogion canlynoT:-Parchn. W. Lloyd, J. Rob- erts, R. Hughes (W.), E. T. Davies (B.), R. Wil- liams, Towyn, E. W. Evans, «,M.A., a D. Jones, Rhuddlan. R.R.
GAIR 0 MESOPOTAMIA.
News
Cite
Share
GAIR 0 MESOPOTAMIA. Ar bryuhawlli yr ail Sul yn Hydref, pa sawl aelod o Ysgoliion Sul C'ymru oedd a'i feddwl a'i galon fit- oedd o filltiroedd i'r Dwyrain? ,Pa sawl, mam a thad oedd a'u gWleddiau am eu meibion yn rhyfela yn Hen Wlad y Caethiwed? Llawer iawn ohonynt, ni dybiwn a oh red wn y buasai'n gymorth callon i'r cyf- ryw famau a thadau pe gwyddent fod amryw o'r igwrolion ieuainc aT y prynhawn uchod wedi ym- gasglu ynghyd i addoli eu Duw yn yr hen 'aeg' ac i weddio Duw ar ran eu car a'u ceraint filoedd o fill- tiroedd i'r Gorllewin. M'ewn ysitafell fechan wyngalohog mewn tre yng ngwlad y Ddwy Afon, yn yr ardial lie treuliwyd caethiwed yr Israeli aid, ac nid pell o Ardd Eden, o fedd y proffwyd Ezra, o ddimas Babylon, ac o Ur y Caldeaid, cynhaliwyd gwasanaeth i Gymry'r fyddin. .Nifer y gynulleidfa ydoedd rhyw bump ar hugain, a diau y iDuasiai, rai ugeimau yn breseTinol onibai am ddiffyg an-iser i'g,yhoed-di'r cyfarfod. I'r Parch. D. J. Davies, M.A., o Fryniau Cassia, mae'r diolch am yr ynigyntulliad ac am yr ystafell. Yn ei swydd o Ysgrifennydd i'r Y.M.C.A. daw efe i gyffyrddiad agos a'r Cymry ac nid llai ei weithgarwch na'i gar- iad at ei wlad. Arweiniwyd yr addoliiad-gan Mr. D. Evans, B.A., gynt 0 Gilycwm, Llanymddyfri, yn awr yn breifat yn yr R.A.M.C. Dechreuwyd trwy ganu "Peiohadur wyif, 0 Arglwydd, Yn euro- wrth dy ddor," ac wedi darllen y bennod gyntaf o Epistol Iago, canwyd e,to "Beth sydd imi yn y byd," ar y don "Aberystwyth," a mawr yr hwyl wrth ganu y dan odidog hon. Yna gweddiwyd yn nerthol dros ben gan y pregethwr, a chanwyd "P,en Calfaria." Cafwyd pregeth hyf gan Mr. Evans ar Iago i. 24. Yn fyr, cynnwys ei bregeth oedd y ddwy agwedd ar grefydd a weldr yn yr adnod hon,. i. Yr agwedd gymde'thasol, neu y cysyllitiad rhwng crefydd dyn a'i gyd-ddyn. 2. Yr agwedd bersonol, neu effaith cref- ydd dyn ar ei fywyd ei hun. Terfynwyd y cyfarfod trwy weddi IgaalY Parch. D. J. Davies, M.A. Awd adref gan deimlo'n hapuSi ein bod wedi cael y fath gyfleustraji ,addoli Duw yn iaith ,ein mamau, ac i gyd-gwrdd a chyd-siarad am y wlad, a'r bobl, a'r pethau sydd yn anwylaf gennym. s Dewi J. WILLIAMS, Lieut., 13th Divisional Cyclists. (gynt o Aberystwyth).
PA FAINT?
News
Cite
Share
PA FAINT? Pa faint o ymoslodiladau bilious ydych wedi gael ? Os ychydig dylech fod yn ddiolchgar Os llawer, yna yr ydiych yn haeddu oydymdeimlad. Ond ni wna cydymdeimlad eioh gwella na'ch rhyddhau o'r an- hwylder hwn. Ac. y mae'r anhwylder yn oodi, fel, y gwyddom, oherwydd gweithrediad beius Yr afu. Y mae'n amlw,g felly, er bod yn rhydd oddiwrth Bilious- ness neu gur yn y pen,, rhaid i chwi gadw yr organ bwysdg hon -or oorffmewn gweithrediad iachus. Ar hyd yr holl flynyddoedd y mae Mother Seigel's Syrup wedi bod gerbron y cyhoedd, nid yw wedi bod yn fwy llwyddiannus gyda, dim nag mewn, concro neu atal biliousness. Y mae gennym brawf o hyn gan filoedd o bobl sydd wedi tystio yn wirfoddol i'r ffaith., Mirs. Robins, Walnut Tree Hill, Charlton, Wilts., a ddywed Er pan yn blentyn ieuano iawn blinid fi .gan Biliousness. Ond rhwng yr oedran 0 16 a 21 oedd fy adeg waetbaf. Yr oedd cur yn y pen yn gyffredin iawn, ac yr oedd yr anhwylder yn parhau am dri diwrnod gyda'u gilydd. Ar ol un botelaid o iMother Seigel's Syrup, teimlais yn cael lies, a darfu d bedair potelaid fy ngwneud yn iach, ac yr wyf wedi bod yn holliach hyd yma cyfnod o tua 30am mlynedd." Yr hyn a wnaeth Mother Seigel's Syrup i Mrs. Robins fe all wneud i chwithau. Rihoddwoh brawf arno heddyw.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Gwersi Esbonladol AR JAil Epistol Paul at y Corinthiatd. GAN Y PARCH. T. E. DAVIES, TREORCHY. Pris 1/3 drwy y Post. I'w cael oddiwrth yr Awdwr neu 0 Swyddfa'r "Cymro," Dolgellau. r
CYFARFODYDD MISOL.
News
Cite
Share
C.M. ddatgan barn ar y priodoldeb o'i chynnal yn y dyfodol. iRIhoddodd, y Parch. D. Da vies, Conwy, rybudd o gynhygiad, Ein bod yn gwneud i ffwrdd i 'Chymanfar Bobl leuainc." Cafwyd adroddiad o Gymarifa Didirwies-tol Arf-o-n a Dyffryn Conwy, gan y Parch. R. Williams. M.A., Glan Conwy, ac o Gymdeithasfa Connah's Quay gan y Parch. 0. Sel- wyn Jones a Mr. J. Jones, Croesiengan. Datganwyd llawenydd oherwydd fod hen aelod o'r C.M., y Parch.. T. Gwynedd Roberts, wedi ei ddewis yn Llywydd y Gymd'eithasfa, a phasiwyd i'w longyfarch yn serchog. Datganwyd cydymdeimlad a Mr. W. Hughes, Y.'H., Llanrwst (colli ei fam) Mr. Richard Owen, Llandudno (colli mab); Mr. Ben. Jones, Llandudno .(colli chwaer); y Parch. John Jones (Khasia), mewn llesgedd, a gofynwyd i'r Parch. W. Thomas, Llanrwst, ymweled ag ef; Mr. O. Owens, blaenor o BwHheli, sy'n aros yng Nghollwyn Bay, mewn gwael,edd trwm, ac arohwyd ar y Parch. Ezra Jones i ymweled ag ef; Major Wheldon a Miss- Whel- d'o'n, marwolaeth eu tad (y Parch. T. J. Wheldbn, B.A.). Gofynwyd i'r Parchn. Wm. Jones,, Conwy, a W. Thomas, Llamrwst, dynnu al'lan benderfyn-iad ar hyn, a phasiwyd ef yn ddiweddarach yn y dydd. Datganodd y C.M. ei lawenydd a ddeall fod Mr. R. Tudor Owen, mab i,'r Parch. W. Owen, Gyffin, wedi derbyn y Military Medal am ei wroldeb ar faes y gwaed Darllenwyd llythyr cyflwyniad y Parch. Hugh Jones,, Colwyn Bay (Tyldesley gynt), o G.M. Manchester. Rhoddwyd derbyniad serchog iddo. Cafwyd hanes yr achos a phrofiad y Siwyddogion a dan arweiniad y Parch.Evan Davies. tHysbysodd y Parch. W. Owen, ar ei ran ef a Mr. Owen Williams, Eglwyshach, fod yr ymgeisydd am y weinidogaeth (Mr. E. H. Morris, B.A., Bettwsyooed) wedi derbyn cymeradwyaeth cyffvedinal yr eglwysli. P-enoidwyd, y SParoh. H. H. Roberts, B.A., i ymddiddan ag ef a'i holi am ei wybodaeth yn y C.M. nesai. Cynhehr y C.M. nesiaf yn RieiQl Scotland, Llanrwst, Rhagfyr 13. Mater, "Y Sacramentau." I agor, y Parch. S. T. Jones. Ar gynhygiad y Parch. R. R. Jones, pasiwyd —"Fod swyddogion y C.M5a dau frawd o bob dos- barth i, ffurfio Pwyllgor i enwi personau ar gyfer swyddau y C.M., ac inad oesi neb o'r Pwyllgor i'w henwi ar gyfer y swyddau hyniny." Trefn a Chyn- -haliaeth y Weinidogaeth.—Cyflwynodd y pwyllgor ei adroddiad trwy yr ysgrifennydd, Mr. R. Davies, Deganwy. Derbyniwyd yr adroddiad a phasiiwyd ei fod i'w argraffu a'i anfon i holl flaenoriaid yr eg- lwysli a'r gweinidogiion, a'i fod i fyned o dan ystyr- iaeth y CyfaTfodydd Dosibarth, ac adroddiad i'w ddwyn i G.M. Rhagfyr. Dirwest a, Phurdeb.-Cyf- lwynodd yr Ysgrifennydd (y Parch. R. Rowlands) ei adroddiad, a chafwyd anterchiad ar ddirwest gan y Parch. Hugh Edwards, Colwyn, ac arburdeb gan y IParch. R. Williams,, M.A. Ar gyny,giad Mr. O. W. Roberts, pasiiwyd ein bod yn datgan ein. gwerthfawr- ogiad o waith y Bwrdd Llywodraethpl Canolog (the Central Control Board) yn cyhoeddi Tywysogaeth iCymru a Mynwy yn scheduled areas, a'n bod yn ,gofyn i'r Llywodraeth wneud gorchymyn y bwrdd yn ddeddf arhosol. Ar gynhygiad y Parch. D. Davies, Conwy, pasiwyd "Einbod yn dymuno gwasgu ar y Control Board y pwysigrwydd o geisioi atal y cyn- nydd difrifol sydd mewn ymyfed ymhlith y merched. Ac yn wyneb archeb y Swyddifa Gartrefol i gau mas- nachdai y wlad yn gynarach, ein bod yn gofyn ar i'r Bwrdd gyfyngu etc ar orilau gwerthiamt y diodydd meddwol." Ar gynhygiad Mr. J. Owen, Y.'H.. Af- allon, Llandudnio, pasiwyd y penderfyn.iad, "That the Vale of Conway Monthly Meeting (Presbytery) .of the Welsh Calvinistic Methodists- desire to place on record their very grateful and'hearty appreciation otf ithe magnificent work done by the Y.iM.C.A. in serving the army and navy at home and abroad. Whilst realising the terrible temptations, to intem- perance and impurity our young men in the army and navy are subjected to, we are fully lawar,e.of and acknowledge the successful efforts of the Association in combating such temptations., and we pledge our- ,selves to render every support in our power to its effort." Ar gynhygiad y Parch. O. Selwyn Jones, pasiwyd 1 gael trafodaeth ar gwestiwn y fasnach feddwol yn ei wahanolaiweddau mewn C.M. dyfod- iol, ac fod trefnu ar gyfer hynny i'w ymddiried i'r Pwyllgor Dirwestol. Oherwydd diffyg amser, gohir- iwyd agoriad Mr. Pryoe T. Williams ar rai agwedd- au i gwestiwn cynhaliaeth y weinidogaeth hyd G.M. Ionawr. Garwodd y Parch. D. Davies sylw at y doll, la godir gan y Llywodraeth ar gyfarfodydd lie y oodir Ital am fyned i mewn iddynt. Penodwyd y Parch. D. Davies, Mr; J. Owen, Y.H. a Mr W. J. Williams, YJH., yn bwyl lgior i edrych i fewn i'r mater er cyfar- wyddyd i'r 'eglwysi. Dierbyniwyd a chadarnhawyd adroddiad y Pwyllgor Ariannol. MYNWY.—Mount Pleasant, Ebbw Vale, Tach. 8. iLlywydd, Mr. R. More, Caerdydd. Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddi gan y Parch. Evan Williams, Cwm. Dierbyniwyd llythyrau yn cydnabod cydym- deimlad oddiwrth Mri. Wm. Davies, Bargoed, John Davies, Glen View, Casnewydd, T! Hughes, Ebbw Vale, T. Rhys Williams, M.E., Blaina, a'r Parch. J. Vardre James, Newbridge. Derbyniwyd llythyr oddiwrth y Parch. T. Bo wen, Caerdydd, yn gofyn am ganiatad i ymwel'd a'r C.M., o barth i 'Gronfa i Gynorthwyol Ganolog y Gymdeithasifa. Pasiwyd i'w wahodd i'r C.M. nesaf, ac hefyd fod un cynrych- iolydd i'w ddewis gan bob dosbarth er ffurfio pwyll- gor i gyfarfod ag ef yr adeg honno fel ag i hyrwyddo gwaith y Gronfa yn y Sit. Derbyniwyd llythyr oddiwrth y Parch. Evan Davies, Blaina, yn, hysbysu ei fod oherwydd amgylchiadau neilltuol yn analluog i fod yn bresennol i holi y blaenoriaid newyddion, a dewiswyd y Parch. T. J. Edwards. Abercarn, i gym- ryd ei Ie. Cafwyd anerchiad rhagorol gan y Parch. W. Henry, Lerpwl, ar y Genhadaeth Dramor. Cyf- eiriodd at waith a llwyddiant y Genhadaeth, ac apel- iodd yn daer am gasgliad arbennig eleni er oeisio dileu y ddyled sydd ami. Diolchwyd yn gynnes i Mr. ,Henry am ei anerchiad grymus, ac addawyd iddo y buasai y casgliad yn cael sylw arbennig y flwyddyn hon. Hysibysodd y Parch. T. Probert, fod y brodyr oanlynol wedi eu dewis yn flaenoriaid gan eglwys y Rock: Mri. John Evans, W. Davies, Henry Morgan, a David Wilding; ac hysbysodd y Parch. T. J. Edwards, fod eglwys Bridge St., Coed-duon, wedi dewis y brodyr" canlynol yn flaenoriaid: Mri. J. Morgan, Llewelyn, Morgan, Edward Thomas, a T. Williams. Derbyniwyd yr adroddiadau, a chad- arnhawyd hwynt. Penodwyd y brodyr a ganlyn i ffurfio pwyllgor i ystyried materion arbennig am y tro, set y Parchn, J. P. Millward, Evan Price, E. Roderick Jones, a Mri. J. M. Churchill, D. Evans, John Wiatkins, Y.H., A. Hughes, Daniel Thomas, a David Evans, M.E. Cyflwynodd y Parch. D. L. Jenkins adroddiad y pwyllgor hwn a phrenderfynwyd fod y TTysorydd ar amodau neilltuol, i d,alu yr hyn sydd yn ddyledus ar Aberbargoed ac ar y tir sydd yn Ynysddu. Rhoddodd Mr. R. W. Jones, B.A., Y.H., rybudd o gynygiad y buasai yn y C.M. nesaf yn galw sylw at y priodoldeb o ddiddymu y pender- fyniad a basiwyd yn C.M. Blaenafon, o barth i wein- yddiad cyllid y Drysojifa 'Sa.rol. Pasiwyd fod mater eglwys Niantyg10 o barth i adnewyddu lease y oapel a'r tai i'w ymddiried i'r Hen. S. W. Jones, Y.H. Yn unol a chyfarwyddyd y Pwyllgor Ariannol, can- iatawyd i Pontnewynydd newid nodyn am Z250 i un am Z150; Aberbargoed i newid nodyn am £200 ac Ynysddu i newid nodyn am yr un swm. Yn unol a phenderfyniad y C.M. blaenorol, cafwyd anerchiad gwerthfawr gan Mir. 'R. W. Jones, B.A., Y.H., ar sefyllfa yr Ysgol Sul a'i gwaith, a'r an,genrheidrwydd i geisioi lluddias y lleihad cyson sydd yn cymryd lie yn rhif yr. aelodau. Wedi cael ymdriniaeth faith a phwyllog, pasiwyd fod y mater i, gael sylw arbennig eto yn y C.M. nesiaf, acfod y Parch. G. II. Havard, M.A., B.D., i'w agor y pryd hwiinw. Hyslbyswyd fod pregethwyr ieuainc i'w derbyn yn y C.M. nesaf, ac apwntiwyd y Parch. W. H. Cooper, Abertysswg, i'w holi ar yr achlysur. Cafwyd hanes yr achos yn y lie gan dri o,'r blaenoriaid, sef Mri. John Williams, Henry Maynard, a James Jones. Dywedid fod yr eglwys yn dangos llawer iawn o- ymdrech a ffyddlon- deb gyda holl ranoau y gwaith. Yr oedd yr Ysgol Sul yn llewyrchus. Tysitiai yr archwilwyr, y Parch. Owen Evansla Mr. W. Rowlands, Abertillery, fod llyfrau yr eglwys yn cael eu cadw yn, ganmoladwy, ac eu bod yn dangos fod y mwyafrif o'r laelodau yn haer a ffyddlon tuag at yr achos. Ar gynhygiad y mail] ac eiliad y llall, derbyniwyd yr adroddiad gyda iboddhad. Pasiwyd i anfon cydymdeimlad a'r per- sonau canlynol:—Mr. W. Thomas, Caerleon, ar farwolaeth ei ifab, Corporal W. Thomas, yr hwn hefyd oedd yn bregethwr ac yn efrydydd yn Nhref- ecca, cyn y rhyfel; Mr. Lewis, Williams, Newbridge, ar farwoilaeth ei chwaer; Mr. Daniel Davies, Rhym- ney, yn' ei -afiechyd a Mr. T. Hughes, Ebbw Vale, yn ei waeledd. Am dri o'r glooh, ordeiniwyd y brodyr canlynol i gyflawn waith y flaenoriaeth, a derbyniwyd hwy yn aelodau o'r C.M. Mini. J. J. Davies, J. Lewis Jones, G. M. Humphreys, John Rees, W. Evans, a Dr. Richards o eglwys Bethania, Bargoed, a IMri. Llewelyn Morgan, Edward Thomas a John IMorglan o eglwys Bridge St., Coed-duon. Holwyd hwy yn hanreSi y Cyfundeb ac yn Erthyglau 5 a 6 o'r Gyffeisl Ffydd gan y Parch. T. J. Aberoarn, a rhoddwyd y cyngor gan Mr Dianiel Thomas, Rhym- ney. Offrymwyd yr urdd weddi gan y Parch. Evan Armstrong, Ebbw Vale. Pregethwyd yn yr hwyr gan y Parch. G. H, Havard, M.A., B.D., Abercarn.