Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
LLANEDI.
News
Cite
Share
LLANEDI. Treuliaf orig neu ddwy yn ddedwydd yn nhawel- wch ardal Llanedi ond cael y CYMRO i'm 11 aw. Yn ddiweddrar y daeth, felfy hunan, i'r ardal hon, ond enilla le ac enw iddo ei hun yn gyflym. Byddaf yn myn,'d am da:th weithiau i gymoedd poblog Morgannwg. Bum yno yr wythnos ddiwedd- af. Treuliais fy amser yn Penygraig a Merthyr Vale, a rhyfedd gynifer 0 ogleddwyr sydd yn y hyn. Cynhaliwyd yr Wyl Bregethu yn y He ddw^ddaf, Tach. ig; Y pregethwr oedd y Parch. R. J. Jones, Penygraig. Fel hyn y oanodd hen frawd ar ol yr oedfta bore Sul:— "Da waddas,ddi,wi,nydd WTO Bisigah, Besgwyd yn esboniwr; Domaugras daena y gwr, r Drwyddedwyd yn draddodwr." Merthyr Vale. E.W. Nos Lun traddododd y gwr o Pisgah ei ddarlith boblogaidd ar y testyn 0 Fon i Forgannwg via Canada." Treuliais amser hapus, a dy.chwelaf wedi'm Hani yn ddirfawr. Llanedi. R.T.D.
NODION 0 LEYN.
News
Cite
Share
NODION 0 LEYN. Tarawyd ardal Morfa Nefyn a dychryn pan ddaeth ynewydd fod Mr. Griffith Owen Jones, Penrhos, Morfa Nefyn, wedi marw yn Lerpwl. Ychydig dros bythefnos oedd er pan briododd a Miss JiQnes., Grai- anfryn, ac yn Lerpwl yr oeddynt yn treuUo eu mis mel. Mae Cymdeithas Ddirwestol y Merched wedi dech- re a ar waith y tymor gyda brwdfrydedd. Da yw gweled Miss. Roberts:, Ynys, yn dilyn. ei diweddar annwyl fain fel llywyddes a hynny mor fedrus. Mae eglwys y Bedyddwyr, Pwllh.eli, wedi rhoddi galwad i'r Parch. H. C. Williams, Cefn. Bychan, liwrecsam, i ddod i'w bugeilio, ac yntau wedi cyd- synio. Vr wythnos ddiweddaf rhoddwyd gweddillion Dr. Tho.mas, W. Hughes Trevor (gynt o Lanemgan) i or- ffwys yn mynwent Llanengan. Flynyddoedd yn ol yr oedd ganddo 'practice' helaeth a llwydddanniu's yn Llanengan, a thrwy wl,adl L,Ieyn,ac yr oedd iddo enw da fel meddyg medrus, a galwad fawr am ei wasan- aeth, ond Llyfrau yn.te cyfeillion sydd fwyaf eu dylanwad ar yr ieuanc" ydoedd testyn Cymdeithas P'obl leu- ainc Salem nos. Lun, dan lywyddiaeth Mr. W. Lewis, Garthewin. Agorwyd o blaid llyfrau gan Mri. J. D. LI. Hughes, ac Alun Evans, ac o blaid cyfeillion gan Mri. J. G. Jones a Glyn Wiilliiams. Caed mwyafrif mawr o blaid cyfeillion. Mae cyfeillion eglwys y Capel Isa, Abererch, wedi finion parsel i bob un o'r bechgyn. sydd gyda'r fyddin- at y Nadolig, a chyda phob parsel danfon- wyd llythyr pwrpasiol oddiwrth y gweinidog y Parch David Roberts. Islwyn" oedd testyn anerchiad y Parch. Robert Jones, B.A., Chwilog, i Bobl leuainc Capel yr An- nibynwyr nos. Lun diweddaf, a chlywsom. iddo gael h vvyl" dda. (Twelisom y Parch. W. J. Jones, Emlli, ar ol cael e garcharu yn yr ynys am wythnosau wedi gal'lu dod i'r Tir Mawr, ac yn troi am ddau Saboth i Lun- dain, Clywsom ei, fod yn darlithio- yno hefyd ar "YnIYSi Enlli." Cyrhaeddodd y newydd ganol yr wythnos fod Capt. Crimth Pritchard, mab Capt. Pritchard, Llwyn Beuno, Efailnewydd, wedi boddi yn agos, i Blyth, lie y suddodd ei long Muristan" y Saboth blaenorol. Mae y Parch. J. Pul,eston Jones, M.A., wedi rhoddi blwyddyn o rybudd i orffen ei gysylltiad a Chyfarfod Ysgol Dosbarth Pwllheli.
I ^.. "--""""'"" . LIVERPOOL.
News
Cite
Share
I LIVERPOOL. Nos Sadwin a'r Sul yr oedd y Parch. J. Williams, Brynsrencyn, yn cadw cyfarfod pregethu Newsham -Park gyda'r gweinidog, a nos Sadwrn caed y bregeth fawr honno-, "Cyfiawnder a ddyrchafa genedl, y bu son am dani ar 01 y bore Sul yn Aws,t yng Nghiin- mel Park yn y gwahanol newyddiaduron. Nos Sul caed "Deuwch ataf fi bawb." Yr oedd yn hynod rymus a gafaelgar, ac yn ddios y mae y pregethwr .goreu feddwn fel cenedl, ac wedi dal ei dir, ac yn debyg o'i ddal am flynyddoedd eto. Y mae yn awr o flaen y wlad er ys 34 o flynyddoedd, ac yn fwy grymus o hyd. Ni chlywais ei fod eto wedi pre- gethu yn y dddmas yn ei khaki. Hoffai llawer gael goliwg arno ynddynt.
LLANBRADIACH.
News
Cite
Share
LLANBRADIACH. lciafo, dd eglwys Moriah golled fawr iawn yr wyth- t. ddiweddaf yn symudiad. y blaenor, Mr. Edward James, oddawrth ei waith at ei wobr, Bu Mr. James yn ffyddlon, gweithgar ac haelionus iawn oddiar ddè:;hreuad yr achos yn y He. Efe oeddy blaenor hynaf. Bu yn drysorydd yr eglwys am 22 mlynedd. Cymeriad pur ac addfwyn ydoedd, o ddynoliaeth 'fine' wedi ei phrydferthu a gras, ac "yn dwyn mawr sel dros achos. y Gwaredwr, a'i gymeriad yn per- arogli. Ar ol demg niwrnod o gystudd, hunodd yn yr Iesu fore Gwener, Tachwedd 10, a chladdwyd yr hyn oedd farwol ohono y dydd Mawrth dilynol yn Ystradmynach. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parchn. T. P. Thomas (gweinidog), a T. Jones Dav- ies, Ffynnon Taf. Yng nghapel Moriah, cynhaliwyd gwasanaeth. Darllenwyd rhan o Air Duw gan y Parch. D. R. Beynon, Pontlottyn, ac ,arwe;niodd y Parch. IJ. N. Jones, Caerphili, mewn gweddi. Siar- adwyd ymhellach gan y brodyr canlynol: y gweini. dog, y Cynghorwr Griffith Morgan, Bedwas, Mr. Ruddle, Ystradmynach, Parchn Evan Thomas, Seng- henydd, Hbwell J. Davies, Casllwchwr, a T'. Jones Davies, Flynon Taf. Arweiniodd y Parch. H. J. Davies miewn gweddi ar lan y bedd. Chwareuwyd y 'Dead March' gan Mr. Roberts.. Y nefoedd fyddo yn nodded i'r weddw a'r mab a'r ferch yn nydd yr ys- torm.. Y Sul a'r Llun, Tachwedd 19 a- 20, cynhaliodd eg- lwys Moriah ei chyfarfodydd pregethu, pan y gwas- anaethwyd gan y Parchn. D. Teifi Davies, Hirwain, a D. R. Beynon, Pontlotyn. Cafwyd gweinidogaeth oragorol, a phrofion fod yr Arglwydd yn arddel y gweisAon.
MEIRION A'R GLANNAU.
News
Cite
Share
MEIRION A'R GLANNAU. Nos, Sul diweddiaf bu y Pairch. Hugh Ellis a Mr. Thomas Roberts, Maentwrog, yn cymryd llais eglwys Nazareth, Penrhyndeudraeth, ar ddewisiiad gweini- dog., Caed pleidlais, unol yn gwahodd y Parch. D. Perry Jones, Rhyd-ddu, Arfion, fel bugail, a hyderir yn fawr y gwel Mr. Perry Jones ei ffordid yn glir i gydsynio a'r alwad. Teimlir y bydd yr eglwys yn Sodus iawn. wrth sicrhau gwasanaeth gwr mm rag- c,ral. Gwnaed cais taer ac unfrydol gan eglwysii Seion a Rehoboth at y Parch. E. Jones Edwards am iddo drynnu yn ol ei ymddiswyddiad, ac y mae yntau wedi gwnieud. Nad oes, un bugail yn y wlad yn fwy dwfn yn serchiadau pobl ei ofal na Mr, Jones Edwards. Mae gweinidogion Dolgellau wedi trefnu cyfres o ddarlithiau atfisoedid y gaeaf. Traddododd y Parch. Wyre Lewis, Rhos, y gyn.taf—ar Rwsia,— yn Salem, nos Fawrth, y Parch. T. Mordaf Pierce yn. llywyddu. Caed darlith a chynulliad da. .Gwnaed dros, E300 o elw yn Sale y British Farmer Red Cross Fund, a gynhaliwyd yn Nolgellau ddydd Marcher, dan lywyddiaeth Mr. John Edwards, Tyddynmawr. Dewiswyd Mr. Alfred E. Hughes,, o Swyddfa'r 'Dysigedydd,' Dolgellau, i gynrychiioli'r dref ar Gyng- or Coleg Bangor. Collodd eglwys Saesneg Towyn hen aelod ffyddlon drwy farwolaeth Mrs. Howell Jones., gweddw Mr. M. Howell Jones. Cymerai hefyd ran fla,enllaw gyda symudiadau da eraill hyd nes y caethiwyd hi gan afiechyd poenus ddwy flynedd yn ol. Cafodd ang- ladd parchus, y diaconiaid yn cludo y gweddillion.
O'R YSTWYTH I'R DDYFI.
News
Cite
Share
O'R YSTWYTH I'R DDYFI. YMWELIAD A C'HARTREF. Bu y Milwriad Rea a'r meddyg hynaws Abraham Thomas adref ar ymweliad o wl,ad Pharaoh, y naill ar Hall yn edrych yn dda, meg.is pe byddai y bywyd caled yn. dygymod a hwy yn rhagoroil. €ANIADA,ETH Y CYSEGR.—Nos Saboth cyn y diweddaf cafodd diadell Salem M.C. oedfa o ganu yr emynau yn lie y bregeth arferol o dan arweiniad y Dr. Lloyd Williams. Trwy ysbrydiaeth y doethawr rho^^wvd vstvr a mvnegiant anarferol i'r hen emyn- au melus, a theimlwyd swyn adnewyddol mewn nifer o donau, megis, 'Adelaide,' 'Questa To-mba,' 'Lud- wig,' ac amryw eraill. Te.iimlad llawer o'r presenol- ion ydoedd fod yr oedfa wedi rhoddi nid yn unig .fwynhad ond hefyd fesur helaeth o fendith iddynt. Edrych: r ymlaen am. oedfa gyffelyb etc. 'Gwnaed casigliad arbenmig i anfon, cysuron i'r bechgyn perth- ynol i'r eglwys sydd yn gwasanaethu eu gwlad. Y V.T'.C.—Yn ddiweddar cynhaliwyd cyfarfod cy- hoeddus o dan lywyddiaeth y maer yr Hemadur C. M. Williams i'r diben o hyrwyddo ai,l sefydliad cang- en o'r corfflu uchod yn y dref a'r sir. Anerchwyd y cyfarfod gan, y Milwriad iDewi Evans, Arglwydd Raglaw y Sir, a Mr. S. R. Noble, boneddwr o Lun- dain. Cafwyd enwau nifer helaeth o aelodau ar ddi- wedd y cyfarfod y rhai, sydd bellach yn brysur 0 dan ddisgyblaeth. Y T.RIBUNLYS.—iBu nifer anatferol o aohoslion o fia,en y Tribunlys Gwledig ddydd Gwener, llawer ohonynt yn gyfryw ag i'w gwneud yn janhawdd i'r Ilys benderfynu pa gwrs i'w gymryd. Mewn llawer achos ymddengys y gall yr apelydd wasianaethu ei wlad vn llawer. gwell yn trin tir gartref nac yn .torri ffosydd yn Ffrainc. Ond gwyr pawb am yr angen gwirioneddol am ychwaneg o ddynion i drin y d-ryll a'r bidog er sicrhau buddugoliaeth achos, cyf- iawnder. Cwvn a glywir yn ami yn erbyn y Tribun- lysoedd yn y dosbarth hwn o'r wlad ydyw ei bod yn llawn mwy tvner ?yda'r ieuainc dibriod na'r priod a chartref a theulu yn dibynnu. amynt.
ADOLYGIADAU. --
News
Cite
Share
ADOLYGIADAU. DWY DON A DWY ANTHEM. Cyfansoddwr y ddwy don. yw y Proff. T. J. Mor- gan, Cwmbach, Aberdar. "TriiSlant yw enw uh— ar y. geiriau 'Iesu tirion, edrych arnaf,' ,&c. Y ma y d6n a'r gair yn ieuad holllol gyfaddas, a'r gerddor- iaeth wedi ei gweithio yn gywrain, ac eto yn hollol haturioj. Diau o'i hymarfer y daw yn eiddo y werin, ac y bydd canu cyffredinol arni ymhen ychydig am- ser. "The Benediction" yw y 11a,11. Y mae gan amryw o'r cerddorion gerddorilaeth ar y Fendith Apositolaidd," a dyma un eto, a fydd yn gynorthwy i feithrin ysbryd defosiynol yn ein cynulleidfaoedd. Da fivdd eu canu ar ddiwedd y gwasanaeth yn lie rhuthro alilan. DWY ANTHEM. Cyfansoddwr y ddwy yw Mr Evan Poley, L.T.S.C., Troedyrhiw, Merthyr. Y mae yn dda gennym weled y brawd ieuanc yn ymwthio yn y blae'n. Yr oeddwn yn gyfarwydd iawn a?i hynafiaid, ac a'i rieni. Bu ei dad yn ysgrifennydd Eglwys Capel-y-Cwm am flynyddoedd hyd dranc. Fe elai Plant at Iesu Grist" ydyw un. Golygir i'r anthem ysgafn hon, tebygol, fod yn benaf i blant, er y gall fed yn gyf- addas. i rai mewn oed. Rhed yn ystwyth, swynol. a gafaelgar,, Hyderaf yn fawr gael ei chlywed yng nghyfarfod-ydd y plant yn ein cymanfaoedd canu. "Plant Caethidn Babilon" yw y Hall. Y mae hon yn fwy cyfatebol i'r rhai mewn oed. Y mae yma amrywfaeth a nerth yn y gerddoriaeth. ac yn cyfleu syndadau y geiriau, yn wir ganmoladwy. Y mae ynddi newydd-deb amlwg, a ohynydda mewn nerth i'r diwedd. Llwyddiant i'n cerddorion ieuainc. W. SAMLET WILLIAMS. THE BUSINESS GIRL'S HANDBOOK, by Cecil Chisholim, M.A. London: Sir lsiaae Pitman & Sons, Ltd. Llawlyfr rhagorol i'w roi yn Haw merch ieuanc pan y mae yn son am adael yr ysgol neu'r cartref i ennill) bywoliaeth gyda masnach. Mae cynllun y llyfr yn un arbennig ar gyfer merched, ac yn cyfar- wyddo sut i geisio lie,, sut i gymhwyso ar gyfer, lie, a sut i gadw lie wedi ei gael. Pris y llyfr yw is. 6c. ]'I T.MAN'S SHORTHAND. Rapid Course. Lon- don Sir Isaac Pitman & Sons,, Ltd. Er pob cydymgais, llawfer Pitman yw y fwyaf poblo'gaidd drwy'r wlad, ac er fod y dyfeisydd wedd marw, parheir i berffeithio'r gyfundrefn. Mae'r llyfr hwn yn, cynnwys awgrymiadau newydd fydd o help "dirfawr i rai sydd yn ysgrifemnu llawfer yn ddigon cyflym i allu dilyn siaradwr. Ond yr amcan pennaf ywcynorthwyo i gymryd llythyrau a chyfarwyddiad- au masna.chol i lawr yn gyflym a chywir. PITMAN'S ENGLISH AND SHORTHAND DIC- TIONARY. Sir Isaac Titman and Sons, Lon- don. Dyma bedair rhan o eirlyfr newydd Saesneg mewn llawfer ae argraff cyffredin. Cwblheir y geirlyfr^ mewn tua 26 0 rannau wythnosol. Yn 1878 y cy- hoeddwyd y geirlyfr diweddaf, ac er yr adeg honno, mae wedi bod yn gydymaith cyson a gwerthfawr i ni. !Mae'r argraffiad newydd yn rhagori mewn llawer cyfeiriad, a chroesawir ef gan lawer o hen ddisgybl- ion. Syr Isaac Pitman, am ei fod yn gyflawnach, a cihywdrach nag argraffiad 1878, er rhagored yn ei ddydd oedd hwnnw.
TYiSTEiB Y PARCH. G. CEIDIOG…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
TYiSTEiB Y PARCH. G. CEIDIOG ROBERTS, LlLANLLYFNI. Cyhoeddwyd eisoes 16 0 0 Rev. John Owen, Anfield, Liverpool o 10. 6 "Cyfa.i.ll"—trwy law y Parch. John Owen 100 Rev. J. Morgan Jones, Cerrigydruidion o 5 o Riev. J. Evansi, Llangoed, Mon 0 5 o Rev. W. 0. Jones, B.A., Liverpool 1 1 o Mr. John Jones, Penpadrig, Rhosgoch o 10 o Mr. David Jones, Gellilydan, Maentwrog. 0 5 0 Mr. H. T. Owen, Tirionfa, Bl. Ffestiniog 0 2 6 Mr. R. O. Jones, C.S., Waenfawr o 5 o Mr. D. W. Thomas, Ffactri, Ll,anllyfn!i o 2 6 Mr. D. R. Daniel, Camberwell, London, o 10 o Mr. Robert T. Jones, Coedan, Rhosgoch. o 10 o Er cof am ei hen gyfaill "John Williams, Yr Ynys" 0 5 0 Parch. Edward Griffith, Meifod o 5 o iParch R. E. Morris, M.A., Wrexham i o o Parch. Ivor Williams, M.A., Menai Bridge 0 5 0 Mr. J. R. Roberts, 107, High St., Llanllyfni 0 5 0 Mr. E. Rowlands, Post Office Terr., eto o 2 6 Mr. W. H. Roberts, Moss Side, Manchester o 5 0 Trwy law Mr. 0. D. Williams, Llanfrothen-— Parch. W. R. Jones, Siloam 0 2 6 Mr. Cadwaladr Williams, Rhyd 0 2 6 Mr. David Parry, Ty'nyddol o 2 6 Mr. Griffith Williams, Bryngoleu 0 2 6 Mr. John Jones, Ysgol y Cyngor o 2 6 Mr. O1. D. Williams, Tanlan o 2 6 Mr. Robert Owen.,Morfa Glas 0 2 0 Miss Jones, Brondanw o 2 o Mrs,. Davies, Llwyn Onn o 2 0 Trwy law Mr. D. R. Jones, Glanrhyd, Llanwnda:— Mr. a Mrs. Jones, Bod Aden o 10 o Mr. D. R. Jones, Glanlrhyd Isaf o 3 o Mr. Hugh Williams. Garth y Gro 0 2 0 Mr. Griffith Owen,, Glanrhyd Farm 0 2 0 Mr. Owen Roberts,, Bay View Terr. o 2 o Mr. T. R. Thomas, 2, Glanrhyd Terr. o i o Derbynir y tanysgrifiadau yn ddiolchgar gan yr Ysgrifenyddion :— Mr. O1. W. JONES, Snowdon St., Penygroes. Mr. J. B. DAVIES, CL School, illanllyfni,
AR Y GAMFA. -
News
Cite
Share
Tybed nad yw sefyllfa y Trade mewn ami y I i dafarndy yn gyfryw ac y gellir ei brynu all an yn Jled rwydd, ond i'r Siroedd hyn fod yn effro i'r amgylchiad. Da fyddai gwneud defnyddi o honi, a byddai hynny yn rhagym- adrodd i gael ei gwell, pan y, del amser cyf- addas. '9 Y Gwirfoddolwyr. Y mae symudiad mewn rhai rhannau o'r wlad i ffurfio bydd in <> wirfoddolwyr. Beth fydd neges y rhai hyn nis gwyddom, os nad amddiffyn cartref. Y bendefigaeth. fel arfer sydd yn cymell y symudiad, ac ofnwn weith- iau m,ai rhywbeth 1 g'adw yr ysbryd milwrol yn fyw ydyw. Goreu po gyntaf i ladd yr ysbryd hwn ar derfyn. y rhyfel, canys un peryglus ydyw, a chrefft nad oes dim digoni ami. Y mae yn raddol yn ymwthio i bob cylch, ac os na roddir atalfa buan, fe gymer afael yn amgylchiadau dyn yn gystal a'i blant, a bydd pob teyrnas pan yr a yn bennaeth at ei alw, gan beri caethiwed a gormes yn holl gylcho-edd bywyd.