Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
J.. Cysondeb y Ffydd. J CAN DR. CYNDDYLAN JONES. • i. CYFROL I.—PERSON Y TAD. Pris 3/6; gyda'r post, 4/ r 2. CYFROL II.—PERSON Y MAiB. Pris 5 3/6; gyda'r post, 4/ 3, CYFROL III.-GWAITH Y MAB. Pris 3/6; gyda'r post, 4/ 4. CYFROL IY.—PERSON YR YSBRYD A'l WAITH. Pris 4/6; gyda/r post, 5/ i. Nid yw prynu un yn rhwymo i brynu'r lleill. 2. Dylai pob athraw a blaenor feddu y cyfrolau uchod er cyflawniad effeithiol o'u dyldswyddau. 3. Pwy bynnag a ddarlleno yr uchod' yn feddylgar a fydd wedi ei ddodrefnu yn dda yn yr athrawiaethau Crist ionogol. 4. Nis gall rhieni roddi gwell rhoddion i'w plant na'r uchod. I'w cael o'r Bookroom, Caernarfon, neu oddiwrth YR AWDWR, Whitchurch, Cardiff. ■ ARGRAFFU Adroddiadau Eglwysig, Ystadegau, Tafleni Gymanfaoedd, &c., &c. Yn brydlon a destlas, ac am y prisiau mwval rhesymol Anfoner archebion ar unwaith i- Swyddfa "r Cymrfl,' Dolgellau. ■ Use fop, SELF-RAISING FLOUR IT MAKES PERFECT PASTRY, SCONES, &c., &c. ? SOLE WHOLESALE A.«ENTS— MORRIS & JONES, Ltd., Liverpool & Manchester. SSfrV ITWIBWMIIiWWimWIIIII—BMlimillJilllJiMUlilWiWIl-IJUliUUJIlUAUllll-lLllilll .L _.J SASIWN LLANIDLOES, MEHEFIN 1916. Y Gwasanaeth Ordeinio I GYDA DARLUNIAU. I'w gael oddiwrth y PARCH. R. W. JONES, Aberangell, Mont. PRIS 3c. (Trwy y Post 4C.). SEFYLLFA BRESENNOL METHODISTIAETH YNG NGHYMRU. Mewn rhifynau jdyfodol o'r CymRo ym- ddengys cyfres o ysgrifau pwysig ar y. testun uchod g-an )' DR. CYNDDYLAN JONES.
CYMRYD PWYLL.
News
Cite
Share
CYMRYD PWYLL. GAN PLENYDD. TEMTASIWN i bob dirwestwr cywir, ac yn ar- bennig cywir a gweithgar, ydyw syrthio i'r camgymeriad o siarad yn chwyrn a barnu yn galed y dyddau hyn am gyfeillion sy'n ym- ddangos fel rhai'n teimlo fod ganddynt gen- adwiri a'u bod1 yn wdedyddion terfynau yr o-esoedd ac yn cyhoeddi eu canfvd'diad o'r gwyl'l. Amser y d'reth ydyw yn awr mewn byd ac eglwys, a dia,u mai problem fawr g-wleidyddlacth yn y dyfodol fydd yr un Gyllidol. Ni fum i yn ystod y deugain mlynedd di- weddaf, yn eistedd: o dan fwy o arholiadau na'r dyddiau hyn, yn arbennig yn y trens. Wele hanes un arholiad byr. Brawd1 bywiog, easy going, a thipyn yn ddawnus, oedd fy nghydymaith, ac meddai wrthyf, W el, Plenydd, mae hi'n mynd yn ych erbyn ch'i 'rwan, yn dydi? Mae'r preg-ethwrs i gyd dros brynu y Fasnach Feddwol." Gan bwyll, frawd," meddw'n innau, "nid yw y pregethwyr i gyd, ond gadewch roi pob chwarae teg i'r prynwyr i ddatgan eu barn, a rhoi rheswm dros y ffydld a'r gobaith sydd ynddynt. Fe ofala y Kaiser am roi digon 0' amsef i ni i oleuo a dwyn i'r goleuni fater y ddlod." Ond meddai"r cyfaill, Os clywais yn iawn mae yna gynllun a chynllwyn i gael cynhadl- eddau a phwyllgorau y Cyfundebau i roi eu llais ymhlaid y 'pryniant,' a gorche-st rhy fawr fydd! i ch'i na neb a rail eu troi'n ol wedyn. Gan bwyll eto," meddwn innau, pwy wyr pwy fydd byw pan bydd y rhyfel drosodd ymhen dwy flynedd neu fwy 7" Meddai yntau, "Mae'n siwr y bydd Asquith, a Lloyd George, a Syr T. P. Whittaker, Phillip Snowden, Will Crooks, Leif Jones, Syr Herbert Roberts, &c., byw, ne waeth heb siarad." Atebais innau, Gobeithio'r, nef- oedd y byddant, ac y ca'nt fyw yn hir. Ond beth os nad e' ? A phwy wyr i ba fath ddwylaw y syrthia awenau yr ymherodraeth? a chan fod arwyddion fod haul Prydain wedi pas,io"r Meridian beth ddaw o'n plant ni? A'm gair olaf i'm cyfaill oedd, Cymrwch bwyll," ond diatgenais fy marn oinest iddo na cherid mo ein bugeiliaid a'n gweinidogion ieuainc ar wyneb y cenlli marchnadol hwn. Y rhai sydd a phurdeb eu gofalaeth a diogel- vid, i moesol plant eu gobeithluoedd yn ddwys ar eu meddwl-gwir weithwyr g'winllan yr Icsu. Nid teulu "r pwyllgorau yn unig, nac yn bennaf, ond sydd gartref yn ddistaw wylio a phorthi praidd Duw, yr wyf fi felly 01 Ben Nebo' yn ymddiried i'r rhai hyn nad ant i gyfathrach na chytundeb a'r gallu a ddyru yr atalfeydd pennaf i'w llafur a'u hymdrechion. Ac wrth eraill hefyd yn ostyngedifr carwn ) T ddweyd, Nad oes modd ymladd diod a'i. gwerthu. Dywedbdd hen biwritan unwaith, nad yw y diafol un amser mor beryglus, a phan yr ymddengys fel gwr bonheddig." Mae arnaf ii fwy o ofn Drapery y Control Board na chynllwynion mwyaf beiddga,r y Darllawyr a'r Bragwyr. Arafwn, cymerwn bwyll.
APEL AT DDIRWESTWYR. ----\
News
Cite
Share
APEL AT DDIRWESTWYR. CAN PROFFESOR T. A. LEVI, M.A., B.C.L., LL.B. YCHYDIG amser yn ol dywedodd Mr. Lloyd George ein bed! yn ymladd yn erbyn Germany, Austria, a'r Fasnach Feddwol; a'r gelyn mwyaf oedd y Fasnach Feddwol. Achosodd y geiriau hyn y fath arswydi ar y Fasnach nes y cododd fel un. gwr yn erbyn Mr. Lloyd George, a bygythiwyd llwyddiant ein gwlad yn y rhyfel. Yn awr mae'r fasnach honi yn cynnyg gwerthu ei busnes i'r wlad am rhyw dri 'chan' miliwn o bunnau, er mwyn gwaredu eu hunain rhag y golled sydd yn eu dal a thaflu'r cyfrifoldeb ar ysgwyddau'r wlad. Y maent yn gofyn i ni genedlaetholi'r Fas- nach Feddwol, a'i chario ymlaen dan nawdd Prydain Fawr. Nid ei chenedlaetholi er mwyn ei diddymu; buasai pawb o honom yn foddlon i hynny pe buasem yn cael sicrwydd mai gwaharddiad uniongyrchol oedd yr amcan. Ond ei chenedlaetholi er mwyn ei chario ymlaen. Y mae y peth yn ho.llol wrth- wynebol i egwyddor Dirwest. Wrth -'C,nedlaetholi'r Fasnach Feddwol, byddwn oil yn cymryd rhan ynddi. Mae yn wir ein bod yn cymryd arian oddi wrthi mewn. trethi yn awr, ond amcan hynny ydyw ei rhwystro*. Yn yr un modd yr ydym yn dirwyo troseddwr er mwyn ei rwystro, heb fod yn gyfrifol am ei drosedd. Ond yn awr gofynir i ni fyned yn dafarnwyr, nid i wahardd! (nid yw hy-iiny yn y cynllun, er fod cymaint o siaradwyr yn dweyd ei fod) ond i barhau i werthu diodydd meddwol. Pe buasem yn gwybod-mai i'n dwylaw ni y dirwestwyr yn unig byddai'r fasnach yn dyfod', byddai'n beth gwahanol iawn, oblegid byddem yn rhoi terfyn arni yn bur fuan. Ond nid nyni sydd yn ei chael, ond pawb yn gymysg, yfwyr a dirwestwyr, a'r canlYLtliad fydd cad'arnhau y fasnach yn y diwedd. Ar yr olwggyntaf, mae'r cynllun yn ymddiangos yn ddeniadol, ond profiad pob gwlad sydd wedi gwneud hyn yw fod y fasnacn feddwol yn gwthio i fewn i leoedd na welwyd erioed" mo honi yno o'r blaen, ac y mae diwedd y wlad honno yn waeth na'i dechreuad. Pa reswm sydd i ni adael y ffordd uniawn, a myned i gymryd rhan mewn masnach sydd ynddi ei hun yn bechod yn erbyn Duw? Yr ydym yn credu ac yn gwybod mai y fasnacli hon ydyw gelyn pennaf Eglwys Crist, ac y mae teyrngarwch i'r Arglwydd lesu yn galw arnom i ymwrth- od 3. hi yn llwyr neu ei gwahardd ar unwaith. Mae'r cynhygiad wedi dyfod oddi wrth y fas- nach feddwol ei hunan, yr hon sydd yn adwaen ei pherygl yn well na neb arall. Pobl sydd yn wan ar ddirwest sydd yn pledio y fcyohygiad; y mae ymladdwvr goreu dir- west wedi bod yn erbyn y cynllun erioed. Dywedir y byddwn yn lladd y vested interest wrth wneud hyn; ond byddwn yn creu vested interest ddeg g'waith cryfach. Un peth ydyw lleihau nifer y tafarnau yma a thraw; canlyn- iad hynny yn ami ydyw cryfhau y gweddill. Ond peth hollol wahanol ydyw cael gwared o'r fasnach yn lIwyr. Ac wrth genedlaetholi byddwn yn gosod i fyny sefydliad newydd, yn cynnwys miliwn am bob mil o gyfranddalwyr sydd ynddi yn awr. Wedi'r cwbl nid y brag- wyr a'r tafarnwyr ond y diotwyr sydd yn cynnal y fasnach. A dyna maecenedlaetholi yn ei wneud ydyw gosod y fasnach yn 11 aw y diotwyr eu hunain. A byddant yn sicr o ffurfio cymdeithasau ymhlith eu hunain i sicr- hau na.fydd neb yn lleihau- dim ar eu manteis- ion i yfed; bydd y' cwestiwn yn gwthio i fewn i bob etholiad. Byddwn yn clymu y fasnach feddwol am ysgwydda,u "r wlad am genedl- aethau i ddyfod. Bydd pob trethdalwr yn myned yn ddyledus iddi, yn disgwyl wrthi i gadw'r trethi i lawr; bydd unrhyw leihad yn golygu codiad yn (y trethi, a bydd gan ddir-