Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

- PERSONOL.

News
Cite
Share

PERSONOL. "MAWR YW DY FFYDDLONDlEB. H Emyn. Am hedd y nos, am oleu'r wawr, Am ryfeddbdau'th ofa.1 mawr, Canmolaf Di, fy Nuw; Fy en aid wyr maida wyt Ti, A dod i'th borth sy dda i mi, Can's He y fendith yw. Bob dydd y'm oofiaist hyd yn awr, Fy ngh-cofio er fy angof mawr, A'm byw afradlon, pell; O'th bethau da y rhoddaist im', Pel na fu arnaf eisiau dim, Ond eisiau anian welL Na id fi mwy, na ad fi dhwaith Heb fara'r bywyd ar fy nhaith, Ac heb y dyfroedd byw; Gan drugarhau, 0 trugarha, A dyroJmigalon dda v/ ,■ I'th garu Di, fy Nuw. -Eifion Wyn. it Mae Dr. Rowlands, o'r London Hospital, wedi graddio yn M.D. (L-lundain),- ac yn M.R.C.P., yr un wythnos. H Y Parch. J. H. Lloyd Williams, B.A., Clynnog, sy'n debyg o gael ei alw yn fugail i eglwys Moss Side, Manchester. If Mae gweinidogon dosbarth Colwyn Bay yn cymryd i fyny gwestiwn addysg ddyfodol y preg-fethwyr. Darllenwyd papur gan y Parch. Robert Williams, M.A., a chaed dadl ddydd- orol. V f Wae Iarll Powys wedi gofyn i Esgob Llan- elwy enwi ficer i fywioliaeth y Trallwm yn olynydd i'r Archddiacon Davies. Da iawn. Nidpob blaenor Methodist fuasai yn gollwng cyfie fel yna or'i law. Er wedi symud i Lanymddyfri, ceidw y Parch. Joseph Jenkins rai o'i gyhoeddiadau yn y Gogledd. Bu yn darlithio ar John Jones gfydia'i hwyl arferol yn Ninbych, yr elw yn myned at gael cysuron i'r milwyr. IT Drwg gennyf glowed fod y Parch. R. H. Richards, M.A., Athro Cymraeg Coleg Llan- bedr, yn methu dilyn ei waith oherwydd af- iefehyd. Mae yn dra chymeradwy gyda'r efrydwyr, a phawb yn dymuno iddlo adferiad buan. „ H Mae eg-lwysi Anfieldi Road a Stanley Road, Liverpool, wedi gwahodd Mr. Owen Hughes, Clynnog-, i weithio fel 'cenhad'wr ynglyn a dwy ystafell genhadol,—Smith Street a York Hall. "U T 1 Gadawodd Arglwyddi Llangadog' gan' mil obunnau yn ei ewyllys at wasanaeth yr Eg- Ilwys. Sefvdledig yn archddia'coniaeth Mynwy. Mae amryw gymunroddion. eraill wedi eu gadael yng Nghymru vn ddiweddar. Bydid cylch eang o gyfeillion yn goftdio clywed fod y Parch. H. M. Hughes, B.A., Golygyddi y Tyst,' wedi ei daro yn wael iawn etc. Hyderwn y caiff wellhad buan. Gor- fodir ef i dynu yn ol bob ymrwymiad hyd ddiwedd Mawrth.. H "■ Cbfiwyd yn Coedpoeth am gan' mlwyddiant John Williams,' Erromanga, y Cenhadwr a hwyliodd aJlan i ynysoedd Mor y De ar y iBfed o Dachwedd, 1816. Dywedir fod rhywgysylltiad rhwng y fcienhadwr a Coed- poeth, ond nidi oes sail i hynny yn ei fyw- < graffiadau. IT Danghosir cryn frwdfrydedd mewn llawer o'r Cyfarfodydd Misol yn y De a'r Gogledd yn awr. igasglu hanes yr Achos o fewn y gwahanol Siroedd. Gwnaeth y diweddar Barch. James Morris wasanaeth aimhrisiadwy i Sir Gaer, a gwna y Parch. Samlet Williams gymwynas gyffelyb a Gdrllewin Morgannwg. Haedd'a'r gwyr da hyn y gefnogaeth wres- ocaf. I" -¡7 í. Nid llawer gaiff y fraint a gafodd y blaenor adnabyddu's, Mr. Yorwerth, Pontfaen, y Sul o'r blaen. Ei fab ddewiswyd yn Faer y dre', a'i frawd bregethai y bregeth iddo ef a'i gyd- aelodau ar y Cyngor. Y meibion a ddaw i anrhydedd, ac we'le dad wedi ei arbed i'w gweled. H Mae gohcbydd yn yr Oswestry Adver- tiser yn protestio yn erbyn gwaith Mr. Silyn Roberts yn canmol dull y Germaniaid o ddyagu gan ddangos eu rhagoiriaeth ar ddull y wlad yma. Tybiai Mr. Roberts onibai am y rhyfel y buasai Germani wedi ennill masnach y byd. ..„ ,'iT l Mae eglwys fechan Baduchaf wedi pen- fynu g-wahodd y Parch. Joseph John Jones, B.A., B.D., i ofalu am dani yn ychwanegol at ei ofalaeth a Siaron, Treforest. A da y gwnaeth, canys y mae yn gam yn yr iawn gyfeiriad, a gwyn fyd na wnelai llawer o eg- lwysi bychaineraill yn gyffelyb. f GWr ag y teimlir colled enfawr ar ei ol yw y diweddar Mr. Edward James, Llanbradach. Ni waeddai, ac ni pharai glywed ei lef ar yr heol, ond yr oedd yn halen y ddaear a gol- euni'r byd. Yr oedd yn byw i'r achos. Yr oedd iddo fel cannwyll ei lygad. Gwir ofal- odd am dano o'r cychwyn cyntaf, ac 0, na fedyddid eraill a chyffelyb ysbryd. II Gwelaf fod y Parch. J. H. Howard, Colwyn Bay, yn dwyn llyfr diweddar Oliver Lodge i mewn i'w bregeth. Pwnc dyddorol iawn i bawb sy'n meddwl neu'n wylo, a cheir ef yng nghredo1 pob crefydd ymron er dechreu'r byd. Y perygl yw myned i geisio cymundeb a'r marw drwy gyfryngau amheus. Dyna sydd yn ddamniol i lyfr Oliver Lodge, a phriodol ac amserol yw rhybudd Mr. Howard. if Yn ffiermdy Tynbryn, Cwmystwyth, Cered- igion, mae yn byw ddau frawd, sef Morgan a Richard Howell, a dwy nith iddynt, Gretta a Lizzie Anne Jones. Mae ymenyn Tynbryn yn cael ei ystyried ymhlith y goreu yn yr ardal, ac mae wedi ac yn cael ei werthu am yr un bris a chyn i'r rhyfeJ ddechreu. Nid rhyfedd fod teulu o'lr egwyddor yma, mor barchus a phoblogaidd. Dyma beth ydyw enghraifft o wir wladgarwch. if Y Gadair Wichlyd oedd testun diarlith Golygydd galluog ac adnabyddus y Brython y nos o'r blaen, ac fel y canlyn y disgrifid hi ar y posters: Cadair Gymreig yw hon, heb unrhyw addurniadau Seisnig nag Ellmynig yn agos ati. Ni eill unrhyw stormydd rhag1- farn na gwyntoedd estron ddifwyno dim arni. Yr ysbryd Cym'reig a,'i gwna yn un 'wich- lyd,' ond 'Er gofwy hi sai'n dragyfyth, A champ i bomb, ei chwympo byth.' H Mr. Richard Jones yw ysgrifennydd gweithredol Cyfarfod Dosbarth Aberystwyth. Efe hefyd yw ysgrifennydd eglwys Salem. Erbyn hyn efe yw'r unig Richard Jones o flaenoriaid Aberystwyth. Hyd yn ddiweddar yr oedd yn un o dri Richard Jones, ac yn un o ddau a ddewiswyd yr un pryd yn flaenoriaid yn Salem. Bu farw Mr. Richard Jones, Siloh, ychydig yn ol, ac y mae'r Richard Jones arall, Prifgwnstabl Sir Feirionydd, yn flaenor yn Salem Dolgellau. Yn Aberystwyth] hefyd, ni raid gwaharfiaethu mwy rhwng y ddau Mr. David Lloyd. f Y maecyfarfod. mawr o blaid1 i'r Llywodr- aeth brynnu'r Fasnach mewn Diodydd' Meddwol, i'w gynnal yng Nghaernarfon ddlydd SadHvrn nesaf. Disgwylir y Gwir An- rhyd. Syr T. P. Whittaker yno'n brif siarad- wr; Arglwydd Raglaw'r Sir (Mr. J. E. Greaves) fydd yn y gadair; a'r rhai'n i siarad hefyd Maer y Dref, Mrs.. Lloyd George, Mr. E. J. Griffith, K.C., A.S., Mr. Ellis Davies, A. S. ac yr oedd -enwau'r gmlr a ganlyn wrth y cylchlvthyr yn ga1w'r cyfarfod y Par-chn. Dr. O. Davies, Caernarfon; T. Hughes (Icyn- Iywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru), Felinheli; J. Williams (Brynsiencyn), a Mr. W. G. Thomks. -I_ _i. Cydymdeimlir yn gyffredinol a'r Parch. William Rowlands, Acrefair, ar farwolaeth ei fam. Ac yn ddiweddarach taflwyd ef i drallod arall drwy i'w nai gyfarfod a, damwain angeu- ol yng ngorsaf Lime Street, Liverpool. Nid oes ond ychydig amser er pan y mae Mr. Rowlands wedi gwella o afiechyd difrifol, ac ar y cyfrif hwnnw yn ogystal ag ar gyfrif ei wasanaeth a'i barch drwy yr holl wlad, fe ddanghosir cyd'ymdeimlad dwys ag ef yn y profedigaethau hyn. IT Bydd yn dda gan ddarllenwyr Iluosog y CYMRO glywed am lwyddiant mawr y Parch. R. R. Davies yn yr Unol Daleithiau. Mae galw mawr am dano i bregethu yn y prif wyliau yn America. Yn awr, mae wedi ei ethol yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol, a hynny ymhen tair blynedd wedi ymsefydlu yn weinidog ar eglwys y Methodistiaid yn Wilkes-Barre. Mae ei g-yfeillion yn yr Hen Wlad yn ei longyfarch yn wresog ar ei ddyr- chafiad i'r swydd bwysig hon. IT Y mae'r Henadur athrylithgar o Aberaeron wedi cyfansod'di bellach ei burned carol ar hugain. Cenir y rhai'n yn y plygain a, gyn- helir yng ng'hapel y Methodistiaid yno bob Nadolig, ac ymddengys y carolau, wedi eu rhoi ar gan gan Mr. L. J. Roberts, M.A., yn y Cymru, cyn eu cyhoeddi ar wahan. Dy- wedai sywedydd o Sir Aberteifi fod gan Mr. J. M. Howell, Y.H., 'kal,eido-sco;pe ysbryd- ol i ganfod amrywiaeth ddiihysbydd l'liwiair a phelydrau Seren Bethlehem. Er ys rhai blyn- yddoedd darperir cyfieithiad Saesneg o'r caneuon gan Proff. Young Eivans, a da gweled y cydweithrediad yma rhwng yr ustus a'r athraw, rhwng Aberoedd Aeron ac Ys- twyth, heb son am Landudno. Y mae'r Ar- olygwr cerddgar yn hen gyd-drefwr i'r Hen- adur, a bu'n gyd-efrydydd a'r Proffes,wr yn Rhydychen. Gwyr y ddau diad o Aberaeron am bryderon ynglyn a'u meibion gwrbl, a da gennym am ddiangfaau y llanciau. Clywais frawd ffraeth yn dywedyd fod llawer o gyf- atebiaeth rhwng Mr. J. M. Howell a Mr. Haydn Jones, A.S. Y mae'r ddau'n gantor. ion, gwleidyddwyr, areithwyr a marsiandï- wyr haearn a phres, yr hyn a olyga nerth a pherseinedd.

CYMRU A'R RHYFEL.