Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CENEDLAETHOLI R 'FASNACH'?

News
Cite
Share

CENEDLAETHOLI R 'FASNACH'? •AN MB. HUGH EDWARDS, LIVERPOOL. An ol ymddangosiad fy ysgrif yn eidh colofn- au Tachwedd Iaf, yr wyf wedi Cael y pleser o ddarllen apel Dr. Cernyw Williams at ddir- westwyr Cymru, ac anerchiad y Parch. R. R. Williams, M.A., yng Nghynwyd—y ddau- yn gosod y cwestiwn yn glir a rhagorol ger bron y wlad, ac yn wrthwynebol i genedlaetholi. I raio honom mae yna rywbeth fine ac annwyl ac apelgar yn y gair Cenedl—ac y.mae'r syn- iad o gysylttu y fasnach feddwol yn glwm yn y genedl yn wrthun a dweyd y lleiaf. Beth am deuluaetholi'r "fasnach" 1 Yr oeddem yn meddwl fod y truce gwleidyddol yn parhau mewn grym tra parhao y rhyfel. Qwnaeth Mr. Asquith ddatganiad pendant yn erbyn dwyn "acute controversies1ymlaen, felly gofynaf ai teg a rhesymol codi'r cwest- iwn anf-erth o' genedlaetholi 'r fasnach yn yr argyfwng yr ydym ynddo fel gwlad ? A ydyw y sefyllfa bresennol yn y Senedd yn gyfryw, i roddi yr ystyriaeth briodol a theilwng i'r cwestiwn, er cael ei drafod a'i wyntyllio yn rhydd a manwl gan yr oil o'r aelodau? Y mae yn un yn gofyn am farn yr aelodau yn ddiwahaniaeth fel cyn- ,L. JJ'lljiJiLif1.11' wywMainmi— mm rychiolwyr yr etholwyr, a budd y wlad. Nid mater i'w benderfynu y tuallan ac yn anibynol ar y Ty ydyw o gwbl! A oes gan. y Llywodr- aeth mandate'? 'Coalition' ydyw y Llyw- odraeth bresennol, ac felly anaddas i gymryd i fyny bwnc mor eithriadol osedrychir arno o bob cyfeiriad. Tra parha y rhyfel echrys- lawn, angenrlieidiol yw ei adael yn llonydd— a bydded inni barchu y truce,' os ydyw mewn bod. Yn ystod helynt mesur oediad Deddf Dat- gysylltiad yng Nghymru, P'asc 1915, oofiwn i Mr. Lloyd George anfon llythyr maith, a rhyfedd yn nhyb rhai o honom, i"r Parch. Evan Jones, Caernarvon, yn galw ar Ym- neilltuwyr Cymru fod yn dawel a gadael iddo basio oherwydd yr amser enbydus oedd ger- llaw, ac nid ydyw hynny drosodd! Addaw- odd Mr. George yn y llyth'yr hwnnw i Mr. Jones'oSl byddai Cymru ymfoddloni-y bu- asai y Llywodraeth, gyda, cynhorthwy y Ceid- wadwyr, rywbryd, vbasio Deddfwriaeth o'r fath oreu; hyn fel gwobri Gymru am. ym- dawelu! A oedd Cenedlaetholi mewn golwg gyda Mr. George ar y pryd ? Pwy wyr ? Cofiwn, hefyd, pan y ceisiodd ef yn y Stenedd dro yn ol gael gwell rheolaeth ar y fasnach,' mewn canlyniad i'r dirprwyaethau ato o'r Clyde a lleoedd eraill—nid fel diirwestwyr ond, meistriaid ac arweinwyr gweithiol-yn wyneb yr amhosibilrwydd i gael digon o waith gan y gweithwyr; iddo fethu, ac iddo wneud y gyffesiad "to pledge himself not to touch again, drink politically." Drwgiawn oedd gennym, fel llawer eraill, i ddeall ei fod wedi cyfaddef ei orchfygad, ac yn enwedig fod gwr, sydd yn gwneud cymaint tuag.at goncro y gelyn tuallan i'r pyrth, yn gwneud y fath surrender' i'r gelyn 0 fewn y pyrth! Dy- wedodd Mr. Herbert Gladstone flynyddoedd yn ol, ar y pryd yn Brif Chwip y blaid-pan gollodd Syr Wm. Harcourt ei sedd yn Derby -yn bennaf oherwydd ceisio deddfu o blaid dirwest-" fod yn bryd i'r blaid, ryddfrydol fod yn glir oddiwrth y blaid ddirwestol, os oedd byth am ddyfod yn ol i allu. Rhybydd- iwn y cvfeillion yng Nghymru sydd o blaid xenedlaetholi, i ymatal yn ei hymgais. Nid ydym yn deall nac yn gwerthfawrogi ei sefyll- Z, h ynglyn a'r mater. Temtir ni i ofyn pwy a'u lIygad-dynoddfely Galatiaid gynt? Dy- wedwyd yn yr ysgrif ddiweddaf fod yna ryw ddiniweidrwydd, ac ychwanegwn yn awr— arwynebedd yn y dull y maent yn ymddangos yn sylweddoli y broblemy maent yn hynod galon-ysgafn. "Prynwch y fasnach, i'r wladwriaeth ei chario ymlaen, a dyna bopeth yn iawn :a throsodd." Y mae'r llywodraethau yn newid-a chofier ei bod yn axiom wleidyddol nas gall un Llywodraeth rwymo un ddilynol. Ofnwn fod yr idea o genedlaetholi wedi myn'd dipyn yn ffasiynol gyda rhai dynion, ac y mae hynny yn ddigon i eraill i'w canlyn er mwyn bod yn y ffasiwn. Y mae yn beth mor hawdd, ac nid oes angen meddwl ac astudiaeth. Clywaf am weinidogion a lleygwyr yug Nghymru yn y d'osbarth yma-a rhai o honynt heb fod yn y gorffennol yn flaenllaw ac ymosodol gyda'r achos dirwestol! Pam y mae angen i Gymru Ymneilltuol gymryd y pethau i fyny mor boeth y dyddiau I p hyn? A oes angen ? Nac oes. Masnach estronol i raddau mawr ydyw'r Fasnach iddynt hwy mi dybiaf, cyn belled ag y mae ei pherchenogaeth yn myned. Pwy ydyw per- chenogion tafarndai y Dywysogaeth yn ben- naf ? Onid Cwmniau Darllawol Lloegr. Cymered y Cymry gymaint a hynyna i ystyr- iaeth. Pwy awgrymodd fod i'r Fasnach i gael ei phrynu gan y Wladwriaeth? Y fasnach ei hun yrite Mr. Lloyd GeQlrge Byddai prynu y fasnach er mwyn ei diddymu ar un waith yn hollol wahanol i'w phrynu a'i chario ym- laen fel masnach genedlaethol. 'Does dim sicrwydd am y cyntaf-not even a scrap of paper." Dfywedir fod cynllun Mr. Lloyd George i brynu allan y fasnach wedi cael ystyriaeth pwyllgor o arianwyr profiadol. Fe dynwyd allan y cynllun, a bu i'r Trysorlys ei wrthod, felly ei orchfygu, a hynny y mae yn débyg am resymau ariannol, a dyna paham nad aeth y Weinyddiaeth ymlaen gyda'r gwaith. Rhydd y Cenedlaetholwyr lawer peth o

----'----------------------"'"_------YR…