Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
.LLYTHYR LLUNDAIN.
News
Cite
Share
LLYTHYR LLUNDAIN. DYDD'SADWRN. Pris Ymborth. Yr unig ddadl o bwys a gaedi yn Nhy y Cyffredin yn ystod yr wythnoSi oedd yr un ar Bris Ymborth. Er ys cryn amser, oherwydd y codiad parhaus yh y prisiau, mae'r bobl wedi bod yn galw am ryw fesurau llym ac effeithiol. Nid oes amheuaeth nad1 oes sail i't pryder, gan fod pris ymborth yn parhau i fyned i fyny. Mae'r oodiad ym mis, Tach- wedd yn 5 y cant, neu s,wllt y bunt. Mae llawer o'r codiad yma. yn ca,ellcyfrif am ciano oherwydd y codiad ym mhris tatws. Flwy- ddyn yn ol ceid 7 bwys am 4!C. Heddyw maent yn 9fc. Ac ar* y iat o Dachwedd, 1914, 3?c. oedd y pris. 'Mae llaeth, hefyd, wedi ood'i 7 y can-t, hIawd 6 y ciant, mae wyau yn ddrutach o 19 y cant nag oeddynt fis yn ol, a oodiad ym mhris y pysgod or 13 y cant. mm Y Codiad yng Nghostau Byw. A chymryd y wlad drwyddi, a chaniatau am y ^gwahaniaeth ym mhwysigrwydd1 gwahanol nwyddau, sy'n angenrheidiol yng nghartref y gweithiwr, mae'r codiad ym mhris y bwyd, o adeg toriad allan. y rhyfel i'r iaf o'r mis. hwn yn 78 y cant. Rhaid cofio nad oes codiad yn yr ardreth, a bod rhai pethau eraill nad yw eu pris wedi codi. Eto a chymryd popeth i ystyriaeth, mae costau byw y gweithiwr wedi codi tua hanner cant y cant o Gorffennaf, 1014, i heddyw. UU Yr Achos o'r Oodiad. .Dyma sefyllfa ddifrifol pethau. Achosir hyn gan brinder llongau i gario ymborth o wledydd tramor, Mae nifer mawr o'r llong- au wedi eu cymryd at wasanaeth y Llywodr- aeth i gludo milwy,r, &c., ac i fyny i'r 3ydd o'r mis hwn, mae'r submarines wedi suddio 714 o longau Prydeinig, 3140 longau y Cyng- hreiriaid, a 281 o longautr teyrnasoedd am- hleidiol. mm Yr Anhawsterau. Gwaith dyrus ac anodd-'yw' rheoli pris ym- borth, a hynny yn un peth am nad ydym yn deyrnas hunan-gynhaliol. Pe buasem felly, —fel y mae Germani i raddau,-ni fuasai mor anhawdd. Pe dywedem, erenghaifft, nad yw gwenith neu ryw rawn arall ag yr ydym yn ei gael dros y mor, i'w werthu ond am bris penodol, effaith hynny fyddai atal danfon y gwenith neu y grawn hwnnw drosodd i'r wlad hon. A chanlyniad hynny fyddai prin- der ymborth. Mae'r Llywodraeth wedi cym- ryd rheolaeth gwerthu siwgr i'w Haw ei hun er agos i ddechreu'r rhyfel, eto. mae'r pris wedi codi, a phrin y gellir dweyd fod y cyf- I lenwad yn ddigonol. Daw yr alwad am i'r Llywodraeth gymryd holl reolaeth yr ymborth oddiwrth bobl sydd yn teimlo y w,asgfa, ond heb fod yn sylweddoli yr anhawster. mm Beth ellir wneud P Ond er fod anhawsterau ar ffordd rheoli pris nwyddau a ddygir i mewn i'r wlad, mae rhai pethau, megis pytatws, llaeth-, &c., sydd yn gynnyrch cartref, ag y geilid rheoli eu pris. Yr hyn y bwriada y Llywodraeth ei wneud yw- i. Penodi Rheolwr Ymborth gydag awdur- dlOd helaeth ym ei law i afael yn y cwetiwn 0. x ddifrif. 2. Galw am gyfrifon o bob cytundeb gyda chyflenwi llaeth er mwyn rheoli ei bris. 3. Galw am gyfrif o bob stoc dros 20 tun- nell o by tatws. 4. I erlyn unrhyw berson fydd yn gwas- traffu ymborth. S. I atal yr hyn a elwir yn corner,' sef cadw unrhyw nwyddau o'r farchnad er mwyn codi eu pris, ac felly gael rhagolr o elw. 6. Atal y melinydd i wneud blawd gwyn, a galw ar'no i falu'r gwenith drwyddo', yr hyn fydd yn codi 8,1 y cant ynycyftenwad. 7. Amryw fan ddarpariadau eraill. UU Pspeth ond y Ddiod. Dyma gam yn yr iawn gyfeiriad. Bwr- iedir, hefyd, atal camddefnyddo. unrhyw ddefnydd ymborth. Er enghraifft, bwriedir atal d-efnyddio siwgr i wneud teisenau a 'r. "< .tthH,,(iI- "'A. melusion, ond nidi oes son am atal defnyddio siwgr i fragu, nac i atal rhoi haidd i'r un pwr- pas. Dyma. brawf yng nghanol y cwbl fod dylanwad y Fasnach yn aruthrol yn y Llyw- odraeth. Bydd y cyfnewidiadau a; wneir yn achosi coaled1 ac anhawsterau; ond mae pawb ond y Fasnach yn barod i aberthu! 00 Llundain fel Arfer. Ydyw, y mae Llundain yn myned ymlaen fel arfer, er gwaethaf rhyfel a phopeth. Nid oes yma ddim ond tywyllwch i'n h,at,go-fioein t, bod yng nghanoI y dinistr mwyaf a welodd plant d'ynioin erioed. Mae pawib yn yfed ac yn bwyta fel arfer. Mae'r courses mewn ciniawa yn cael eu cadw ymlaen, a'r mawrion- yn hilio seigiau ciOsHawr, heb roi esiampl mewn hunanaberth na chynhUdeb. Nid' oes un arwydd fod neb yn. gwrando ar y rhai sydd yn pregethu cynhildeb. mm Beth am DdynionP Mae'n debyg y daw secret session' yn Nhy y Cyffredin i ystyried y pynciau dyrus a phwysig sy'n codi ynglyn a'r Rhyfel. Mae pnnder dynion yn cael ei deimlo yn y gweith- ydd haearn, a gelwir rhai yn ol o'r fyddin er mwyn cael digon 0' ddynion i adeiladlu llong- au, &c. Ar adeg gyffredin, gellir adeiladu llongau yn ol dwy filiwn a hanner o dunelli y flwyddyn. Ond yn y chwarter yn darfod' Mehefin, 1915, ni chwblhawyd ond digon i gario 80,000 o dunelli, yr hyn sy'n dangos fod y gwaith ar ol. Ond mae pethau yn gwella, ac erbyn diwedd y flwydidyn hon byddwn wedi ychwanegu hanner miliwn o dunelli at faint ein llongau masnachol. Mae anhawsterau gydag amaethyddiaeth yn cael sylw mawr. Ofer hollol yw anfon dynion dibrofiad at yr amaethwyr, a di- gwydida yr un peth gyda hyn' ag sydd wedi cymryd lie gyda gweithydd dur,—rhaid galw'r dynion profiadol yn ol,-neu oollir cyn- nyrch y tir. Mae'r cwestiwn yma, hefyd, yn cael sylw difrifol. UU. y Prifweinidogr a Mr. Lloyd George. Nid vw Mr. Asquith na'Mr. Lloyd George wedi bod yn y Ty yr wythnos hon. Clywais eu bod wedi myned i Ffrainc.
----,,---'-'...---"---.-NODION…
News
Cite
Share
NODION 0 SIR FFLINT. DOD I'W OED.—Diaeth y Parch. J. E. Davies i'w oed fel bug ail eglwys Rehoboth. Treffynnon, Tach. 5ed. A dymunwn ei longyfarch ar ei lwydd. iant yn y dref bwysig. Nid peth i'w adael yn ddi- sylw yw hyn. Credwn fod o leiaf ddau fath o weinidogion. Un yw y dosbarth hwnnw sy'n cad- w'r byd rhag mynd yn ol. Yn gweithio yn ddistaw, yn byw bywyd dwfn a heddychol, yn, adeiladu'r saint, ond byth bron yn dywedyd gair mewn Cyf- arfod Misol, heb son am Sasiwn, os cant y fraint o fynd i Sasiwn weithiau. "Doslbarth arall yw y rhai hynny sy'n ceisio gwneuthur eu goreu i symud y byd ymliaen. Ymlaen o ran ei syniadau, ei drefn- iadau, a'i gyflwr. Rhai llawnv o awydd diwygiadau a gwelliantau. Un o'r rhai olaf hyn yw'r brawd brwd o Dxeffynnjon. Nid yw'n foddlon ar geisio atal y byd i fynd yn ol, y mae yn leiddgar am geisio symud y byd ymlaen. Y mae'ri 11awn o ysbryd gwelliantau mewn byd ac eglwys. Ac 09 oes modd dybled ei ynni, ei, welediad, a'i Iwyddiant yn ei ail un mlynedd ar hugain feil bugail, pregethwr a diw- igiwr. Y SASIWN.—Rhoddodd Connah's Quay dderbyn- iad teilfwnig i'r Sasiwn. A throdd y Sasdwn ei hun yn llwyddiant yno. Dywedai un o'r cyn-lywyddion ei fod ef yn teimlo ei bod yr un fwyaf byw, llawnaf o waith, a mwyaf o rialiti ynddi a gafodd er ys pum mlynedd ar hugain. LLYGEDYN BYW.—Yn y Sasdwn, galllesid oasglu fod rhyw lygedyn byw iawn yn Nyffryn Conwy. Yn ol y cenadwriaethau a ddaeth oddiyno, ac oddi- wrth y dadleu o'u plaid, gallesid; casglu mai yn Nyffryn Oonwy y mae un o'r llecynnau mwyaf byw yn y "Gogledd. BEIRNIADU GWED'Dl.—Yn ol rhai ni ddylid beirniadu gweddi. Ac yn ol yr un rhai, y mae'n debyg, ni ddylid beirniadu'r Beibl. Y mae yn am- llwg erbyn hyn fod y Beibl yn dal i'w feirniadu, pa un bynnag a ddylid ei feirnadu ai peidio. Diau y deil pob gwir weddi i'w beirniadu hefyd. Beth 'bynnag am feirniadu gweddiau pregethwyr, awgrym- wyd yn y Sasiwn fod rhai ohonynt yn fyr o weddio drios ein milwyr a'n morwyr yn y rhyfel; a chys-tal a dweyd hefyd fod .hyn yn dywedyd rhywbeth am syniadau y gweinidogion hyn. Credwn mai y rheol gyffredinol ymysg y pregethwyr yw eu bod yn gweddio dros y miltwyr a'r morwyr. Y. mae gen- nym i gyd i ddysgu gweddio. A chofiwn, yn aelodau diswydd, yn flaenoriaid a phregethwyr, am, gyfar- wyddyd y Gwaredwr mawr—"Gerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwnewch dda i'r rhai a'oh casant, a gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi, ac a'ch erlidiant." Y mae y rhai hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at ein cyfeillion. TROEDIGAETH.—A ni yn gwrando ar rai o'n harweinyddion yn siarad, bron na thybiem fod tro- edigaeth yn eu syniadau a'u teimliadau ynglyn a'n peryglon oddiwrth filitariaeth. Dywedasant rai pethau na ddywedasent hwy, ni gredwn, ddeviddeg a deunaw mis yn ol. Ond efallai nad oedd yn amser i'w dywedyd y pryd hwnnw. LLE CYNNES.—Y m,-te lie cynnes iawn yng nghalon Sir Fflint i'r Parch. John Owen, Anfield. Ac yn y Sasiwn caed prawf ychwanegol fod i Sir Fflint le cynnes, iawn yn ei galion yntau. Yr oedd ei sylwadau ar Hanes. yr Achos yn odidog iawn. Y mae i'r sir ei beiau a'i chamgymeriadau, fel pob sir aralll. Ni symudodd mewn pryd gyda'r fugeiliaeth, &c., ac y mae'n eglur dawn fod iddi anhawsterau na wyr siroedd eraill y Gogledd am danynit. TROSFA'R FRENHINES .-Sylwyd ychydig ar Achosi Cenhadol Trosfa'r F¡ænhines--Queen's Ferry --yn y Sasdwn. Nid oes eto weledigaeth eglur yng- lyn a'r lie, ond y mae'n deilwng o sylw'r Cyfundeb. Pregethir yno yn Ysgol y Cyngor ar y Sul, a thelir chwe swllt a chwe cheiriog bob Sul am dani. Nid oes yno adeilad o fath yn y byd i gynnal cyfarfod- ydd ar noson waith. Y mae yno un o'r cynull- eidflaoedd mwyaf deallus yn y sir. Dylai y Cyfar- fod Misol, nid yn unig fod a'i lygaid yn ei ben yng- lyn a'r lie, ond bod a hwy yn agored a chlir. Ac yn yr argyfwng hwn, dylai-roddi ei law yn ei boced mor ami ag y gall, a pheidio ei gadael yno, ond ei thynnu allan gyda chymaint o arian ag sydd modd iddo, i gynoTthwyo y brodyr a'r chwiorydd sy'n gwneuthur eu goreu gyda'r Achos yn Nhrosfa'r Frenhines. GWERS HEiB EI DYSGU.—Gwers sydd heb ei dysgu eto gan hyd yn oed rai o sdarad-wyr y Sasiwn yw 'Multum in Parvo.' Pe dysgid hon gan bawb, eid trwy lawer mwy o waith, mewn llawer llai o amser, ac yn fwy effeithiol. I FYNY A'R DYD!D.—Bendith werthfawr yw galki i fod i fyny a'r dydd,—yn "up to date" yn ol y Sais. I fyny a'r oes mewn siarad, i fyny a'r oes mewn dechreu oedfa, ac i fyny a'r oes mewn pre- gethu. Dyn gwerthfawr yw y dyn sy'n ddigon byw ac effro i edrych iddo'i hun, ac i holi ei hun; i ym- drawsiffurfio ac ymdrawsnewid i fod i fyny a'r oes.
, TREGARON
News
Cite
Share
TREGARON TREBORTH HOME, CAERDYDD.—Mae'n dda gennym allu tystiolaethu fod eglwys Bwlchygwynt yn y lie hwn yn cymryd cryn ddyddordeib yn y sy-ud- iad bendithiol a dyngarol uchod. Mae Mr. Stephen Jones, un o flaenoriaid ffyddlawn a gweithgar y lie, wedi dosbarthu cardiau i amryw 0 blant yr eglwys eleni eto. Mae'r plant yn myned ati o ddifrif, a chredaf y eesglir swm sylweddol. Fe roddwyd cyf- leustra i Mrs. Evans, Albion House, i osod yr achos hwn gerbron yr Ysgul Sul. Dangosodd yr hawl oedd gan y Cartref ar y Cyfundeb. Er fod ei ddrws yn agored i bawb, eto y C'yfundeb sydd yn gyfrifol am y Cartref mewn ystyr ariannol. SMERCHED Y DE.—Clywais fod cyfarfod llwydd- iannus iawn wedi ei gynnal nos Fercher gan y Gangen weithgar hon. Yr oedd hwn yn gyfarfod agored i'r brodyr, ond cefais ar ddeall mae ychydig o'r rhyw hwn a ddaeth ynghyd i gynnal breichiau y chwiorydd yn eu hymdrech yn erbyn y gelyn difaol yr ymyfed. Pa le mae y brodyr sydd yn arfer dyfod ynghyd i gyfarfodydd eraill i weddio am. Iwyddiant y Deyrnas nad yw o'r byd hwn. Rhaid gweithio yn ogystal a gweddio. Yr oedd y cyfarfod iO nodwedd neilltuol, set coffadwriaeth i'r fyd. enwog Cranogwen.' Cadeiriwyd gan Mr. Jones, Delfryn. Agorwyd gydag unawd ar y berdoneg gan Mrs. Lewis, Arwel, yn nodedig o dda. Cafwyd papur ardderchog gan Mrs. Jones, Police Station. Mae hi yn arfer bod yn dda, ond fe ragorodd arni ei hun y tro hwn. Hefyd gan Mr. S. Jones, Bryn Teify. Yn y papur hwn fe gafwyd lianes manwl o fywyd boreuol i Cranogwen,' yn ogystal a'i bywyd cyhoedd. us. Fe ganodd y partion yn swynol iawn, dan ar. we,iniad Miss Olwen Jones, Police Station, a Miss Olwen Jones, Delfryn. Diolchodd Mrs.- Evans, Al- bion House, Llywyddes y Gangen, i'r Chwiorydd. Talodd deyrnged o glod iddynt am eu parodrwydd bob amser i wneud v cyfarfodydd yn llwyddiannus. Eiliwyd gan y brawd ieuanc dawnus Mr. Alun Heber Evans, yn hynod c\ effeithiol. Diweddwyd y cyfar. fod gyda chwarae y Dead IM'arch gan y gyfeilles fedrus Miss Lilian Jones, Police Station.
Y NERFAU A'R TREULIAD.
News
Cite
Share
Y NERFAU A'R TREULIAD. A ydych erioed wedi sylwi pan yn cael eich blino gan rhyw boen meddwl fod eich treuliad yn myned o'i le? Y mae pryder yn achosi i'r nerfau wanychu trwy y cyfansoddiad. Y mae y nerfau a'r treuliad yn berthynas agos i'w gilydd, ac nis gellir effeithio ar un heb i'r lLall deimlo. Y mae nerfau drwg yn golygu diffyg treuliad. Y mae cam dreuliad yn achosi coll ar yni nerfol. Adferwch dreuliad da trwy 'adgyfnerthu'r organau treuliadol, ar ba rai yr ydych yn dibynu am faeth oddiwrth fwyd, i weithrediad iach, a bydd i iechyd da ac yni nerfol llawn ddilyn hynsy. Er sicrhau hyn cymerwch Mother Seigel's Syrup ar ol bwyd. Y mae ei ddylanwad iachaol ac adgyfnerthol ar y cylla, yr afu, a'r colu,.1ion. yn rhoddi iddo ei le blaenaf ymysg holl feddyginiaethau at y treuliad. Y mae llu o bersonau trwy brofiad personol wedi tystio i'w ganlyniadau rhagorol. Yf un modd gellwch1 chy^thau dderbyn budd.