Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

.,--GOHEBIAETHAU.

News
Cite
Share

GOHEBIAETHAU. (Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am syniadau yr ysgrifenwyr). SOUTH WAILEiS C.M. ASSOCIATION. TO THE EDITOR OF THE CYMRO. Dear Sir,—On behalf of the Oifficers, of the South Wales Association, I have tOo inform all 'concerned that the next Association is to be held at Llanreath, Pembroke Dock, on April the loth, nth, and 12th, 1917, and not at Tenby, as previously resolved. Thanking you in an ticipation; Yours faithfully, Neath, B. T. JONES, Nov. 17, 1916. Sec. of the Association. ATGOFION MR. ARIANDER HUGHES. AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Mr. Evans,—Mr. Ariander Hughes a goffhaodd yn dyner a byw iawn am y Parch. T. J. Wheldon., ac wrth ddarllen ei athrylith- gar ysgrif, daeth i'm cof, wrth weled y sylw am yr oedfa rag-orol yng Nghonwy, ac efe yn pregethu ar Lot yn Sodom. Cefais y fraint o'i wrando, yn ardal Gwrecsam am y tro tyntaf, tua tri deg o flynyddau yn ol, a thrin Lot a'i helyntion yn Sodom a wnaeth y tro hwnnw. Ni chofiaf rhyw lawer am y bregeth, ond un sylw a adawodd argraff ddOlfn air fy meddwl a mi yn fachgen lied ieuanc y pryd hwnnw. Dyma fo,cynghorodd Abram lawer ar i'w hoff nai, gadw yn o-chelgar rhag y bobI a brofodd yn fagl iddo (a chan fod ein Harwr wedi dweyd ambell i sylw tipyn yn feirniadol am y blaenoriaid), teg yw oofio ei fodyn cym- haru Abram yn eiriol ar ran Lot i waith y blaenor' yn cynghori a rhybuddio yr ieuanc rhag peryglon bywyd, mae hwynthwy y icawsai y rhai a ddelid hwyrach mewn profed- igaethau y cy fell lion goreu wedi'r cyfan, yn y dydd blin a'r tywydd1 ga-rw. G.O.E. CYSONDEJB Y FFYDD." AT OLYGYDD Y CYMRO. Annwyl Syr-,—Llawenydd i mi oedd darllen llythyr Mr. William Evans, Ponterwyd, ar y gwaith pwysig uchod yn eich -rhifyn yr wyth- nos ddiweddaf. Fel y dywedodd Mr. Evans, ni fu gennym fel Cyfundeb gorff cyflawn o Ddiwinyddiaeth o'r blaen,-ac y mae gwaith gwerthfawr Dr. Cynddylan Jones yn haeddu ac yn hawlio ein cefnogaeth lwyraf. Nid yn unig am fod yr awdwr yn weinidog adna- byddus yn ein plith, ond yn bennaf am werth cynhenid y llyfr. Diameu gennyf fod llawer iawn o weinidogion llafurus wedi darllen am- ryw o gyfrolau ar Yr Ysbryd Glan a'i Waith, gan awdiuron enwog, megis Prof. Smeaton, Prof. Swete, Dr. Elder Gumming, a chan eraill llai eu henwogrwydd, ac yr ydwyf yn credu nad oes neb o honynt yn pryderu dy- < wedyd fod cyfrol y Dr. Cynddylan Jones yn tra rhagori arnynt o safle llenyddiaeth, ac o safle diwinyddiaeth. Mae'r wlad yn raddol yri dyfod i weled'eu gwerth, a deallaf fod am- ryw eglwysi yn sefydludosbarthiadau diwin- yddol i'w hefrydu gyda graddau 01 drylwyr- edd. Mewn gair, barnaf y dylai bugeiliaid >. yr Eglwysi gymryd mesurau yn ddioed i'r un perwyl, os ydynt am i'r cynulleidfaoedd fod yn ddeallus, yn yr Y sgrythyrau. Gwnaeth Mr. Evans wasanaeth gwierthfawr wrth alw sylw at y llyfrau rhagorol hyn,. Yr eiddoch, &c., 34, Redcliffe Ave., T. O. PHILLIPS, Caerdydd. COFIXNT Y DIWEDDAR BARCH. FRANCIS JONES. AT OLYGYDD Y CYMRO. Ai)nwyl Syr,—Diau ei fod yn hysbys i lawer o'ch darllenwyr fod Cofiant i'r^Plarch. Francis ■■ Jones, Abergele, yn cael ei ba'ratoi, aomai y cofiantydd ydyw y Parch. R. Williams, Tywyn, Abergele, ac nid hawdd fuasai cael ei gymhwysach. O'nd eyn y buasai yn berffaith yr oedd1 yn ang-enrheidiol i Mr. Williams gael rhoddi tro i fro enedigol y Parch. Francs Jones. Cafodd hynny ychydig wythnosau yn j ol. Yr oedd yn proegethu y Sul yn nhaith Dinas Mawddwy, a threfnodd i roddi y Llun :;r.t'£O"i. .jt!. T' :0' J!I!I!!I, a'r Mawrth canlynol mewn rhan i Drefaldwyn. Isaf. Pregethoddl yng nghapel Bethlehem nos Lun al Rehoboth nos Fawrth. Rehoboth, oedd y capel lie y d'ygwyd Mr. Jones i fyny, ac y dechreuodd bregethu, a Bethlehem, ger Llanfair, oedd un o'r capelau cyntaf y preg- ethodd ynddo. Cafodd Mr. Williams, y cof- iantydd, bob caredigrwydd. Lletyai un noson yn Glanbanw, lie yn ddiau y cafodd lawer 00 hanes Mr. Francis" Jones yn ei flynyddoedd boreuaf, a lletyoddr yr ail nosün yn y ty y gan- wyd y Parch. Francis; Jones ynddo', ac ystyr- iai hynny yn fraint neilltuol. Cafwyd' cynull- iadau da a phregethu grymus, ac nid ang- hofia 'Mr. Williiaims yn, fuan garedigrwydd pobl Sir Drefaldwyn. A,r ei ffordd gartref talodd ymweliad ag Aberdyfi; un o'r lleoedd' y bu Mr. Jones yn fugail ynddo1 am dymor, a bu am ddiwrnod yn llyfrgell gyfoethog Golygydd y CYMRO. 'Mawr hyderir y daw y Cofiant allan bellach oyn ho hir, a diau y bydd ei ymweliad a Thre- fald'wyn yn gymorth i'r gwerthiant. Yr eiddoch, &c., Meifod. E. GRIFFITHS, SYMUD GWEINIDOGION. AT OLYGYDD Y CYMR(F Syr,—Dymunaf gydnabod llythyr caredig Hen Fugail" yn eich rhifyn am Tach. 8. Gyda golwg ar ei ymgais mewn U wch- feirniadaeth, cydnabyddaf fod ei ddyfaliad yn gywir. Yr wyf bellach yn Hen Fugail fel yntau, ond yn sicr nid wyf yn euog o geisioi gosod ein difFygion wrth ddrws ein blaenor- iaid, nac ychwaith wrth ddrws ein Gwenidog- ion. Rhaid i ni oil yn Swyddbgion ac Eglwysi gymryd y cyfrifoldeb. Pwy.nt fy llythyr diweddaf i'r CYMRO yd- oedd, nad yw cynllunio1 trefn i newid y Gweini- dogon yn gyfnodOl yn feddyginiaeth, a, cheis- iais osod ger bron eich diarllenwyr amryw 0< ystyriaethau.. Dymunwn wneud yn hollol eglur nad wyf yn dadleu dros fod i weinidog- ion fel rheol dreulio eu hcres yn yr un eglwysi. Credaf mai mantais yw iddynt newid os byddl Rhagluniaeth yn agor y drws. Dywedaf hyn, fel ffrwyth fy mhrofiad fy hun, ac efallai y dylai ein Cyfundeb gynorthwyo mwyi i hyr- wyddo hyn. Ond prin y credaf fodl dwyn i mewn drefniant ein brodyr y Wesleyaid-fel y dadleua llawer—yn ymarferol yn ein plith ni. Golyga chwildroad hollol yn ein Cyfundrefn Eglwysig, ac y mae yn groes. i anian a thra- ddodiadau ein heglwysi. Ar y cyfan Credwn fod Bugeiliaeth Eglwysig wedi -profi ei hun yn llwyddiant yn ein mysg. Wrth gofio, ei fod yn newydd-beth, ac nad oeddym fel gweinidogion, blaenoriaid, nac eglwysi, wedi ein dwyn i fyny iddo o'r cychwyn. D'ang- hosodd y ddwy urdd (as caniateir inni eu ga.lw felly) lawer o ras a doethineb. Er hynny, credwn fod gennym lawer i'w ddysgu, a dywedwn eto, nad ydym yn tybio fed ein Colegau yn cyflawni y gwaith gofynol er paratoi pregethwyr ieuain'c i fod yn Fugeil- iaid Eglwysig. Nid ar yr Athrawon y, mae'r bai. Disglwylir iddynt hwy yn ystod yr 20 mlynedd dliweddaf haratoi yr Efrydwyr go- gyfer ag Arholiad y B.D. Cyn y gall y Colegau gyflawni y rhan non o'u gwaith yn briodol, dylai yr Efrydwyr gydfyw a'u gilydd o fewn yr un adeilad, ac o dan arolygiaeth a chyfarwyddyd un neu ychwaneg ü'r Athraw- on. Da gennym weled fod Cymdeithasfa: y Gogledd yn dechreu ymdeimlo a'r angen hon. Y ma,e ar ein pregthwyr ieuainc angen am hyfforddiant mwy personol, mewn diwylliant ysbrydol, ac yn y modd i gyflawni eu dyled- swyddau amrywiol pan wedi ymsefydlu yn Fugeiliaid. Cyfeiria eich gohebydd at ddewisiad cyf- nodol ar y blaenoriaid. Gwahaniaethaf oddi- wrtho yn y pwynt bwn, a hynny i raddau am yr un rhesymau a nodais, yn erbyn symudiad cyfnodol y gweinidogion. Dywed Hen Fugail' Y byddai hyn yn foddion i well a y blaenoriaidl. Gyda phob parch dymunwn ddweyd, Mai meddyginiaeth arwynebol iawn yw hwn. Ymddengys i mi o natur quack remedy.' Meddyginiaeth wedi ei benthyca o'r cylch gwleidyddol ydyw, ac y mae yn ang1- hymwys at y Cylch eglwysig. Nis gall Hen Fugail' lai na gweled y byddai etholiad myn- yeh, fel hyn. yn cynhyrfu yr eg'lwysi, a gwyr yn dda fod yn ein plith lawer 0 eiddigedd a surni ymhlith: y rhai sydd heb eu dewis. Ac 'J3.o" "==- ,rB.c. -JO., y mae yn ffaith fod llawer o'n blaenoriaid yn wrthrychau beirniadaeth, nid oherwydd eu diffygion, ond OIherwydd eu ffydcllondieb i addysgu a cheryddu yr aelodau. Y mae gweithgarwch, a sel, a gallu ambell i flaenor, yn ei wneud yn nodi i saethau pobl ddifater, a bydol, a digrefydd1, yn ein plith. Er hyn oil, credwn oddiar brofiad lied faith mai mantais fyddai dewis blaenoriaid yn lied fynych. Nis gall eglwys fod mewn sefyllfa lewyrchus, pan nad oes ganddi ond ychydig o swyddogion, ac yn enwedig pan y maent yn myned i oedran, ac felly allan o gyffyrddiad a chyfangorff yr eglwys. Yr eiddoch, &c., HENURIAD. r Oherwydd diffyg gofod, bu, raid gadael allan luaws o Lythyrau hyd yr wythnos nesaf.—GOL.

Advertising