Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

MARW - GOFFA.

News
Cite
Share

MARW GOFFA. MRS. MANU-EL, PRIOD Y PARCH. D. MANUEL, M.A., KELSALL. Un o blant y Bala ydoedd Mrs. Manuel; ganwyd h: ar y 3ydd 0 Fawrth, 1860, yn y ty y trigiannai y Parch. Thomas Charles ynddo pan y daeth Mary Jones i ymofyn Beibl. Ei henw morwynig ydoedd Catherine Jones, a'i rhieni oeddynt Edward a Mar- garet Jones. Yr oedd ei mham yn chwaer i Rice Edwards, enw sydd wedi ei anfarwoli gan Daniel Owen, ac. yr oedd hefyd yn berthynas i Dr. Hughes, Bala (enw a bery yn wynfydedig i bawb a'i adwaen- ai). 0 'du ei thad perthynai i Mr. Jacob Jones, Rhyl, a Mrs. J. Ogwen Jones. Bu farw ei thad pan nad oedd hi ond tair oed, a magwyd hi wedi hynny gan ei hewythr, Rdce Edwards. Tyfodd i fyny yn ferch ieuanc yn meddu ar ar- gyhoeddiadau crefyddol ciyfion, yn feddylgar, awchus am wybodaeth, ac yn ilawn asbri gwaith, a derbyniwyd hi vn gyfiawn aelod yn y Capel Mawr, Bala, pan yn 14eg oed. Wedi. hynny bu yn Llanrwst a Bangor, a thra yn y lleoedd hynny bu yn hynod ffyddlawn fel aelod eglwysig, ac athrawes yn yr Ysgol Sul. Yn 1881, dychwelodd i'r Bala, a bu yn cynorthwvo .ei brawd yn Bradford House. Yn \ystod y tymor hwn y cyf- arfu a Mr. Manuel. Ym mis Mehefin, 1885, derbyniodd Mr. Manuel alwad i eglwys Seisneg Penmaenmawr, ac ar y 6ed o Ragfyr yr un flwyddyn cym-erodd Miss Jones yn gymar bywyd. Cymerodd y briodas le yn y Capel Mawr, Bala, a gweinyddwjrd ar yr achlysur gan y Parehn. Dr. Lewis -Edwards a D. C. Edwards, M.A. Tafir,J.d Mr&. Manuel ei holl egni i'r gwaith ym Mhenmaenmawr, a bu o wasanaeth amhrisiad- wy, yn enwedig gyda'r Ysgol Sul a chaniadaeth y cysegr. Yn 1801 derbyniodd Mr. Manuel alwad i eglwys Waverton, ger Caerlleon. Isel ydoedd yr achos yno ar y pryd, rhifai yr aelodau tua 35, ond trwy eu hymdrechdon cynyddodd i 115. Cymerodd Mrs. Manuel ran flaenllaw gyda'r gwaith a hynny mewn dull tawel a thrwy ei sirioldeb a'i charedigrwydd enillodd yn fuan serch a chariad yr aelodau. Bu yn hynod ymdrechgar gyda'r Ysgol Sul, fel athrawes dosbarth y merched, a thystia y sawl fu yn y dos- barth iddvnt dderbyn mwy o fendith yno nag mewn nemor i gyfarfod arall. Ymhyfrydiai hithau yn y dosibarth, evnferai boen i baratoi y wersi yn ystod yr wythnos, a thaflai ei holl yni i'r gwaith ar y Sab- oth. Cerid hi gan yr ysgoHieigion, a gwnai ddysgu yn bleser ac nid yn boen iddynt. Bu yn wasanaethgar iawn hefyd gyda'r canu. Bendithiwyd hi a llais slwynol, ac yn ami cenid ganddi yn .y gwasanaeth, nid yn unig yn Waverton, ond hefyd mewn eglwysi "eraill yng nghymdog^eth Caer. Eto ymddiddorai, yn fwyaf oil mewn gwaith tawel, ae nid ymgeisiai am gael ei gweled. Cym- erodd ddyddordeb mawr yn niwygiadau 1900-1903, a derbyniodd argraffiadau dyfnion. Torwyd cysylltiad ag eglwys Waverton ym mis Mawrth, a symudasant i Kellsall i fyw. Teimlodd i'r byw ymadael a Waverton, a phallodd ei nerth yn fuan. Aeth yn llwyddiannus dan driniaeth law- feddygol gan Dr. Briggs, Lerpwl, ym mis Chwefvor diweddaf. Ond bu y dreth ar ei nerth yn fwy nag a allodd ddal, a bu farw yn nhy ei brawd, Mr. iLloyd Jones, Porthmadog, ar yr 2iain o Orffennaf, a chladdwyd hi yn y fynwent yno ar y 24ain. Gwas- anaeth wyd gan y Parch. W. T. Ellis, B.A., B.D. Na, "nid marw wnaMh, ond newid byd," ehedodd ei hysbryd i'r broydd hyfryd lie nad oes neb yn wylo, neb yn brudd, na dim lludded, ond He y cenir can Moses a chan yr Oen v

A YDYICH YN ;BIILIIOIUS?

-- -------- - Gymdeithasfa…