Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

---------_.--TRYSORFA FENTHYCIOL…

News
Cite
Share

TRYSORFA FENTHYCIOL CYM- DEITHASFA Y DE. GAN YR YSGRIFENNYDD'—Y PARCH. THOMAS BOWEN, CAERDYDD. DARFU i Gymdeithasfa Llanwrtyd' ategu calis y Cyfeisteddfod am benodi Sul arbennig i alw sylw at hawliau y Drysiorfa Fenthyciol. Y Sul cyntaf yn Hydref ydyw'r diwrnod y cytunodd y Gymdei t'hasfa arno. Dymunir yn garedi.g ar Weinidogion: a Blaenoriaid drefnu i'r Eglwysi gael cyfle i ddeall amcan y Drysorfa, ac i wel'd y pwys- igrwydd iddi gael mwy1 0. gefnog.aeth nag y mae Wedi' gael yn y gorffennol Ei hamcan ydyw rhoddi benthyg arian yn ddilog, neu ar log isel, ar adeiladau Cyfun- debol. Fel rheol, rhoddir benthyg. ar yr amod y gwneir ad-daliad yn ol ^10 y cant y flwyddyn, a chodi'r Hog o ddeg swllt y cant ar y swm dyledus ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol. E.g., Os ca eg'lwys ^100 01 fen- thyg, telir yr oil yn, of mewn deng mlynedd, a chyfanswm y Hog a delir yn ystod yr amser 'hwnnw fydd £ 2 I 5S., ar gyfartaledd 5s. 6c. bob blwyddyn. Heblaw fod yr Eglwys yn talu ei dyled yn rhwydd, y mae yn arbed o. leiaf £32 0. log ar £100. (3J per cent.) mewn Z7, deng mlynedd. Dytma un enghraifft o werth mawr y Drysoirfa Rhoddwyd fenthyg y flwy- ddyn gyntaf, 1906. Terfynodd y tymor drns ba un v fhoddid yr arian Mawrth, 1916. A bwrw fod y £ 9>75° ar log 0 "I1d.o, -+O> 3i y cant yn flaenorol, buasai rhaid talu mewn lloigau yn flynyddol, .£341 5s., neu £ 3 A12 1 os. mewn deng mlynedd, a'r £ 9,75° 0 ddyled heb ei doddi' o gwbl. Cyfanswm y llog isel d'alwyd i'r Drysorfa yr oil amser oedd £ 240, ac y mae dyled capelau y Deheudir yn llai 01 £ 9,75°■ Oddiiar y flwyddyn gyntaf (1906), ac heb gyfrif y £ 9,750 y soniwyd' am dano, rhodd- wyd yn fenthyg ar hyd y naw mlynedd di- weddaf dros, ^20,000, ac o'r swm hwnnw y mae eisoes tua £ 8,000 wedi ei ad-dalu. Hawdd fydd i'r neb a ddarllenoi gyfrif faint arbedi'r mewn llogau bob blwyddyn drwy gymorth y Dirysorfa. Golyga y ^30,000 roddwyd allan 01 bryd i brv,d--o 1906 hyd I9I6-fod y swm mawr 0 £ 1,0^0, sef llog1 00 3 y cant yn cael ei arbed yn flynyddol, heb soin am y cannoedd sydd ar fenthyg am 4 a 4 y cant. 180 ydyw nifer Eglwysi y De- heudir sydd wedi manteisio, ac nid yw y L/log delir i'r Drysorfa gm1 yr Eglwysi hynnv yn cyrraedd £60 unrhyw flwyddyn. -t()I--< Wrth alw sylw at y Drysoirfa Fenthyciol ar y Sul, Hydref i, nid amcan y Cyfeistedd- fod na'r Gymdei'thiasfa ydyw anog' Eiglwysi i geisio benthyciadau. Ni fu erioed an,gen gwneud hynny. Gofynnir bob blwyddyn am ddwbl yr arian sydd wrth law i'w rannu. Golyga hynny fod ein heglwysi yn barod iawn i fanteisio ami, ac edrychant ati am gymorth ac ymwared. P'ed yehwanegid ati yfory Zio,ooo, ni. fuasai hynny yn ei chodi i sefyllfa; y gallai gyfarfod a'r gofynion. Rhaid cael dwbl hynny at ei ..gwertih presen- nol cyn y gellir caniatau y qeisiadau wneir o flwyddyn i flwyddyn. Pan sefydlwyd y Dry- • sorfa yn 1906, disgwylld ychwanegiad syl- } weddol ati trwy danysgrifiadau a chasgliad- au, a thirwy gyfroddion a chymunroddion. j Hyd1 yn. hyn, nid oes un gymunrodd wedi i i derbyn, ac nid yw'r tanysgrifiadau na'r casgliadau wedi bod yn wych iawn. j Y. mae'r Gymdeithasfa bellach wedi gosod y Drysorfa ar yr un tir a sefydliadau Cyfun- debol eraill ac wedi' pennu Sul arbennig prydJ y igiellir dwyn ei ihawliau gerbron ein, cynull- j eidfaoedd. Credir y gwelid cynnydd syl- j weddol yng* nghasgli'adau yr Eiglwysi tuag 1 ati unwaith y daw ein pobl i wybod y gwaith j mae wedi ei wneud, a'r hyn yw ei hamcan ] 1 wneud er lies a budd yr Eglwysi1 ddymun- ] ent wel'd eu dyledion, yn cael eu hysgubo i ] ffwrdd. j .~°™" ..1 Hyderir y cydsynia y Swyddogion a chais .1 y Cyfeisteddfod a'r Gymdeithasfa, ac y rhoddant oleuni' i'r Eglwysi a'r cynullleidfa- oedd ar weithrediadau y Drysorfa Fentihyc- iol. Y mae un apel neilltuol y dymurrir wneud, sef am i bob Eiglwys dderbyniodd fenthyg fod mor garedig a danfon casgli'ad erbyn 'Mawrth nesaf. Gobeithir gwel'd yr Eglwysi yn gyffredinol yn cyfrannu yn haelionus tuag ati, ond, serch nad yw gwneud hynny yn. amod benthyg, fel y disgwylia Cronfai Fen- thyciol y Gogiedd, teimla'r Cyfeisteddfod mai peth bach ydyw gofyn i'r Eiglwysi sydd a benthyg ganddynt wneud casgl- iad blynyddol. Cyfranned yr 180 Eig- lwys grybwylledig; yn ol deg swllt yr un y flwyddyn," a bydd y cyfanswm oddi wrtihynt yn llawer "mwy na'r hyn dderbyniwyd unrhyw flwyddyn oddiar gychwyniad y Drysorfa oddi'wrth y 680 Eiglwys Fethodistaidd yn y Deheudtr. Hwytrfrydig y bu ein Heglwysi y blynydd- oedd diweddaf i' gyf rannu a chasglu tuag at y Drysorfa, ond creda'r Cyfeisteddfod yn gryf mai y rheswml am hynny yw nad vw- ein- pobl yn gylffredin yn gwybod fawr am dani- Dyma gyfle bellaclh i'r swyddogion, ar gais y Gymdeithasfa ei hun, i ddwyn y mater ger- bron yn y modd mwyaf ffafriol. Beth bynnag fydd y canlyniadau, pa un a. welir cynnydd yn y casgliadau neu beidio, boddlona'r Cyfeisteddfod ar fod yr Eglwysi yn cael cyfleustra teg i wybod yr hyn a ddylent wybod am y Drysorfa. Cofier y dyddiad Y)nte-S,ul, Hydref Jaf, 1916. Terfyna blwyddyn y Drysorfa Mawrth 3iain, 1917, pryd y disgwylir pob arian i law, ad-daliadau a chasgliadau.

EISTEDDFOD DAU DDIWRNOD A…