Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
EISTEDDFOD DAU DDIWRNOD A…
News
Cite
Share
EISTEDDFOD DAU DDIWRNOD A TRI CIIYNGERDD. GAN MR. O. O. ROBERTS. III. Y Cynglierddau. Da gennyf dystioi i'r Prif Leiswyr, wneud, ar y cyfan, yn rhagorol; iawn Mr. I. Foster, tywysog y Baritoniaid, fel arfer, yn beni- gamp. Miss Rowlands, yn meddu llais gwych, ac wedi gwella yn ddirfawr, er pan t, y clywais ddiweddaf, ac heb os ac oni, bai," y mae iddi ddyfodol disgiair. Madame Way-man pur dda: telmlwn 'nad oedd "in ,gQod voice": nid' oedd hi a'r berdeneg yn cytuno1 yn hollol: ni cha'dd afael ar enaid y gan Gymreig: cano-dd yn rhy araf o gryn. dipyn. Edryehwn i ymlaen am wl'edd at yr ail ran, ond, er fy mawr ofid a siomiant, oher- wydd meithter y rhan gyntaf, a andwywyd gan yr encores diddiwedd, bu raid' imi adael y dent i gael y tren. Trwy y ffol arferiad hwn, dyblwyd hyd y rhan gyntaf. Yn bendi- faddeu, rhaid cael deddf y "Mediaid' a'r Persiaid" ar yr arferiad gwrthun hwn. Wrth brysuro allan i ddat y tren, cwrddais, yn ffortunus, a hen gyfaill a,c a chyfaiH newydd yr hen yn. gerddor profiadol, ac wedi treulio blynyddoedd lawer ym myd ar- uchel yr Oratorios, &c., a'r newydd yn "one of our coming young men, ac yn meddu y gradd o Mus.Doc. Dywedais fy helynt, ac heb ddim lol aiddawodd y ddau gymrydnotes ar y perfformiadau. A gaf, Mr. Gol., roddi eiddoi y ddau i mewn? (a) Y REVENGE1, gan yr Hen. Good opening by the Bass: Tempo too fast: the Unison, by Tenors too feeble in the passage I should count," &c. Chorus C. too loud. Piu lento by Altos admirably sung, but Tempos much too fast. The Altos through- .out distinguished themselves. Andande Sost. too fast and lacked colour: 6/8 movement monotonous: no expression and colouring. In the Adagio Molto, to. the end, the chorus found their bearings and ended a very fair. performance. General impression, l'ack of dash and attack. (b) Gan y Newydd. The rendering of the Revenge was the most impressive of all the itemsl at the Con- cert. Written by1 a Celt, Sir V. Stanford, it
---.------.----------------.----GWEDDI…
News
Cite
Share
_< hyn." Ond pe buasai y syiniad' dan sylw yn gywir, buasai raid i'r Anfeidrol ddweyd Ar- hoswch a gwelwchi," nid yn unig er ein mwyn ni, ond er Ei fwyn Ei Hunan hefyd; nid yn unig- am; na. fedd y creadur moi'r gallu i ddeall yr holl gynllun Dwyfol ar amrantiad, ond hefyd am nas gall y Creawdwr benderfynu ar Ei gynllun ncs gweled beth a wna y creadur. Afreidiol yw dweyd fod y syniad hwn, yn y pen draw, yn myned dan wraidd ein cred yn y Bod o Dduw. Y mae ge-iriau, yr Arglwydd trwy y proffwyd,—" Duw ydwyf, ac heb fy mathi; yn mynegi y diwedd o'r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a'm holl ewyllys a wnaf,— yn eiriau rhy fawr i'w defnyddio g<an Un ag y mae bylchau yn Ei wybodaeth,—rhy fawr i'w defnyddio ond' gan Un sydd yn gwybod, nid deddfau yn unig, ond ffeithiau hefyd. D'aliwn gan hynny i gredu fod Duw yn gwybod gweddiau Ei bobl ymlaen llaw,—nid yn unig yn gwybod pa weddiau sydd yn bosibl iddynt, ond hefyd yn gwybod, fel mater o ffaith, pa ddeisyfiadau a offrymir ganddynt. Y mae Duw wedi llwyr gynllunio Ei, drefn o lywodraethu y byd; nid yn ei chynllunio wrth fyned ymlaen, ond wedi ei chynllunio. Ond y mae mwy na hyn yn gynwysedig yn y dywediad fod gweddiau y saint yn rhan o'r cynllun Dwyfol. Nid digom yw dweyd'fod Duw yn rhagwybod gweddiau Ei bobl, a'i fod wed'i darpar ar gyfer y gweddiau hy-iiny, yn Ei gynllun. Gallasai hynny fod heb fod y gweddiau eu hunain yn rhan o'r cynllun. Yr oedd Duw yn rhagweled pee hod y byd, ac y mae wedi darpar yn Ei gynllun ar gyfer pechod; neu, 0j5 dewisir dweyd felly, y mae yr hollgynllun yn ddarpariaeth ar gyfer pechod y byd. Elr hynny1, amhriodbl i'r eithaf a fyddai dweyd' fod pechod yn rhan o'r cyn- llun. Nid Duw sydd wedi cynllunioi cwymp dyn nac angel. Ond Efe sydd wedi cynllunio gweddiau y saint; y mae y rheiny yn rhan o'r cynllun. Yr Anfeidrol Ei Hunan sydd yn rhoi y gweddiau yng ngenau Ei bobl. Nid dyin ohono eihunan sydd yn gofyn i Dduw newid Eli gynllun; yr Anfeidrol sydd yn datguddio Ei gynllun i'r gweddiwr, ac ym siarad wrthoi Ei Hunan trwy enau y gweddiwr. A dyna'r sicrwydd sydd glennYim yr atebir gweddi--ei bod wedi cychwyn oddiwrth Dduw yn gystal a'i bod' yn myned at Dduw. Ni esg'ynodd gwieddi i'r nef oddieithr yr un. a ddisgynodd o'r nef. "Arweinir ni yn awr i ofyn, Beth yw gweddi ? Syniad rhai pobl am weddi yw fod y gweddiwr yn debyg i un yn myned i fasnachdy, ac yn rhoi order-neu galwer ef yn ddeisyfiad os mynnir—am nifer 01 nwyddau. Nid yw y syniad yna yn un i"w ddibrisio yn hollol. Y mae gweddi fel yna, a dweyd y lleiaf, yn well 01 ryw gymaint na gweddi y Pharisead yn y ddameg. Nid oedd hwnnw yn gofyn am dd'im gan Dduw; yr oedd popeth oedd arno eisiau ganddo eisoes; yn hyitrach yr oedd yn teimlo mai de oeddyn rhoi rhywbeth i'r Anfeidrol. Y mae deisyf rhywbeth gan Dduw, a dweyd y lleiaf, yn rhyw gymaint o. gyd'nabyddiaeth 01 uchafiaeth yr Anfeidrol ar y neb sydd yn deis- yf. A'c y mae deisyfiad i fod yn elfen metwn mewn gweddi. Dywed Prof. Stalker mai dat- ganiad yw gweddi o lawnder yr enaid yn fwy nag oi wagder. Ymddengys i mi fod y dy- Wediad hwn yn myned braidd yn rhy bell. Gwag yw dyn i fod gerbron Duw. Ar yr un pryd, y mae gwirionedd yn y dywediad. Nid gwagle noeth yw mynwesi y gwir weddi- Wr. Y mae ganddo rywbeth cyn gweddio, N wrth weddio. Y mae ganddo- ryw gymaint, pa mor fychan bynnag, 01 gydnab- yddiaeth ac o gyd'ymdeimlad a meddwl Duw. Y mae wedidechreupe ond dechreu-clod 1 linell yr ewyllys Ddwyfol. Un o'r gweddiau mwyaf syml y gellir meddwl am danynt oedd gweddi y publican ond yr oedd hwn ganddo ef. Yr oedd' y publican yn gwybod dau beth o lei af-m a,i trugaredd' oedd arno eisiau, a bod Duw yn drugarog. Dyna ddyn ag yr oedd Duw wedi deehreu datgud'dio Eli gyfrinach iddo. Mewn geir- rau eraill, yr Anfeidrol Ei Hunan oedd wedi gfosod y weddi honno ying nghalon ac yng ngenau y publican1; ac er na chododd y dyn mo'i olygon tua'r nef wrth ei hoffrymu, eto yr oedd y weddi honno wedi cychwyn ü'r nef, ac am hynny fe :gy!rthaeddodd y nef. Ond hwyraoh y dytwed rhyw'un nad ydym ,=- eto wedi cyffwrdd a'r ,anhawster yn„ y ffurf y teimlir ef yn fwyaf cyffredin. Un peth yw dweyd, pan y mae dyn yn gofyn am fendith- ion yshryidol,-am faddfeuant, dyweder, neu am sancteiddihad,-mai Duw sydd yn gosod' y weddi honno1 yn ei galoin; peth arall yw dweyd mai Etc sydd yn ,gosod yng nghalon- nau plant dynion weddiau am feindithion tymhorol,—am fywyd ac iechyd, am ym- borth a dillad, am dywydd sych at gynhaeaf, am waredigaethi neu fuddugoliaeth mewn rhyfel. Rhaid cydnabod' fod elfen o wir- ionedd yn ygwahaniaeth hwn a, wneir r'hwng bendithioni ysbrydol a bendithion tymhorol. Wrth we-ddio am, fendithiion ysbrydol, yr ydys yn gweddio am bethau ag1 y gwyddoan eu bod yn unol ag ewyllys Duw. Gwyddom mai Ei ewyHys Ef yw s.ancteiddio pechadur; ond ni wyddom ai' Ei ewyllyis Ef yw rhoi ad- feriad i glaf, neu fuddugoliaeth i fyddin. Gwyddom mai Ei ewyllys Ef yw dweyd, Maddeuwyd if ti dy bechodau ond ni wyddom ai Ei ewyllys yw dweyd', Cyfod dy wely, a nhodia." Gap hynny, rhaid i'n gweddi'au am fendithion tymhorod fod yn weddiau amodol; rhaid ^chuanegu, yn y meddwl os nad mewn geiriau, os yw yn unol a'th ewyllys." Gwir fod ein Tad nefoi weithiau fel pe yn tymnu cwr y Hen, ac yn datguddio i'r gweddiwr ryw gymaint o'i gyfrinach hyd yn OIed niewti materion tym- horol ac amgylchiadol. Clywai's yn ddi- weddaf am wra,i,g ag yr oedd ei gwr yn, y rhyfel. Un noson, pan yr oedd y wraig yn methti eysgu-, fe deimlodd ryw gym'helliad dieithr i' weddio dros ei g'wr gyda..g ang'erdd- oldeb ciitbriadol. Ymhen peth amser wed'yn, fe glyiwodd y wraig fed ei gwr wedi cael gwarediigaeth, wyrthibi bron, ar y munudau yr oedd hi yn gweddio, ,yd!,a'r fath daerineb dros to. Nid dyna'r tro cyntaf i'r wraig weddio dros ei ¡gwr; nid' dyna'r noson ddigwsg gyntaf a dreuliodd i feddwl am dano' Beth oedd yn peri idd'i weddio y noson 'honno yn fwy an.gerddol nag arfer? Y Duw sydd yw gweled ac yn gwybod pob pethi, yr Hwn yi mae Er lyig'ad ar Gymru a Ffrainc yr un funud, oedd wedi' gosod y cymhelliad yn ei chalon. Ond nid bob amser y mae cymhelliadaur fel hyn i'w dis- gwyl; ac nid bob amser y mae gweddiau am fendithion tymhorol yn cael eu hateb yn y ffurf a ddymunir gian y, gweddiwr ei hunan. Rhaid i'r gweddiau hyn fod yn ddarostyng- edig i'r weddi fawr, Gwneler Dy ewyllys." Ond pa ryw fath beth yw ewyllys Duw? Hawdd iawn yw gor-wneud y gwahaniaeth rhwng gweddib, am "fendithion ysbrydol a gweddio am fendithion tymhorol. Gor- wneir ef gan rai hyd at dybied mai am fen- dithion ysbrydol1 yn unig y dylid gweddio, ac na ddylid gweddio am fendithion tymhor- ol o gwbl. Yr hyn sydd wrth wraidd y dyb- iaeth hon yw math oi dualism, sef y syniad fod gan y Brenin Mawr ddwy dey,rna,s,-yr ysbrydbl a'r anianyddol,—'a bod y ddwy ar wahan oddiwrth ei gilydd. Yn. Ei deyrnas ysbrydol, y mae ewyllys Duw yn honol rydd a dilyftethair; gall gyfrannu bendhhion ys- brydol y pryd y mynno, a'r modd y mynno. Ond yn Ei deyrnas anianiyd'dod, ystyrir Ei fod wedi caethiwo Ei ewyllys mewn cyfun- drefn haearnaidd 01 ddeddfau annhyblyg. Os yw y bendithion tymhorol a chwennychir gennym yn cydfyned a'r gyfundrefn yna, fe ddeuant heb eu g"ofyn; os nad ydynt, ni ddeuant er eu gofyn. Yn awr, yr hyn sydd o'i Ie yiru yr ymresymiad hwn yw ei fod yn rhagdybied, mai dwy deyrnas yw yr ysbrydol a'r anianyddol. Cani'ataer eu bod yn ddwy d'eyrnas ar wahan,-yna anihawdd, os nad amhosibl, fydd osgoi y casgliad mai ofer neu ynte afreidibl, yw gweddioi am fendithion tymhorol. Ond nid dwy deyrnas mo homy nit. Un deyrnas ydynt, a honno- yn foe sol ac ys- brydol. Nerthoedd a deddfau y byd anian- yddol-pa peth ydynt? Llawforwynion i n-ertho-edd a deddfau y byd ysbrydol. Er mwyn yr ysbrydol y mae y'r anianyddol yn bod. Ewyllys Duw yw llwyddiant y da; ac nid yw y byd anianyddol a'i ddeddfau ond moddion wedi eu trefnu ganddo Ef i gyrraedd yr amcan hwnnw. F-elly,, pan ddywedir yr atebir ein gweddiau am fendith- ion tymhorol OISI ydynt yn cydfyned ag ewyllys Duw, ystyr hynny yw, nid os ydynt yn cydfyned a chyfundrefn gaeth oi ddeddfau anianyddol, ond os' ydynt yn cydfyned a go'goneddiad cyfiawnder, sancteiiddrwydd a chari-ad, yr eglwyddoribn sydd megis per- arog-lau yn natur yr Anfeidrol Ei Hunan.. A chan fod y gwir weddiwr mewn cydymdeim- lad a'r egwyddoribn hyn, y mae gweddi'r ffydd uwdilaw deddfau anian. Ni ddy- wedaf eu bod yn drech na deddfau anian, oherwydd buasai hynny yn golyg-u fod cweryl r'hyngddynt j yr hyn nad oes, oblegid datt- ganiad o ewyllys Duw yw y nailll fel y 11all. Ond y mae gweddi "r ,ffydd yn uwch datgan- iad ü ewyllys Ddwyfol na: dim sydd ym myd anian, am ei bed yn. tarddu o,'r cyntedd nesaf i1 mewn, os> caf ddweyd-felly, yn yr Hanfod Ddwyfol. Dan.g'os llaw Duw y mae nerth- oedd y cread dangos meddwl Duw y mae deddfau y cread: ond dangos calon Duw y mae gweddi y sant. A phen ar y pethau' a ddywedwyd yw hiyn Y mae lie gweddi yn nihrefn Duw o lywodr- aethu y byd yn cyfateb i le Iesu Gn'st yn v u 11 y berthynas. agosaf rhyngddoi Ef Ei Hunan a gweddiau Ei bobl yn eu hoffrymiad ac yn eu hatebiad. Yn eu boffrymiad" ois gofyn- weh ddim yn fy 'emv i" j yn eu hatebiad- mi a'i gwnaf." Y mae gweddi y dyn duwiol yn dechreu ac yn diweddu ei gyrfa, nid yn unig yn Nuw, ond hefyd yn y Duw- Os yw Duw yn datguddio. Eli gyfrin- ach i'r gweddiwr, trwy, breswyllad leslU Grist yn, y gweddiwr y mae yn gwneud hynny1; ac os yw Efe yn ateb g:weddi, trwy Iesu Grist y mae yn gwneud hynny hefyd. Ac y mae y byd anianyddbl dan lywodraeth yr Arglwydd Iesu, i'r Hwn y rhoddwyd pob awdurdodi yn y nef ac ar y ddaear.