Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
■■, NODION OR DEHEUDIR. !
News
Cite
Share
■, NODION OR DEHEUDIR. Claddu Blaenor. Ynghanol arwyddion o alar gosodwyd yr hyn oedd farwol o Mr. O. J. Owen, y Garth, Maesteg, ag ymau yn 48 oed, i orwedd yn mynwent Llangynwyd. Daeth tyrfa fawr ynghyd. Bu yr ymadawedig yn aelod ffiyddlonyn eglwys y Garth am niifer fawr o flynydd- oedd, ac yn flaenor ffyddlon a gweithgar am un- mlynedd-ar-ddeg. Llanwodd swy-ldi pwysig eraill yn yr eglwys. Gedy wleddw a phump o blant i alaru ar ei ol. Ei barcihus weinidog y Parch. T. H. Mor- gan a'r Parch. Hughes, Penygroes, Gogledd Cym- ru, a wasanaethai yn yr angladd, a thalodd y naill a'r Hall deyrnged uchel i'w gymeriad gan bwysleisio ei ymroddiad yng ngwas,anaeth yr Arglwydd. Di- y ddaned yr Arglwydd y galarwyr yn awr eu profedig- aeth. Oedfa Goffa. "Cariad mwy na hyn nid oes gan neb, sef bod i un rod-di ei ednioes tros ei gyfeillion oedd testun y Parch. James Llewelyn, Penybont, y Saboth o'r blaen, pan yn gwneud sylwadau am y diweddar 'Gapten E. W. Lawrence, swyddog meddygol y-Tloty a'r Ysbyty, yr hwn ar y iofed o Orffennaf a aberth- odd ei fywyd ar faes y gwaed. Yr <Jedd y bregeth a dull y pregethwr melus o'i thraddodi yn gyfryw ag a dynnai ddagrau o lygaid y gynulleidfa fawr oed J yn gwrando. Yn eu plith yr oedd lhieni ac eraill o deulu yr ymadawedig. Gweini ar bamp o glwyfed- igion ydoedd pan dderbynigdd yntau ergyd marwol ei hun. Proffwydid iddo ddyfodol disglair. Hoffid ef yn fawr gan y rhai a'i hadwaenai, ac yr oedd yn ffafrddyn gan y plant. Edrychid arno fel dyn Di(v) Chwareuwyd y Dead March" i derfynu y gwasan- aeth. Yn Nyffryn Galar. Llai na mis yn ol daeth y newydd pruddaidd i'r Parch, a Mrs. Charles Williams., Tynewydd, 'Ogmore Vale, fod n,ab iddvnt wedi syrthio yn y frwydr fawr. Y Llun diweddaf yn yr Ysbyty yng Nghastellnedd, < bu farw mab arall iddynt, Mr Dd. Williams, 29 oed, athraw cynorthwyoi yn ysigol y bechgyn Ogmore. Rhed ein cydymdeimlad yn fawr a'r teulu.
CADW CYHOEDDIAD. -
News
Cite
Share
CADW CYHOEDDIAD. GAN BODYAN. Y mae'r petli yn hysbys bellaeh, ac felly ni waeth i minnau esbonio sut y bu. Cymeraisi ofal i siarsio yr unig un yr ofnwn yr anfonai'r hanes i'r wiasg i beiddo, ond daeth allan yn y CYMRO, serdll hynny, ac wrth gwrs, gwelodd pawb ef! Lied obeithiwn mai edrych yn frysiog dros bapurau wythnosol a wnai pobl yn y dyddiau cyffrousi hyn, a'u taflu o'jr neilltu heb eu darllen. Ofnwn yr ystyriai Thywrai fod bod allan drwy'r nos yn anghyson a'r gofal hwnnw y dylai pob dyn ystyriol, a phob dyn byddar YI1 enwedig, ei gymryd ohono ei hun. Felhyn y bu'r amryfusedd. Deallaswn wrth Mr. Evans, y CYMRO, pan oeddwm yn Nolgellau, fod angen dybryd arnynt yno am bregethwr Saesneg at y Sul, Gorffennaf i6eg, a dywedodd y cawn glywed gan y brawd cyfrifol. Byddwn wedi myned i Lyn cya hynny, a rhoddais fy nghyfeiriad yn y wlad honno iddo. Arhosais yn Llanegryn dan fore dydd Mawrth, yna euthum i Bwllhetli, a threvliais IlL:" Eawrth dan gronglwyd hyfryd Mr. a Mrs. Pn't Jones. Cefais y modur fore Mercher i Edein, ac yna yr oedd gennyf chwe milltir i ben fy tihaith. Cerddais mor ddiwyd ag y medrwn, ond fy mhroiiad oedd Mae'r gwyntoedd yn fy nghuro'n ol, A minnau wyf ond gwan," neu yn fwyjhydddeithol, yr oedd y gwynt i'm herbyn bob cam, a'm lied innau yn rhoddi gormod! o graff iddo arnaf. Cyrhaeddais ben fy nhaith, disgynnais ar fy llythyrau fel barcud ar gyw, a chefais un oddi wrth Mr. C. Roberts, Ynysfaig, Fairbourne, yn gofyn i mi bregethu "yno" y Sul. Yr oedd y cyfeiriad uwchben y llythyr yn argraffedig, ac felly tybiais y gallai ei fod ar ymweliad a'r lie, ac wedi defnyddio'r gair "yma drwy amryfusedd. Ysg- rifennais gerdyn yn y fan a'r lie, a brysiais, i'w bostio hseb ymdroi dim Yr oedd y lLanc newydd glirio'r bocs. Meddyliwn innau y clywyn yn hwylus y Sadwrn cyn mynd, ac felly trefnais i ddychwelyd gyda char y post, 0 dan. yr argraff, gyfeiliornusi etc, fel yr argraff mai yn Nolgellau y byddwn yn preg- ethu, ei fod dan orfod! dial y tren hanner awr wedi chwech o Bwllheli. Cytunais a Mr. Roberts i ddyfod & hwnnw, a disigyn yng Nghyffordd y Bermo. Erbyn gwybod, y tren denig munud wedi saith i Gaernarfon, oedd y llythyrdren a ddaliailr car. Ond er hynny, aeth y llanc a mi mor ddiiymdSroi, nes y cyrhaeddlais yr orsaf tmewn pryd i weled cwt yr "Observation Car" yn diflannu ohoni! Yn y fan hon ymbwyllwn' i weled fel y mae'r naill amryfusedd1 yn arwain i amryfusedd arall. Oni bu- asai arnaf ormod o ddiogi i gerdded i Bwllheli rhag blaen wedi cael y post—nid yw ond pedair milltir ar ddeg-cawsfwn arbed cerd'ded o Borthmadog i Fair- bourne, a chawsai fy lletywr caredigarbed ei siomi yn yr orsaf, a hwythfau wedi dyfod a char i'm hym- ofyn hefyd. Car i'm hebrwng ddau gam neu dri megis, am fy mod "dJipyn yn wanllyd," debyg! Fel yr oedd, nid oedd gennyf un ddarpariaeth i gerdded, dim ond dilLad parchus cyffredin, a chot sidan-olew, ac ambarel. Yr oedd gennyf guffs ("cyffion" y galwai Edward) druan hwynt) am fy arddyrnau, ac am fy ngwddf yr oedd gennyf globen o goler glerig- ol, megis a weddai i lethadus neu Babydd. Nid oedd gennyf ddim ond a oedd1 gennyf amdanaf. Bu Arnaf ofal mawr am y goler. Y pwnc oedd, siut' y medrwn gerdded yr holl filltiroedd heb chwysu, a'i meddalu a'i baeddu i gyd. Am y icyffion, I) gwisg- ais y pen glan ytn fiesaf i mewn. Ond1 fel y digwydd- odd, ni bu raid1 i mi gerdded cymaint ag a ofnwn. HoLais yn swyddfa'r ticedi pa mor bell y medrwn fyned i gyfeiriad y Bermo y noson honno, a dywed- odd yntau y gallwn fyned i Borthmadog ond! aros awr yn yr Afon Wen. 'Gwelir fod hyn yn byrhau. tipyn ar y daith. Yr Afon Wen oedd y tipyn annifyraf. Rhyfeddaf na buasai rhywun yn troi hen le anial felly,yn gyrchfa ymwelwyr. Byddai .yn ddi- fai iddynt, ac os cyfrifid, yr 'atdyniadau yn, brinion, gellid cael golf-course' ac achos Saesneg Byr yw mis yn Llyn, ond y imae awr yn yr Afon Wen yn ddigon. Mynnais fwyd ym tMhorthmadog. Buaswn wedi cysgu yn hwylus ar ei ol, ond yr oedd arnaf eisieu goleu dydd i'r rhannaii peryglaf o'r daith. Cofier nad oedd gennyf gwmpeini, na'r un feitsen i mi allu darllen y map wedi iddti dywyllu. Prynais werth grot o fis,cedi hefyd,, am y myranwn fyned i'm taith yn gysurus. Ni chefais gymaint budd oddiwrth y rhai hyn, fodd bynnag, ag a gawswn liw dydd, am fy imod- yn methu gweled y. pistylloedd) dwfr, i gael llymaid gyda hwynt. Os bydd neb o'm darllenwyr yn myned i'r un daith eto liw nos, aed a phiser ymhob llaw idd)ol 0 Y mae yn ddiogelach i ddyn byddar gerdded gefn. nos dywyll, gan, fod nifer y cexbydau yn llai, a bod y goleu i'w weled o ddigon pell cyn iddynt gyrraedd, o ba gyfeiriad bynnag y delont. Caiff led y ffordd hefyd i'w chierdded', ac nid ei hymylon. Wfft i ddau lane anystyriol am ymryson ras ar y gwastad- o Borthmadog! Bu pawb arall yn reit ddesant. Ym. drôd!d y dydd yn hir iawn., ac ni thywyllodd yn Ilwyr drwy'r nos, ond fel yr heliodd gymylau at law ym y bore bach. Disgwyliwn y cawn gwmni crwydriaid emill, ond ni welaisi yr un. Yr oedd yn rhywyr gennyf ddiarfod âi'r tollbyrth, rhiag y byddiai ryw drwbl gyda hwy, os byddai wedi hanner nos arnaf yn myned trwyddynt. Gallwn ddywedyd gydag Is- lwyn: "Ymaith reol! Rhowch i mi dragwyddiol heol! Penderfynais y cerddwn mor araf ag y medrwn yn gysurus, er mwyn y goler, ond os awn yn rhy araf, dechlreuwn deimlo'n gysglyd, ac yna cyflymwn dra- chefn, end gofalwn beidio cerclded, yn galed. Cyr- haeddaisi Harlech tua hanner nos, ac eisteddais ar foes o'r tu allan i siop, i oeri ac ymborthi tipyn, ond nid arhosais yn hir, am y tybiwm fod' clyfrach lie yn y Bermo i gael shel. Yr oedd pob man yn d'distaw fel y bedd yn Harlech,a'r hen gastell fel pe buasai yntau yn pendwmpian. 0 Dalsarnau yno y mae gwlad goediog iawn, ac y mae'n dywyll ac unig i deithio trwy'r coed. Ar y rhan hon o'r daith, cef- ais i a'r bwganod y 16n i ni edn hunain. Yn y pen- trefi eraill, cyn cyrraedd cyn belled, yr argraff a gawn i oedd fod- v bobl yn aros ar eu traed yn afres- ymol o hwyr, o bobl yn y wlad. Gobeithio y bydd i'r sawl a didarllerao hyn roddi ysityriaetb i'r mater. Eto cia gennyf dystio na welais i ddiim anweddustra (ond y ddau lane yn ymryson ras) ar hyd y daith. Euthum o Harlech i'r Bermo wrth fy mhwysau, a chyrhiaeddais lan y m6r erbyn tri. Disgwyliwn y byddai yn wawr erbyn hyn, a dichon y buasai oni- bai iddi gau o law ryw dipyn yn gynt. Euthum i un o'r lleoedd ymochel, a gorffwysais dipyn i aros dydd, i groesi'r Bont. Yr oedd yno frawd reit ddeallus yn gwylio'r glannau, a daeth i'm hebrwng ati. Buastai yn myned a fi i'w dy i gael cwpanaid, onibai nad wyf yn yfed te, a bod arnaf frys i symud pryder pobl Fairbourne. Euthum yn araf deg tuag Ynysfaig, a chyrha-eddais yno tua rhyw ugain munud wedi pump. Teimlwn yn falch mai i ,diy fferm y cyfeiriwn, gan fy mod dan yr argraff eu bod hwy yn codi tua phedwar o'r gloch yn y bore, pe na bai ond er mwyn cael mwg drwy'r corn o flaen eu cymydogion Ondi y Sul ydoedd, ac felly ni ellaisi gael sylw neb dan chwee-h--ar yr amser newydd, wrth gwrs. Yno cefais bob ymgeledd, a heriwn neb i wybod arnaf, wedi i mi fy rigio fy limn, a chael tamaid a chyntun, fy mod wedi gwneuthur dim allan o'r cyffredin. Drwy'r glaw a'r cwbl, yr oedd y "cyffion" wedi difetha yn "Lin," ond yr oedd y goler wedi cadw oddiallan, heb arni ond dau ys- motyn, ac yr oedd y wasgod, yn cuddio'r rheini. Tair milltir ar hugain a gerddaswn i gyd, ac fel yr hysbyswn fy lletywyr caredig, nid oeddwn wedi eu cerdidied oil yr un dydd!
SABOTH YN LLANWDDYN
News
Cite
Share
SABOTH YN LLANWDDYN TAITH DROS Y BERWYN I'R BALA. II. Llithrodd dau wall i'r ysgrif o'r blaen; sef rhoi Rhiwogor yn lie Hhiwargor, ac Abertrinant yn lie Aberhirnant. Gwyr y cyfarwydd, mai rhan o wlad rhwng Towyn a Cader Idris ydyw Abertrinant. Flynyddoedd yn ol, yr oedd, llawer mwy o logi ceffylau i fyned, i deithiau Sabothol o'r Bala, nag sydd erbyn hyn. Rhai ym marchogaeth, eraill mewn cerbydau. A 'doedd llawer o'r myfvrwyr, yn en- wedig bechgyn y trefi a'r chwareli, yn gwybod ond ychydiig iawn am geffyl-sut i'w drin a'i arwain yn ystod y daith. Dyma hianesyn am un sydd etc yn fyw ac yn iach, ac yn gymharol ieuanc, ondi :heb fod yn fugail ar eglwys ar hyn o bryd. Cychwynodd ar gefn ceffyl i Lanwddyn un prynhawn Sadwrn. Cyrhaeddodd lidiart y mynyddi wrth balas Aberhirnant, a gwnaeth ymgais i'w hagor a mynd drwydtdi, beb ddisgyn oddi ar ei farch. A meddyliodd ei fod yn llwyddo yn gampus. Ond cyn gallu agor y llidiart yn ddigon llydan cychwynodd y ceffyl. A'r canlyniad oedd fod y ceffyl yn ochr y-mynydd i'r llidiart, a'r student druan yr ochir arall; wedi ei wthio dros gynffon y ceffyl, nea y disgynodd yn hollol helpless fel carreg. Ond! er y trychineb hWlll ar y ffordd, cafcdd y saint ym L-lanwddyn fwynhau ei weinidogaeth drannoeth. Ac ni chlywsom fod dim yn ei athiraw- iaoth yn rhoddi lie i neb feddwl ei fod yn credu mewn cwymp oddiwrth ras. Un arall oedd yn y \Bala dros 2,0 mlynedd yn ol, ond sydd heddyw yn weinidog parchus yn Sir Feir- ionydd. Myned o'r Bala i Lanwddiyn ar draed yr oedd ef. Gaeaf ydoedd, y dydd yn fyr, a'r eira ar y ddaear. Fel y buasai y Sais yn dweyd, gwnaeth ef gamgymeriad1 glaring iawn. Camgymerodd y ffordd o fewnhfanner milltir i dref y Bala. Yn lie myned) yn mlaen i Rhosygwalia, trodd wrth Bont- mwsogl y llyn i gyfeiriad Llangower. Ac ymlaen yr aeth nes cyrtaodd Ty Capel y Glyn. Ac er ei bod erbyn hyn. yn nos, cyfarwyddwyd ef dros y mynydd. Gallasai yr anturiaeth fod yn ormod iddo. Nid peth bach oedd i un dieithir a dibrofiad, groesi mynydd o'r fath, yn y nos, a hynny pan yr oedd eira lied drwChus ar y ddaear. Modd! bynnag, bu yn llwyddiannus. Cyrhaeddodd i amaethdy Maesy- fallen yn bur hfwyr, wedi i'r teulu fyned i orffwys. Trefnwyd iddo i aros yno hyd y, bore. A diameu ei fod yn ddiolchgar iawn i'r teulu caredig am ei groesawu ar adeg mor anamserol. A chyda Haw, mae yr un wnaeth y gymwynas hon yr adeg honno yn siwyddog blaenllaw yn Nyffryn Clwyd er ys blyn- yddoedd, sef Mr. Griffith Jones, Eglwys Wen, ger Dinbydh. Ond' i ddlychlwelyd at y student' yn ei benbleth. Rhaidl oedd iddo godi yn bur blygeiniol bore drannoeth i gwblhau y daith dros y mynydd. Cyrhaeddooid Rhiwargor mewn pryd i"r moddion— hteb fod fawr gwaeth os dim o gwbl. A dichon y cofia y brawd yma tra y bo byw, am ei Saboth cyntaf yn nhaith Llanwddyn. Dyma Tan o'r ddis- gyblaeth y byddai myfyrwyr y Coleg yn mynd drwy- ddli flynyddoedd yn ol. Ond y tebyg ydyw fod bywyd 'student' diwinyddol yn yr ystyr yma yn myned: yn fwy gwastad ac yn llai rhamatus nag- ydoeddi yn yr amser basiodd. Gallesid ymhelaethu ar helyntion y daith i Lanwdidyn yn y blynyddoedd fu, ond rhaid ymatal, neu fe a y llith yn rhy faith a chwmpasog. Dywedaf air am y lie, y Saboth dan sylw, sief Gorff. 16. Deallaf fod' trefn y daith yn amrywio bron bob Sabofhl. Diameu fod cyfleustra y gennad!, yn un pefh, ac amgylchiadau eraill yn galw am hynny. Trefnir i bron bob un ddaw o gyfeiriad y Bala i bregethu yn Rhiwargor yn y bore. Ac felly y bu y Saboth hwn. Profiad, na cheir mo hono ond yn lied anaml, erbyn hyn, ydyw pregethu mewn cegin ty ffarm. Cofiaf fy nghyfaill, y Parch. i J. Bennett Williams, B.A., Tremadog, yn rhoi syniad i mi am oedfa yn Rhiwlargor ar fore Sul, mor swynol ydoedd, cyn. i'r fraint ddod i fy rhan erioed. A chyda llaw, yn ei le ef yr euthum i'r daith y tro cyntaf. Er nad des yno, na phulpud, ,na set fawr, na seti eraill, eto y mae yn perthyn i'r lie ddodrefn y cysegr; ac y mae popeth yn hwylus iawn i addoli. Ccdwir nifer helaeth o. gadeiriau wrth law yn barod, a p'han y daw amser y moddion, go soda r y rhai hynny yn rhesi ar y llawr. Saif y pregethwr yn y j gnngl bellaf wrth dalcen y bwrdd mawr, a desg hwylus wedi ei pharatoi i fod dian y Beibl. Mr. Gittins (ieu.), Eunant, yni arwain y gân, a Miss, _I Williams yn cynorthwyo gyda'r offeryn. Ac er nad yw y gynulleidfa ond lied fechan, eto ceir gwell canu yno nag mewn ami i gapel lie mae y dyrfa yn j f wy. Pare. VVL JONES, • 1 i
y MON.
News
Cite
Share
y MON. Cafwvd Cyfarfod Mdsol haf yn Jerusalem—yr ym- welwvr'yn lluosog a siriol, y croesawiad yn gynnes, y doniau yn barod, a'r Cadeirydd yn cadw trefn dda. Hwn ydoedd cwrdd blynyddol y Ctmundeb i'r myfyrwyr, ac er nad oedd ond iri ohonynt yno, a dau o'r rheiny yn filwyr, cafwyd profiad tanllyd maes y catrodau ganddynt, a'u dynoliaeth wedi ym- -ean.gu llawer. Gwnant weinidogion cymwys yn y man, Y Parch. Win. Roberts a weinyddai wrth y bwrdd, a chvnorthwyid ef gan. y Parchn. J. PoWell, Aberdar, T. J. Rowlands, M.A., Penbedw, R. Matthews, Nebo, ac H. H. Jones, B.A. Cafwyd oed- fa fendigedigr a'r gweinddog hoff o dan yr eneiniad, yn cael mynediad amlwg i mewn i'r sancteiddrwydd, i eiriol dros y genedl, dan arwydd y gwaed. Bu canu a'r deall ac a'r ysbryd ar yr hen emyn, 0 tyn y gorchudd yn y mynydd hwn," o daa y gwlith. Der- bynwyd Mr. J. G. Hughes, Y.H., yn aelod o'r C.M. fel blaenor yn eglwys Carmel, a chafodd y boneddwr tirion a liaelionus hwn ddeheulaw cyn- hesaf. y Giymdedthas. Un o frodyr tawel, d,iofn, a meddylgar y gwersyll ydyw Mr. Hughes, a'i oes ddiclilynaidd ac anrhydeddus, ar for a thir, yn tyst- iolaethu i'w ddyfalwch a'i lwyddiant. Caffed nawn- ddydd euraidd. Cyhoeddwyd rhestr faith o'n pennaf lueddwyr rodsant eu bywyd drud yn aberth dros fre'.ndau'n gwlad, a'u henwau'n perarogli sydd," a'u teulu- oedd archolledig dan rin bendith nef a daear. An- fonir campwaith ysgrifenedig er coffad i'r rhai altawyl sy'n llesmeirio gan alar. Mor anrhydeddus eu cLod mewn cyferbyniad i Iwfriaid gwlane'n y dodgers a'r shirkers. Symudodd Cynhaliaeth y Weinidogaeth gam b pwysig ymlaen. Cafwyd ymdriniaeth maith a brwd ar y gwahanol gynliygion, a derbyniwyd amryw well- iantau doeth a da. Tua dechreu'r gaeaf trefnir Ym weliad EiglR^ysdg drwy yr holl wlad, a cyflwynir cynllun mabwysiedig y C.M. i'w cymeradwyaeth a'u harferiad. Bydd v Pwyllgor/mawr mewn swydd am ysba.id ymhellach i gyflawn-i y gwaith. Testun llawenydd oedd yn Mynydd-Mechell, a'r Parch. J. Jenkins wedi cyrraedd i'w gyhoeddiad yn sefydliad y gweinddog newydd i'w gylch. Cawsant gvrddau bendthfawr, yn argoel dda am lwyddiant Mr. Lewis yn ei ofalaeth newydd yn Sir Fon.