Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
-"."""--."_;:'.':;;;""--..-..:-__--,---_.-,,"'-.....H-_.h""-GYNHADLEDD…
News
Cite
Share
-H-h" GYNHADLEDD LLANDRINDOD. GAN OHEBYDD ARBENNIG. Cynhaliwyd y Gynhadledd' grefydidol gydenwadol uchod eleni am y bedwareddi waith ar ddeg. Ym- unai yr holl enwadau crefyddol yn y dref i'w chroes- awu oddigerth yr Eglwys Wladol. Cwynir yn yr ad- roddiad Seisndg swyddogol oherwydd na chiaed oefn- ogaeth nachydnabyddiaeth yr Eglwys Wladol i'r Gynhadledd, a hynny yn fwy eleni nag arfer, am fod tn clerigwr o safie urddasiol yn cymryd rhan fiaeni- llaw ynddi. Y gweinidogion Seisnig oedd yn wahoddedig eleni oeddynt y Parchn. H. Montgomery, D.D., 'Belfast Hubert Brooke, M.A., Southport, J. Russell How- den, B.D., Wolverhampton, gyda'r Prebendary yr Anrhyd. W. Talbot (Rice, Swansea, yi- liwn sydd yn un o ysgrifenyddioni y Gynhadledd. Heblaw hynny cafwyd cyfaxchiad gan y Parch. Elved Lewis, M.A., Llundain. Heblaw hynny gwasanaethwyd yn y gwa- hanol gyfarfodydd gan lawer o weinidogion y gwa- hanol enwadau o'r Diehieudir ag sydd; mewn ILawn cydymdeimJad a'r Gynhadledd o'r dechreu, a'r Parch. J. Rhys Davies, .Bradford', yr hwn arferai fod yng Nghymru. Er fod y gwres rai dyddiau yn angerddol, a'r babell yn boeth, cafwyd cyrtulliadau lluosog a chyf- arfodydd rhagorol. 0' bosibl y gwelwyd mwy o deimlad yn ymdorri allan adeg y Diwygiad ddeg ac unarddeg mlynedd yn ol. Ond credaf y cafwyd profion eglur fod dwyster a dyfnder argraffiadau "crefyddol yn bur1 amlwg i'w gweled eleni. Mewn atebiad i apel ddwysl ddifrif Mir. Russell Howden yn yr oedfa olaf, safodd amryw i fyny i dystio eu bod yn penderfynu byw i Grist ac yn ar- dystio hynny am y tro cynitaf. Yr un, wrth gwrSl, oedd nodwedd yr athrawiaeth a bregethid yn y Gynhadledd ag axfer, sef yr hyn a elwir Dysgeidiaeth Keswick (Keswick Teaching). Ond ni fuasai raid i neb o unrhyw enwad, gan nad pa mor gyfyng ei olygiadau a llednaig ei deimladau, ofni derbyn areholl na thriamgwydd trwy ddim a ddywedwyd yno gan unrhyw un o'r llefarwyr. Mater y mwyafrif o'r pregethau a'r anerchiadau eleni oedd yr angen ar yr eglwys a'r byd am yr Ysbryd. Glan., a'r amodau i'w gael. Teimlid y weinidogaeth yn hollol amserol a phwrpasol. Hyn hefyd oedd baich anerchladiau y gweinidogion gwahoddedig i'r gweini- dogion yn eu cyfarfodydd neilltuol eu hunain am 5 o'r gloch. Gresyn na ddygid yr holl eglwysi drwy yr boll wlad a'r gwledydd i deimLo yr angen, am yr Ysbryd Glan yn ddioed, a hynny mor. ddwys nes llefain yn ddibaid am dano, a pharatoi y ffordd i'w gael trwy gyflawni yr amo-daut ar ba rai y mae wedi ei addaw ac i'w gael. I'r cyfeiriad hwn yr aLrweiniwyd, y Gynhadledd gan y Parch. Hubert Brooke, M.A. yn ddydrliol trwy ei Bible Readings, yn seiliedig, gan mwyaf, ar lyfr yr Actau. 'Teimlid yr un pwnc mewn rhyw agwedd neu gilydd yn ymwthio i'r golwg bron ymhob un 0'r cyfarfodydd, yr hyn banai i ddyn deimlo mai hon .-Vw'r genadwri y mynnai yr Arglwydd ei rhoddi dirwy'r Giynhladledd hon i'r eg- lwysi a'r wlad. Hyfryd oedd gweled eangfrydedd neu gatKolic- rwydd y llefarwyr oil yn eu hymdiriniaeth a'r mater, megis er esiampl pan' y oydnabyddai yr Anrhyd. Prebendary Talbot Rice, Ficer Abertawe, nad ang- hofiai fyth- genadwri yr Yslfryd. Glan iddo. ef yn ber- sonol trwy y diweddar Barch. C. H. Spurgeon yn ei Dabernacl yn Llundain. Mor wahanol fuasiai Cymru pe buasai yr boll glerigwyr mor eangfryd ac efengylatidd a'r gwr rhag- orol hwn sydd mor drwyadl gysegredig i Grist a'r efengyl er ei safle urddasol a'i gyfoeth. Oa oedd dysgeidiaeth y Parch. R. B. Jones mai yn yr Atgyf'odiad y cymier mabwysiiad y saint le yn taraw dipyn yn ddieithr a gwahanol i'r hyn gredid gan luaws o'r blaen, gwnai les i ni feddwl mwy am, y mater er gweled A ydyw y pethiau- hyn felly," ynte niai gwell yr hen olygiadsau goleddid gennym. lechyd yn ddiau yw cael ein deffro i roddi sylw mwy dyfal a thlrwyadl i faterion o'r fath. Yr oedd Iesu Grist a'r Ysbryd Glan yn cael mwy o sylw na phawb arall drwy'r Gynhadledd eleni fel arfer, ac yn debygol yr YSlbryd-Glân yn cael mwy o amlygrwyddi nag un tro o'r blaen. Cafwyd hefyd gyfarfod cenhadol anenwadol hollol eleni fel arfer. Yr oedd yno rai yn cynrychioli o leiaf 5 o wahanol Genhadaethau Tramor, sef tair yn gweithio yn Affrica, a'r ddwy eraill mewn amrywidl barthau o'r byd. Cynrychiolid y Soudan United.
ILLYN Y BADAU, LLANDtRINDOD.
News
Cite
Share
ILLYN Y BADAU, LLANDtRINDOD. k Hen lyn y badau, hynod fan, Wyt gyrchfan atyniadol, Lie gwelir llu o ferched lion, A bechgyn glandeg siriol; Pan y tywyna'r huan der, ;Pan sua'r mwyn awelon, '7 Y badau ar y Ilyn yn llawn, Sydd fore a nawn yn gyson. Yr hen a'r ieuainc, yno sydd, Gwreng a boneddig hefyd, I gyd yn unfryd-gymysg hil, Yn ymchWiil am gael iechyd, Mae yno fadau, lawer iawn, Cysurlawn i bob oedran, Y rhwyf-fad cryf i'r gwr o rym, A'r ch wimgamvi Marian. I'r badau mawr, ymwelwyr lu, Sy'n tyrru'n gwmni llawen, A thonnau'r dyfnder, orychu wnant, Ewynant yn aflawien; Yn gyplau hylon gwelir rhai, Mewn badau bychain gwisigi, oI'i. _¡" Yn rhwyfo dan ddylanwad swyn, Y brwyn, lie gwnant angori. Ceir llawer ymgom, yn y brwyn, Gan ddewis fwyn gardadau, Ac yn nhawelwch min yr hwyr, Fie glywir su cusanau,— A chyda hynny, ymgom hir, A dadleu pybyr hefydj Mae llawer gwell yw dau nag un, I .rwyfo bad llyn bywyd. Ond ar y llyn, o dro i dro, Yn rhwyfo'n dra anfedrus, Hen lane a welir mewn canw, Yn edrych yn frawychus Diystyr yw o'r feinir fad, IRwyfa ei bad yn gywir, Wfft i'r hen lane, mae fel o'i go', Ei hvvtio wna'r edrychwyr. O gwylied yr hen lanciau, A'r hen lancesau sydd, Yn rhwyfo ar lyn bywyd, Yn unig, nos a dydd; Uniigrwydd weithiau dycid, Ond gwae yr unig gwan, x Mewn gwyntoedd croes ystormus, Pwy rwyfa'i gwch i'r lan. Do, gwelais lawer unig, Yn llawen iawn eu byd, Tra'r byd yn gwenu arnynt, A'u nyth yn ddiddos glyd; Ond 0 yn nyddrau henaint, IPwy gwyna, ond y nhw, Gwae inni 'r,ioed foddloni "TopaddLe our* own Canoe." Gwalia. EDWARD JENKINS. Awst 9, 1916.
LLANWRTYD.
News
Cite
Share
LLANWRTYD. Prynhawn dydd lau diweddaf cynhaliwyd trydydd cwrdd blynyddiol ymwelwyr Llanwrtyd ar gwestiwn y Rhyfel ofnadwy hwn, yng nghapel y Bedyddwyr, pryd y daeth tyrfa-fawr o bob! ynghyd. Llywydd. wyd y cyfarfod. gan y Parch. J. C. Griffiths, Seven Sisters, Llywydd y Cyfarfodyd'd' Gweddiiau, a cfryf- lawnodd y gorchwyl yn ddeheuig dros ben. Dech- reuwyd y cyfarfod yn syml a dwys gan y Parch. J. Gwrhyd Lewis, Tonyrefail. Yna cafwyd anerchiad pwrpasol iawn gan y Llywydd, a galwodd at Mr. '1'. Clement Thomas, Bedlinog, i gynnyg, a Mr. W. Lloyd Jones, Hengoed, i eilio y penderfyniad hwn Tra'n gofidio am ddifrawder a. difaterwcli yr Eg- lwys Gristionogol yng Nghymru yn yr argyfwng di- frifol-hwn, ein bod fel cyfarfod yn cydnabod yn ddiolchgar amdrliffynilad amlwg yr Arglwydd drosom fel Gwlad a Theyrnas hyd yn nyn, ac yn erfyn yn weddigar am Ei ymweliad bendithiol, ac y bydd i'r Rhyfel erchyll hwn brofi yn ol llaw yn fendith ys- brydol i'r gwahanol genbedloedd, a thrwyddynt hwy i'r byd. yn gyffredinol." Cefnogwyd'y penderfyniad gan, y Prifathro Prys, Mi.A., Aberystwyth, a chafwyd gwledd o wersi dwys a clifrifol gan y Prifathro dysig- edig, ac y mae eu dylanwiad yn sicr o gyrraedd ymhell. Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol A brwdftydig.- Yna cynihygiwyd ploidlais o ddiolch- garwch i'r Prifathro am dorri ar ei fyr- seibia-nt i ddyfod i annerch cwrdd achlysurol fel hwn gan y Parch. R. Evans, Llanwirtyd, ac eiliwyd gan y Parch. D. Lloyd Morgan, D.D., Pontardulais, a phasliwyd yn unfrydol a gwresog iawn. Casglwyd hefyd 30/- yn y cyfarfod at gynorthwyo Trysorfa Leol Carcharorion y Rhyfel, a tha.lwyd y swm dros- odd i Mrs. Evans, C'wmhenog, Ysgrifenyddesi y Dry- sorf.a.-C.T.
BETH WNA DIEFIYG TrREULTAD.
News
Cite
Share
BETH WNA DIEFIYG TrREULTAD. Y mae unrhyw ddyn neu ddynes' sydd yn dioddef oddiwrth ddiffvg treuliad yn graddol gael eu newynu, oblegid nid yw maeth yn cael ei dderbyn oddiwrth y bwyd a fwyteir. Nid dyna'r oil, obljegid y mae y cynnyrch peryglus a roddir gan ymborth heb ei dreulio yn briodol yn myned i'r gwaed, ac yn cael ei gariio i bob rhan o'r corff, er mawr berygl i'ch iechyd. FeUy y mae diffyg treuliad yn golygu newyniad a dioddefaint, hefyd. Ond y mae Mother Seigel's Syrup yn perchen y fath allu rhyfeddol i gyweirio, cryfhau, a rheoleiddiio gweithrediad y cylla, yr afu, a'r coluddion, fel y mae diffyg' trfeuliad yn dyfod yn amhosdbl. Y mae iechyd da yn teyrnasu yn lie hynny. Ar ol deugain mlynedd o brawf gan ddegau o filoiedd, y mae Mother Seigel's Syrup yn parhau yn ladnabyddus dros yr holl fyd fel meddyginiaeth lwydd-iannus ar gyfer yr anhwylderau annymunol hynny sydd yn codi o gyflwr gwan neu annhrefnus y cylla, yr afu, neu y coluddion,
Advertising
Advertising
Cite
Share
-,L. .jii. Jin 'i, 1. v v Dr. Williams' School, DOLGELLEY. Preparations for the Central Welsh. Board and Ox- ford Local Examinations, London and Welsh Matri. culation, and University Scholarships. There are three leaving Exhibitions, tenable .ta.- Colleges, which are awarded annually upon the re- sults o fthe year's work. The Building and Grounds are excellently adapted to secure the comfort and health of the Pupils A NEW WING was built in 1910 to meet the demand for increased accommodation A Domestic Science Department has recently been added TENNIS, CYCLING, AND HOCKEY. Inclusive Fe.&: BOARDING £27 10s. per annum; TUITION, £S 51. For prospectuit, apply to JV,e Headmistress or to Clerk to the Govemors, The County School, DOLGELLEY.. (The Dolgelley Grammar School). Dr. Ellis Endowment, A.D. 1665. BOARDING & DAY SCHOOL FOR BOYS. EXCELLENT genenal education and training pro. vided, with special preparations for the Universities, the Civil Service and Commerce. BOARDERS received at the HEADMASTER'S HOUSE. For Prospectus, Fees, &c., apply to the Headmaster. Athrofa Aberystwyth. (Un o'r Co:egau ym Mhrifysgol Cymru). Prifathraw—T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHREUA'R Tymhor nesaf ar Ddydd Mawrth, Hydref 4ydd, 1916. Paratoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaethau (amryw ohonynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr arbolLad le yn Aberystwyth ar y 19 o Fis Medi, 1916. Am fan} lion pellach, ymofyner A- J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. YN AWR YN BAROD. 0 Cvflawnder Bendith. SeE PREGETHAU Gan CHWECH AR HUGAIN 0 WEINIDOGION Y MTTHODISTIAID CALFINAIDD YNG NGHYMRU. (Gyda Darlun o bob Pregethwr). Dan olygiaeth Y Parch- D. Hfardy Davies Mewn Llian Destlua 3/6 not gyda'r post. Mewn LIedr Hardd, Ymylon Aur 5/- net gydalr poak. Tolerau Arbenilig i Lyfrwerthwyr. Pob Archebion i'w hanfon i'r- PARCH. D. MARDY DAVIES, Poatyeymmer, OLAM, S.W. Telegraphic Address GWALlATEL, London. Telephone Nos. 5010 & 5011 City. HOTEL GWALIA, CHPF-iEm "WOBURNT PLA CE, LONDON, w.o. I CENTRALLY SITUATED. (Within 5 minutes walk of Euston StI ,n aud ,2t, minutes from Paddington by Underground Rail. way to Gower Street Station). BED, BREAKFAST. BATH & ATTENDANCE So. EACH PERSON. 130 Rooms Luxuriously Furnished. Pas,seagexi Lift to all floors. Fireproof Building.1 JOHN M. JENKINS, Manager.
LLAN GAM ARCH.
News
Cite
Share
LLAN GAM ARCH. "Fy Ewythr Sion"—Pleser mawr i ni oedd, clywed y Parch. Deri Morgan, Trehopkini, ger Pontypridd, yn tradd<5di ei ddarlith boblogaidd- erbyn hyn ar Uncle George," yn Llangamarch wythnos yn ol. A'i yr elw oddiwrth y ddarlith tuag at adnewyddu y capel. Cymerwyd y gadair gan, y gweinidog, y Parch. Evan Evans, yr hwn y mae ei bregethau bob am-ser yn llawn gemau o'r dechreu i'r diwedd. Wrth gyflwyno y darlithydd, er nad oedd yn ddieithr, son- iodd am nifer fawr o enwogion oedd wedi eu magu yn y eylch, a chyfeiriodd at yr un oedd yn myned i'w hannerch fiel un wedi ei fagu yn y, Gorwydd. Cymeriad hynod ddyddorol ac aml-ochrog oedd "Uncle George," ac yr oedd disgrifiadtau byw y dar- lithydd o hono ynghyd a'r ffraethinehau doniol, a digri, y fath, fel y cadwyd y gynulleddfa wTth eu', boda am awr a banner. Cynhygiwyd diolchgarwch i'r darlithydd gan M'r. Edward Jones, un o flaenor- iaid y lie, ac eiliwyd gan y Parch. Grawys Jones', Aberdar.