Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
-------------THE DOLGELLEY…
News
Cite
Share
THE DOLGELLEY MARKET HALL & PUB- LIC ROOMS, CO., LTD. Applications are invited) for the Office of Secretary to the above Company. Salary £7 xos. a year. Ap- plications to be sent to Richard Williams, Esq., J.P., Argoed, DoLgelley, by Friday, December 17th, 1915.
YR ATHRO DAVID JENKINS.
News
Cite
Share
YR ATHRO DAVID JENKINS. CAN YR ATHRO W. JENKYN JONES, ABERYSTWYTH. BLlN iawn gennyf yw gorfod ysgrifennu y gair diweddar' o flaen enw fy hen gyfaill Daivid Jenkins. Bum mewn cysylltiad cyson ac agos ag ef am y pymtheng mlynedd diweddaf. 'Roeddem yn athrawon yn yr un Coleg, ac yn aelodau yn yr un Eglwys, a mynychem dai ein .gilydd bron yn feunyddiol. Naturiol felly i mi deimlo heddyw fod y byd yn wahanol, ac yn dl-otach heb ei gwmni diddan. Fel y gwyr y darllenydd, torodd ei iechyd i lawr tua dwy flynedd yn ol, ac ni thybiai neb y pryd hwnnw y gwelid ef yn ymaflyd yn ei waith mwyach. O'nd cafodd adferiad ag oedd megis yn wyrth- iol, er nad oedd ond mewn rhan. Heb fod yn hir dechreuodd ymda,flu i'w gynhefin waith o gyfansoddi, ysgrifennu, teithio, gohebu, etc., megis cynt. Ni roisai y sylw dyladwy i orchymyn meddyg nac i gyngor cyfaill. Nid am nad oedd ganddo barch dwfn i'r naill a'r llall. Y gwir oedd na byddai bywyd di- gynnyrch a di-wa,ith yn werth ei fyw yn ei olwg. A newidia yr Ethiop ei groen, neu y llewpard ei frychni?" Tua dechreu y gaeaf ymwelodd a Mancein- ion i draddodi darlith ar ei gyfaill Eimlyn E',vans, ac i arwain mewn Cymanfa Ganu. Wedi y daith hon ni bu ei iechyd mor fodd- haol, er nad oedd yn gyfryw ag i beri pryder. Ac yn hytrach yn ddirybudd y daeth yr ym- osodiad y tro hwn. 'Roedd yn bresennol fel arfer fore Sul, yr 28ain 0' Dachwedd, yng nghapel Bath Street, lie y mae wedi bod yn aelod am tua deugain mlynedd, ac am gyfnod yf nod maith yn swyddog fFyddlawn ac yn flaenor y gan. Y mae lliaws wedi coffa am y dull grymus, dwys, a thoddedig, yr arweiniai yng nghanu yr emyn olaf yn y gwasanaeth hwnnw Jesus, Lover of my Soul," ar y don Hol- lingside.' Dyna gan olaf y Pencerdd—a beth allai fod yn fwy cydweddol a'r amgvlchiad? Yn fore y Llun canlynol cafodd ymosodiad tost o'r hen anhwyldfer, a chymerodd Dr. David Ellis, ei feddyg, wedd ddifrifol ar ei sefyllfa o'r dechreu. Oddigerth am y deu- ddydd cyntaf ni bu ei gystudd yn drwm. Pallodd ei nerth yn raddol a sicr, ac wedi ym- droi am tua phedwar diwrnod mewn hanner ymwybyddiaeth ar y gororau, aeth i mewn i'r orffwysfa fore ddydd Gwener, Rhagfyr y xofed. Pan ddeallais beth oedd wedi cymryd lie, daeth sylw o'i eiddo flynyddoedd cynt yn. fyw i'm cof: Peth braf fydd cael plannu ein traed ynddiogel ar Dir y Bywyd." Fel y mae yn hysbys i'r darllenydd, yn Nhrecastell, tua 67 mlynedd yn ol, y g'anwyd ein cyfaill, ac yno ym meddrod ei deulu y gorwedd bellach yr hyn sydd farwol o hono. Yn y pentref syml. yma y clywodd ef alwad Duw i wasanaethu ei wlad. Yma y derbyn- iodd ef vsbrydoiliaeth i lafurio, gwynebu rhwystrau a gorchfygu. Nid wyf mewn hwyl heddyw i geisio elfennu ei bersonoiiaeth gref, nac i gyfeirio yn fanwl at ei wasanaeth amlochrog fel arweinyddi, ■ athraw Coleg, beirniad, a chyfansoddydd. | Tvstiai y beirniaid fod ei gynhyrchion yn y 1 blynyddoedd diweddaf yn rhagorach nag erioed. Yr oeddvnt hefyd yn lluosocach. Diywed fy nghyfaill, Mr. Robert Bryan, Alex- andria, mewn llythyr dderbyniais oddiwrtho1 ychydig amser yn ol, Nid oes amheuaeth nad yw ein cyfaill, Mr. Jenkins, yn cyfansoddi rhai o g-ydganau grymusaf yr oes hon. Ymddangosai ar y cyffyrddiad cyntaf yn hytrach yn sych a chras; ond yr oedd ynddo1 garedigrwydd a thynerwch mawr. Bu megis tad tirion i liaws o'i deulu, ac yr oedd yu hael- ionus tuag at ei eglwys yn Bath Street, Aber- ystwyth, ac mewn cylchoedd eraill. Yr oedd yn feddiannol ar wythien gref o 'humour,' a gwelai y digrifol yn g-yflym-üddigerth lie y byddai a fynno ef ei hun a'r amgylchiad. Meddai lygad i ganfod prydferthwch ym myd anian, a chalon fedrai fyned i fewn i gyfrinion Natur a Gras. Yr oedd yn Ymneilltuwr selog' ac yn Rhyddfrydwr trwyadl. Yn ben ar y cyfan, yr oedd yn Gristion Rydag argyhoedd- iadau dyfnion, ac yn ol ei oleuni yn Iffyddlawn i'w egwyddorion. Yn ei ddull yr oedd yn syth, a di-lol, heb ragrith na gweniaith. Fel pob gwr ag sydd uchel-g'eisiol yn ei gylch, ni lwyddodd i gyrraedd yr oil a osododd ei fryd arno. Ond pe byddai byw ganrif, ni wnaethai hynny, oblegid delai ryw gamp newydd o hyd i'r golwg yn y pellter. Gwnaethost yn dda, weithiwr dyfaj Da was, da ffyddlon. Daeth awr Duw i ti noswylio. Ac fel un oedd yn dy adwaen—yn dy nerthoedd, ac yn dy wendid- au, ac yn dy edmygu, credaf y bydd dy hun Z, yn felus—gyda Duw.
----CYNHALIAETH Y WEINIDOGAETH…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYNHALIAETH Y WEINIDOG- AETH A DYLED Y GAPELI. GAN DR. PHILLIPS, TYLORSTOWN. WEDI dilyn yr ohebiaeth faith yny newydd- iaduron dyddiol a,c wythnosol yr wythnosau hyn ar y mater uchod, a meddwl uwch ei phen, gwelaf fod yr ysgrifenwyr yn crwydro llawer ac yn ymollwng i ddweyd amryw bethau na ddylid eu dweyd mewn papyrau newyddion. Collir yr amcan sydd mewn golwg wrth ddweyd pethau brathol am ein gilydd mewn ymdriniaeth a mater crefyddol. Nid iawn enwi personau chwaith, mewn dadl fel hon. Cadwer at y mater, a gadawer per- soinau, yn llonydd. Ymddengys i mi, fed y ddwy ochr yn myned i eithafion di-alw-am- danynt, ac yn siarad mewn termau cyffredin- ol, pan na ddylent ond siarad mewn termau neilltuol. Darostynga peth felly v ddadl is- law urddas crefydd. I. I ddeckreu, meddylier am yr ymosodiad ■ivnaed yng ngohebiaeth yr wythnosau diwedd- af ar y blaenoriaid.-Gwn fod gennym rai blaenoriaid sal a diegwyddor; ond nid dyna'r o-wir am y nifer lluosocaf o lawer o flaenor- O J
Advertising
Advertising
Cite
Share
Telegraphic Address GWALIATEL, London. Telephone Nos. 5010 & 5011 City. HOTEL GWALIA, LfTpl-'E Ft WOBURN FA-LOE. LONDON, w.o. CENTRALLY SITUATED. (Within 5 minutes walk of Euston Station and 20 minutes from Paddington by Underground Rail- way to Gower Street Station).. BED, BREAKFAST, BATH & ATTENDANCE, 5s. EACH PERSON. ISO Roo s Luxuriously Fari, ishsd. Passengers Lift to all floors. Fireproof Building. JOHN M. JENKINS, Manager. Anrheg Madolig Cyfaddas. "Porfeydd Gwelltog." ADNODAU AR WAHANOL DESTYNAU At Wasanaeth Plant y Seiat, Athrawon yr Ysgol Sabothol, Gweini- dogion y Gair, a Saint Duw o bob oed a sefyllfa. Wedi eu casglu a'u trefnu gan y Parch. WM. LEWIS, Pontypridd, Gyda Rhagair gan y Parch. JOHN WILLIAMS, Brynsiencyn. Mewn Llian Hardd. Pris Dau Swllt. Llyfr cymwys i fod yn Rhodd i'r Milwr. Danfonir un copi gyda'r post am ddau swllt. I'r neb a gymer chwe' copi ac uchod is. 6c. yr un gyda'r cludiad. Danfoner at REV. W. LEWIS, The Grove, Pontypridd. e I Opposite the British Museum. e | Opposite the British Museum. Thackeray Hotel Great Russell Street, London. Near the British Museum. Near the British Museum. v Kingsley Hotel Hart Street, Bloomsbury Square,London. Bedroom, Attendance and Table d'Hota Breakfast SiDgie from 6s. 6d. l With Table d'HSta Dinner, from 8a. 6d. Full Tarijf and TeetimamiaU on Application. Tel.-Re.gent 2041 (2 lines). 2083 (2 lines). Tel. Add.—' Thackeray London. Bookeraft London." "KEEIORI Self-Raisingf j EiSfc o FLOUR It Makes Perfect Pastry, Scones, &c. SoLE WHOLESALE Aomm- MORRIS & JONGS, Liverpool and J8 "4Ø qwfto ftpl YN AWR YN BAROD. Cyflawnder Bendith. Sef PREGETHAU Gan CHWECH AR HUGAIN 0 WEINIDOGION Y METHODISTIAID CALFINAIDD YNG NGHYMRU. (Gyda Darlun ü bob Pregethwr). Dan olygiaeth y Parch 0 mardy Davies Mewn Llian Destlus 3/6 net gyda'r post. Mewn Lledr Hardd, Ymylon Aur 5/- net gyda'r post. Telerau Arbennig i Lyfrwerthwyr. Pob Archebion i'w hanfon i'r- PARCH. D. MARDY DAVIES. Pontycymmer, GLAM, S.W. -0- Lfawlyfr ar V Gwyrthiaa. AT WASANAETH YR YSGOLION SABOTHOL GAN Y PARCH. J. E. DAVIES, TREFFYNNON. PRIS SWLLT. I'w cael gan yr Awdur neu yn SWYDDFA'R 'CYMRO,' DOLGELLAU.
DR. WILLIAMS' SCHOOL, DOLGELLEY.
News
Cite
Share
DR. WILLIAMS' SCHOOL, DOLGELLEY. REQUIRED, January, Assistant Mistress to teach chiefly Latin and Elementary Welsh, with some English. Salary /50 (rising Zi annually) with board residence and laundry. There is a liberal pension scheme.
Advertising
Advertising
Cite
Share
WANTED a capable woman to take charge of an invalide gentleman and assist in household: work. Comfortable home. Small family. Apply, giving full particulars and stating wages expected, No. 372 icymro. Office, Dolgelley. I