Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
""'Y GOLOFN GENIIADOL.
News
Cite
Share
Y GOLOFN GENIIADOL. GAN Y PARCH. B. J. WILLIAMS. Dyled y Genhadaetlt D'rwg- fydd gan ddarllenwyr y CYMRO ddeall fed y Genhada,eth Dramor ar hyn o bryd ftewn dyled drom. Ymgymerodd y Cyfeis- teddfod y fiwyddyn ddiweddaf a gwaith a olygai oostau try m ion, fel erbyn terfyri y ym _,e 0. flwyddyn yr oedd dyled <>• ^2,500. Xis gellid atal y gwaith hwnnw hyd yn oed y flwyddyn hon, fel erbyn hyn y mae ein dyled yri 5,ooo,. Gobeithid cyn i'r Rhyfel dorri Wlan., y gellid cyfarfod y costau ychwanegol drwy yr Arddangosfa Genhndol, a chyfry ng- au eraill. Yr oedd cryn hanner dwsin o lecedd yn dechreu meddwl am yr Arddangos- a fa, a threfnu gogyfer a hi, pan ddaeth, y Rhyfel. Y mae amryw gyfeilIion wedi anfon i'r Try- sorydd Cyffredinol eisoes symiau tuag at y ddyled, ac y mae eraill, persünau unigol ac eglwysi, yn addaw gwneud a a 11 ant i ychwan- egu eleni at eu cyfraniadau. Da genrn-f ddweyd fod amryw eisoes, yn arberinig drwy y Blychau Cenhadol, wedi gwneud mwy na'r llynedd. Gyda thipyn o egni y mae'n ddi- ameu y gallai einheglwysiyn y rhan helaeth- af o.'n. gwlad,: er gwaethaf pob -galwad arall, wneud ychydig yn fwy nag arfer tuag at y gwaith cenhadol. Bryniau Gogledd Cachar. Y Bryniau hyn yw y maes yr ymgymerasom ddiweddaf a'i efengyleiddio. Bu y Parchn. T. W. Reese a J. Gerlan Williams, Bi. Sc., yno yn cychwyn y gwaith. Yna trefnwyd i'r Parch. J. M. Harries Rees symud o Laitkyn- sew i Haflong, ac yn ystod y pedair blynedd diweddaf yno y mae wedi bod yn cartrefu, ac yn Uafurio ymhlith yr amrywiol lwythau sydd yn tri go- ar y Bryniau hyn. Mewn un ystyr y mae y roaes bychan hwn y mwyaf anhawdd, a'r mwyaf dyddorol, o'n holl feusydd, sef yn amrywiaeth y llwythau sydd yri byw ynddo. Clywir yn fynych yn y farchnad yn Haflong, ddeg neu ddeuddeg o wahanol ieithocdd yn cael eu siarad. P'arodd hyn o'r dechreu an- Hawster ynglyn a phenderfynu ymha iaith, neu ieithoedd, y geHid yn rhwyddaf wneud gwaithcenhdôl ymhlith y trigolion. Aw- grymid tri chynllun,—Y cyntaf, oedd mab- wysiadu Bengali fel iaith yr ysgolion. Yr ail, gwneud Hindustani yn iai th yr ysgolipn j a'r trydydd, cychwyn yn ydosbarthiadau isaf g'ydag iaith frodorql pob llwyth, ac yna, gvnted y gellid, defnyddio yr iaith Saesneg. Gyda golwg ar yr YsgolGanologyn Hafiopng, fod yr addysg i'w chyfyngu i'r Saesneg yn unig. Ofer a fu pob ymoais gyd a'r ddau gynllun cyntaf, ac erbyn hyn y mae y Genhad- aeth a'r Llywodraeth w-edi cytu no i weithio yn y oily trydydd. Os bydd honnoyn llwyddian- nus, ni raid paratoi llawlyfrau ar gyfer y llwyth, neu y llwythau hyn, gan eu bod eisoes i'w cael, a bod rhannau helaeth o'r Ysgrythyr- au wedi eu cvfieithu gan ein cenhadon ni, a chenhadon y Bedyddwyr. Yn mhellach, y Mae addyscy y maes hwn wedi ei ymddiried i'r Genhadaeth, fel ar Fryniau Khasia, Jaintia, a Lushai. D'rwg gennyf ddweyd nad yw y Parch. J. M. Harries Rees, yn mwynhau iechyd da er y vs cryn amser, ac y mae,'n debyg y bydd oher- wydd hynny dan orfod, yn gynnar yn y gwan- wyn, i ddychwelyd adref am s,eibi,ant. Y Cholera. Y mae yr haint ofnadwy hwn wedi torri y allan mewn amryw rannau o'r maes cenhadol yn ddiweddar—yn Cherra, yn Shillong, yn Jaintia, ac ar y Gwastadeddau. Trist meddwl fod "eisoes gannüedd wedi eu cymryd ymaith drwyddo, ac yn eu plith rai Cristionogion rhagorol. Mewn rhai o'r dosbarthiadau bu raid can yr ysgolion, gan nad oes, yr un clefyd a ofnir gan y bobl fel y cholera. Pan dyr allan mewn pentref, fel rheol, ffyy trigolion ymaith i'r prysgoed, gan adael y dioddefwyr heb neb i weini arnvnt, a'u meirw heb neb i'w llosgi neu eu claddu.
Advertising
Advertising
Cite
Share
DR. WIiLLIAM9, SCHOOL, DOLGELLEY. REQITIRED, January, Assistant Mistress to teach chiefly Latin and Elementary Welsh, with some English. Salary £5? (rising ft annually) with board residence and laundry. There is a liberal pension sc-heme.
.NODION 0 FALDWYN.
News
Cite
Share
NODION 0 FALDWYN. Y mae'r s.r drwyddi draw wedi ymddeffro at eu dyledswydd tuag,at y milwyr. Gwneir cysuron ym- hob cwmwda phant. Un peth eto s,ydd ar ol: ys- tytied dy:edswydd tuag at y wlad. Nid oe-is ond un cyfeiriad iawn i'w gymryd gan y gwyr ieuainc sydd eto he'b sylweddoli y buasai Prydain yn debyg i Serbia-dan sang,y bwystfil—pe bai pawb yr un fath "a hwy y cyfeiriad yna ydyw—tua'r swyddfa ymrestru. Pam rhaid i eraill farw drosom os nad y'in yn werth hynny. Y mae'y Parch. O.T. Davies, LlanfyMin, wedi ym- nestru o dan scheme Ar:glwydd Derby. Nid yw hyn yn golygu na ddaw i'w gyhoeddiadau. Bydd popeth fel arfer hyd oni elwir ef i fyny. Dylasai hyn gywilyddio tipyn ar y beirniaid hyny gyhuddant weinidogion o fod yn awyddus i gadw eu crwyn yn iach. Os ydyw gwaed ein henafiaid dras ryddid a chyfiawnden o ddim gwerth, dylasai pob tymro er mwyn aberth y gorffennoL fod yn barod i ymladd hyd farw dros ei wlad. He'blaw hyn, y mae'n amiwg fod ydiafol ac uffern yn dangos eu hwyneb yn am- canion creulon ein gelynion, ac y mae'n ddyled- swydd ar biegethwyr a phawb .ara:l ymladd y diafol. Ni choronir ef oni ymladd yn gyfreithlon." Y mae'r ymladdfahion yn gyfreithlon, a chanddi goron cyafi wilder y merthyri o bydd dyn farw yn yr ym- drech. Y mae'n hen 'bryd i rywun symud gyda golwg ar gael ychwaneg o gelfyddydau i drefydd bychain y sir. Gan fod y gwaith gwlan wedi darfod mewn dawen lie, a'r iffaotrioedd wedi diflannu, y .mae rhyw ddosbarth neillituoJ yn dioddef yn y trefydd oher- wydd diffyg gwaith. Nid ydynt yn aKuog i weith- io ar y ffermydd, ond buasai ryw waith ysgafn car- trefol yn eu galluogi i bwyso I Lai all y trethli. Oni allasai iLlanfair, LLanfyllin, Montgomery, Welsh- pool, Llanidloes a Newtown drefnu i anfon rywun o bob lie i Oswestry at Mrs. Waller, Women's Wel- come Club, i ddysgu gwneud tegannau? Wedi dysgu gallesid codi dosbarth i ddysgu eraill gartref, ac felly gymryd i fyny waith defnyddioL fyddai yn gaffaeHad pwysig i ddiwydianau y sir. Buasai llai o dlodi a diogi ymysg rhyw ddosbarth neilltuo.: o ferched1. Ac hefyd oni allesid dys-gu pobl y tlotai i droi eu bysedd,at wneuthiur teganau fel ag i dreulio dedwyddach oniau. Gresyn fod yn rhaid, myned i Japan i brynu teganau tra mae llawer o alluoedd segur yn Sir Drefaldwyn. Oni ibuasai hefyd yn bosibl i gael y coaltar o'r trefydd hyn i un lie er mwyn cychwyn ffactri i dynnu lliwiau ohono? Crefa'r llywodraeth ar i hyn gael ei wneud. Gresyn fod miliynau o 'bunnau yn flyn- yddol wedi myned i Germani a ninnau gartref yn esgeuluso hyd yn oed yn awr i wneud a aLwn dros ein gwlad ein hunain. Buasai v coal-tar o Lan- (fyllin, Machynlleth, a mannau eraill yn gwneud swm go fawr erbyn ei osod ynghyd, a gallesdd codi ffactri fuasai'n dwyn elw o filoedd o bunnau yn flynyddol y i'r sir. Beth ddywed Mr. David Davies, Llandinam, am hyn ? Dengys report y prif-gwnsta'bl fod 15 yn ychwaneg o achosion o feddwdod yn y sir o'i gymharu a'r quarter diweddaf. Y mae plwyfolion Llanfihangel, lie claddwyd Ann Griffiths, wedi pwrcasu darn o dir fel claddfa gy- hoeddus. Y mae mynwent y Han yn orlawn, ac er ei bod wedi ei helaethu yn ddiweddar y mae y darn ychwanegwyd o dan ddwfr. Y mae'n rhaid codi dwr o'r beddau cyn y gellir claddu, ac nid hyfryd i neb adael eu hanwyli.aid mewn dyfrllyd fedd." "Prield i'r pDielel" ddywed y "Jyfr gweddi cyff- c redin,, ac 09 felly, y mae y plwyfolion yn ddoeth wrth gael ohonynt ddarn arall nad yw'n gysyKtiedig a'r Eglwysblwyfol. Y mae Mr. Gittins, y Faeldre, wedi myned i iawer o drafferthi gyda'r peth a haedda ddiolchgarwch gwresocaf yr aixialwyr.
NODION OR DE'IIEUDIR.
News
Cite
Share
NODION OR DE'IIEUDIR. Caplan.—Da gennym weled enw y Parlch. J. Lewis Evans o Ynys y Barri ymhlith y caplaniaid, penod- edig. Gweinidog ieuanc sydd. yn gwneud gwaith ardderchog yn y cylch ydyw, a bydd yn fendith i'r milwyr yn y rhan yna gael ei wasanaeth. Anrhydeddu'r Iaith.-Chwaer i'r Parch. J. L. Evans, a merch i Mr. a Mrs. John Evans o eglwys, Aberfan yw Miss Maggie Evans, 2'iain oed. Pas- iodd yn icertificated iMistress gyda 'Distinction yn y 'Gymnaeg. Y mae hyn yn s^od jiid bychan iddi. Hefyd v mae wedi ennill y Froebel Certificate." Gwerthfawr iawn ydyw hon yng ngolwg vr awdur- dodau addysgol, a cblamp nid bychan yw ei hennill. Deallwn mat hi yw yr unig un ynghylch addysg Merthyn sydd yn feddiannoli ar y dystysgrif hon. Croesaw iGartre'Nos. Lun diweddaf eynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig a Uuosog yn Soar, Hopkinstown, o dan lywyddiaeth Mr. Dd. Evans, i groesawu Mr. Ed. D. Phillips, mab u.n o flaenoriaidi yr eglwys gar- tre', wedi Ibod am amser maith yng nghanol y rhyfel Efe yw yr ail o. aejodau yr eglwys sydd wedi dod yn ol yn glwyfedig, a da gennym feddwl ei fod yn gwella. Siaradwyd yn y cyfarfod gan yr hen a'r ieuainc o'r ddau ryw, a chafwyd ychydig o eiriau priodol a phwrpasol ganddo yntau mewn atebiad. Darllenodd Arfonfab beni'lion oeddynt yn cyfleu teimlad.au pawb oedd vn bresennol. Cofio'r Milwyr.—lAnfonir parseli diri' o ibobman i bobman iTr milwyp gan gar a chyfeillion, ac nid oes neb ond hwy a wyr faint werthfawrogir ar hyn gan y rhai sydd yn eu derbyn. Pasiwyd yn Soar, Cwm- aman, y ISul diweddaf anfon sypyn ar gyfer y Nad- ojig i bdb un o'r eglwys_ honno sydd wedi ymuno a'r fyddin. 7 Rhoi a phrynu.—Yn ami iawn y rhai sydd yn rhoi sydd hety/ yn prynu, pan y cynhe'lin Sale of Work mewn cysylltiad ag unrhyw eglwys. Trodd y Sale of Work 'all.l yn l'wyddiant mawr mewn cysylltiad g egIwys SOlar, Cwmaman ddydd loau diweddaf. Yn Neuadd y lie y trefnwyd yr arwerthiant. Agorwyd y Sale gan Mm Kenshole, priod yr Uwch Gwnstabl. Cynhadledd a Ch enh,adaeth.Cynba.,i,odd y gwrag- edd gynhadledd prynhawn ddydd Mawrthi diwedda! yn y Triniti, Aberdar. Anerchwyd y -cyfarfod gan Mrs. Wynne Thomas-, Abertawe, a dyddorol iawn oedd: ei chlywed. iLlywyddwyd y cwrdd gan Mrs. Walter Lloyd. Yn yr hwyr cawd araith odidog ar ei brofiad yn y maes cenhadol g.an y Parch. Wynne Thomas. Bu efe a'i ibriod yn yr India am wyth mis, ac yn ys,tod yr amser wedi gwel'd a chlywed llawer. Y gweinidog y P.areh. J. L. Jenkins oedd yn y gad- a:r, a'r 'Parch. Thos. Powell, Cwmdar, a ddechreu- odd y cwrdd. Y Pregethwr, y Bardd, y Cerddor.—I ba un o'r tri hyn y mae Cymru yn fwyaf dyledus ? Dyna oedd testun dadl frwd ym Methania, Aberdar, nos Fawrth diweddaf. Mr. John 'Griffiths ahaemi mad i'r Pre- gethwr; Mr. Brychan Thomas yn hawlio mae i'r B.ardd, a Mr. Trefor Jones yn ho-nni mai i'r Cerddor. Chwythw^d y tan gan 'Mri. Tom Evans, Timothy Davies (B.A.), Beddoe Stephens, J. W. Young, John Christmas, John Mills (Tariannydd), Parch. W. Dav- ies, M.A., a'r Cadeirydd ,Mr. John Evans. Un o'r htan stoc.— i7m marwolaeth .Mr. W. James (GwLym Iatgo), yr hwn a hunodd yn yr angau fore Sul diweddaf yn nhy ei ferch, Mrs. Edwards, Pem- broke Stores, Bargoed', collodd Cwm y IRhondda un o'i chymeriadau mwyaf dyddorol. Ganwyd ef go m'lynedd yn ol yn Aberdar, ond ymadawodd y teulu am y Ddinas, Cwm y Rhondda, pan nad oedd ef ond baban. Saer ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu am flynyddoedd meithion yn gwneud y gorchwyl hwnnw mewn cysyLtiad a'r lofa ya y lie. Gwr amryddawn ydoedd. Ysgrdfennodd rai cyfrolau, ac yn eu phth ceir "Hanes Ðafydd Terry," Wyth-ar-ugain o Hen Gymeriadau Cwrn y .Rhondda," a Hanes Dechreu- ad yr achos yn y Dinas." 'Meddai ar gof eithriadol. Bu yn flaenor yn aglwys y C.M. yn y Dinasi am 40 mlynedd. Meddai ddylanwad mawr ar yr ieuainc, ac yr oedd yn weithiwr egniol gyda dirwest. Cladd- wyd ef yn Llethrddu, Trealaw. Have you got it. "-ICwestiwn naturiol iawn o e:ddo Syr Henry Jones oedd hwn pan wrthi yn an- nerch tyrfa ifawr yn Nieuadd Pontypridd nos Fawrth diweddaf ar y pwysigrwydd o ymrestru. Dangosodd yn eg'ur iawn y gwahaniaeth rhwng Compulsion a Conscription." Dywedai yn bendant y by-dd yn haws i rai wedi ymrestru ymryddhau am resymau neilltuol, nag i'r rhai sydd yn peidio vmrestru fod yn rhydd pan y daw dydd y prawf. Cwrdd Pregethu.—Blaengwynfi, Parchn. T. J. Ed- wards., Abercarn, aq M. J. Jones, Pontrhydyfen. SENGHENYDD. Cynhaliodd yr eglwys uchod ei ohyfarfodydd pre- gethu eleni ar y Sul a'r Lun, Tach. i4eg a'r 15fed. Pregethwyd gan y Parch. Philip Jones, Llandeilo, a'r Parch. R. J. Jones, Penygraig. Cafwyd pregethu tra r.hagor.ol a chynulleidfaoedd. lluosog. Mae yr eg- lwys yma yn dal ei thir yn dda ag ystyried yr am- gylchiadau, a'n gweinidog, y Parch. E. Thomas-, un o o:>euon y pulpud, ar ei oreu.—Goh. LiLANSAMLET. Cyfarfod Sefydlu y Parch. T. Vaughan Jones; Daeth tyrfa fawr ynghyd nos Iau diweddaf i Gapel- y-'Cwm, Llansamlet, i groesawu y Parch. T. Vaughan Jones, .gynt o IMaestsg, fel bugail ar yr eglwys. Mae Mr. Jones wedi cymryd gofalaeth un o'n heglwysi mwyaf hynafoj a phwysig. Mae yn cael y fraint o fod yn olynydd i weinidogion anfarwol, dylanwadol a nerthiol, ymysg y rhai v gellir enwi y Parchn. Thos. Rifchards a Ezeciel Thomas, y rhai fu yn wasanaelth- gar yn yr eglwys am flynyddoedd lawer. Dymunir iddo lwyddiant mawr, ac y mae pethau yn hynod o lewyrchus yno ar hyn o bryd. Dechreuwyd y.gwas- anaeth gan y Parch, 0. C.Nlorig,an,,Be-thehem, Llan- samlet, yn bwrpasol a dylanwado\ Pregethwyd yn rymus, ac i bwrpas gan y Parchn. 'Picton Evans, M.A., Treforris, a Wm. Thomas, Maesteg. Cafwyd tystiolaertih werthfawr gan y ddau i ffyddlondeb diwydrwydd, a llafur y gweinidog newydd yn y gorff. ennol. Siaradwyd ymhellach gan y tad duwio:, Wm. Harrison, blaenor hynaf yr eglwvs., yr hwn gadwodd y gynulleidfa yn fyw, a'i atgofion o'r gorffen.nol, a'i hyder .am y dyfodol. Hysbyswyd fod nifer o lythyr- au wedi dod i 'aw oddiwrth nifer o weinidogion ac erai'l, yn datgan eu gofid am nad allen-t fod yn bres- ennol, ac yn dymuno pob llwyddiant i Mr. Jones. Siaradwyd yn effeitihiol wedi hynny gan y bugail newydd. Terfynwyd cyfaufod a hiir gofir drwy ganu emyn. Ar i'r briodas fod o dan fendiith Duw, oedd gwvsddi pawb oedd yn bresennol. MYNYDD ISAF. Sefydlwyd cymdeithas lenyddol a dadleuol yn y lie uchod, a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf Rhag. 2ail. Mater y cyfarfod oedd-" A ddylai pob un sydd mewn oed milwrol ymuno a'r fyddin?" Neu mewn geiriau enaill, A ddylid c.ae: gorfodaeth fi'wrol?" Dros, orfodaeth! yr oedd Miss M. Lloyd Jones, yr ysgolfeistres, a chefnogid hi g-an un o'r llywyddion: yn niffyg IMr. Peter Hewitt. Yn erbyn yr osdd Mr. Willie Shone, a chefnogid ef gan Miss Maggie 'Hewitt. Methai Mr. Shone a bod yn bres- eranol, a darllenwyd ei ban-ur gan Mr. Hardey Shone. Si.aradwvd hefvd gan Mri. John Williams, W. A. 'Hopwod,Charles Ellis, R, E. Whitehead. Caed cyfarfod byw iawn, ac mewn ys'bryd rhagorol. Pan aed i bleidleisio yn y diwedd caed 13 o bladd a 11 yn erbyn gorfodaeth filwrol. Ond credwn mai y rheswm fod cynifer wedi plelQlelslo o blaid oedd edrych mwy ar y dadleu ynddo'i hun, yr hyn oedd yn wir dda o bobtu, nag ar Qjfodaeth. Bwcle.—'Bydd y Parch. Ellis, Lloyd, gweinidog yr ,eglwys 'Gymr.aeg ym Mwcle, yn torri ei gysyl.Itiad bugeiliol a'r eglwys ddiwedd y flwyddyn. Bydd yn diosg ei wisg -fugeiliol yn anrhydeddus iawn bu yn. wr craff ac yn !gyngbiorwr cywir. Hir oes iddo i bregethu yr efengyl a bregethat mor bur,