Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

MR. WILLIAM JONES, Y.'H.,…

News
Cite
Share

MR. WILLIAM JONES, Y.'H., ABERDYFI. GAN Y PARCH. T. R. JONES, TOWYN. DIRWYNODD dyddiau Mr. William Jones i ben fore'r Saboth olaf o Dachwedd. Eithr pwy a draethia'i oes," o ran ei dylanwad da ar Aberdyfi a'r cylch? Dyma'n ddiau y g oiled fwyaf allasai eglwys Fethodistaidd y lie ei chael ar hyn obryd teyrnged i1 werth ei fywyd ac i faint ei wasanaeth yw'r galar dwys a chyffredinol a d'eimlir ar ei ol. Bu fyw mor lwyr i'r eglwys ac i'r dref, a hynny am gyf- nod mor faithi, fel yr ymddengys y rhai a adawyd megis amddifaid1 di-dad gwedi ei symudiad o'u plith. Eithr erys ei esiampl a'i hanes yn gynysgaeth iddynt hwythau; y cyf- iawn a fydd byth mewn coffadwriae,th; trig ei, ddaioni yn y tir am genedlaethau; ei weith- redoedd a'i canlynant ef i'r gogomiant; er wedi marw efe a lefara eto o blaid ffyddlon- deb, trefnusrwydd, sel, a rhinwedd. Ganwyd' ef yn Llanerchllin, cwm Maethlon —a elwir yn Saesneg yn D'dyffryn Dedwydd. Amaethwr, a phregethwr, oedd ei dad, o'r un d' enw ag yntau-dyn cymeradwy yn ei ardal, a phregethwr o ddoniau1 melus a phoblogaidd. Gyda chydweithrediad ei gymydog, y P'arch- edig Humphrey Evans, Dyffryngwyn, a rhai gwr grymus eraill, gofalodd am fagwraeth grefyddol i ieuenctid yr eglwys fechan yn y cyfnod hwnnw. Eithr bu farw yn 1855, pan nad oedd ei ddaiv fab a'i ferch ond plant ieu- ainc. Cod odd y tri hynny i fyny i alw eu tad yn ddedwydd yn ei Dduw a'i wasanaeth; a throisant addysg yr aelwyd a'r eglwys yn rhuddin cymeriad cryf ac yn egni parhaus gyda phob symudiad daionus. Mr. William Jones oedd yr hynaf o'r tri, a dechreuodd weithio yn fore, yn enwedig yn yr Ysgol Sab- Z, othol. Tystiolaethir hyd eto ei fod yn athro rhagorol pan nad oedd ond llanc o ran oed- ran. Ymgydnabyddodd a chynnwys yr holl Ysgrythyr, cynhyrchai frwdfrydedd yn ei ddisgyblion i chwilio' ymlaen Haw i ystyr y wers, a dygai hwynt i ganfod' gwerth ymarfer- ol y Datguddiad dwyfoL Cadwodd ei asbri gyda hyn drwy'r blynyddoedd, ni thywyllodd ei lygaid i fethiu gweled gogoniant Gair Duw, ac ni chilvodd ei ireidd-dra ef. Safodd yn ei ran fel athro hyd ddiwedd ei oes, ac ystyrrid ef yn un o* golofnau'r sefydliad yn y Dos- barth a'r wlad. Symudodd o Faethlon i Aberdyfi, gan ymsefydlu yno fel masnachydd cnydau'r tir. Trwy ddiwydrwydd a medr, llwydHodd yn fawr yn ei amgylchiadau; ond ni sychodd ei ysbryd, ac ni laesodd ddwylaw gyda gwaith yr Arglwydd. Dewiswyd ef yn gynna,r yn flaenor eglwysig, a llanwodd y swydd g-ydag anrhydedd. Rhoddai fri mawr ar ei ymddiriedaeth hon; gosodwyd ef mewn llu o swyddi eraill, yn blwyfol a sirol, eithr ni ioddefodd i orchwylion un o honynt gyfyngu ar ei ddefnyddioldeb yn eglwys y Tabernacl. Z, Dilynnai gyfarfodydd a phwyllgorau ynglyn a'i swyddau eraill, ac ymatebai i bob galaad resymol arno o'r cyfeiriadau hynny; ond i'r eglwys y rhoddodd er oreu', ac yn ei gwaith hi yr oedd ei hyfrydwch pennaf. Caffai ei lawenydd nid yn unig ym mreintiau crefydd, eithr yn ei dyiedswyddau. Crefydd gwaith yn fwy na chrefydd teimlad oedd yr eiddo ef tyanai ddwfr o ffynhonnau iachawdwriaeth, mewn tir fel eddol Llyfr y Diiarhebion yn gystal ag yn yr Efengylau a'r Epistolau. Gwrandawodd ei glust ar gerydd y bywyd, a phreswyliodd ymhlith y doethion. Daeth trallod a phryder i'w ran: claddwyd ei briod a'i unig ferch addawol, ynghyda'i frawd a'i chwaer; iacheid ei galon trwy ymroddiad ad- newyddol i waith da; ildiodd ei hun i ewyllys yr Arglwydd, a rhoddes ei aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw. Yr oedd yn Fethodist teyrngarol, ac yn falch o berthyn i'r Cyfundeb; a. phrawf o'i gariad at ei Waredwr oedd ei enwadgarwch. Wedi cael ei hun yn eu mysg, a dod i hoffi eu trefn a'u rheolau, gwybu mai trwy ffydd- londeb i'r Methodistiaid' y byddai efe ffydd- lonaf i Ben yr Eiglwys fawr gyffredinol. Heb fod yn ddifarn ei hun, hawdd ganddo oedd credu fod cynhulliad o bobl a drafodasent faterion yn hamddenol, ac megis ym mhresen- oldeb Duw, wedi eu harwain i'r iawn olygiad gyda golwg arnynt; ac ystyriai benderfyniad- au Sasiwn a Chyfarfod Misol, gydag anog- aethau Cyfarfod Dosharth neu Gyfarfod Ysgol, yn bethau cysegredig, haeddlannol o'i gydweithrediad ef. Mab tangnefedd ydo-edd a chyda thosturi, os nad digllonedd sanctaidd, y gorfodai ei natur ef i edrych ar bob gwrth- ryfel eglwysig yn erbyn awdurdod. Gwyddai hanes gorffennol a phresennol ei Gyfundpb yn fanwl a bu cofio, y gwrhydri a gyflawnodd Methodistiaeth yn yr amser a fu, yn gynhorth- wy i ddal gobaith o'i fl'aen at t dyfodol. Clywsom ef yn darllen papur ar rai o'r Tadau Methodistaidd, a ddangosai gyda pha fath edmygedd yr enwai y cewri hynny, a maint ei awydd am i'r genhedlaeth hon arweddu1 yn deilwng o'i thraddodiadau. Nid oedd ganddo ddawn lithrig na pher—fel ei dad ond ceisiai wneud i fyny1 am hynny trwy gyflawnder o fater detholedig yn ei anerchiadau. A'i briod waith ydoedd annog i weithredbedd da: defn- yddiai ffrwyth ei wrandoi a'i ddarllen i gymell ei gyd-aelodau i rodio yn add as i efengyl Crist, ac i weithio gwaith vr Hwn a'i hanfo-n- odd tra'r ydoedd yn ddydd. Fel hyn, ac ymhob modd posibl arall, y eynhaliai freichiau gweinidogion yr eglwys. Llwyddasant, yn bennaf ond odid trwy ei offerynoliaeth ef, i sicrhau cyfres o ddynion ieuainc. talentog vn fugeiliaid, y.rhai wedi cyfnod 0 wasanaeth yno- a symudent i leoedd o gyfrifoldeb nwv ac o ddylanwad mawr yn y Cyfundeb. Gwyl- iai yntau eu hymagoriad, a'u camrau tuag i fyny, gyda dyddordeb a serch; a rhoddes bob cymorth ewyllysgar iddynt yn eu gwaith. Yn y gyfres cawsant un gweinidog claf-J. D. Z- y t, Z, Jones arwyddai yntau ddod yn wr eithriadol 01 rymus, onibai ei lesteirio gan afiechyd; dangosid cydymdeimlad a gofal am dano yntau. A chafodd y gweinidog presennol bob -cefnogaeth gan Mr. William Jones hyd y diwedd. Ni roddodd ffordd i syrthni natur, ac ni wrandawai ar lais blynyddoedd einioes yn galw am arafu'r oilwynion. 0' ran ffurf yn unig yr ymddeolodd o'i fasnach prin y bu'n brysurach yn ei oes nag yn y flwyddyn olaf o honi; ac ni freuddwydiodd fod ymatal oddiwrth wasanaeth gweithredol yo yr eglwys, yn beth posibl. Hù "1 loddion ail- gychwyn chwarel yn ardal Corris, yn gymhar- ol ddiweddar; a meddai ei gynlluniau eang Z, gyda honno. Cymerai ei sedd yn rheolaidd fel Ynad Heddwch yn ei Ddosbarth; a bu yn swcr i Ddirwest, ac yn gefn i Ymneilltuaeth, yn y llys. Mynychai Gyngor y Sir fel un o'i y I Henaduriaid, a chymerai ddyddordeb deallus yn y gweithrediadau. Dilynnai'r Cyfarfod- ydd Misol yn ffyddlon. Ond bu yn berffaith gyson i gyfarfodydd yr eglwys gartref, heb byth golli yr un ond 0' raid. Nid allai fwyn- hau seibiant haf yn Llandrindod, heb ddod adref dros y Saboth i' addoli Duw gyda'i gymydogion. Fel Timotheus yn Philippi, efe a wir-ofalai—neu yn naturiol a ofalai—am y pethau a berthynent i heddwch ac adeiladaeth yr eglwys. A thra'n fawr ei ofal am syniad- au ac arferion rhai eraill, nid esgeulusodd ei fater mawr personol rhyngddo a Duw. Mewn cyfyngder eitha' caled oblegid poenau yr ysgariad rhwng corff ac enaid, mwynhai dangnefedd heddychol ynglyn a'i gyfiUvr ys- brydol. Ymadaw wnaeth a'r babell y trigodd ynddi am tua 7S mlynedd ar y ddaear; ond gwyddai fod ganddo dy nid o waith 1law, tra- gwyddol yn y nefoedd. Ni frysia yr hwn a gredo."

ER COF.

JERUSALEM YN AMSER RHYFEL.