Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CWRS Y BYD.

News
Cite
Share

CWRS Y BYD. Prynodd Mr. D. A. Thomas ddau gastell yn ddi- weddar yn Sir Fynwy ac ystad o 4,000 o gyferi. Da gweled castelli Cymru fad eto yn myned yn feddiant i 'Gymry. Hip oes. i IMr. D. A. Thomas i fwynhau ei gastelli, ac wedi iddo orffen a hwynt bydded iddo eu trosglwyddo yn eiddo i'r genedl. Y mae un o Ynadon Swyddi Lancaster wedi cy- hoed-di pamffled yn dweyd pethau arswydus, ,am foesoldeb Manchester, ac y mae'r Cyngor Dinesig wedi ethol pwyjlgor i wneud ymholiad i'r achos. Hwyrach mai distawrwyd-d. sydd weddus biyd nes y daw adroddtiad y pwyllgor, ond os gwir y pethau hyn y mae'n hen bryd ysgubo y fasnaah feddwol o'r wlad. Y mae llawer o fechgyn o Gymru yn y fyddin yn aelodau Methiodistaidd, ac yn goddef cael eu hystyr- ied fe: deiliaid! Eglwys, Loegr, ac ar sail hyn y mae Esgobion cibddall Cymru yn cadw twrw ac yn aw- grymu mai hyn a hyn o Eglwys 1L0e.gr .sydd at bob un o Anghydffurfwyr. Y mae crefydd An-ghydffurf- iol 'Cymru yn dysgu ei deiliaid nad oes llawer 0 bwys mewn ffurflau allanol-, a bod crefydd yn rhywbeth y tudnaw i gredoau a ffurfiau. Ni waeth gan lawer ohon-m beth y gelwir ni-galwer ni yn Babyddion os mynnir; nid gwaeth y'm, o hiynny; vr hyn sydd yn bwysig ydyw a ydym yn feddiannol ar rywbet'h heblaw enw o grefydd. Y mae un 0 leiaf o bregeth- wyn yr Hen 'Gorff yn cael ei ystyried yn aelod o Eg- lwys Loegr i bwrpas y fyddin. Ni waeth ganddo pwy dderUyn y gwasanaeth claddu uwchben ei Iwch o fcydd efe wedi ei ladd wrth ymladd dros iawnder- au'r ddynoliaeth. Y mae dau goJeg diwinyd'dol yn ardal Manceinon wedi eu cau. Y mae naw o'r hen ôfrydwyr yn gap- laniaid o Egerton IHalI, ,a rhai eraill yn dal com- isiwn. Y mae 8 arall yn y Y.M.C.A. ac yn y rheng- oedd. Y mae'r Prifathro ,a'r Vie-e o'r un coleg wedi myned yn gap"aniaid, a Warden o go leg arall St. Anselon. [Rhyfedd fel y ca ambell le ei anrhydeddu. "Lloyd George Ffraincv gelwir M. Albert Thomas, ac y mae rhywbeth ddigon tebyg rhwng y ddau wr t.alentog. Efe ychydig flynyddau yn ol oedd y cryfaf ei ddaliadau o blaid heddwch, ond er- byn hiyn y mae fel Lloyd George y Cymro yn brif- ddyn y bwled'i a'r magnelau. Yn y blynyddoedd boreuol bu yn athnaw yn nheulu Victor Hugo. Mab ydyw i giopwr yn Ch.anpigny, ac yn oed, ac yma y trig efo'i wraig a'u dwy ferch fach. Yn Ffrainc drwy ei ddylanwad ef nid oes neb yn cael aros- adre i wneud munyddon (munitions) ond y rhai anheb.gor- ol i'r gwaith. Llenwir- y ff-actrioedd a merched, hen- afgwyr, Arabiaid, Kabyliaid, ac Annamiaid, y rhai weithjient ochr yn ochr yn heddychlawn, gan adael y gwyr nerthol i fyned i'r frwydr. Yn hyn y maent yn esiampH i'n gwlad ni. Dyddorol iawn ydyw sylwi ar enillion y darllaw- wyr. Y .mae y Yates Castle Brewery, Manchester, medd y papurau, wedi cael blwyddyn dda, a'r enijl- ion yn fwy n.a'r llynedd, tra m.ae'r Birfeenhead Brew- ery Co. yn talu 14 per cent. Y mae ganddynt re- ,9 serve fund o £ 129,316. Ei enillion y llynedd oedd £ 40,744- 'Does ryfedd fod anhawster hyd yn oed i'r ywodraeth i drin y galluoedd hyn. Y mae'r re- serve funds hyn megis submarines ar for o gwrw, a deuant i ddinystrio bywyd uchaf a goreu y genedl. Mae'n warthnod arnom fel gwlad ein bod yn goddef y fathl elyn. Yn lie adeiladu ffactrioedd newyddion dylasid troi y bragdai yn ffactrioedd. Y mae'r nerth yno'n barod 'does ond eisieu tynnu y vats ,a:tlan a rhoddi lathes i mewn. Buasai corneli y fasnach feddwol yn rlhyddhau miloedd o ddarllawyr, tafarnwyr, plismyn, ac .adar y carchar- dai i ymuno a'r fyddin. Credwn na enillir i fudd- ugol'iaeth hyd nes y bydd y dosharthiadau hyn yn y trenches.' IGwyddant hwy am erchyllderau yn well na neb arall. Dylasai y Kywodraeth fabwysiadu y reserve funds enfawr hyn at les y wlad yn yr am- ser enbyd hwn. Y mae Dr. Oswald, fu yn chwiliota yng Nghano' barth Affrica dros yr Amgueddfa Brydeinig wedi dar- ganfod pethaHi go hynod, yn eu plith lyn o soda a llwyth o bolhl na wisgant ddiDad 0 un math. Dyma le i rywun agor siop! Dywed Esgob Manceinion (y dylasem fel gwlad drei at yr Arglwydd .gydag wylofain a gweddi ac ympryd. Noda fel pechiodau y mae ,Prydain yn euog ohonynt: amhurdeb, tor-priodas, meddwdod, chwenychu eiddo, enlli'b, cweryla, torri Saboth, ac yn bennaf oil difaterwch parthed Penarglwyddiaeth ac awdur- dod y Brenin mawr. Nid yn ami y ceir esgobion yn siarad fel hyn. Gan am'laf Datgysylltiad a 'Dad- waddoliad yr Eglwys yng Nghvmru sydd fel gwenyn yn eu gwallt! Y mae'r Eglwys yn iLIoegr yn dech- reu sy^weddoli ei chenadwri. Hwyrach y ceir clyw- ed esgobion Cymru yn son am ddagrau a wylofain am bechod a gweddi cyn hir. Ar adeg raor ddifrifol dylasai fod cwrdd gweddi ymhob eglwys blwyfol drwy Gymru bob dydd, a,c ymhob caroel hefyd, o ran hynny. Torodd tan ,aDan yn ddiweddar yng nghadlys Conwy. Llosgwyd lluest y swyddogion a'r holl ddmad, &c. Yr oedd y ff'lamau meddir yn cyrraedd tua 100 troedfedd. Yr oedd dau ddyn dedwydd yn San Francisco yn dymuno ymbriodi, ac aethant at yr offeiriad.- Nid oedd gan y parchedig awydd eu priodi oherwydd nad oedd ganddynt ddigon o ari.an i'w dalu ef. Gad- ewch i mi fyned adref am hanner awr a dychwelaf a digon o arian," meddai y ferch, a ffwrdd a hi gan ddychwelyd ymhen y rhawg. Priodwyd y ddeu- ddyn dedwydd," ac wedi talu i'r offeiriad, cyn ym- adaw eb ai'r- ferch d'digywilydd, 'Dyma y pawn tickets eich hiybarch, cymerais eich hat a'ch coat o'r festri i dy 'newyrtih! Dengyspapuraù Llundiain fod y genedigaethau i Iiawr ryw 77,000 y flwyddyn hon drwy y rhyfel a'i ganlyniadau.

[No title]

,,,......_,-v-"""--'''''''''',.....----.…

MEIRION A'R GLANNAIJ.

OR YSTWYTH I'R DDYFI.