Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

".'.'.....;;CONGL YR ALLIANCE.

--ABERHONDDXJ.

CAERNARFON A'R CYLCH

Y GOLOFN GYMRAEG|

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y GOLOFN GYMRAEG | GAN Y PARCH. D. TECWYN EVANS, B.A. ■J- T. Davies [Llanelli).—" Teitl ysgrif Mr. David R. Griffiths., Penmaenm.awr, yn y CYMRO Tach. 3, yw CI-yfieithiadau y Beibl yng Nghyrnraeg ac yn Saesonaeg." Cyn diwedd yr un ysgrif, ceir Cyf- je:th:adau Cymreig a Seisnnig." Dymunaf ofyn prun. -o'r rhai hyn sy'n gywir? Beth yw eich: barn chwi am yr. ysgrif ryfedd .ac ofnadwy .hon ?" v Ni allaf ateb y cwestiwn olaf yn y Golofn hon, gan mai ei diben yw ymdrin a'r Gymraeg yn unig. Gan hynny, tawaf a son. Ond bu pyfedd yn wir gen- Inyf weled y teitl a. nodwch m-ewn papur- newydd parchus ar yr .amser yma ar' y dydd, na gweled neb yn son am" Gyfieithiadau Cynireig a Seisonig." Y mae polbun o'r rhai hyn yn anhiygoel' o anghywir. Cymeraf hwy bob yn un. (i) Yng Nghymraeg." Ystyr ,hyn yw in the Welsh, of,' ac ni all olygu dim arall. Er enghr.aifft, y :mae'n iawn ei ddefnyddio | mewn brawddeg fel hon,—" Yr oedd grym a gogon- iant yng 'Nghymraeg Goronwy Owen." Ond yr hyn syddi yn eisiau yn y teitl yw yn Gymraeg sef yw hynny, in Welsh-. Yr un yn sydd yn yr idiom yn Gvmraeg a'r sawl a geir yn y frawddeg, Y mae'r llyfr yn ddaIn yw'r Saesneg am y ddau, a dyna efal\ai a bair eu cymysgu gymaint yn Gym- raeg. Sylwer ar y ddwy frawddeg a ganlyn (a) Y mae grym yng Nghyrnraeg y Canol Oesoedd,"— There is force in the Welsh of the Middle Ages;" (h) Gwell gennyf ei glywed yn pregethu yn Gym- raeg,"—" I prefer to bear him .preach in Welsh., (2) Saesonaeg. Ffurf .a ddyfeisiwyd yn weddol ddi- weddar yw hon, ac y mae'n amhos.ibl. Y mae Saeson yn gywir, ond beth am yr aeg yn ni- wedd y gair? Tybiwyd mai a.eg oedd y terfyniad pnodol; eithr y terfyni.ad iawn yw "eg." Nid Ffrangaeg sy'n gywir, eithr Ffrang-eg," nid yr Wyddelaeg ond Wyddeleg." Soniwyd llawer am yr hen aeg." a chyfystyr a hynny fai son am the old ish yn Saesneg! Y ffurf gywir yw Saesneg." (3) "Cymreig a Seisonig." Ystyr "Cymreig" yw Welsh yn yr ystyr o berthyn i Gymru neu bobl Cymru. Ystyr "Cymraeg" yw" yr IaithGym- .1 -Taifh Gym raeg neu berthyn i'r I,aith. Er enghraifft, Achos Cymraeg" yw achos' lle'r arferir yr laith Gymraeg; ond Achos Cymreig" yw'r achos sy1'n dal perth- ynas a Chymru neu a iphobl' Cymru. Gall "achios Cymreig fod heb arfer y Gymraeg ynglyn ag ef. Felly'n union ystyr "Saesneg" yw "the English language, or pertaining to the English language." Ystyr Seisn; g yw "pertaining to England or the English people." Gan mai son am Gyfieithiadau y mae Mr. (Griffith, eglur yw mai'r unig.beth sy'n gywir yw Cyfieithiadau Cymraeg a Saesneg." Anghen- fil bondigrybwyll 0 air yw Seisonig," a gwareder y CYMRO rhagddo o hyn allan. Disgybl (LlanfyiiinJ.—(1) Y mae "nhLanod" fel lluosog rhiain yr un rnor echrydus a gwragod fel lluosog gwraig." Megis mai gwragedd yw lluosog "gwraig." felly'n union rhianedd yw lluosog "rhiain." Cymharer,cel,ain., celanedd daint, dannedd; neidr, nadrodd, neu nadredd edeu (unigol), edafedd (lluosog). (2) Y mae "cydnalbyddodd" a cydnabyddwyd vr un mor wallus- a phe dywedid byddodd yn- Ile bu," a byddwyd yn lie buwyd." Un o ffurf- iau cyfansawdd y ferf bod yw cydnabod," ac ond cofio hynny y mae'r peth yn ddigon eglur a syml. (3) Na, nid oes g yn agos i'r gair wyneb," ac ni bu erio-ed. Llygriad llafar gwlad yw gwyn- eb," megis y dywedir "giâr" am "iar," a gwatsio am watsio (to watch), a "gildio" am ildio (' to yield '), &c. Yr 'Hen Gymraeg yw enep." Atolygais lawer gwaith bellach am i bob un roddi ei wyneb yn erbyn yr g hon, ond yohydig sydd wedi gwneuthur hyd yma. Y ffordd i gynhanu "wyneb" yw megis y cynhenir "wy" (' egg ') ac wyth (' eight '), ac wylo." I bob un a wyr am y gynghanedd lsug, bydd y peth yn amlwg oddiwrth y ddwy linell a ganlyn,— ";Rh.aid i'm ddwyn pridd ar fwyneb," D. ap Gwilym Amlwg fydd trwyn ar wyneb,- Edmwnd 'Prys. (4) "Dweyd" a "gwneud" sy'n gywir, ac nid dweud a gwneyd." Ond ffurfiau gwan yw "dweyd" a "gwneud," a gwell defn- yddio'r ffurfiau llawn dywedyd," "gwneuthur," fel y gwneir yn ddi-eithriad y ny Beibl. Gwelir oddiwrth. y ffurfiau llawn mai y yw'r llafariad wreiddiol yn "dywedyd," a mai "u" yw'r llafar- iad wreiddiol yn gwneud." Gwneuthum (nid gwnaethum ") sy'n gywir,-cymbarer "gwneuth- ur." Felly hefyd euthum nid "aethum." Drwg gennyf fod yr hyn a ddywedais am y gaten fain lygeitu wrth y Parch. T. 'Miles Jones yn rhifyn Tach. 3 wedi ei andwvo gan w d:r wasg. Dywedyd a wneutbum am lygeitu mai o lygaid- du y daeth, (megis y daeth cytir o cyd-dir ") a'i bod yn ffurf brydferth ei gwala. Credaf y bydd y.paragraff (4) yn weddol ddealladwy belLach, os bu'n wiw gan Mr. Miles Tones. ei gadw wrth law. Y tro nesaf atebir J. W. (Wilksden), Cymro ar W.asigar, a Golffiwr (Aberdyfi), j 4

Advertising