Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

'",.....-CYMRU AR RHYFEL.

News
Cite
Share

CYMRU AR RHYFEL. Mae nifer dda o'r milwyr sydd ar forfa Conwy yn myned i'r capelau Ymneilltuol. Mae tua, 50 o efrydwyr Coleg Caerlleon wedi ymuno a'r Fyddin o dan gynllun Arglwydd Derby. Mae y Parch. J. Williams, Brynsiencyn, yn bwriadu rhoddi ei holl egni ar waith i gyn- orthwyo i godi Byddin Gymreig gref eto. Mae Esgob Abertawe wedi myned gyda'r adran gyntaf o Diriogaethwyr Brycheiniog. Efe yw caplan y gatrawd. Dychwelodd Cap ten W. Henry Williams, yr ymgeisydd undebol dros ran o Sir Ddin- bych, o'r Dardanelles yn wael ei iechyd, a gorffwysa yn awr yn Colwyn Bay. Mae mab y Parch. D. Hoskins, M.A., Caer- narfon, wedi ymuno a'r Fyddin. Yn y banc yn Llandudno yr oedd. Yn y gwersyll ger- 11a w Croesoswallt y mae Mr. Hoskins yn awr. Cawsom air oddiwrth amryw oedd yn bres- ennol yn Winchester y Saboth cyn i'r milwyr Cymreig gychwyn allan i Ffrainc. Soniant am yr oedfa nodedig a gafodd y Parch. W. Llewelyn Lloyd, a'r hwyl a gafwyd wrth ganu hen emynau Cymreig. D'ywed Mr. T. James, P'orthcawl, na, chlywodd yr emyn 0 fryniau Caersalem ceir gweled,' &c., erioed yn fwy effeithiol. "Oedfa nad anghofiaf mohoni byth oedd un Mr. Llewelyn Lloyd. Arhosodd dau ar ol i gymuno am y waith gyntaf. Yr oeddwn yn teimlo fod ysbryd y merthyron yn Ilenwi y lie, a safai y bechgyn fel creigiau." Cwynir yn ami fod y cylchgronnau cyfun- debol yn ddiddrwg-ddidda ar gwestiynau y dydd. Nid felly y Treasury," misolyn eg- lwysi Saesneg y M. c., sydd yn cael ei olygu mor fywiog a galluog gan y Parch. Talog Davies. Materion ynglyn a'r Rhyfel sy'n destun ei nodiadau misol yn y rhifyn diwedd- af. Mae'n Ilawdrwm iawn ar Dr. Meyer, who by some subtle and mysterious process has discovered that he is the archbishop of Nonconformity." Dywed Mr. Talog Davies nad yw Anghydffurfwyr am gyftwyno eu cyd- wybodau i ofal neb, ac nad yw ordeiniad yn rhoi dyn mewn urdd. Dywed y rhaid i bob gweinidog benderfynu drosto ei hun, a chymeradwya'r sylw y byddai dyn yn euog o bechod os gwrthoda gydsynio a galwad ei gydwybod i ddwyn arfau. Ond yn dilyn ceir y geiriau canlynol:— A minister if he enlists will achieve some notoriety. He will very likely get his photograph in the newspaper, and will be lauded for his patriotism by people who do not know a patriot unless he screams. Now the question he has to put to himself is this, If Christ camie to his own, wouldl this or any other war (have happened ? Is not war a negation of Christianity, Is it not his business to bear witness to that, even if he is a voice in the wilderness? Should he decide that 'he can leave his sphere of labour and throw up his commission to preach, should he not also decide that he ought to have done so in any case, war or no warP" Yna mae Mr. D'avies yn myned ymlaen i ddangos nad yw'r oil o'r bai1 ar Germani. The war is the result, not of antagonism in the people, but of fear and distrust,—the exact negation of what Christianity teaches. And this is the time that our leaders so-called ex- pect us to cease our work and to' talk no more of the Fatherhood of God nor the Brotherhood of man, but to close the Book and join in the fray." Nid oes le i ddyfy'nnu rhagor. Mae Mr. Talog Davies yn meddu gwroldeb i ddweyd c-i, feddwl beth bynnag yn rhagor ellir ddweyd. Da gennyf weled am ddyrchafiad pellach yn y fyddin i Mr. Christopher J. Jones, o'r Dref- newydd. Yn awr mae wedi ei benodi yn Gapten yn yr 2ofed Fataliwn o'r R.W.F.yn cychwyn o'r iaf o Awst diweddalT Mab ydyw Capten Jones i'r Parch. Elias Jones. Drefnewydd, Cyn-Lywydd Cymdeithasfa y Gogledd. Mae y Capten wedi bod yn gwas- anaethu fel athraw yn Ysgolion Sirol Dinbych a Penfro, a chyn i'r rhyfel dorri allan yr oedd yn athraw yn vsgol adnabyddus Mill Hill, Liundain, Mae y Parch. J. Lewis Eivans, bugail eg- lwys y Forward Movement yn Ynys y Barri, wedi ei benodi yn gaplan i'r milwyr Method- istaidd sydd yn y cylch. Cyrhaeddodd y newydd ddiwedd yr wytiinos fod Lieut. Vernon E. Owen, mab y Parch. T. E. Owen, rheithor Aberdaron, wedi ei ladd yn y rhyfel. Nid oes ond ychydig' wythnosau er pan ddaeth yr un newydd galarus. am ei gefnder, mab Mr. W. P. Owen, Aberystwyth. I Ffrainc y mae caplaniaid y Fyddin Gym- reig wedi myned. Nid yw'r sensor yn can- iatau dweyd i ba le yr aeth' y Fyddin, er fod pawb,-gan gynnwys. y Germaniaid,-yn gwybod. Bu'r Frenhines yn edrych arnynt y diwrnod cyn eu hymadawiad, ac yn dymuno yn dda, iddynt. Y mae unig fab Mr. Ellis Owen, Ponty- pridd, a fu yn ysgol Cheltenham, wedi ei ben- odi'n swyddog gyda Fifinwyr y Deheudir (South Wales Borderers). Bu ei dad, sydd weithian yn Dderbynydd Swyddogol Llys y Methdalwyr, gynt yn olygydd newyddiadur Rhyddfrydol Sir Frycheiniog. Trigai ef a'i briod ym Mharis gynt, ac yno y cyfarfuont a'u gilydd gyntaf. Y maent ill deuoedd yn fedrus mewn Ffrangeg'. Dyma ddywed Mr. O. M. Edwards :—" Ni fydd Cymru yr un ar ol y rhyfel hwn. Bydd ganddi bulpud newydd, ysgolion newydd, ys- bryd newydd. A bydd Cymru yn rhan newydd, fwy gwerthfawr, 0 Brydain,—os gwnaiff ei phlant eu rhan. Enillwn y rhyfel. Rhaid i ni wneud, oherwydd y mae cyfiawnder o'n tu." Mae C.M. Llundain wedi gofyn i'r eglwysi oil neilltuo dydd Iau, Rhagfyr 16, yn ddydd 0 ymostyngiad. Peth newydd yw neilltuo! dydd gwaith fel hyn. Dydd S-ul y ceir y Cyfarfod- ydd Diolchgarwch, ond1 mewn un eglwys (Charing Cross), yr hon a rydd ddydd gwaith i'r amcan, a hynny gyda llwyddiant ar yr oil o'r cyfarfodydd. Bydd hwn yn brawf ar y Llundeinwyr. Mae y Gweinidogion sydd a'u henwau isod wedi anfon allan yr Apel ganlynol at Ymneill- tuwyr Gogledd Cymru:- Mtae Ilythyr Arglwydd1 Derby wedi dwyn ein gwlad i argyfwng newydd ynglyn ag ymrestru fel y teimlwn y dylern, fel Ymneilltuwyr apelio at ein dynion ieuainc i ymateb cydwybodi i'w gwlad a'u crefydd yn y dyddiau dyfodol. Fel jy gwyr pawh yr ydym yn casau rhyfel a'n iholl gal on, a mwy yw ein casineb ,ato heddyw nag erioed, end teimlwn fod hanes erchyll y Rhyfel ofnadwy hwn ar du y gelyn a'r amcan sydd gan y gelyn mewn golwg, sef ysigo Prydain iFawr am byth, a mathru pob peth sydd annwyl gennym fel gwlad a 1heyrnas yn galw amom i wneud pob egni ac aberth er sicrhau goruchafiaeth, deg ar y gallu- oedd fyn ein difetha. Ni ciharem weled gorfodaeth filwrol mewn grym yn ein plith, ystyriwn y byddai hynny yn ym- yryd a'n rhyddid personol ac a chymeriad milwr- al y sawl y gorchymynid iddo ymuno fel er mwyn gochel hyn a sicrhau ibuddugoliaeth ar sylfaen o wirfoddolrwydd personol, yn ogystal ag egwydd- orion mawrion eraill, y dymunem ar ein dynion iteua-inc i ddwys ystyried eu sefyllfa, a dangos, pob parodrwydd i wneud a allant dros yr egwyddor- ion mwyaf cysegredig ganddynt hwy eu hunain a'u tadau o'u blaen. Caiff pob 'un a ymuna yn awr y fantais o ddewis pa adran o'r Fyddin y carai ymuno a hi (ni cheir hynny pan y daw galwad nesaf y Llywodraeth) a rhydd hyn gyfle iddynt i ymuno a'r Fyddin Gym- reig ag y mae adran o honii yn awr yn gwersyllu yn Conwy a Kinmel Park. Bydd eu swyddogion yn y cylch hwn yn Gymry, a chant hwythau bob chwareu teg i ennill safleoedd yn y fyddin ar sail eu teilyngdod eu hunain. Gofelir am danynt gan ,G,a.lpl.a.niaid a Gweinidogion Cymreig, a bydd y Brigadier General Owen Thomas yn arolygu eu holl symudiadau yn filwrol a moesol. Credwn fod yn bwysig iawn i rieni Cymru, y mae eu haberth eisoes mor fawr, i sicrhau y lie iachaf a glanaf i iechyd corff ac enaid eu plant, a chredwn y cyr- haeddant yr amcan hwn drwy gymhell ymrestriad yn y Fyddin Gymreig. James Charles, Cadeirydd Undeb Cynull- eidfaol Cymru, Din'bych. 0. L. iRoberts, Liv,ernool. R. P. Williams. Silas Moris, M.A., Bangor. Henry iRees, Dolgellau. Ellis James Jones, M.A., Rhyl. 'R. E. Morris, M.A., Wrexham. T. Charles Williams, M.A., Porthaethwy. Hugh Jones, D.D., Bangor. Thomas Hughes, Portdinorwic. Richard Lloyd Jones', Prestatyn.

-PERSONOL. -