Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODIADAU WYTHNOSOL. ... *---

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. Prioblem y Balkans. Beth sy'n mynd i ddigwydd yn y Balkans pwy a wyr? Bu'r newyddion yn ystod yr wythnos am fwriadau Groeg a Rwmania. yn dryblith diobaith, nes gwneud i ddyn deimlo'n gwbl analluogi ffurfiÓ unrhyw farn am y cwrs mae pethau'n debyg 00 gymryd yn yrhan yma o'r maes yn y dyfodol agos. Un diwrnod hyghysid fod Groeg yn petruso ac yn oedi ateb Nodyn y Cynghreiriaid yn el f any lion, a bod agwedd pethau yn ddifrifol a bygythiol. Y dydd dilynol gallesid meddwl fod y cymyl- au wedi clirio a Chystenin wedi rhoi bod d Ion- rwydd ar y pwyntiau mewn dadl oil. Erbyn bore drannoeth yr oedd y don wedi newid yn 015 ansicrwydd a phryder, a!'r gohebwyr yn arnheus iawn am fwriadau teyrn Groeg. Ymarn rhai o'r gvvyr mwyaf cyfarwydd; y mae'r brenin cyfrwys a'r Kaiser yn dealil. eu gilydd i'r dim, a'r blaenaf yn oedi ac yn go- hiijio gan ddisgwyl y %bydd yr olaf yn fuan vn. abl i'w wobnvyo. am ei frad i achos Serbia a'r Cvnghreiriaid. Y rnae'r adroddiadau ledaenir am fwriadau Rwmania lawn mor ddyrys ac ang'hyson; ac er yr holl obeithion sydd wedi 9 euScodi ani help; i'r Gy.ng'hreiriatd oddiyno, rhybuddir ni'r dyddiau diweddaf y gall Rwmania droi mor fradwrus A "Bwlgaria a chymryd ei phrynu gan Germani. Ofer, pan ydym yn ysgrifennu, geisio barnu rhwng y croes-sibrydiom diddiwedd hyn. Y Dasgr yn Serbia. Nid yw'n hawdd deall beth sydd y tu ol i fynegiad Germani fod eu prif dasg yn Serbia wedi ei chwblhau, a mynegiad tebyg gan Kul- g'aria. Mae Serbia wedi ei goresgyn, a'i "Y byddin wedi ei herlid i fynyddoedd Albania; ac yn ol pob tebyg- mae'r gwrthsaiiad olaf yn Monastir yn ddiobaith,, Hysbysid gariol yr wyt hnos fod y Serbiaid yn rhoi y lie i fyny cr arbed tywallt gwaed; Olldyn ddilynol hysbys- wyd, nad oedd y gelyn wedi ei chymryd.. Gall fod yn y myneg-iadau uchod a'r oediad i fedd- iannu Monastir rhyw berthynas a'r sefyllfa yn Groeg. Ond gall y Kaiser ddyfod r. fwy o anhawsterau wrth geisio1 rhannu'r ysbail yng ngwledydd y Balkans nag a gyfarfu1 ar faes y gwaed. Nid yw'n unrhyw gyfrinaeh mai hunan-gais yw prif gymhellydd gwled-ycld y Balkans yn eu rhyfeloedd a'u cwerylon di- w ddiwedd, ac nid gwaith hawdd hyd yn oed i'r Kaiser fydd boddloni uchelgais gwlad werth- odd ei hun iddo fel Bulgaria. Mae eisoes arwyddion nad yw cynlluniau'r Twrc a'r Bwlgar am yr ysbail yn Thrace yn cytuno, a phwy all broffwydo ar ba ochr y bydd Bwl- garia yn ymladd cyn terfyn y rhyfel ? Cofir pafodd y bul ar (lerfyn y rhyfel a. Thwrci o'r blaen, pan y trodd B>wlgaria i ymladd yn erbyn Serbia a Groeg. f Germani ac Awstria; A yw Aw stria- H un g'a r i wedi deffro i'r Z, perygl o gael ei llyncu gan Germani? Yr Wythnos o'r blaen talodd y Kaiser ymweliad prysur a Vienna, ac .os y bernir oddjwrth yr hyn gymerodd le yn Llywodraeth Austria yn uniongyrehol ar ol yr ymweliad, yr oedd cen- hadaeth y-Kaiser ymhelIo fod yn gymeradwy ganrâí o arweinwyr a gwlaclweinwyr ymher- odraeth Awstria. CyflAvynodd tri a weini- dogion pwysig yn y Weinyddiaeth. eu hym"- ddiswyddiad1, sef Gweinidog y Cyllid, Gweini- dog Masnach, a'r Gweinidog. Cartrefol. Wrth gwrs, nis gellir ond dyfalu yr achos; ondnis gall lai na bod yn un pwysig a.difrifol yng ngolwg rhai 0 wyr blaenaf Llywodraeth y wlad. Mae Germani eisoes wedi gwneud Awstria yn ddarostyngedig iddi ei hun yn filwrol. Y farn g-yffredin yw fod y Kaiser. wedi argymell cytundeb masnachol a osodai Awstria yn yr un sefyllfa. yn.ei pherthynas a Germani yn ei masnachag y mae eisoes wedi ei gosod yn ei milwriaeth a'i gwleidyddiaeth. Yn ymddiswyddiad y tri gwladweinydd uchod eeir awgrym nad yw'n debyig y ca'r Kaiser gario ei gynlluniau uchelgeisiol a: g'orvnesol allan mor rwydd ag y carasai. Mr. Lloyd George a'r Gweithwyr, Cvfarfu Mr. Lloyd George gynhadledd o gynrychiolwyr Undebau Liafur a gweithwyr offer rhyfel yn Ncuadd Westminster, pryd y llywyddai Mr. Arthur Henderson. Amcan y cyfarfod oedd trafod rhai pwyntiau ynglyn a gwelliantau yn y Munitions Act." Wedi hanner blwyddyn o brawf, gwelir fod rhai gwelliantau yn y Ddeddf yn angenrheidiol, ac I y mae Mr. Lloyd George eisoes wedi tynnu allan amlinelliad 0 Fesur i gyfarfod a rhai o'r pethau y,cwyna'r gweithwyr yn eu herbyn, ac i eangu gweithrediad y Ddeddf fel ag i gynnwys gweithfeydd nad ydynt eto: 0' dan y Ddeddf. Cafwyd trafodaeth agored a gonest, a phasiodd y Gynhadledd nifer 0 welliantau i'w hargymell i sylw Mr. Lloyd George. Addawodd yn.tau roddi ystyriaeth i'r ar- gymhenion oil a dywedodd ei fod yn ffafr llawer o'r gwelliantau o ran egwyddor. Ar yr un pryd atgofiodd fod y Dldeddf yn gofyn aberth, nid yn unig oddiar law y gweithwyr, ond hefyd y meistriaid, ac na ddylai'r naill na'r llall sefyll yn dyn dros bethau fuasai yn iawnderau ac yn hawliau ar adeg o; heddwch. Rhyddid y Wasgr. Gwnaeth Syr John Simon ddatganiad maith a chryf yn y Ty nos Fawrth ar effeithiau'r hyn a gyhoeddir yn y Times a'r Daily Mail.' Yn anffodus yr oedd agwedd bersonol i'r mater wedi codi, a gwnai hynny yn angen- rheidiol i Syr John amddiffynei hun yn wyneb cyhuddiadau oedd y papurau dan sylw wedi eu dwyn yn ei erbyn. Ychydig ddyddiau'n flaenorol yr oedd Syr John, mewn atebiad i gwestiwn yn y Ty, wedi darllen dyfyniad 0 un oi bapurau Rwsia yn yr hwn y dywedid fod pethau gyhoeddid ym mhapurau Arglwydd Xorthcliffe yn calonogi'r gelyn ac yn niweidio achos v Cynghreiriaid. Cafodd' y papurau dan s\lw all,anmai parag-raff wedi ei anfon i'r papur Rwsiaidd gan ohebydd ovParis oedd yr hyn ddarllenwyd, ac ar unwaith tadogent ef z, i'r Llywodraeth yn y wlad hon gan gyhuddo Syr John Simon o geisio yn fwriadbl roi cam- argraff ar y Ty a'r wlad. Yr oedd yntau wedi anfon llythyr i'r Times yn hysbysu na wyddai ar y pryd mai 0 Paris y cychwynodd y paragraff, ac yn gwadu yn bendant unrhyw rhwng y Llywodraeth ag' ef. Nid oedd hyn yn ddigon gan y wasg felen, wrth gwrs, ac yn wyneb eu cyhuddiadau parhaus, teimlai :ynangenrheid'i:ol.go.sody mater o flaen y Ty. Ond ni foddlonodd ar yr agwedd bersonol i'r mater. Danghosodd trwy brofion diymwad y defnydd wneid o ymo'sodiadau'r papurau hyn gan Germani, yn enwedig i ddy- z, lanwadu ar wledydd amhleidiol, yn enwedig y Balkans a'r dwyrain, ac awgrymodd y gallai'r Llywodraeth gymryd mesurau llymach i ddelio a'r rhai fynnent ddylorni eu gwlad- Ategwyd ef yn gryf gan Arglwydd Robert Cecil; ond yr oedd y cyfle yn un rhy dda i'w golli gan yr anfoddogion, y rhai geisient amddiffyn y tros- eddwyr. Ymysg y rhai hyn yr oedd Syr Henry Dalziel a Syr Arthur Markham,— radicaliaid sydd mae'n ymddangos a'u holl fryd ar wneud byd y Llywodraeth unedig yn anhapus. Cynhildeb a Darbodaeth. Bu'r Prifweinidog, Canghellor y Trysorlys a Llywydd Bwrdd Masnach, yn annerch tyrfa fawr o arweinwyr yr Undebau Llafur yn Neuadd Ganolog y Wesleyaid, Westminster, ar yr angen am ddarbodaeth ymysg y dosbarth gweithiol. Adolygodd Mr. Asquith yr alwad aruthrol am arian i gario allan y rhyfel, ac i gynorthwyo ein Cyn;g,hreiriaid, alwad oedd erbyn hyn yn ymyl pum' miliwn 0 bunnau y dydd. Er dechreu y rhyfel yf oedd y swm anferth o dros fil o 61iynau 0 bunnau wedi ei wario ar y fyddin a'r Ilynges ac i gynorthwyo 'r Cynghreiriaid. Yr oedd angen am i bob arian posibl gael eu troi i gyfarfod a'r gofyn- ion a niweidid y wlad os nad oedd pob ych- wanegiad mewn cyflog a derbyniadau yn myn'd i'r wladwriaeth un ai mewn tollau neu echwyn. Yr oedd v goludogion yn talu sym- iau uchel mewn tollau, a'r rhai a wnaent elw oddiwrth y rhyfel yn gorfod talu'r hanner i'r wladwriaeth. Apeliai ar i'r gweithwyr dan yr amgylchiadau presennol beidio gwneud ceisiadau am godiad mewn cyflogau. Yr oedd pedair miliwn a hanner 01 weithwyr eis- oes wedi cael codiad o 3s. 6c. ar gyfartaledd. Addefai fod cost an- byw wedi codi tua 30 v cant; ond er hvnny yr oedd liuoedd 01 weith- wvr mewn rhanbarthau neilltuol yn well allan yn awr nag oeddynt cvn y rhyfel. Eglurodd Mr. MclCenna amryw bwyntiau pwysig, ,4'1J a dangosodd nas g:ellidcodi'r cyflogau heb ychwanegu costau byw, ac apeliodd am i'r arian dderbynid yn awr gael eu cadw ar gyfer amser pan y byddai eu gwario1 yn fantais i'r wlad. Gwnaeth Mr. Runciman yn glir beth oedd y Llywodraeth wedi wneud i gadw pris- Z, I iau i lawr, yn enwedig gyda siwgr, cig', gwenith, glo, a rhenti. Er i rai o'r cynrych- iolwyr feirniadu pwyntiau yn yr areithiau, pasiwyd penderfyniad ffafriol bron yn unfryd- ol- Gadael Serbia. Os oes coel ar y newyddion gyrhaeddant o'r Balkans ddiwedd yr wythnos, mae'r Ger- maniaid a'r Awstriaid yn newid eu cynllunac yn troi i gyfeiriad newydd. Dywedir eu bod gyda phob brys yn gadael Serbia, ac yn teifhio tua Bwlgaria. Mae'r esboniadau gynhygir ar y mudiad newydd hwn yn amrywkx Barna rhai fod a wnelo' bygythiad Rwsia o oresgyn Bwlgaria a'r peth; ac os felly rhaid fod y gelyn yn deall fod Rwsia erbyn hyn yn barod a'i byddin ar fin symud ymlaen yn erbyn Bwlgaria. Syniad arall yw fod y symudiad newydd yn y pen draw yng nghyfeiriad Galli- poli, i roi help i'r Twrc i wneud ymgais ben- r i," i derfynol i yrru ein milwyr oddiyno. Ystyria eraill nad yw'r ymgyrch newydd ond ymgais i ddychrynu Rwmania, a'i chadw rhag" ymuno a Rwsia, a bwnv ei choelbren gyda'r Cyng- hreiriaid.. Rhaid aros cyn ceisio1 penderfyfiu rhwng y gwahanol. adroddiadau1, a disgwylia' pawb na raid aros yn hir cyn y bydd y sefyllfa yn y Balkans wedi ei gweddnewid. Parha newyddion torcalonnus i'r eithaf i gyrraedd o Serbia, ac nid oes le i ameu erbyn hyn nad yw M-onastir wedi cwympo, a baner y gelyn wedi ei chwifio1 yno. Sion am Heddwch. Mae'r awg-rymiadau am adferiad hedd\vch i'w clywed o wahanol gyfeiriadau'r dyddiau hyn; ond ymysg y Cynghreiriaid ystyrir; y rhai'n yn gynamserol ac yn beryglus, a drWg- dybir y mwyafrif o'r awrgrymiadau fel un 01 ystrywiau Germani i sicrhau'r fantais iddi ei hun. P'rin y cymerir llong a chenhadaeth Mr. Ford o'r America yn ddifrifol, ac nid yw'n debyg o gario- nemor 01 ddylanwad yn y cvlch- oedd sy'n cyfrif yn y mater. Gwelir fod ar- weinwyr Germani yn rhoi cyfle'r wythnos hon i'r Sosialwyr ddadleu dros heddwch yn v Reichstag. Ddechreu'r wythnos hon gwnaeth y Pab apel gref am adferiad heddwch; a son- iodd am heddwch parhaol,-heddwch heb fod yn fwv 0< fantais i unrhyw un o'r Galluoedd g-elynol mwy na'i gilydd. Yn awr, ofer dweyd na fyddai'r holl wledydd yn barod i groesawu heddwch; mae erchylldra rhyfel wedi ei ddwyn adref i'r oil yn y modd mwyaf arswyd- us o eiffeithiol. Ar yr un pryd, teimlant na ddaeth yr amsereto i allu gobeithio am yr heddwch parhaol y sonia'r Pab am dano. Hyd yma mae paratoadau rhyfelgar y wlad fynnodd y rhyfel wedi rhoi iddi'r fantais, a gallai yn awr fynnu telerau fyddai'n sicrhau cadw ei militariaeth yn fyw a'i nerth heb ei amharu ar gyfer y dyfodol. Nid rhyfedd wedi profiad y rhyfel presennol ei bod yn peri i'r gwledydd ofni heddwch cyn-amserol yn fwy hyd yn oed na pharhad y rhyfel er ei ofn- adwyaeth i gyd. Diweddaraf. Dengys y newyddion diweddaraf o Meso- potamia fod yr ymgyrch i g-ymryd Bagdad wedi troi allan yn siomedig am y pryd. Er i'r milwyr dan General Townshend ymladd yn ardderchog a chymryd safle y Tyrciaid yn Ctesiphon, bu raid iddynt encilio i lawr y Tigris, ac yn awr hysbysir eu bod tua 80 mill- tir o Bagdad. Gwnaed yr enciliad anffodus yn angenrheidiol trwy ddyfodiad adgyfnerth- ion cryfion i'r Tyrciaid, ac mae'n amlwg fod yr ymladd wedi bod yn eithriadol 00 ffyrnig a gwaedlyd. Bu'r colledion i'n milwyr ni yn unig dros bedair mil a hanner. Yn un or adroddiadau Germanaidd priodolir ein meth- iant i frad rhai o'r llwythau1 Arabaidd, oedd yn ymladd gyda ni, y rhaT droisant i helpu'r Twrc pan ddaeth eu cyfle i wneud hynny. O r Balkans daw'r newydd fod Rwmania ddech- reu'r wythnos hon yn mynd i atalfaelu llong- au tramor yn ei phorthladdoedd fel mesur o hunan amddiffyniad ond nid oes eto unrhyw sicrwydd am y cwrs fwriada Llywodraeth y wlad ei gymryd ynglyn a'r rhyfel.