Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

---NODION CYMREIG.I --.--

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Bu gweinido'g'ion Ymneilltuol Llanrwst yn newid pulpudau y Saboth 0'1' blaen, a gwa- hoddwyd person y plwyf i bregethu yn Scion. Ond, na, nid yw y milflwyddiant wedi cyr- raedd. -+- -+- Mae'r Llywodraeth yn rhoi £750 yn ychwanegol eleni i' Goleg Aberystwyth er cyfarfod y diffyg yn y cyllid oherwydd y rbyfel. Yr oedd y diffyg i fyny i I i-helin yn £1,394.. Farhau yn obeithiol a chalonnog y mae Mr. J. Hugh Edwards, A.S. Cred fed pethau mawr yn yrnyl. Mae'n sicr y cytuna pawb fod y diwedd yn nes nag ydoedd pan y pro- ffwydodd fy hen gyfaill y tro o'r blaen. Z, -+- Wvddoch chwi mai ar yr egwyddor wir- foddol" y mae'r misolyn rhagoraf yng Nghyrnru yn byw? Dyna ddywedodd gwr pur adnabyddus yn fy nghlyw y dydd o'r blaen. At ba fisolyn y cyfeiriai? -+- -4- --0-- Bwriedir galw cyfarfod 0 bwyllgor gweith- iol Cyngrair Eglwysi Efengylaidd Cymru er Z, mwyn trefnu i symud y cyfarfod blynyddol o'r hydref i'r gwanwyn. Da iawn. Lied drym- aidd yw' yr hydref at gynnal cyfarfodydd mawr. -+- \1ae gohebwyr yn y Tyst yn trafod y cwestiwn a ddylid newid cwrs presennol gradd B-1). Prifysgol Cymru. Mae'r ddadl yn troi o gwmpas yr an gen am ddysgu'r Groeg a'r Hebraeg. Ond ynglyn a hyn ceir dadl ar gwestiynau eraill, megis pa iaith a ddefnyddiai Crist a'r Apostolion, &c. Cymerwyd Arglwydd Tyddewi yn wael pan y taniai magnelau ato 0< bob cyfeiriad oher- wydd ei ymosodiadau ar y pencadlys yn Ffrainc. Cwyno1 ar yr adroddiadau yr oedd, pan yr atebodd ei critics, ac yr oedd am sefyll at bob gair. Erbyn hyn nid yw o fawr o bwys pa beth a ddywed efe na neb arall ar y mater. -+- Rhyfedd mai yng Nghaer Cystenyn (canol- fan Mahometaniaeth yn awr) a'r ardaloedd cyfagos, y cynhaliwyd y saith gymanfa gyffre- dinol a fu bron i gyd yn trafod athrawiaeth Person Crist yn y prif oesoedd. Cynhaliwyd tair yng Nghaer Cystenyn (O.C. 381, 550, 681), dwy yn Nicaea (325,.787), un yn Chalce- don (451), ac un yn. Ephesus (431). -+- Rhifyn rhagorol yw y diweddaf o'r Cym- rodor." Mae ymron yr oil o'r ysgrifau yn waith specialists, ac 0. werth hanes} ddol par- haol. Y gyntaf yw un Froff. J. E. Lloyd ar Comisiwn Edward 1. yn 1280--1 ,-ei ffynhon- nell a'i amcan; a thebyg yw y Heill sy'n ym- drin a materion fel hanes ffeiriau Lloegr a Chymru, hanes Cydweli, a sylw ar rai 0' weithiau anghyhoeddedig George Borrow. -0- -+- -+- Yn 1188 O.C. bu Gerallt Gymro'n teithio o amgylch Cymru i godi gwirfoddolwyr i gym- ryd y groes ac ymrestru i achub Caersalerrt o ddwylo'r Tyrciaid. Addawodd tair mil o Gymry fyned i'r groesgad, end nid aeth neb 01 honynt allan, oherwydd ymrafaelion rhwng tywysogion Cred. Rhyfedd y telir cyn lleied o sylw mewn llenyddiaeth a halnes Cymretg- i ymdaith Gerallt. Ond y mae pedwar Cymro wedi gwneuthur llawer i hysbysu'n cyd- g-enedl am dano, sef y ddau frawd Owen ac Eidward Edwards, Dr. Henry Owen a Llew- elyn Williams. H wyraeh: y ceir trem ar ei genhadaeth yn y CYMRO cyn hir. Rll' Da gennyf weled y Cadfridog Owen Thomas yn siarad mor gryf yn erbyn Sectyddiaeth ynglyn a'r Fyddin. Canmol yr oedd waith yr Y.M.C.A., a phriodolai ei lwyddiamt i'r ffaith ei fod yn anenvvadol. Weithia tuedda'r Cadfridog i gredu y byddai cymun yn gyfoeth- ocach heb y man raniadau enwadol. Nid wyf yn synnu clywed neb sydd ynglyn a'r Fyddin yn siarad fel hyn. Gwthir enwadaeth yn rhy bell, ac y mae'r ymgipris am benodiadau yn gaplaniaidwedi gwneud drwg. Mae gohebydd yn Seren Cymru yn traethu ei len ar y pulpud ymhlith y Btedydd- wyr. Dywed fod dynion anghymwys yn cael eu codi i bregethu; fod gwyr anghyfaddas yn cael eu hordeinio- yn weinidogion, a bod nifer mawr o'u bechg'yn yn myned drwy golegau'r enwad i swyddau bydol ac i Eglwys Loegr. Aeth dau B.A. drosodd yn ddiweddar i Eg- lwys Loegr; a dywedir y dylent dalu yn 01 i'r enwad yr arian wastraffwyd arnynt. -+-- Pan y sonir cymaint am gynhildeb, onid un ffürdd effeithiol i wneuthur hyn fyddai llwyr atal gwerthiant y ddiod feddwol. Costia'r fasnach hon rhyw gant a thrigain a deg o filiynau o bunnau yn flynyddol, a pha bleser bynnag" lwydda rhywrai i sugno 0 honi, rhaid cael cryn fesur o feiddgarwch i ddweyd ei bod yn wir angenrheidiol. Nid yw ond gwastraff teg, ac mewn amseroedd fel hyn ni cheffid yr anhawster lleiaf i sicrhau gwaith llawer budd- iolach ilr holl weithwyr ddeil gysylltiad a hi. -+- Pwy yw'r Golygydd hynaf yng Nghymru 1 Y Parch. Evan Da vies, Trefriw, yw'r ail. Mae efe wedi golygu y LlacFmerydd am r, y 31ain mlynedd, ac wedi ysgrifennu i bob rhifyn ar hyd yr holl ffordd. Anaml y gwelir cysylltiad mor faith rhwng golygydd a chy- hoeddwr, a rhydd yw dweyd pan y mae'r ddau yn fyw ac iach, fod y cysylltiad wedi bod yn berffaith hapus o'r naill ochr a'r Hall o'r cychwyn. -+- Mae C'eridwen Peris yn apelio am ddyblu cylchrediad y Gymraes' at y flwyddyn newydd. Bum yn ddiweddar yn casglu cyfrifon cylchrediad gwahanol nsolion Cymru. Nid gorchwyl hawdd ydoedd; ond mae yn bosibl ei wneud o fewn pedwar neu chwe' chant. Cefais allan i sicrwydd fod y Gym- ra,es yr uwchaf ond un ar y rhestr. Ac y mae wedi llwyddo oherwydd rhagoroldeb ei chynnwys, a'r gwaith da gyflawnir drwyddi. Dyma dystiolaeth dau wr adnabyddus am y Gymraes Byddaf yn darMen Y GYMRAES bob mis. Ni fydd merChed Cymru yn ddwl iawn ar unrhyw Ibwnc cartrefol a cliymdeithasol os byddant yn darllen Y GYMRAES. Y mae yn dda i.awn. —Y Diweddar Mr. W. Jones, A.S., Arfon. Y rnae eich llwyddi.ant gyda'r GYMRAES yn ganmo:adwy. Y mae yn llyfr gwierthfawr i'r gwragedd a'r merched ieuainc. Hyderaf fod cylchrediad da iddi trwy Dde a Gogledd Cymru, &c.—Y Diweddar Rrifathro Ellis Edwards, D.D. Gan hvnny. Ferched Cymru, wnewch chwi helpu yn awr i gael enwau derbynwyr newydd- iGn 1 Gall chwaer ieuanc awyddus i weith- 1 u redoedd da fod yn Ddosbarthwr ei hun os icaiff 12 0< enwau (meibion neu ferched). Wnewch chivi hyn, ferched ieuainc? Gall gair gan Arolygwr, neu Flaenor, neu- Weinidog, I w fod yn foddion efallai i rywun ei derbyn. Wnewch chwi famau-ofalu am hyn Yr ydym wedi colli chwiorydd ffyddlon i'r Gymraes eleni eto—Pwy ddaw i lanw y bylchau'? Maent hwy wedimyned adref, a heddyw maent yn medi ff-rwy Ith eu llafur. Yr ydym ni yn aros, a'n Ceidwad mawr yn disgwyl einhelp gyda'i Deyrnas. Mawrhawn ein braint, a dyblwn ein diwydrwydd o blaid daioni." Apelia Dr. F. B. Meyer, ar ran Cyngrair yr Eglwysi Rhydd, am i Sabath cyntaf y flwyddyn newydd i gael ei gadw yn ddydd o ymostyngiad ac ymbil. Bydd yn cael ei neill- tuo felly drwy y Deyrnas, ac y mae'r Cyng- rair wedi darpar llyfr bychan fydd oi wasan- aeth mawr er rhoddi unoliaeth i feddwl gweddi yr Eglwys. Un o bynciau mawr ac amserol y dydd yw Cynhildeb, ac amhosibl troi dust fyddar i resymau cryflon arweinwyr y wlad, ond mil gwell yw esiampl na chyngor, a gresyn na wnai awdurdodau y Llywodraeth gofioi hyn, a chychwyn yn llygad y ffynnon. Pa svnwvr syd'd mewn gwario dros bum' mil o bunnau1 ar ginio Arglwydd Faer ? ac onid yw Yl/bechad- urus meddwl fed yr Arglwydd Ganghellydd a thri, fu yn dal y swydd ü'i flaen, ynghyda thri o Arglwyddi'r Gyfraith, yn derbyn rhyng- ddynt y swm o £ 61 ,ocx> yn flynyddol, a hynny am waith allesid yn hawdd ei wneud mewn ychydig oriau. D'a yw dechreu cynhilo gartref. -+- -+- Dyddorül yw cofio1 mai, nid pregeth ncwydd bregethir wrth draethu ar Gynhildeb, canys pwysleisiwyd y genadwri gan lawer o'r rhai sydd wedi blaenu'. Wele ddwy en-hraifft:- Z, Gwastraff eisiau, drwg ystryw-gwarth a ddwg, Ac wrth ddwyn gwarth, distryw; Da i bawb cynhildeb yw, A thad i gyfoeth ydyw. -Rev, John Jones (Tegid), 1792-1852. Llawer un wrth fyw yn gynnil, 0 ddwy ddafad aeth i ddwyfil; A llawer un wrth fyw yn afrau, Aeth o ddwyfil i ddwy ddafad. 1 -lanies Davies (lago ab Dewi), 1644--1722. -+- -+- -+- Biuwyd yn adnewyddu capel P'enrhiw, Llanon, yn ddiwedda,r, a dangosodd <imryw o blant y lie eu teimladau da. Derbyniodd yr eglwys anrhegion gwerthfawr iawn, sef Beibl hardd i'r pulpud, gan Mrs. Jones, Bethania (Ty'nymynydd gynt), a dwy gadair hardd i'r set fawr, gan Mr. Evan Williams, Liverpool -un o blant yr eglwys, a brawd i'r WTil- liamses, Trawsnant Uchaf. Mae wedi gadael yr ardal er ys deugain mlynedd, ac wedi dringoi i safle uchel yn Liverpool; ond er hynny, yn caru ac yn cüfio man annwyl ei febyd gymaint ag erioed. Hawdd iawn oedd uno teimladau pawb ar ddiwedd oedfa nos Sul, i gyflwyno diolchgarwch cynhesaf yr eg- lwys i Mrs. Jones a Mr. Williams am eu car- edigrwydd a'u hanrhegion. Gwasanaethwyd ar ail-agoriad yr addoldy gan y Parch. W. Rishards, y bugail. -+- Nid yw y Church Times yn rhoi lie uchel iawn i'r diweddar Principal Bebb, a phe buasai Ymneilltuwr yn siarad fel y gwna cawsai ei gyhuddo o gulni. Dywedir nad <f A .1 1 1 _11 oedd mewn cydymdeimiad a tneimjaa ceneui- aethol Cymru, ac nad oedd yn gallu deall y teimlad sydd 0 blaid Datgysylltiad. The result of Bebb's system has been to give to the Welsh Church a goreat body of clerics. a universally respected, good Tories, strong supporters of the Establishment, but hardly Catholics, far less Nationalists." Those who would fain see the Welsh Church realize its position as the heir to, the tradition of t. David and Giraldus, must doubt if the late Prebendary altogether worked on the right lines." Eto addefa fod Principal Bebb yn j ddyn mawr a chydwybodol, a bod ei farwol- aeth yn golled drom i Eglwys Loegr.