Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Telegraphic Address GWALIATEL, London. Telephone Nos. 5010 & 5011 City. HOTEL GWALIA, UPPER WOBHRN PALCE LON-DON. W.C. __A_- CENTRALLY SITUATED. (Within 5 minutes walk of Euston Station and 20 minutes from Paddington by Underground Rail- way to Gower Street Station). BED, BREAKFAST, BATH & ATTENDANCE, 5s. EACH PERSON. 130 Booms Luxuriously Furnished. Passengers Lift to all floors. Fireproof Building. JOHN M. JENKINS, Manager. Anrhfg Hadolig Cyfadd s. "Porleydd Gwelltog." ADNODAU AR WAHANOL DESTYNAU At Wasanaeth Plant y Seiat, Athxawon yr Ysgol Sabothol, Gweini- dogion y Gair, a Saint Duw o bob oed a sefyllfa. Wedi eu casglu a'u trefnu gan y Parch. WM. LEWIS, Pontypridd, Gyda Rhagair gan y Parch. JOHN WILLIAMS, Brynsiencyn. Mewn Llian Hardd. Pris Dau Swllt. Llyfr eymwys i fod yn Rhodd i'r Milwr. Danfonir un copi gyda'r post am ddau swllt. I'r neb a gymer chwe' copi ac uchod is. 6c. yr un gyda'r cludiad. Danfoner at REV. W. LEWIS, The Grove, Pontypridd. f > Oppoaitg the British Museum. Thackeray Hotel Great Russell Street, London. Near the British Mueeum. Near the British Mueeum. I Kingsley Hotel Hart Street, Bloomsbury Square,London. Bedroom, Attendanee and Table d'Hdta Breakfast Single from Sm. 6d. I With Table d'HSte Dinner, from as. 6d. Full Tariff and, TmtimmiaU on .ÁppU.øHM. Tel.-R,egant 2041 (2 lines). 2083 (2 lines). Tel. Add.—' Tbaokeray London. „ Bookwaffc Loudon." IN I I. Use" n' ,'1 lEfllH { 0 Self-Raising | .i:?! ■> FLOUR It Makes Perfect Pastry, Scones, <fec. SOLE WHOLKSALE AeanTs.- 1 MORRIS & JOSHES, LiwOrPool and Mamfweta*. < YN AWR YN BAROD. Cyflawnder Bendith. Sef PREGETHAU Gan CHWECH AR HUGAIN 0 WEINIDOGION Y METHODISTIAID CAILFINAIDD YNG NGHYMRU. (Gyda Darlun o bob Pregethwr). Dan olygiaeth y Parch. D. Hfarsfy Davies Mewn LUan Destlus 3/6 net .gyda'r post. Mewn Lledr Hardd, Ymylon Aur 5/- net gyda'r post. Telerau Arbennig i Lyfrwerthwyr. Polb Archeibion i'w hanfon i'r- PARCH. D. MARDY DAVIES, Pontycymmer, GLAM, S.W. Lfawlyfr ar y Gwyrthfati. AT WASANAETH YR YSGOLION SABOTHOL GAN Y PARCH. J. E. DAVIES, TREFFYNNON. PRIS SWLLT. I'w aaelo gan yr Awdur neu yn SWYDDFA'R 'CYMRO,' DOLGELLAU.
JB ','*
News
Cite
Share
JB GAN Y PARCH. T. R. JONES, TOWYN. PERSONOLIAETH amlycaf y cyhoeddiad wythnos- ol elwir The Christian World ydoedd "J.B." Am dros chwarter canrif ysgrifennai lith draethodol iddb gyda chysondeb; ac fel rheol dyna ddernyn disgleiriaf y papur. Trafodai amrywiaeth o faterion-athronyddol, diwin- yddol, crefyddol, a llenyddol. Ac ni chy- ffyrddai un pwnc heb ychwanegu gwybodaeth y darllenydd am dano a'i ddiddordieb ynddo. Teimliem ambell dro nad oedd pwynt y llith yn gwbl g-lir; eithr cyfoeth y meddyliau, a'r crynhoad o honynt i gylch bychan, ynghyda chyfri'niaeth ysbryd yr ysgrifennydd, ond odid, a gyfrifai am hynny. Buasai J.B." yn bregethwr a gweinidog; ond nid pregethau, hen na newydd, oedd ei erthyglau hyn. Med'dent gyfeiriad crefyddol ac wynebwedd Cristionogol at bob mater; ac er hynny ym- gadwoddi rhag troi i bregethu i'w ddarllen- wyr. Cyhoeddodd gyfresau o'r traethodau hyn yn gyfrolau, megis Studies of the Soul,' c. The Lik- of the Soul,' Aspects of the Spirit- ual,' Religion and Ebcperience,' Ourselves and the Universe,' Religion and To-day," a lliaws eraill; ac ystyrir rhai o honynt yn drysorau gwerthfawr-yn enwedig gan y rhai y magesid ynddynt chwaeth at ei ddull ef o feddwl ac o ysgrifennu. Atdynnodd ddos- barth o edmygwyr brwdfrydig; casglodd o'i gwmpas feddyliau cydnaws, a disgwyliai llaweroedd o bobl dros holl wledydd Cristion- ogol y byd am y Christian World,' a cholofn J.B. fel y gwylwyr am y bore. Anfonent lythyrau ato yn fynych, yn myncgi eu han- hawsterau a'u syniadau; a chaffent atebion cydymdeimladol a goleuol; cymerai drafferth i'w cynorthwyo a'u harwain i'r goleuni; codai y pwyntiau i fyny mewn llithiau dilynnol, a thraethai arnynt o feddwl eithriadol gyfoeth- og a llawn. Z!1 Ganwyd ef yn Leicester ar ddydd Nadolig, 1843. Cafodd fagwraeth grefyddol, a swcr i ddarllen gan ei rieni; ond tra chyfyng oedd cylch y darlten hwnnw yn ei olwg ef yn ddi- *"J.B." J. Brierley: His Life and Work, by H. Jeffs. (Jame, Clarke & Co., London. 3/6). weddarach. Gadawodd gartref crefyddol ei deulu, ac ymaelododd gyda'r Annibynwyr. Dlechreuodd bregethu yr efengyl, ac ymunodd a sefydliad addysgol yn Nottingham—oedd dan lywyddiaeth y gwr da Dr. J. B. Paton. Symudodd wedi hynny i'r Coleg Newydd yn Llundain, i'r hwn yr oedd Dr. Robert Halley yn Brifathro. Llafuriodd yn ddiwyd gyda'i wersi, a graddiodd ym Mhrifysgol Llundain. Ymbaratoisai yn llwyr ar gyfer y weinidog- aeth, a gosodasai i lawr sylfaen lydan a chadarn i efrydiaethdrefnus a manwl dros weddill blynyddoedd ei fywyd. Bu yn bugeilio eglwysi yn Torrington (Devon), Ley tons tone, a Balham (Llundain); gwelodd lwyddiant ar y gwaith yn y tri lie; ond gorfodid ef i ym- adael o'r naill Ie ar ol y llall gan wenoid iechyd. Pan tua deugain oed, ac wedi profi gwahanol hinsoddau Lloegr, canfyddodd nas gallai obeithio dal ymlaen fel gweinidog eg- lwys, a phregethu yn Sabothol neu amlach, oherwydd ystad ei nerfau; ac wedi treulio peth amser yn gorffwys yn yr Yswisdir, ac yn teithio dros dir a mor, ymsefydlodd fel newyddiadurwr yn Fleet St., mewn cysylltiad a'r Christian World.' Ac er cystal pregeth- wr ydoedd, o ran mater, dull, ac amcan ei weinidogaeth, diau iddo ragori yn fwy dra- chefn fel ysgrifennydd. Er gwaethaf cyflwr anfoddhaol ei iechyd, ymgadwodd yn siriol ei ysbryd, ac ni chwenychai dosturi neb tuag ato. Newidiodd orchwyl heb rwgnach na suro, ildiodd yn anrhydeddus i'r anocheladwy, a rhoes yr un egni yn ei waith newydd. Ni pheidiodd a bod yn weinidog yr efengyl o ran naws a chydymdeimlad, er gadael y pulpud am gell y golygydd. Gwrandawai yr efengyl o enau eraill-yn enwedig ei weinidog, Dr. Horton—cystal ag y pregethasai hi; a cheis- iodd ei byw ymhob cymdeithas. Bu ar delerau cyfeillgar a'i gydysgrifennwyr, a chwenychai eu cwmni hyd yn oed yn ei ystafell breifat. Un o'i frodyr yn yr urdd honno, ac o'r un swyddfa, a ysgrifennodd y Cofiant hwn, sef Mr. H. Jeffs, awdur amryw o gyfrolau blaen- orol. A hyfryd yw dweyd iddo gyflawni ei dasg hon yn rhagorol—o ran trefn a dosbarth y cynnwys, o ran gloewder yr arddull, ac o ran gwerthfawrogiad o nodweddion y gwrth- rych. Gosodir i mewn rannau o nod-lyfrau J.B. a ddangosant mor eang y darllenai, mor abl ydoedd i ganfod darnau goreu y llyfrau, ac mor fedrus i'w diefnyddio wedi eu pigo allan. Ychwanegir hefyd' brageth o'i eiddo, a darlith ar Ignatius Loyola. Cawsom bleser pur wrth ddarllen y gyfrol drwodd, heb bron ei gadael, ac argymhellwn hi yn galonnog i eraill.
JERUSALEM YN AMSER RHYFEL.
News
Cite
Share
JERUSALEM YN AMSER RHYFEL. i GAN MR. RICHARD HUGHES, JERUSALEM. Yr YstQrm yn Ymgasglu. Tybiwn mai dyddorol o bosibl fyddai gan ddarllenwyr y C'YMRO gael ychydig o hanes Jerusalem yn amser y rhyfel hwn. Meiddiwn hefyd dybio y byddai yn foddlonrwydd gan nifer o'n cyfeillion caredig o Gymru fu yn ymweled a ni yn y Ddinas Sanctaidd pan oedd y byd yn dawel ac yn ei iawn bwyll, weled a g'anlyn am yr amgylchiadau a barodd i ni ffoi o Wlad yr Addewid i Gymru Gwlad y Gan." Yr awgrym cyntaf a gawsom fod y rhyfel wedi torri allan, oedd cael ein galw cyn toriad y wawr yn nechreu Awst, 1914, gan un o'r bechgyn o'r ystablau, pan y dywedai fod y milwyr Tyrcaidd yn myned a'r ceffylau i' ffwrdd heb ganiatad neb nag ychwaith dalu am danynt. Birwydra,is lawer yn erbyn hyn, ac wedi rhoddi baner Prydain uwch drws yr ystablau a bwgwth saethu pob Twrc feiddiai fyned i mewn odditani i'r ystabl, llwyddais i ddychryn y milwyr hynny nes iddynt ffoi. Bu yr achos yn destun dadleu maith yn Con- stantinople rhwing yr Ambassador Prydeinig a'r awdurdodau Tyrcaidd. Ond ni thyciai dim, ac yn y diwedd gorfu rhoddi i fyny yr anifeiliaid i'r Twrc, a hawliai hefyd y cerbyd- au a phobeth a fyddai o ddefnydd iddo at was- anaeth y fyddin. Dan Gyfraith Filwrol. Yn ystod y diwrnod cyntaf hwn, cauwyd y banciau oil, fel na allesid cael arian am bris yn y byd, a rhyfedd fel y diflanodd yr arian, ac
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. ,Bu raid gadael allan amryw ysgrifau, &c., fwriedid i'r rhifyn hwn o ddiffyg gofod. Yn eu plith ysgrif ar y diweddar Mr. W. Thomas, Y.H., Aberystwyth, gan yr Athro J. Young Evans, M.A., B.D., yr hon qedd yn rhy ddiweddar yn dod i law.