Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

ER COF.

News
Cite
Share

ER COF. Y DIWEDDAR GORONWY JONES. GAN Y PARCH. T. JONES PARRY, B.A., B.D., PH.D., PRESTATYN. Ganwyd Goronwy Jones yn y Bala, saith mlynedd a thtigain yn ol. Ni chafodd oes faith iawn, ond llanwodd hi a gwaith a gwasanaeth hyd yr ymylon. Bu yn egwyddorwas i ddilledydd yng Nghaerlleon, a gwasanaethodd ar ol hyn yn Sir Dtefaldwyn, a dygai dystiolaeth uchel i'w hen feistr fel un yn y cyfnod pwysig hwn ar ei oes a'i dysgodd i feddwl. Gwr hoff o ryddid oedd Goronwy Jones erioed, a gadawodd gaethiwed y faelfa am y ffordd fawr a'r awyr agored. 0 hyn allan cawn ef fel trafaeliwr masnachol yn teithio drwy O'gledd Cymru yn ben- naf. Bu yn byw am un tymor ym Manchester, ac yng Nghaernarfon, ac yn y Rhyl, ac yna ym Mhres- tatyn fel Goronwy Jones, Prestatyn, y daeth fwyaf adnabyddus. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i weled posibilrwydd datblygiad yn y pentref bach tawel ar fin yr heli. Dyma un o'r pethau amlycaf ynddo oedd ei allu i weled posibilrwydd datblygiad mewn rhywbeth,- "boed bentref distadl, neu blentyn bychan tlawd. Gyda chyfeillion eraill, bu ganddo ran mewn sefydlu gwaith priddfeini, a chododd amryw o dai pridd, ddaethant yn ddechreuad tref brydferth a deniadol i ddieithriaid. Trwy ei offerynoliaeth ef y cafwyd ariandy i'r lIe, ei syniad ef hefyd oedd y Town Hall. Daeth Saeson i fyw i Brestatyn mewn niferi; ac er mor aiddgar ydoedd dros y Gymraeg, gwelodd yr angen am wasanaeth Saesneg ar eu cyfer. Iddo ef y mae y Cyfundeb yn ddyledus am gychwyniad yr eg- lwys Saesneg, ymgynhull yn awr er ys blynyddoedd mewn addoldy hardd yn y Nant Hall Road. Am rai blynyddoedd cymerodd ran; ftaenllaw iawn ym mywyd cyhoeddus y dref. Yr oedd yn aelod gweithgar ac amlwg o'r Cyngor Trefol, a chymerodd ddyddordeb arbennig yn addysg y plant. Yn yr ymdrech i gael Bwrdd Ysgol, dangosodd Goronwy Jones ei hun yn gawr. Gwelwyd ei fod yn arweinydd rhagorol. Yr oedd yr anhawsterau ar ffordd addysig rydd yn fawr, ac onihai am Mr. Goronwy Jones, buasai ei charedigion wedi torri eu calonnau. Y mae gennym bapurau o'n blaen yn awr ddangosant pa mor egniol a phenderfynol y gweithiodd. Cafwyd nid yn unig Fwrdd Ysgol, and hefyd adeiladau sydd yn addurn heddyw i'r dref. Yr oedd yn amddiffynydd dewr i hawliau addysg rydd yn yr holl gylch ogystal ag yn y dref. Yr oedd yn gynghorwr parod, ac yn gydweithiwr doeth a thrigolion Gwaenysgor pan y mynasant hwythau eu rhyddhau o ormes yr Eglwyswyr. Cawn ysgrif ganddo ym Mai, 19017, yn rhoddi hanes Gwrthryfel Gwaenysgor," ac y mae ysbryd y rhyfelwr yn anadlu drwyddi. Ymffrostiai yn nhrigolion y pentref bach ddangosant yr un dewrder dros egwyddorion ag a wnaeth yntau yn nhref Prestatyn. < £ Trigfan dynion a mefched cryfion, safas.ant yn gadarn dros eu hiawnderau a'u breintiau, ac a ddyrchasant i fyny egwyddorion mawrion rhyddid a chyfiawnder." Rai blynyddoedd yn ol, mynnodd trigolion Prestatyn ddangos eu gwerthfawrogiad o wasanaeth Mr. Gor- onwy Jones i addysg y dref a'r cylch drwy ei an- rhegu ag anerchiad oreuredig a phwrs o aur. Dy- wedodd ar yr achlysur hwnnw, y gofynnid iddo weithiau, mewn dull ychydig yn goegaidd, paham y trafferthai ei hun ynghykhi addysg yr oes, yn codi ac yntau heb blant ei hunan. Fy ateb iddynt bob amser," meddai, ydyw am nas gallaf wrtho. 'Rwyf yn caru plant bychain, y mae yn fy natur; Duw a'm gwnaeth i felly." Ie, dyma un o'r pethau amlycaf ynddo oedd ei hoffter at blant, ac ni welwyd dim mwy toddedig na harddach erioed na'r olygfa ar Ian ei fedd. Yr oedd y plant wedi ymdyrru o gwmpas y bedd, ac yn edrych i lawr tra y gostyngid ei arch i'w lie. Buasai plant Prestatyn yn dweyd, Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef ym gyntaf ein caru ni." Dyn da, meddai rhywun, ydyw'r dyn sy'n hoff o blant. Yr oedd Goronwy Jones yn adnabyddus iawn i gylch eang fel llenor. Ei ysbrydiaeth pennaf fel lienor ydoedd gwasanaeth y plant. Lluosog yr ad- roddiadau a'r dadleuon a'r caneuon gyfansoddodd er eu mwyn. A'i lygaid ar blant Cymru yri bennaf yr ysigrifennodd ihanes. David Davies, iLlandinam, er mwyn eu symbylu i beidioi Iboddloni ar fod yn glud- wyr dwfr a cymunwyr coed i'r Saeson, fel y bu eu tadau. Costiodd y gyfrol brydferth ddeniadol hon lawer o lafur i'r awdwr. Er cael cynhorthwy siriol amryw o gyfeillion yma a thraw, rhaid addef fod y gwaith o gasglu a dethol defnyddiau yn fwy anhawdd nag a dybiwyd ar y cyntaf." Ni thybiai y darllenydd wrth ddarllen y llyfr fod trafferth a Ilafur wedi bod i'w gyfansoddi, am y rheswm fod y stori yn rhedeg ymlaen mor esmwyth. A dywed- odd Anthropos hyn yn. y gwasanaeth angladdol. mai ffrwd rededoig loew siriol oedd athrylith Goronwy. Mae y llyfr hwn fel ffrwd ei athrylith yn cludo y darllenydd yn hapus yn ei flaen. Yn sicr yr oedd Goronwy Jones yn meddu ar wir gelfyddyd, sef y gelfyddyd honno sydd yn cuddio celfyddyd. Mae ei lyfr arall, "Goronwy ar 'Grwydr," yn bur adnab- yddus, a chafodd dderbyniad cynnes iawn gan. yr adolygwyr. Teithiwr o Gymro ymddengys yn y llyfr. Pe buasai y llyfr yn Saesneg, buasai yn hawdd gweledmai nid Sais oedd ei awdwr. Yng nghwmni Goronwy teimla y darllenydd Cymreig yn hollo! gartrefol ar unwaith mewn gwledydd tramor, boed yr Eidal, boed yr Aifft. Y mae yr iaith hefyd fel y dywedai Puleston Jones. wrth adolygu y llyfr, yn drwyadl Gymroaidd,—yn gynllun gwiw o Gym- raeg stori. Dyma broffwvdoliaeth Anthropos am y llyfr: "Yr ydym yn credu y daw Goronwy ar Grwydr' yn un o lyfrau yr aelwyd yng Nghymru, canys y mae yn deilwng gydymaith, Tro yn yr Eidal," gan O. M. Edwards, a "Gwlad yr Addewid," gan Dyfed. Dyma'r hyn ddywedodd yr America drwy enau Golygydd y Drych' am y llyfr: "Aeth yr awdwr drwy Italia dlos a Hen Wlad y Caethiwec £ yda llygad1 agored a dychymyg fvwiog, a throdd ei sylwadaeth yn ddarluniau byw a dyddorol ar du- dalennau y llyfr hwn." Buasai rhestr o ysgrifau Goronwy Jones mewn gwahanol gylchgronau yn un faith. Cawn iddo ysgrifennu erthyglau i'r 'Ymwelydd Misol' ar J. Herbert Lewis, ac hefyd un arall ar Mrs. Herbert Lewis. Hefyd i'r 'Cymru,' ar "W.W. sef y trafaeliwr masnachol adnabyddus, Mr. William Williams, o Fangor. Hefyd gyfres yn y 'Cymru,' dan y pennawd Cymry Byw," ac yma ceir hanes Samuel Evans, Johannesburg." Am yr wyth mlyn- edd diweddaf cyfranodd lith wythnos ar ol wythnos yn ddifeth i bapur Saesneg gyhoeddir ym Mhrestatyn -y 'Prestatyn Weekly.' Cawsai bleser mewn ysgrif- ennu, ond un rheswm mawr dros ei lafur a'i drafferth oedd ei sel dros yr iaith 'Gymraeg. Yr oedd y golofn iGymreig wythnosol hon, a elwid ganddo Y Briwsion,' yn gymorth i gadw y Gymraeg yn fyw mewn tref ac ardal lie yr oedd y llanw Saesneg yn codi yn gyflym. Nid ydym eto wedi gorffen ar ei lafur llenyddol. Ysgrifennodd Goronwy Jones lawer iawn o safbwvnt grefyddol, ac fel cefnogwr arbennig i'r Ysgol Sul. Yn y fan yma eto, gwelwn ef fel amddiffynwr a chynghorwr arbennig i'r Plant a'r Bobl leuainc. Chafodd yr un sefydliad gefnogydd mwy aiddgar na gafodd yr Ysgol Sul yn Goronwy Jones. Tarawiad- ol iawn ydyw yr hanes hwn am dano yn Rhufain Tr-euliasom awr ddedwydd ar brynhawn Saboth dan gysgod colofnau adfeiliedig areithle Ceasar gyda'r wers am y dydd yn y Maes Llafur yn Efengyl loan ac Esboniad Cynddylan. Pedwar oedd o honom,arolygwr, ysgrifennydd, trysorydd, ac athraw. Fe ddichon mai dyma yr Ysgol Sabothol Gymreig gyntaf a gynhaliwyd erioed yn Rhufain, ond digon posibl mai nid yr olaf! Yr oedd ei edmygedd o'r Ysgol Sul, nid yn ei ddallu i'w diffyg- ion, ond yn ei symbylu i geisio ei gwella. Tra yn llawn o sel geidwadol dros hen sefydliadau, yr oedd yn hynod progressive yn ei awydd i wella y sefydl- iadau hynny. Taflodd1 ei hun o ddifrif o blaid cynllun newydd y Safonau, a dadleuodd drosto mor ddoeth a deheuig nes ennill o'i blaid rai oeddynt o'r blaen yn wrthwynebol, yn eu plith y diweddar Thomas Gee. Ymysg areithiau a phapurau o'i eiddo sydd heddyw mewn argraff, gwelwn anerchiad yng Nghynhadledd Ysgolion Llanelwy, Agwedd bresennol yr Ysgolion yn Nosbarth Rhuddlan o'i gymharu a'r hyn fu yn ystod yr ugain mlynedd di- weddaf." "Peryglon Blaenoriaid." Anerchiad ar dderbyniad blaenoriaid yng Nghyfarfod Misol Dyffryn Clwyd. "Sylwadau ar yr Ysgol Sabothol," y Drysorfa,' 'Gorffennaf ac Awst, 1896; "Addysg yr Ysgol Sabothol," Ebrill, 1906; ii Perthynas. yr Ysgol Sabothol a gwybodaeth a buchedd grefyddol," Cyfarfod- Misol Rhewl, Mai 1906, &c., &c. Yn 1896 dewiswyd ef ynghyd:a'rdiweddar Barch. Francis Jones. Abergele, yn llywyddion Cyfarfod Misol Dyffryn Clwyd. Dylaswn ddweyd hefyd fod Goronwy Jones yn un o sefydlwyr Cymdeithas Hanesyddol Sir Fflint, ac y mae yn ein hymyl yn awr Original Draft y Gymdeithas yn ei lawysgrif ef ei hun. Llywydd cyntaf y Gymdeithas oedd Arglwydd Mostyn, ac Is- lywyddion, Arglwydd Esgob Llanelwy, a J. Herbert 'Lewis, Ysw., A.S. Y mae y Gymdeithas hon yn cy- hoeddi cyfrol o weithrediadau bob blwyddyn, a bydd y rhai hyn mewn amser yn werthfawr: iawn. Mr. Jones hefyd oedd Ysgrifennydd ac un o sylfaenwyr Cymdeithas Cymrodorion Prestatyn. Y Gymdeithas hon oedd y gyntaf i'w chydgorffori yn y Fam Gym. deithas yn LIundain. Cyhoeddodd y Gymdeithas yn 1910 gyhoeddiad bychan tlws iawn, "Y Cymro- dor," a buasai i'w ddymuno fod mwy nag un rhifyn wedi gweld goleuni dydd. Oes brysur iawn oedd oes ein cyfaill ymadawedig. y Beth mwy a ddywedaf? Yr amser a balla i mi fynegi am ei wasanaeth i'w eglwys gartref ym Mhrestatyn yn ystod y blyriyddoedd diweddaf yma. Mewn gwaeledd a gwendid a phoen parhaodd yn ysgrifennydd yr eglwys hyd y diwedd. Yr oedd yn drefnydd diguro, ac anhawdd meddwl am' ei well fel ysgrifennydd. Nid elai dim yn anghof, a byddai yr 'agenda' ar gyfer y cyfarfod wedi ei dynnu allan rrewn trefn Y mae Mrs. Jones, un o ferched Meirionydd", wedi ei gadael yn weddw i alaru ar ei ol. Cawsaht fyw gyda'u gilydd am bum' mlynedd a deugain, a chyd- ymdeimlir yn fawr a hi yn ei hunigedd. Cafoddi ein cyfaill gladdediigaeth dywysogaidd. Daeth llawer yno o bell o ffordd i dalu y gymwynas olaf. iHeddwch i'w lwch. Yng nghyfarfod Eglwysi Rhlyddion Cydweli a'r cyldh, yng nghapel y Bedyddwyr, nos Fercher di- weddaf, dan lywyddiaeth y Parch. E. J. Herbert (W.), cafwyd. darlith ddymunol dros ben, ar Hen Emynwyr Gwlad Myrddin," gan y Parch. D. Geler Owen (M.).

[No title]

OR YSTWYTH I'R libYFI.

[No title]