Skip to main content
Hide Articles List

1 article on this Page

NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

NODION CYMREIG. Bu cyfarfod o Gyngor y Brifysgol parthed Meddygiaeth yn yr Amwythig yr wythnos ddi- weddaf. Pasiwyd i ofyn i'r Llywodraeth roddi arian er adeiladu yr ysgol a'i orffen.ar fyrder. -+- -+- -+- Yng Nghymanfa Gerddorol y Tabernacl, Sciwen, y Pasg nesaf, cenir emynau gan y bugail, y Parch. J. R. Evans a Mr. Samuel Jones. Nodweddir y rhaglen gan y lie a roddir i gynhyrchion barddonol a, cherddorol awduron lleol. Wele esiampl i Gymanfaoedd Canu'n gyffredinol. Cedwir olyniaeth Fethodista,idd ym maer- yddiaeth Aberhonddu. Aelod o gapel Bethel yw'r Maer newydd, Mr. Gwilym Jones (Ap Ma dog), a'r cyn-Faer, Mr. Evan Morgan, yw ei ddirprwy. Methodist Wesleyaidd, sef yr Henadur Wright, oedd dirprwy Mr. Morgan yn nwy flynedd ei swyddogaeth ef. -+- -+- -+~i Yn y gwanwyn diweddaf prynwyd gwerth chwe'cheiniog o hadau moron (carrots) mewn masnachdy yn y Drefnewydd, a hauwyd hwy mewn. gardd yn Aberhafesp. Daethant ym- laen yn dda, ac y mae deunaw cant o bwysi (18 cwts) wedi eu gwerthu 01 werth y chwe'. cheiniog a hauwyd. Heblaw hyn defnydd- iwyd yr hyn oedd isisiau' o'r cnwd at angen y ty. -+- -+- -+- Dywedir fod y Parch. DL James Jones, B.A., Birynmawr, wedi ei benodi yn Gaplan yn y Fyddin, ac eisoes wedi, cychwyn ar ei waith. Ni synna neb if glywed hyn, canys medd ar gymhwysterau lawer at hyn, ac nid yw y math hwn o orchwyl yn ddieithr iddo, gan ei fod wedi cael profiad o hono yn Ffrainc yn ogystal ag yn ei wlad ei hun. Dymunir ei lwyddiant eto, a chydymdeimlir ag eglwys Libanus yn ei cholled 0' gael ei hamddifadu o'i wasanaeth mor gynnar. -+- -4- Mawr yw'r twrw wneir yn y wlad heddyw ynghylch Cynhildeb. Nid amheua neb nad oes angen pwysleisio hyn ymhob cylch, ond boddlonir ar bregethu'r bregeth heb ei byw. Fel y dywedai' Dr. Cynddylan Jones ar bwynt arall, "Up in theory, down in practice." Ac oni ddylid ymarfer cynhildeb wrth gladdu'r marw. Gwn am angladd yn ddiweddar- gwraig gweithiwr parchus, a sicr gennyf fod y blodau ar ei harch o, leiaf wedi costio ugain punt. Ar bob cyfrif parcher y meirw, ond nid yw hyn ond gwastraff annuwiol. -+- -+- Beth ddylai eglwys ei wneud pan yn chwilio am weinidog? Troi ei, golwg, medd rhai, i gyfeiriad y Coleg, a pheidio aflonyddu ar weinidogion sydd leisoes yn gysurus ac yn llwyddiannus yn eu cysylltiadau bugeiliol. Ond nid felly y gwneir, a dywedai Mr. Morgan Jenkins, Abertawe, fod pethau wedi newid yn fawr. Flynyddoedd yn ol, meddai, crogid dyn am ladrata dafad, ond yn awr gellir Iladrata bugail a'r troseddwr yn cael ei adael yn rhydd'. -+- Mae hen eglwys barchus Bethel, Aberhon- ddu, wedi galw y Parch. W. Deri Morgan, Hopkinstown, i'w bugeilio1, a phrofa ei hanes ei bod yn eglwys a'i llygad yn ei phen yn ei hymchwil am fugeiliaid. Haedda gael gwr da, ac un wir ofala am dani, ond a lwydda y tro hwn nis gwyddis. Mae -Mr. Morgan yn fawr ei barch gan bobl ei ofal a'r cylch, a gwna waith rhagorol, a naturiol yw i'r ardalwyr ddymuno1 ar iddo aros byth yn eu plith. Y mae'r si ar led y ceuir Coleg y Brifysgol ym Mangor, ac y rhennir gweddill yr efryd- wyr rhwng Aberystwyth a Chaerdydd. -+- -+- -+- Parheir y drafodaeth ddyddorol yn un o newyddiaduron y De ar gyflog G weinidog ion, ond fel arfer manteisia rhyw grancod ar y cyfle i ymosod yn ddiarbed arnynt, a h\'nny bid sicr dan gochl ffugenw. Digrif i'r eithaf yn ol rhai o honynt yw swm y gwaith ddis- gwylir i bregcthwr ei wneud. Rhaid iddoi bregethu bid sicr yn odidog. Rhaid iddo hefyd fod yn ymwelydd cyson a theuluoedd ei eglwys, a bod yn athraw ar y gwahanol ddbrs- barthiadau ar gyfer yr Arholiad. Rhaid iddo fod yn dadmaeth i'r bobl ieuainc, a mynychu eu cyfarfodydd a'u pwyllgorau. D'isgwylir iddo fod yn ysgrifennydd a chyfreithiwr i bawb mewn taro, ac yn relieving officer' i'r tlodion, yn whipper in i'r esgeuluswyr, yn oleuni yn y seiat, yn haul ar y llwyfan, &c., &c. Druan o hono,. Da gennyf ddarfod gosod y Prifathro Walter J. Evans, Y.H., o Goleg Presbyter- aidd Caerfyrddin, ar Bwyllgor Gweithiol Llys Prifysgol Cymru yn y cyfarfod cyntaf o'r Llys y bu ef yn bresennol ynddo, gan fod y Coleg- au Diwinyddol C'ymreig bellach yn anfon cyn- rychiolydd i Lys y Brifysgol. Y Prifathro Evans yw Llywydd y Bwrdd Diwinyddol, a bu am dair blynedd yn Gadeirydd y Senedd Ddiwinyddol. Penodiad da arall ydoedd gwneuthur Mr. D. Lleufer Thomas yn Is- ddirprwy Ganghellydd y Brifysgol. Ynad Pontypridd yw Trysorydd ieuengaf Coleg Aberystwyth, a dyddorol sylwi mai Anghyd- ffurfwyr yw holl swyddogion y Coleg, sef y Llywydd, y ddau Is-lywydd, y d'dau DrysT- ydd, y Prifathro a'r Cofrestrydd. O'r se tr- wyr yma y mae tti yn Annibynwyr, tri ) n flaenoria.id gyda'r Methodistiaid, ac un yn Fedyddiwr. -+- -+- -+- Colled fawr i'r Eiglwys Wladol yng Nghymru yw marwolaeth y Parch. Ll. M. Bebb, Prifathro Coleg Llanbedr. Cafodd yrfa wych fel efrydydd yn Rhydychen, nid yn unig yn y cwrs clasurol, ond- hefyd fel ysgol- haig diwinyddol. Gwnaeth faes iddo'i rtn yn y blynyddoedd diweddar yn ei astudiaeth o'r ieithoedd Slafonaidd, yn enwedig y Rwseg, yn arbennig er mwyn beirniadu'r cyf- ieithiadau Slafonaidd o'r Ysgrythyrau, un o'r pynciau yr ysgrifennodd arnynt i Eiriadur Beiblaidd Clarke. piau y bydd llawer o ddyfalu pwy a gåiff ei le yn Llanbedr. Os cyfyngir y dewisiad i wyr lien o Gymry, hwyr- ach mai'r Parch., Robert Williams, Arch- ddiacon Caerfyrddin a FicerLJandeilo Fawr neu'r Dr. G. Hartwell Jones, rheithor Nut- field yn Surrey, a benodir. Bu'r blaena.f gynt yn Athro Cymraeg a Hanes yn y Coleg, a'r olaf yn Athro Lladin yn Ysgol Llanym- ddyfri a Choleg Caerdydd. Ond go brin o ysgolheigion Beiblaidd a diwinyddion o'r radd flaenaf yw'r Eglwys Gymreig, a. haneswyr gan mwyaf yw'r ddau wr da a enwyd. Hwyrach mai'r offeiriad galluocaf yn y Coleg yw'r Athro Tyrrell Green, sydd yn darlithio ar dri phwnc mor amrywiol ag- Hebraeg, Hanes yr Eglwys, ac Adeiladeg, heblaw bod yn arlun- ydd tra chelfydd. Ond y mae ef, er ei fod yn Uchel-Eglwyswr mawr, yn ddatgysylltydd pybyr, ac yn hyn 0 beth mor unig ymysg el frodyr ag ydyw Esgob Henfford'd. Mewn llety y preswylia'r Athro Green yn Llanbedr, tra preswylia ei deulu mewn plas prydferth yn Arundel. Lladdwyd nai iddo, mab Syr Walter Tyrrell, yn y rhyfel. Y mae tri o feibion y diweddar Brifathro Bebb yn gwasanaethu eu gwlad ar faes y gad. <* Mae eglwys Penuel, Pontypridd, wedi rhoddi galwad i'r Parch. Phillip Jones, o< Landik>, a'r gofymad ymgyfyd yn awr ym mynwes pawb yw, A wna efe ei dderby.n? Hyderir y gwna, canys amhosibl meddwl am ganolfan pwys- icach a maes rhagorach i weithrediad gallu- oedd disglair y gwr da ac amryddawn hwn. Da gennyf ddeall fod y Parch. Wm. Lewis yn well ei iechyd nag y bu. -+- -+- -+- Wythnos go ryfedd gafodd eglwys Ymneill- tuol rhanbarth Aberdar a Merthyr ym mrwydr yr etholiad diweddaf, canys tra y taer apelid atynt gan un blaid i gymryd o-chr, apelid atynt gyda chyffelyb daerni gan y blaid arall i aros yn llonydd. 'Roedd heddyw danllyd saethau yma, ac yfory danllyd saetha.u draw, a hwythau heb wybod yn iawn pa fodd i weithredu yn sefyll rhwng y tan. Ond er bod yn y pair fel hyn, ni, hysbysir iddynt ddi- oddef ond ychydig os dim, ond gorfodwyd y ddwyblaid i gydnabod eu gwerth a'u nerth. -+- -+- Mater ag y bydd rhaid i Gyngor Sirol Mor- gannwg ei wynebu yn awr yw penodiad Cad- eirydd. Oddiar ei gychwyniad cyntaf—chwe' blynedd ar hugain yn ol, nid oes ond dau wedi cael y fraint o eistedd yn y Gadair, sef y diweddar Arglwydd Abertawe a Mr. Blandy Jenkins. Wele un cyfeiriad y teimlir hiraeth a cholled ar ol y diweddar Henadur Richard Lewis, Pontypridd. Pe wedi ei arbed, efe heb os ac onibai fyddai y dewis-ddyn, ac nid oes neb wnelair ei waith yn fwy boneddigaidd ac urddasaol. -0- Parod fydd llawer i ddiolch i'r Parch. John Williams am daro'r tant d'arawodd yr wythnos ddiweddaf, canys y mae yn llawn bryd. Tarawyd cyffelyb d'ant gan wr mawr arall flynyddoedd yn ol. Meddai Mae mwy o gywilyddio o'n Hymneilltuaeth ymysg ieu- enctid a fegir ar aelwydydd Methodistaidd nag unrhyw enwad arall. Gwyr a ddyrchaf- wyd gan Gorff y Methodistiaid i safleoedd da, mewn gwlad a thref, ydynt erbyn hyn yn barod i gicio1 yr ystol a'u cyfododd, ac ym- grymu i loi aur. Clenfydd y plant hynny, a mynant hwythau ymgrymu i dduwiau eu rhieni, a gwelir ami i ysgogyn 0 fachgen, ac ami i hoeden o eneth, yn rhy ddysgedig i dywyllu'r capel Ymneilltuol. Rhaid myn'd i'r Eiglwys i' wrando ar guredyn y gallesid rhoi hynny o efengyl sydd yn ei bregeth mewn plisgyn cneuen." -+- Mae yn debyg nad oes swyddog yn perthyn i unrhyw Gyngor Sir yng Nghymru yn fwy ymdrechgar gyda'i ddyledswydda.u nac yw Mr. J. L. John, B.Sc., o'r Trallwm. Cyfar- wyddwr amaethyddol dau Gyngor Sir Drefal- dwyn yw Mr. John, gwr o Sir Gaer. Yr wythnosau hyn ceir ei hanes dair neu bedair o weithiau bob wythnos yn traddodi darlith- iau neu areithiau i amaethwyr y Sir yn eu gwahanol ardaloedd. Ei brif bwnc yr wyth- nosau hyn yw Ychwanegu cynnyrch am- aethyddol" y Sir, i gyfarfod a'r angen am hynny mae y rhyfel yn ei wneud. Awgryma liaws o bethau ellid wneud tuag at hynny, megis bod yn fwy gofalus o'r gwrtaith yn y buarthau, rhag i'r llifogydd ei ddifetha, a chario ymaith ei elfennau goreu i afonydd, trin conglau y caeau, neu eu gosod i drigolion y bwthynod i'w trin, er mwyn cael mwy o pytatws, moron, bresych, i gyfarfod ag angen y bobl. Hefyd argymell y ffermwyr i ym- drechu tyfu mwy o wenith, neu ryw rawn arall, trwy dorri tir newydd i'w dyfu ynddo. Wrth gwrs, codir llawer 0 wrthwynebiadau, j waeth gwr anhawdd i'w symud yw yr am* aethwr. Ac os na chred ef fod hynny yn bosibl, y tebyg yw na cheisia eu gfwella^ ,tIf