Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Family Notices

Family Notices
Cite
Share

GENI, PRIODI, A MARW. GENEDIGAETHAU. Edwards.-Medi 27, priod iMr. G. Price Edwards (ieu.), Llystyn, Bagillt, ar fab. Ellis.-Medi 27, priod y Parch. J. Fou.kes Ellis, Gwyddelwern,, ar fereh (cy,ntafaiiedig). Jones.—Medi 25, priod Mr. W. J. Jones, Craigydon, Llandudno, ar ferch. J ones.-IMedi 20, yn 30, High Street, Dinbych, priod Mr. J. Coleshill Jones, ar ferch. PRIODASAU. Bebb—riughes.—Hydre+ 2, yng nghapel Sion, Llan- s,antffr,aid, gan y Parchn. Cadwal.adr Jones, yn cael ei gynorthwyo gan G. 0. Evans ac Evan Jon-es, (A.). Mr. Evan Bebb, Kiel, Meifod, a Miss Hughes, me-ch i Mr. a Mrs. John Hughes, y Gelli. Creodd y gwasanaeth arwydd 'cyffredinol o foddhad yn y cyfamod priodaso], oblegid fod y ddau yn perthyn i nai o'r teuluoedd mwyaf buicheddol yn y fro. Llety'r fforddolion yw aelwydydd y ddeuddyn wedi bod, yr un modd yn parhau i fod hyd yr awr hon. Chwareuwyd ar yr origan fiwsig newydd a hen, nid eiddo y German band, ond hen alawon bendigedig yr hen wlad. Mrs. ICyffin Jones a Misa Jone's. Tre- derwen House oedd wrth yr offerynau. Brecwast brwd wedyn yn yr ysgoldy, a chafwyd aneithiau gwych gan len a Deyg, a donioldeb diiguro yn dorch i estyn dedwyddwch i'r deuddyn d'igymar. Davies—Davies.—Medi 27, yng nghapel y M.C., Pontmorlais, gan! y Parch. D. G. Evans, David Davies, Boro' Stores, Dow'ais, a/Margretta (Getta), merch v diweddar Richard Davies a Mrs. Davies, 10, Castle St., Merthyr. Jones—Wright.—Medi 27, yng nghapel Soughton, gan y Parch. Christmas Jones, Mr. Edwin Jones, tryd- ydd fab Mr. a Mrs. Richard Jones, Mount Pleasant, Caernarfon, a Miss A. 1M. Wright, ail ferch Mr. a Mrs. S. Wright, Rose Cottage, Soughton, ger yr Wyddgrug. Will i,ams-Thom,a,,s.. -I\T,edi. 29ain, yng ngfuapeJ M.C. Brynmenai, Portdinorwic, gan y Parch. John Owen, M.A., Engedi, Caernarfon, yn cael ei gyn- orthwyo gan IMr. T. G. Jones (cofrestrydd), Mr. Thomas Pandy Williams, mab lhynaf Mr, a Mrs. John William,9, Penybanc, Lawnt, Dinbych, a Miss Nell Thomas, mench ieuengaf Mr. a iMrs. David Thomas, 10, Garnon Street, Caernarfon. M ARWOLAETHAU. Davies.—Medi 23, yn 70 mlwydd oed, Mr. Evan Dav- ies, Cambrian Place, Aberystwyth, tad Mr. Llew. Davies, Porthmadog, a Mrs. Williams, priod y Parch. W. 0. Williams, Llanfairmuallt. Davies.—Medi 23, yn 28 mlwydd oed, Mrs. Davies, annwyl briod Mr. D. E. Davies, Mayfield, Farm, Dairy, St. John's Avenue, iLlundain, a merch i IMr. a Mrs. Jenkins, Pentrefelin, Dyffryn Aeron. Davies.— Medi 26, yn 76 mlwydd oed, Mr. Joshua Davies, Fron Bachau, Llangollen. Cymerodd yr angLadd le dydd Mercher, pryd y gwas:anaethodd y Parchn. W. Foulkes a Samuel Owen, B.A. Evans.—Medi 24, yn 88 mlwydd oed, Mrs. Ann Evans, Cesarea, Arfon, mam Mri. John Evans a James William Evans. Evans.—Hydref 3, yn Liverpool, ar ol bod dan d:rin- iaeth Law-fedidygol, yn 37 mlwydd oed, Dr. 0. L. Evans, Garth, Abersoch. Hughes.—Medi 24am, yn 85ain mlwydd oed, Eliza- beth, gweddw Mr. Samuel 'Hughes, Bodednyfed, Amlwch, a mam-yrb-inghyfraith i Mrs. Howel Gee, Caerfryn, Dinbych. James.—Medi 26, yn 58 mlwydd oed, Mr. William James (Eos Morgamnvgi. Pontyberem. Jones.—Medi 25am, yn 70am mlwydd oed, Mr. Evan Jones, Brynadar, 'Llansannan. Jones.AMedi 19, Mr. John Jones, Perthi, Llanrhys- tyd. Cafodd oes faith-83 o flynyddoedd. Dyn tawel oedd yr ymadawedig. Edrychid arno fel un o'r cymeniadau mwyaf unplyg a gonest. Yr oedd yn ddarllenwr mawr ar y Beibl. Darllenodd ef lawer gwaith drosodd yn ystod ei oes. Darllenodd ef drosodd yn ystod yr haf diweddaf. Gwelir ei eisiau yn fawr iawn fel tad tyner yn y teulu fel aelod ffyddlawn gyda'r Methodistiaid yn Penrbiw, ac fel amaethwr diwyd ,acharedig yn y gymydog- aeth. Yr oedd idd'o air da gan bawb. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Penrhiw, dydd Gwen-er, Gwasanaethwyd yn y ty ac ar Ian y bedd gan y Parchn. W. 1,1. Davies, Blaenplwyf, E. Morgan, Pennant, E. Jones, Rhiwbwys, D. M. Davies Llan- on., D. Hughes, Pensarn, D. Jones, iLIanarth, a W. Richards, Llanon,-y trefniadau wedi eu hym- ddiried i'w ofal ef. Nid oedd yn gyfleus i gael pre,geth angladdol ddydd yr angladd tel y mae yn arferol, gan fod y capel dan adgyweiriad; felly tradd'odwyd y bregeth angladdol nos Sul diweddaf yn festri y capel gan y Parch. E. Jones. Cydym- deimlir yn fawr a'r teulu yn wyneb yr amgylchiad galarus, a dangoswyd hynny vn amlwg iawn yn y dorf luosog ddaeth i'r cynhebrwng. Y prif alar- wyr oeddynt:—Mr. David Jones, (mab), Penlan, a'i briod a'u dwy ferch; Parch. J. J. Jones (mab), Pensarn, a'i briod Mrsses Jane Jones, Eliza Jones, Kate ac El:en Jones (merched), Perthi; Miss, Bessie Jones (wyres), Perthi Mis.ses Margaret Jane a Mary Jane (wyresi), Pentrehach. Danfonwyd wreaths gan y pers.onau canlynol :-Miss.es Jones, Glanwyre, Llanrthystyd, a Mr. John Jones, Llun- dain. Morg,an.iM,edi 25, yn 70 mlwydd oed, y Parch. J. iH. Morgan (W.), G.arthowen, Whitchurch, gynt o Aberystwyth. Morgan.—Medi 26, yn Llys Gwerfyl, Dyffryn, ar ol hir gystudd, yn 418 mlwydd oed, Sarah Mary, ped- wlaredd ferch y diwedd.ar Barch. Edward Morgan, Dyffryn. Bu Mrs. Morgan hyd ei chyst'udd d'i- weddaf am lawer o flynyddoedd yn athrawes yn Ysgol Brentwood, Southport, lie yr oedd yn fawr ei pharch. Cymerodd yr angladd le yn breifat yn mynwent y Methodistiaid, lie y gorffwys ei thad a'i mam, a'i thaid a'i nain. Gwasanaethwyd gan y Parchn. William Thomas, Llanrwst, a W. M. Griffith, M.A. Y prif alarwyr oeddynt Miss, F. H. Morgan a Mrs. J. R. Evans (chwiorydd), Mrs. R. H. Morgan cb,w,aer-yng-nghyf.raith), Misses Wil- liams (nithoedd), Miss Davies, Towyn, Nurse Jones, 1f.ri. John Humphreys a J. Rhys Evans (brodyr-yng-nghyfraith), E. Morgan Williams ac Edgar Evans (neiaint), Mri. R. J. Williams, J. R. Jones, Lewis Jones, Thomas' Lloyd, E. Edward Williams a Hywel Powell (diaconiaid). Anfonwyd blodeu gan Mrs. R. H. Morgan, Lluesty, Nurse Jones, Miss Briggs, ac eraill. Morgans.—>M«di 26,. yn 18 mlwydd oed, Mary Gwendoline Morgans (Gwen), ail ferch Josiah T. ac M. A. Morgans, The Mount, yr Wyddgrug. Rowlands.—Medi 20 yn dra sydyn, yn 77 mlwydd. oed, Mr Owen ^Rowlands, Tyddyn Teilwriaid, Bod- organ, Mon, am 30 mlynedd yn flaenor yn eglwys Beu'ah. Thomas.-Medi 29, Mrs. Thomas, priod Mr. David Thomas, Y.H., Ton Pentre. Williams.—Medi 28, yn 81 mlwydd. oed, Mrs. Wil- liams, priod Mr. Griffith Wiliams, Artro House, Abermaw, un o flaenoriaid eglwys Park Road. Williams.—Medi 30, yn Rhuddlan, Richard Ev,an Williams, annwyl briod 'Charlotte Williams, ac unig fab y diweddar Barch. W. O. Williams, F.R.A.S., IPwllheli. Williams.—Awst' ail, yn Bangor, Pensylvania, Mrs. Margaret R. Williams, yn 60 mlwydd oed. Merch ydoedd i Robert Williams (y Llew), Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru. Aeth i'r Am- erica tua 32am mlynedd yn ol, a sefydlodd ei char- tref gyda'i phriod a'r teulu yn Bangor, lie fy trig- iannodd hyd ddydd ei marwolaeth. Gadaw^dd briod, Richard R. Williams, a phedair o ferched, 1 alaru eu colled. Y mae iddi, hefyd, ddau o frod-yr, sef John a IHugh, yn Tanygrisiau, ac un chwaer, Griace, yr hon sydd yn cartrefu yn Neheudir Cym- ru. Cafodd ibeth cystudd, ond dioddefodd y cyfan yn dawel. Yr oedd yn aelod ffyddlawn gyda.'f Wesleyaid yn y lie. Claddwyd hi yn mynwent y lie, a d.aeth tyrfa luosog ynghyd i dalu y gymwyna* olaf iddi, Y Parch. John Williams oedd yn gw-eln yddu.

CYMDEITHASFA TWYNCARNO, RHYMNI.