Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
CYMDEITHASFA TWYNCARNO, RHYMNI.
News
Cite
Share
CYMDEITHASFA TWYNCARNO, RHYMNI. CWM Rhymni yw y dyffryn mwyaf Cymreig yn Sir Fynwy heddyw. Nid yw yr iaith, Gymraeg yn cael ei siarad mor gyffredinol gan y werin yn un o weithfaoedd Mynwy ag ydyw yng ngweithfaoedd Rhymni. Nid oes gennym eg- lwysi mor hüllol Gymreig, yn un rhan o'r Sir, a'r eg'lwysii a ymunodd i roddi gwahoddiad i'r Gymdeithasfa yr wythnos ddiweddaf. Y mae eglwys Twyncarnü yn eglwys gref, ac yn meddu ar gape! eang a hardd. Y peth cyntaf a wnaethum, wedi cyrraedd y capel, oedd rhoddi tro i'r hen fynwent, tu cefn iddo, a,c un o'r beddau cyntaf y daethom o hyd iddo, oedd bedd yr hen frawd enwog, y Parch. John ;Bowen, a adnabyddid gynt, fel John Bowen, o Bbntypool. Yr oedd John Bowen yn un o'r piegethwyr galluocaf, yn y rhan gyntaf o'i oes. Dacth cwmwl drosto, ond cafodd ei ad- feryd, a bu ar ol hynny ar y ma,es am flynydd- oedd er nad oedd cymaint o awch ar i, weini- dbgaeth, bu yn dra poblog-aidd hyd ei fedd. Dywedir fod Thomas Richards yn holi ei brofiad, mewn Cymdeithasfa, tua diwedd ei oes, ym Mhenycae. Ar ol gwrando ar ei brofiad, yr hwn oedd yn dangos ei ffydd a'i hyder yn ei Dduw, yr unig sylw a wnaeth Mr. Richards oedd: le, ffrinds, y mae yr elyrch yn wyn, ond traed duon." Gwelwyd dydd ar John Bowen pan na fuasai yn cymryd y sylw gyda distawrwydd. Gwyddem mai o Landdeu- sant yr oedd John Bowen yn enedigol, ond nis gwyddem hyd yr wythnos ddiweddaf mai tu- cefn i gapel hardd Twyncarnü yr oedd ei lwch yn gorwedd. Y mae y Gymdeithasfa wedi ymweled a Thwyncarno amryw o weithiau er dyddiau Morgan Howells, er na fu yma yr u'n Gym- deithasfa yn fOffen yn hanes Methodistiaeth y Sir. Yn y Casnewydd, Pointypool, a Thre- degar, y cynhaliwyd y Cymdeithasfaoedd cyntaf yn Sir Fynwy. Dyma y Gymdeithasfa fwyaf, mor belled ag ydym yn cofio, a welsom erioed yn Sir Fynwy. Yr oedd yma gynrychiolaeth gref, a nifer mawr nad üeddent gynrychiolwyr, wedi dyfod, ynghyd o'r gwahanol Siroedd, ond nid oedd nifer y Cyn-Lywyddion, oedd yn bresennol, gymaint ag y gellid ddisgwyl. Un neilltuolrwydd yn perthyn i Gymdeith- asfa Twyncarno oedd ei bod yn cael ei chynnal ar ben hanner can' mlynedd, er pan y dechreu- wyd ethol Llywydd am y flwyddyn. Yn Llan- ige:itho, yn y flwyddiyn 1865, etholwyd yl Llywydd cyntaf am flwyddyn, sef, y diweddar Barch. David Howells, Abertawe; ac yn Hydref, yr un flwyddyn, y cymerodd y gadair, a digwyddai mai yn Rhymni yr oedd y Gym- deithasfa honno, yn cael ei chynal. Dechreuodd llywyddiaeth Mr. Howells yn Rhymni, a daeth i ran y Parch. William Jones, Aberdulais, i eistedd yng nghadaiir y Gymdeithasfa yn ystodi y flwyddyn olaf o'r hanner canrif, sydd erbyn hyn wedi myned heibio, er pan y dechreuodd y lywyddiaeth flynyddol. Cafodd Mr. Jones flwyddyn hapus dros ben, a gosododd urddas, trwy ei ddeheurwydd, ei dymer lariaidd, a'i ysbryd efengylaidd, ar yr oil oedd yn dal cys- ylltiad a dyledswyddau y gadair. Cafwyd gan Mr. Jones anerchiad tra gwerthfawr wrth roddi y gad'air i fyny i'w olynydd. Yr oedd yr anerchiad, yr hwn a ddarllenir, yn ddiau, gyda bias, yn cynnwys nifer O1 awgrymiadau, y byddai yn dda i'r Cyfundeb i roddi ystyriaeth ddifrifol iddynt. I'r Parch. D. H. Williams, D.D., y perthyn y fraint o fod y Llywydd cyntaf, o'r ail hanner canrif, er pan y daeth dewisiad Llywydd y Gymdeithasfa yn beth 5)lynvddol. Rhoddodd Dr. Williams i ni brofion amlwg yn Rhymni. y gwna Lywydd rhago-rol. Aeth trwy y gwaith yn brydlon ymhob cyfarfod, a hynny heb frysio yn ormod- ol, na chyfyngu ar ryddid neb o'r siairadwyr. Yn yr holl gynhadleddau yr oedd yr olwynion yn troi yn hyfryd ac esmwyth. Y mater mwyaf pwysig- a ddaeth ger bron y Gymdeith- asfa, oedd Cynhaliaeth y Weinidogaeth, a chofir y Gymdeithasfa hon, yn ddiau, fel y Gymdeithasfa lie y rhoddwyd cyfiwyniad i gronfa a fydd yn rhwym o fod yn fendith ddilr- fawr i'r Cyfundeb yn y De, yn y dyfodol. Hanner can' mlynedd i'r Hydref hwn, a hynny mewn Gymdeithasfa yn Rhymni, rhoddwyd cychwyniad i gasgliad1 Trefecca. Y mae rhai o aelodau y Gymdeithasfa yn awr yn fyw
Y PARCH. EVAN JONES.
News
Cite
Share
na Dr. John Thomas, ac yn gallu ennill cyn- ulleidfa yn well na Deon Bangor; a, pha le bynnag y byddai galw am ei wasanaeth, teimlai pawb fod y fuddugoliaeth yn eiddo caredigion Cydraddoldeb. Ar yr esgynlawr yr oedd ei diueddfryd ymladdgar yn cael llawn chwarae teg. Ergydiai ar dde ac aswy, gan ystyded popeth yn dleg mewn Rhyfel, ac ni orffwysai nes gwneud y gelyn yn destun gwawd y duwiau yn y gallery yn ogystal ag yn wrthrychau tosturi yr esgynlawr. Yr oedd ie,dry,ch arno ar yr esgynlawr yn ddigon 0 es- boniad ar ddisgrifiad yr Hen Gyfreithiau Cym- reig o ymladd—> Dyrchaf, a gofawd, a gwaed, a gweli." Wrth natur yr oedd yn ymladdwr, ac at hynny ,manteisiodd ar bopeth fedrai celfyddyd ei ddysgu, a phan ar ei oreu,-fel y gwelwyd ef yn nadleuon brwd Meirion,—yr oedd yn gawr o ymladdwr. Cafodd y boddhad o weled y frwydr fawr, yn yr hon yr ymladdodd fwyaf, wedi ei hennill. 0 1872 hyd 1875 bu yn fugail ar Eglwys y Dyffryn, yn olynydd i Edward Morgan, ac o hynny ymlaen yn fugail ar eglwys Moriah. Nid yr ymladdwr goreu yw y bugail mwyaf Hwyddiiannus yn gyffrediin, ond sicrheir fod Mr. Evan Jones ysn eithriad, a bod eglwysi y Dyffryn a Moriah wedi' llwyddo yn fawr dan ei ofal. Mae Mr. Hobley wedi nodi ei waith gyda'r Gymdeithas Lenyddol fel yr achlysur pennaf i'w dynnu allan yn ystor ei wybodaeth ac yn nodweddion arbennig ei ddawn. Angen- rhaid oedd dyfod ystormydd, ond ei arwyddair ef bob amser oedd yr un Joffre ym mrwydr fawr yr wythons ddiweddaf,—Buddugoliaeth neu Angau; ac fe wyddaiJ pawb hynny. Blu Mr. Evan Jones mewn cysylltiad agos 'a'r wasg ar hyd ei oes, naill ai fel argraffydd, fel awdwr, neu fel golygydd. Fel y crybwyll- wyd bu yn perchen swyddfa ym Machynlleth; cyhoeddodd o leiaf dri o lyfrau, a bu yn olyg- ydd ar dri o newyddiaduron. Ond nid yn y cyfeiriadau hyn yr oedd ei nerth, ac nid dyma ei le blaenaf yng ngwasanaeth ei wlad. Yn wir yr oedd' yr hyn a wnaeth yn y cysylltiad yma yn llai nag a dybid ar yr olwg gyntaf. Nid oedd ganddb ran gyda chychwyn y Goleuad, ac ni bu yn ei olygu ond am dymor cymharol fyr. Wed-it ei adael cychwynodd yr Amser oedd, fel gwrthymgeisydd i'r Goleuad. O'nd ber fu oes yr Amseroedd; ac nid llawer mwy llwyddiannus fu hanes ei gysylltiad a newyddiaduron eraill. Yr oedd yn ysgrif- ennwr poblogaidd, ac yr oedd ei erthyglau yn batrwm o'r hyn ddylai prif erthyglau newydd- iaduron fod. Ond, rywfodd, yr oedd am- gylchiadau yn ei orfodi i dorri ei gysylltiad cyn i'r papurau gyrraedd tir uchel o lwydd- iant; ac nid yw ei ddylanwad drwy y wasg Wedi bod yn gyfartal i ddylanwad Thomas Gee ar y g'enedl, neu ddylanwad Dr. John Thomas ar ei enwad ef. Ysgrifennodd lawer i gylehgronau ei enwad, a rhywfaint i F'eibl y Teulu, a gyhoeddwyd gan Mr. Gee. Llanwoddi le pwysig ac amlwg yn y Cyf- Undeb Methodistaidd. Diangenrhaid yw crybwyll y gwahanol swyddau a lanwodd, oblegid nid oes un swydd o bwys nad yw wedi i Ilenwi a hynny yn llwyddiannus ac anrhy- deddus. Yr olwg drefniadbl i'r gwaith a ennillai ei ddyddordeb, megis trefn gweithred- oedd y capelau, &c. Vn Arfon yr oedd ei ddylanwad ef yn y Cyfarfod Misol yn fawr,- pa un ai ei ddylanwad ef neu Mr. Thomas Roberts, Bethesda, oedd fwyaf ar un.tymor sydd bwhc o hanes yn aros heb el benderfynu. Yn y Gymdeithasfa a'r Gymanfa Gyffredinol, cymerai ran flaenllaw; ond byddai yr elfen ddadleuol neu ymladdgar yn ami yn troi yn anfantais iddo. Byddai mor benderfynol dros y golygiad a gymerai ar y mater fyddai ger bran fel y byddai weithiau yn dyfod i wrth- darawiad a'i frodyr. Nis gwaeth ganddo ef am hynny os y byddai ei argyhoeddiad yn galw, ac ni arbedai neb pwy bynnag. Mae i ymladdwr lu o ed'mygwyr, ond nid yw yn grefft sydd yn ennill cyfeillion, a bu raid i Mr. Evan Jones dalu'r pwyth am hyn yn ddi- arneu. Weithiau cariai bethau yn rhy bell, fel yng N ghymanfa, Bbotle a mannau eraill. Olnd drwy bopeth credai yn ei sa,fle, a chredai Pawb fod' ganddo ef argyhoeddiadau dyfnion. Yr oedd yn ormod o ymladdwr i gael y lie blaenaf oil. Ar un adeg, wedi marwolaeth nr. Hug'hes. bu agos iddo ddyfod yn arwein- ydd yng Nghymdeithasfa y Gogledd; ond ni choronwyd mohono ef,—na neb ar all. Ond bu ganddo law gyda ymron bob mater cyfun- debol o bwys, ac yn enwediig gyda sefydliad y Llyfrfa, a theimlai yn falch o lwyddiant mawr y blynyddoedd cyntaf yn ei hanes. Efe: oedd prif arolygydd y gwahanol g-yhoeddiadau cyf- undebol, a dywedai yn dhwareus mai y tymor mwyaf llwyddiannus ar y Llyfrfa oedd yr adeg pan nad oedd neb ond efe a Mr. O'Brien Owen yn y Pwyllgorau. Hwyrach nad oes ar gael well disgrifi'ad o'i nodweddion fel pregethwr a siaradwr na'r un a ganlyn a ysgrifenwyd gan Mr. Hobley ychydig fliynyddüedd yn ol, ac a, gyhoeddwyd yn yr "Ymwelydd Misol — Fel pregethwr, fe ddaw ei holl nodwedd- ion fel dyn i'r golwg ynddoi, a holl adinoddau ei feddwl. Fe fanteisia yn y pulpud ar ei waith ar y llwyfan; a phregetha mor naturiol ag y sieryd arDldirwest neu Ddadgysylltiad. Ac fe edrych ar bwnc ei bregeth, pa un bynnag ai athrawiaethol ai ymarferol fyddo, a'r olwg -eang ar fywyd a berthyn i'r lienor. Fe gyfer- fydd canghennau gwahanol ei wasanaeth ym moncyff y bregeth; ac nid yw fel y gwr am- rywiol ei ddyledswyddau y sonia Daniel Owen am dano, a bregethai rhwng cromfachau. Ac am hynny hefyd, y mae yn naturiol,-yn naturiol yn ei draddodiad, ac yn naturiol yn amcan ac ergyd ei bregeth. Eithr nid yw yntau, mwy nag eraill a ranasant eu gwasan- aeth rhwng amrywiol orchwylion, wedi llwyddo i roi, ei nerth i gyd yn ei bregethu cyson. Y chydilg flynyddoedd yn ol, wrth fyned trwy broftadau tanllyd, y daeth efe allan yn ei nerth mwyaf fel pregethwr. Yr oedd ei bregeth ar Gyfiawnhad," fel y traddododd hi ar y maes yn Sasiwn Treffynnon, yn eng- ihraifft o hono ar ei oreu. Yr oedd pob meddwl a phob ystum yn fyw. Yr oedd en- einiad ar bob rhan o'i ymdrin a'r pwnC yn goleuo'r cyfan, pa un bynnag ai deonglydd- iaeth fanwl a fyddai, ynte eglurhadaeth helaeth, ac o ba le bynnag y cyrchid yr eglur- hadaeth hwnnw, ai o'r Ysgrythyr, ynte deddf- wriaeth, ynte carwriaeth. "Eangder ydyw ei nod angen. Mae ei ddull o siarad yn amrywiol. Fan mewn ym- drech i gael ei feddwl allan fe gilia teimlad o'i lygaid, a thywynant yn loew, oeraidd, fel dur; a bydd yr olwg arno, ar gyfryw adeg yn gwneud i ddyn feddwl am y gwalch yn ysgwyd ei aden yn yr awyr, ar fin disgyn ar ei ysglyf- aeth. Weithiau, pan yn dwyn allan ryw atgof digrifol, fe ostwng ei war ychydig mewn gwyn- fydedd boddhaus, a chan foeli ei glustiau, el amraintau ei lygaid yn bigfain eu ffurf, nes bod o hono yn ddelw o ddigfrifwch. Pan yn cael ei gynhyrfu yn erbyn rhyw ormes, fe gyfyd beneli'n y fraich gyn uched a'r pen, a chyda'r dwrn yng n,ghau,, y wyneb yn estynedig ym- laen, a'r llygaid yn sefyll allan yn grwn gan ddigofaint, fe fytheiria allan ei Anathema, Maranatha. Fe geir y gwahanol ddulliau hyn ynddo yn fynych yn yr un araith, ac, yn llai mynych, a rhywfaint yn llaiamlwg, yn yr un bregeth. Fe ddwg i mewn i'w welediad, drachefn, holl gylch bywyd dyn. Gwelediad Goethe, yn eisyniad ef, ydyw'r eangaf. Fe burir Faust wrth gael ei ddwyn trwy wahanol gylchoedd celfyddyd a gwladweiniaeth a bywyd cyffredim; a rhaid cymryd y pethau hyn i'r cyfrif yn yr ateb i'r cwestiwn am gyf- iawnhau dyn gyda Duw. Mae ateb y Dr. Lewis Edwards i'r cwestiwn yn Athrawiaeth yr lawn yn gyflawn o safle diwinyddiaeth, ond nid o safle eneideg. Fe'i ceir ef ar rai munudau, mewn ym- ddiddan, neu mewn araith fyrfyfyr, yn fwy awgrymiadol a byw a disgrifiadol na phan yn ysgrifennu. Fe allasai rhyw Boswell fod wedi crynhoi ynghyd gyfrol o'i ddywediadau cyfartal mewn teilyngdod i'r gyfrol, dyweder, a ddwg y teitl, The Wit and Wisdom of Douglas Jerrold." Ceir ganddo ambell i ffansi annisgwyliadwy, deilwng, yn ei digrif- .wch eitthafol, o'r Baron Munchausen; ac ambell i gyffyrddiad aruchel, yn nodau dyfnaf a mwyaf swynol ei la is, pan hwyrach yn adrodd am ddylanwad yr olygfa ar y mor arno, neu anthem gysegredig." Erbyn hyn mae'n gorffwyso wedi diwrnod o. waith caled a gonest, a'i gorff wedii ei roi i'w gadw yn naear y sir a garai mor fawr. Bydd ei enw yn aros fel un o wroniaid1 amlycaf Ym- neilltuaeth yng Nghymru yn y frwydr olaf o blaid Cydraddoldeb Crefyddol.