Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

PERSONOL.

News
Cite
Share

PERSONOL. Pregethodd y Parch. Evan Jones ei bregleth ymadawol yn eglwys Adwy'r Clawdd y Saboth diweddaf. Mae yn symud i fyw i Wrecsam. --0- Croesawyd y Parch1. Ellis Williams ar ei sefydliad yn fugail ar eglwysii Bethel, Llan- sawel, a Rhydcymerau, yr wythnos ddiwedd- af. D'echreuodd ar ei. waith dydd Saboth. r 6 Yr wythnos ddiiweddaf eisteddai yr Henadur John Williams ar fainc ynadol St. Clears, Sir Gaerfyrddin, y tro, cyntaf ar ol ei adferiad i'w iechyd. Mae efe yn 95am mlwydd oed, ac efe yw. yr ynad hynaf yng1 Nghymru i, eistedd ar y fainc, Mae Syr Francis Darwin, F.R.S., mab yr enwog Charles Darwin, yn aros yn Aberdyfi. Y Saboth diweddaf dechreuodd y Parch. W. Ð. Williams, gynt o Dlalybont, ar ei waith fel bugail eglwys-Horeb, Llanfairfechan. Y Parchn. William Jones, Aberdulais, a Wynne Davies, Rhos, oedd yn cynnal cyfar- fod pregethu eglwys Shirland Road, Llundain, y Saboth diweddaf. Mr. Edward Jones, Y.H., Maesmawr Hall, oedd yn llywyddu, a Proff. David Evans yn arwa,in, yn negfed gylchwylgerddorol Centre y Forward Movement yng Xgwreesam y Saboth. Cymerotdd cor o 80 o blant ran yn y cyfarfodydd. --0-- Deallaf fod y Parch. Elias Jones a'i frydi ar ymddiswyddo yn y Drefnewydd. Mae yn debyg y bydd hynny yn cymryd lie tua diwedd y flwyddyn. Mae yn y Drefnewydd er ys 25ain o flynyddoedd. Cyn hynny bu yn fugail yn Nhalysarnau, Meirion, a Threfeglwys, Maldwyn. —o— Hysbysir fod Mr. Trevor Lewis, mab Syr Henry Lewis Biangor, ale wyr i Roger Edwards, yr Wyddgrug, wedi ei ddyweddio, å Miss Carina O'Neill, M.B., M.S. merch i Dr. O'Neill, o New Zealand. Mae Mr. Lewis newydd gyrraedd i'r wlad hon 00 Figi Island, ac wedi ymuno a'r 2il Fataliwn 01 Gymry Llundain. --<> Gedy'r Parch. Robert Davies, B.A., Tref- eglwys, y Cyfarfod Misol ddechreu Hydref: a i Dowyn ym Mei'rion. Dyma'r ergyd drymaf er ys tipyn a ga'dd Trefaldwyn Uchaf. Bydd yn chwith odiaeth heb Mr. Davies. Y mae'n ddyn llawn, cydwybodol, gwrol, a doeth. Ac eto haws rywfodd i'w g-adael i Feirion ei gael Z, :na'r un sir arall. Gwnewch yn fawr 01 hono ym Meirion. —o— Oirdeiniwyd y Parch. R. Jenkyn Owen, B.A., hen fugail eglwys Saesneg y Methodist- iaid yng Nghaergybi, yn d'di'acon gan Eg- lwys Llanelwy. Dywed y "Times fod Mr. Owen yn "distinguished member" o'r Cyf- undeb. Flelly, hefyd, y dywed papurau y Pabyddion am y ddau gurad oedd yr un ad'eg' yn Leedis yn croesi oddi wrth yr Eglwys Sefydledig i Eghvys Rhufaim. --<> Sibrydir fod un o> eglwysi SeisnigCaerdydd wedi syrthio mewn cariad a g'weinidog 01 fri weinidogaetha ar hyn o bryd y tu arall i Glawdd Offa. ac y penderfynant wneuthur pob ymdrech i'w sicrhau yn fugail arnynt. Os y ilwyddant byddant ar eu hennill yn ddirfawr, canys un o fil yw, ac efallai nad oes rhaid wrth gymaint o ymdrech ag a dybid, gan y byddai wrth ddychwelyd yn dod yn ol i'w hen gyn- I hefin. Teimla cylch eang1 ddyddordeb yn y symudiad. --0-- Haedda Mr. John Davies, Casnewydd, ei longyfarch yn galonnog am ei rodd anrhyd- eddus i gychwyn y D'rysorfa Gynaliaethol yn Sir Fynwy. Parodd ei weithred' londer nid bychan i'r holl Gyfarfod Misol, a phenderfyn- ant wynebu yr anhawsterau yn wrol. Pe ceffid nifer o leygwyr o gyffelyb ysbryd i'r Caleb hwn, byddai y broMem hon sydd wedi blino Israel Dluw am gyhyd o amser wedi ei solvo unwa,ith am byth. Dyma gyfle braf i nifer o bobl dda efelychu ei esiampl. --0- Nos Iau diweddaf, yng nghapel Salem, Brong-est, trad dod odd y Parch. Joseph Jen- kins, Blaenau Ffestiniog, ei ddarlith odidog ar John Jones," yr hon a fawr fwynhawyd gan gynulleidfa luosog. Yr oedd y darlithiwr yn ei hwyliau goreu, ac nid yn fuan yr anghofir ei sylwadau miniog1 a phellgyrhaeddol. Cymer- wyd y gadair gan Dr. Jenkins, y meddyg ieu- anc o Gapel Dlrindod, Henllan, yr hwn wnaeth ei waith yn dra deheuigl. Cynhygirwyd diolch- garwch i'r siaradwr gan y Parch. Dan Evans, D.D., ac eiliwyd ga;n Mr. Evan Jones, Sichar. Eiliwyd diolch y darlithiwr ii'r cadeirydd gan y Parch. J .Green, B.A. Gwnaed swm syl- weddol iawn 0 elw er cynorthwyo y brawd ieuanc sydd newydd gychwyn ar waith y wcinidogaeth. Mae Dr. Cernyw Willi.ams vn bwriadu rhoddi i fyny ofal eglwys y Bedyddwyr yng Nghorwen ym mis Mai. Mae Dr. Williams yn un o weinidagion hynaf a pharchusaf yr enwad ac yn adnabyddus ymhlith ei gydwlad- wyr drwy Gymru. —o— Drwg gennym glywed am waeledd y Parch. John Owen, Burry Port, brawd fu yn dilyn Cymdeithasfaoedd y De am lawer o flynydd- oedd fel gohebydd v Faner. Sonir am ddangos serch ei frodyr tuag ato drwy wneud tysteb iddo. -{)- Rhoddir- pum' darlith bwysig eleni gan aw- durdodau'r Gilchrist Trust," yn Llanidloes. I'r Brotherhood yr ydym yn ddyled-us am y fraint hon. Nos Iau, Medi 29, siaradai ysg- rifennydd y Trust yn Llanidloes, dan lywyddiaeth Mr. Turner, B.A., yn absenoldeb y Parch. Richard Jones, M.A., Llandinam. Mawr yw dyled y to ieuanc i'r gweinidog enwog uchod. Tlodir y cylch am dymor hir iOherwydd absenoldeb 'Mr. Jones,—y ma!e gyda'r milwyr yn Winchester. Amddifedi'r y Cwrdd Misol o honno fel Llywydd hefyd o hvn i'r Nadolig. -{)- Y mae Mr. Joe Parry, Aberangell, ar fin symud i Rydychen. Cafodd yrfa wych yn Aberystwyth, ac yn awr ar ol graddio yng Nghymru cychwyna tua Rihydychen gydag ysgoloriaeth o _^8o yng N gholeg yr Iesu, ag £20 oddiwrth Sir Drefaldwyn. Y mae Mr. John Parry ei dad, yn un o flaenoriaid gOreu Trefaldwyn Uchaf, ac yn un o bobl dda Corris. Un o Gorris yw Mrs. Parry. Ac ni pheidiodd Joe a thalu gwarogaeth i'w fam bob cyfI:e ga'. Caffed Joe fyw i ddangos ei werthfawrogiad o aberth ei rieni. Proffwydir gyrfa lwyddiiannus Ii Mr. Joe Parry os ca' fywyd ac i,echyd.

MANCEINION.

Advertising

CYMRU AR RHYFEL.