Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

NODION 0 FALDWYN.

News
Cite
Share

NODION 0 FALDWYN. Cynhaliodd y tri enwad ym Meifod eu cyfarfod diolchgarwch uned'ig yr wythnos ddiweddaf, yn y gwahanol gapelau, a gwnaed cas-glad o dair punt tuag at yn ysbytai. Coffawyd yn arfoennig yn y gweddiau am y nifer luasog o'n hieuenctid sydd wedi ym- restru, a diolchwyd' am yr amddiffyn sydd wedi bod drostynt hyd yn hyn. Bydd colled fawr yng Nghyfarfod Misol y Rhan Is-af o'r sir ar ol y Parch. T. Trefor Jones, B.A., B.D., Birmingham, yr hwn oedd yn ibregethwr neill- tuol o .gymeradwy ac yn araf ond sicr ddringo i sylw y Cyfundeb. Bu dro yn 01 yn cyd-bregethu mewn cyfarfod pwysig gyda'r Parch. John Wi lliams, a diau y bydd yn un o'r pnegethwyr pwyiscaf feddwn yn y dyfodol. Nid yw yn gwneuthur 'parade' o'i ddysg, ac nid ydyw yn ymgeisio at fod yn fawreddus, na galluog yn ei ymadroddion. Syml yw, a naturiol, ac yn herwydd hyn yn ddeniadol a hoffus. Gan fod si-brwd. ei fod ar fedr fyned yn physigwr i'r corff yn hytr-ach nag i'r "Corff/' bydd yn anffawd ddifrifol i'r Cyfundeb ei golli, ac yn warth arnom fel eglwysi o oddef hyn Od oesi eglwys- fawr a.chref yn c'hwilio am wr o synwyr, gr,as, a dysg i'w bugeilio, wele un cymwys. Cafwyd pregethau ganddo yn ddiweddar a hir gofir yn Llanfyllin, a mawr hyderir y gwel- Mr. Jones ei ffordd yn glir i ymbriodi a thlodi ac aros- ym mhul-pud y MethodiiSti.aid. Y mae Cyngor Trefol Llanfyllin wedi pasio i beidio goleuo yr ystrydoedd ar hyn o foryd. Nid am fod y trigolion yn caru y tywyllwch, ac nid ofn Zeppelins, ond darbodaeth sydd yn cyfrif am hyn. I gyiarfod a'r golled ariannol drwy y "ddarbodaeth" yma y mae y cwmni nwyol yn codi pris, y nwy i'r siopwyr ac eraill. Felly fel y 'showman,' yr hyn a gollant ar y 'swings' gwnant i fyny am dano drwy'r 'round- abouts!' Darbodaeth go wael ydyw darbodaeth o'r fath yma. Dylasai'r council feddiannu'r nwy cyn dwyn oddiamgylch fesurau o'r fath. Y mae Cyngor Gwladol Llanfyllin yn gostwng y dreth o 2t i 2\. Y flwyddtyn ddiweddaf yr oedd yn 2 4 3c. Pr-awf hyn fod y cyngor yn gwneuthur eu igoreu i arbed y cyhoedd a ihaeddant ganmoliaeth y trethi- dalwyr. Mr. R. S. Parry fydd maer Croesoswallt am y flwyddyn nesaf. Gorfod i'r Major hwnnw fu mewn ymrafael a r 'monument' ar ganol y dref yn Trallwm dalu dros bedair punt am afreolaeth ar ei fodur. Supt. Wil- liams oedd yr erl-ynydd. Y ma,e'r Parch. Enoch Anw-yl, Adfa, wedi derbyn gal wad i fu-geilio eglwysi Cymraeg a Saesneg Aber- gwynfi, Sir Forgannwg. .i Cafodd Miss Kitty Powell, y gantores o Drefal- dwyn filoedd o siigarennau i'w han-fon.at y 7th R.W.F. i'r Dardanelles. Mae'n rhyfedd beth all y genethod wneud os ewyllysiant. Y mae llawer o. fyn'd ar wneuthuri pethau ar gyfer ein milwyr. Ffurfiwyd pwyllgor cryf yn Llanfyllin i'r pwrpas dan lywyddiaeth y faeres, Miss Lomax. Nis gellir byth anghofio lletygarwch ambell. deulu gyda chrefydd. Gwahoddodd Mr. a Miss Hughes, Bryneglwys, ,bobl y,capel i gael te a chyfarfod yn eu preswyl yr wythnos ddiweddaf, a bu bobl Sardis a'r gweinidog a'r blaenoriaid' yno yn mwynhau. Llongyfarchiadau i deulu Llwydiarthi Hall ar <en- edigaeth merch .fechan i Proffeswr a Mrs. Evan Hughes, Lerpwl. Mae'n fam a'r fechan yn dyfod ymlaen yn dda. Cynhaliodd Zion, Croesoswallt, eu cyfarfod pre. gethu yn ddiwedar. Y gwahoddedigion oeddynt y Parchn. Thomas Williams, Caergybi, a Howell Harris Hughes, B.A., Bangor. Y mae Llangadfan wedi cael offeryn cerdd hynod o dda at wasanaeth y cysegr.

LIVERPOOL A'R CYLCH.

NODION 0 LEYN.

MEIRION AR GLANNAU.

NODION OR DE'HEUDIR.

GWRECSAM. 4