Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

[ NODION CYMREIG.

News
Cite
Share

[ NODION CYMREIG. Gaaa ein bod yn awr ym mis Hydref, da inni yw darllen disgrifiad Eifion Wyn 0 hono yn ei delyneg brydferth — Cadwaf fy ngwyl. medd bywyd, Galwaf fy ngwyrdd yn ol, Casglaf fy mlodau adref, O'r mynydd, yr ardd, a'r ddol. Clybu y males a'r prennau, A rhywbryd rhwng hwyr a gwawr, Cyfododd y gwersyll blodau Mae'r gwersyll yn llwyd hyd lawr." -+- -+- Hysbysir am athraw i hen yisgol Ystrad- nieurig, a dyma'r anhebgo,rion: Holy Orders, Welsh Speaking-, Graduate Classical Honours." -+- -+- Ma.e gan Syr John Rhys ysgrif faith yn yr Athenaeum ar y cerfiadau Lladin henafol sydd ar feini ym Mhenmachno, gerllaw Bettws- ycoed. -+- -+- Dywedir fod yr es gob ion Cymreig yn ym- ostwng i'r anocheladwy ac yn paratoi cyfan- soddiad i'r Eglwys ar yr un Ilin,e,llau, a'r ,eg- hvys yn Iwerddon. -+- -+- -+- Cysegrwyd Archddiacon Bevan yn esgob Abertawe yn Elglwys Gadeiriol Caergaint ddydd 'Miercher. Nid oedd yno neb yn cyn- rychioli Cymru yn yr urddiad ond yr Arch- ddiacoo. -+- -+- -+- D'rwy gau y tloty mae gwarcheidwaid Castellnewydd Iimlyn yn arbed ^300 y flwyddyn ar unwaith. A disg'wylir gosod yr adeilad,—i letya carcharorion Germanaidd heu rywbeth. -+- -+- -+- Mewn cyfarfod oe nha dol yng Nghaerdydd dywedwyd fod y casgliad at Gymdeithas Gen- hadol LJundiain wedi myned i lawr o ^497 8s. 7c. yn 1913, i ^364 12s. 6c. y llynedd. I'r Rhyfel y priodolir y lleihad. -+- -+- -+- Ymhlith yr ymgeiswyr am swyddi yn ethol- iadau nesaf Luzerne, P'a., U.D., America, Jriae dau yn igwisgo enwau adnabyddus, Keisar a Dr. Lewis Edwards. Apelia y ddau mewn Cymraeg glan am gdnogaetb y Cymry! Da gweled fed rhai o'r Cymdeithasau Llen- yddol yn paratoialt dymor y gaeaf. Agorir Cymdeithas Lenyddbl Tregaron gan Proff. Jenkin Jones, a darlithir yn ystod y tymor gan 1-^roff. Edward Edwards a'r Parch. Phillip Jones, Llandilo. -+- -+- Tra y mae'r byd yn ferw drwyddoi o achos y Rhyfel, mae gohebwyr y Drych yn ham- ■ddenol yn dad'leu a'u gilydd ynghylch Y Pechod Gwreiddiol." Mae'n amlwg eu bod Yn awyddus am fyned at wreiddyn y mater SY'l)1 creu'r fath alanas. -+- -+- Mor wierthfawr yw cydlymdeimlad a Chymaint mwy 01 waith ell id ei wneud mewn awer cyleh pe ceffid mwy 0! hono. Yn ddi- ^eddar apeliai cymwynaswr neilltuol am gyn- '■"orthwyi gynnal cartre' i dlodion anghenus, c ar derfyn y gtwasanaeth rhbddodd geneth leuanc ddernyn coron yn ei law; teimlodd yntau fed y swm yn or mod; a goifynodd iddi (lnid gwell iddi oedd rhoddi yr hanner. cc Na, na," meddai hithau, cymerwch yr oil, Canys gwn beth yw dioddef eisiau fy hun." Y ^ybodaeth brofiadol hon greai chwyldroad buan mewn llawer o gyfeiriadau. h_- Mae'r drafodiaeth rhwng dwy garfan Undeb Eglwysi Ymneilltuol Cymru yn myned ymlaen yn rh,ag;o,rol,-yng ngholofnau y "South Wales Daily News." Dyma enghraifft airall o'r pethau a sibrydir yn y glust yn cael eu mynegil ar bennau y tai. -+- -+- -+- Ysgrifenna gohebydd i'r South Wales Daily News i ddadleu y dylai y Cyfundebau Crefyddol yng Nghymru wneud ar lai o gyn- hadleddau. Dywed fod Cymanfa'r Method- istiaid yn iN'hwyncarno yn oostio o leiaf £ 150, ac apelia at Mr. S. N. Jones a'r Parch. J. Morgan Jones i gychwyn mudiad o blaid cyn- hildeb. -+- -+- -+- Dywed Gwynfryn Jones fod safle Mr. Lloyd George ynglyn a Gorfodaeth Filwrol yn achosi cryn lawer 01 betruster yn meddwl ei gyfeill- ion. Ofnir ar brydiau mae un o drychineb- au y rhyfel fydd i werin cin gwlad golli ei har- weinydd galluog. Bu er ys amser yn chwarae gyda'r mater hwn, ac erbyn hyn gosodir ef ymhlith pleidwyr Gorfodaeth Filwrol. Mae'n syn ei weled1 ef yn eillunei hen elynion,—Ar- glwyddi Milner a Curzon Mewn llythyr o'i eiddo yn ddiweddar dywed mai mater o ffaith ac nid o egwyddor yw gorfodaeth iddo ef. Os yw y ffeithiau yn gyfryw fel ag ÍJ argyhoeddi y mwyaf rhagfarnllyd nad oes modd ennill y rhyfel hon ond trwy orfodaethL-yna dylem ar bob cyfrif ei dderbyn yn llawen! Dylid' bob amser wynebu ffeithiau1, ac os y gwneir hynny credwn y cedwir Mr. Lloyd George a'i gyfeill- ion ymhell iawn oddiwrth son am orfodaeth filwrol i'r wlad hon." -+- -+- -+ Cyfarfu Pwyllgor Caniedydd yr Anni,- bynwyr yn Llandrindod yr wythnos ddiwedd- af, a gwnaed amryw drefniadau ynglyn ag argraffu a dwyn allan yr argraffiad newydd. Yn ol adroddiad y golygwyr, cynhwysa y llyfr a ddygir allan ychydig yn fwy o emynau, a thros 400 o donau (yn lie 300 yn y llyfr pres- ennol); a bydd ynddo adran neilltuol o emyn- .Y au a thonaui hlant. ond yn gymwvs hefyd i'r holl gynulleidfa, gan ddisgwyl y daw emyn y plant yn rhan o'r gwasanaeth ar y Saboth, fore neu hwyr. Y mae adran y tonau a'r emynau yn cael ei pharatoi ar gyfer y wasg, a d'isgwylir gorffen yn fuan gyda'r corganau a'r anthemau. fel ag i ddechreu a,rgraffu'r oil, os na ddaw rhwystr, tua dechreu'r flwyddyn. Bwriedir i argraffiad o'r emynau yn unig fod yn barod yn gynnar-mor gynnar ag mewn unrhyw fodd y gellir heb ddyrysu'r cyfan- waitb. Argreffir y geiriau yn unig gan firms Cymreig. -+- -+- -+- Yng nghyfarfod sefydlu y Parch. David James, B.A., yn fugail ar eglwys Saesneg Fflint, darllenodd Mr. John Owens, Y.H., Caer, air tarawiadol o lythyr un o swyddogion y Fyddin Gymreig ychydig ddyddiau cyn iddo syrthio ar faes y f t-wydir "One feels tliat the experience that we are going through will havea beneficial effect on those who survive. One is so .near to the world be- yond and strange to say the feeling is one of peaceful expectation It seems to. me. thiat one can experience a mysterious spiritual ex- hilaration. It is a strange experience, and, so different from what one would expect." Ymhen ychydig funudau wedi i Mr. Owens ddarllen y difyniad yna, cododd Mr. James a dywedodd :—" Mae Mr. Owens wedi darllen i chwi ddifyniad 01 lythyr Capten sydd wedi ei ladd yn y rhyfel. Yr oedd y Capten yna yn gyfaiill annwyl i mi, ac yn un o'r rhai cyntaf i ddweyd wrthyf, James, ewch i'r weinidog- aeth. Gwnaed coffad am lawer un sydd wedi colli ei fywyd yn y Rhyfel; ond nis gwn am ddiim mwy effeithiol a thyner na'r coffad yna am Capten Lloyd Jones, Llandipam. Mae Swyddfa y Cambrian News" wedi ei gwerthu i gwmni o argraffwyr o Deheudir Cymru. Deallaf y cynhygiwyd y papur i'r blaid Ryddfrydol cyn iddd fyned i'r farchnad agored. Yr oedd gweithwyr y Swyddfa yn awyddus am i Mr. John Gibson, mab Syr John Gibson, gadw ymlaen y swyddfa; ond yr uwchaf ei gynnyg a'i cafodd. -+- -+- Yng nghynhadleidd, Didirwestol Sir Fflint, cwynai rhywrai fod y gweinidogion a'r eg lwysi yn ddifraw gyda'r cwestiwn dirwestol. Y prawf o hynny oedd fod trysorfa y, gyn- hadledd yn wag; ond erbyn holi deallwyd nad oedd anghenion y gynhadledd wedi, eu gosod 0 fl'aen y wlad. Peth dai yw bod yn sicr o'r ffeithiau cyn dechreu beio. Mae digon 0 waith i gar,edigion Dirwest yn Sir Fflilnt heb feio ar eu gilydd. -+- -+- -+- Yn y mis hwn arfaethodd Cyngrair yr Eg- lwysi Rhyddion gynnal Cynhadledd Genedl- aethol yn Abertawe, i ymdrin a phynciau fel y rhai canlynol:—" Cristionogaeth a Chenedl- aetholdeb," Eglwys Rydd Unedig ii Gymru," Y Delfryd 01 Gyfundrefn Unedig i Ysgolion (Sul Cymru," &c. Nid1 oes neb feiddia ameu pwysigrwydd y mater ion, ond a yw yn amser- ol i ymdrin a hwy yn y cyfwng difrifol hwn yn hanes y wlad sydd' gwestirwn arall. Beth bynnag, am ryw resymau neu gilydd, dywedir fod y Gynhadledd wedi ei gohirio hyd adeg fwy cyfleus. -+- -+- -+- Beth bynnag ddywed neb am y diweddar Mr. Keir Hardie, ni wiw gwadu'r ffaith nad oedd ym meddu ar bersonoliaeth gref ac anni- bynnol i'r eithaf. Yn ychwanegol, meddai ar galon lan a charedig. Gellid yn hawdd nodi Uu o enghreifftiau o'i garedigrwydd dihafal. Nid oedd neb parotach nag ef yn ^Nh'y'r Cyff- redin i wneuthur cymwynas i ymwelwyr o Gymru. Pan y cymerai pawb arall arnynt eu bod yn rhy brysur i weini ar neb, dim ond danfon gair at y diweddar aelod dros Ferthyr, yr oedd ar unwaith yn barod. Yn hyn nid oedd neb gwell nag ef ond y diweddar Mr. William Jones. -+- -+- -+- Baich preg'ethau dJinion cyhoeddus y wlad ar hyn o bryd yw yr angen am gynhilo. Dyr- chafant eu lief yn ddiarbed yn erbyn pob ffurf ar wastraff, ac nid heb angen y gwnant hyn, gan y dywedir fod amseroedd blin yn ein haros ar ol y rhyfel. Yn rhai o'r newyddiad- uron geilw rhywun sylw at y priodoldeb o gario'r genadwri allan mewn cylchoedd cyf- I undebol, a mynegia ei farn fod llawer gormod 10 arian yn cael eu gwario, ar Sasiynau a Chyfarfodydd Mi sol y ,cÖrff-arian y gellid yn hawdd eu hebcor. Diau y ceir amrywiol farnau ar hyn, ond haedda'r lief ystyriaeth bwysig. -+- -+- Dyma fel y mae Mr. O*. M .EdWards yn gosod i lawr y ddadl o blaid milwrtaeth orfod- ol:—" Y mae inni wlad a gwladwriaeth. Y mae'n gartref goreu rhyddid hyd yn hyn. Yr ydym oil yn derbyn amddiffyniad a golud a chysur, ni raid1 i neb oddef cam na newyn, oil oherwydd ein cymdeithas â'n gilydd. Yn awr y mae gelyn cryf a chreulon yn ymosod .Y arnom. Ai rhai 01 honom yn unig sydd i aberthu ein 'heiddo a'n cysur a'n bywyd i gadw ein gwlad rhagddo? Tra bo rhai o fechgyn y Rhondda yn rhoi eu bywyd i lawr yn Ffrainc i gadw'r gelyn draw, ceir eraill yn ymdyrru, ar awr dduaf y rhyfel, i weled ymladd dyrnau yn N'honn y Pandy. Paham y rhaid i wr, sy"n cashau rhyfel, anfon eii fechgyn i farw dros y rhai'n? Os ydynt yn mwynhau ffrwyth- "u rhyddid, paham na theimlant hefyd eu cyf rifoldeb iddo< ?