Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

NODION OR DEHEUDIR.

News
Cite
Share

NODION OR DEHEUDIR. Coffad.-Nos Sul diweddaf yn Bethel, Hirwaen, o goffadwriaeth i Lieut. Gwilym .R. Jones, athraw ffyddlon ac ysgrfennydd yr Ysgol Sul a laddwyd yn y Dardanelles, a Mr, John Williams. cymeriad tawel a diymhongar, chwaraewyd y 'Dead March in Saul' gan y cyfeilwyr Mr. Tom Richards, iL.L.C.M., a Miss Jennet 'Davies, tra y safai y gynulleidfa ar ei thraed'. Calon H,ael.—Anrhiegwyd eglwys Bethania, Aber- dar, gan Mr. John Mills (Tari.anydd), yr hwn sydd a'i ysbryd mor ieuanc .ag erioed, a set o lestri Cym- undeb a chwp.anau unigol. Gwerthfawrogir y rhodd yn fawr gan yr eglwys, a gwnaed defnydd ohoni nos, Sul diweddaf am y tro cyntaf. Y gweinidog a bre- gethai gartref. Yr Englynwr.—iDistrywio oawb a phopeth yw hanes rhyfel, ond y mae wedi ,ac yn. parhau i sym- bylu Gwernogle i gyfanu y sillafau, ac er cymaint y discoid yn swn y fagnel y mae cynghanedd byw yn ei englynion ef drwyddynt i gyd. Yn y gadwyn ddi- weddaf o'i eiddo y pwnc ydyw "gorfodiaeth." Cana ef yn rhiydd i.awn ar bwn.c fel hwn. Adnewvddu'r Deml.-Y mae y frawdoliaeth vn y Trinity, Abertawe, wedi gweld yn dda wella ac harddu tioyn ar y capel, a thra y bydd y crefftwyr wi< h y gwaithi ymgynullant i Hen Gapel Gomer i ly gyflwyno gwasanaeth i'r Arglwydd. Y Rhyfel a'r Eglwys.—Llongyfarchwn yn galonnog Mr. Wm. John, Ysg. Eglwys Soar, Hopkinstown, yr hwn gipiodd y wobr .allan o driarddeg yn eisteddfod Abe: cynon am y traethawd goreu. Perthynas yr Eg- lwys Gristionogol a Milwriaeth oedd y testun. Gwm- l'yn oedd v beirniad. a rhoddodd ganmolaeth uchel iawn i'r cyfansoddi.ad. Send Off.—'Rhoddodd eglwys Hermon, O,gmore Vale, "fynediad ymaith" calonnog i dri o filwyr ar eu hvmadawiad i Winchester. W-edi eistedd wrth fwrdd y wledd dymunai y gweinidog y Parch. Charles Williams ar ei ran ef a'r eglwys amddiffyn Duw a dychweli.ad diogel. Os haedda rhywrai air o galondid a chefnogaeth ar hyn o bryd ein mi:wyr dewr sydd a'u hwyneb ar y gelyn ydynt. Angladd Filwrol.-Beth amser yn ol ymunodd Thomas ugain oed. mab Mr. a Mrs, Samuel George, Penuel, Pontypridd, a'r fyddin. Gymerwyd ef yn g'af bythefnos yn ol, a bu farw yn ysbyty Win- chester. Deuwyd a'r corff yn ol, a chladdwyd ef y Llun diweddaf yn Nhirefforest. Yr oedd yr angladd yn un filwrol, tyrfa fawr yn bresennol, a rhai mil- oedd o edrychwyr ar hyd ymylon y ffordd. Chwar- aeai y seindorf y Dead March yn doddedig dros ben. iSaethwyd deirgwaith yn ol yr arferiad gan nifer o filwyr tros y bedd. Gwasanaethwyd yn.yr angladd g,an y Parch. W. Deri Morgan a Mr. Augustus Rich- ards. Yr Wyl Breigethu.—Pantywyll, iMerthyr-Parchn. Dan;el Davies. Pentre. a Pumsaint Jones, Treharris. Twynrodyn- Parch. Wm. Adams, B.A., Llanelly. Bethania, Glynedd-P.archn. T. E. Thomas, Trefori- ris, a Wyn Davies, Rhos. AberfanProff. Dd. Wil- liams, M.A., Aberystwyth, a John Roberts, M.A., Caerdydd. Miscin, Mountain Ash-Parchn. J. O. Jones, Hyfreithon, Cwmafon, ac R. J. Jones, Peny- graig.

C NODION O FALDWYN

Advertising

BRITHDIR, GER DOLGELLAU

CAERNARFON AR CYLCH

Advertising

NAZARETH, LLWYNHENDY