Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

EFENGYL RHYDDII) *

News
Cite
Share

EFENGYL RHYDDII) GAN MR. DAVID SAMUEL, M.A., ABERYSTWYTH. DYMA deitl cyfrol sy'n cynnwys cyfres o ysgrif- au a ymddangosodd, y rhan fwyaf ohonynt, o dro i dro yn yr "Interpreter," chwarterolyn sy'n hysbys i liaws o weinidogion ein gwlad. Ymddangosodd eraill o'r ysgrifau mewn cyf- nodolion eraill; ond y mae'r oil ohonynt wedi eu diwygio a'u helaethu. Yr awdur yw'r Parch. H. D. A. Major sy'n is-lywyckl Coleg y Clerigwyr yn ninas Ripon ac yn olygydd y "Modern Churchman"-greal misol a gy- hoeddir tua chanol pob mis ac a fwriedir gan ei gefnogwyr i gynnal ac eangu achos rhyddid a datblygiad yn Eglwys Loegr. Ond y mae'r greal yn werth ei bwrcasu a'i ddarllen gan ael- odau eglwysi eraill hefyd. Nid gall fod unrhyw amheuaeth am lydanrwydd y syniadau a gyf- lwynir i sylw ei ddarllenwyr gan y golygydd, a'i gyd-lafurwyr. Y mae'r modd yr ymdrinir a rhai o'r pynclau a goleddir gyda math ar serch cib-ddal gan aelodau Eglwys Loegr yn eofn a diymwad; tra o'r ochr arall, y mae'n dra char- [ edig a theg, fel rheol, tuag at syniadau a gol- 1' eddir gan rai sydd y tu allan, i'r Eglwys Sefydl- edig. Gesyd yr ysgrif nodedig a ymddangos- odd yn ddiweddar yn y Greal gan Dr. Sanday ar "The Continuity of thought and the rela- tivity of expression," ei olygiadau ar athraw- iaethau diwinyddol a'r credoau; a dengys ysg- rif Canon Rashdall ar Esgobyddiaeth a'r Olyn- iaeth Apostolaidd nad oes ar ategwyr y "Mod- ern Churchman,'1 ddim ofn llid yr awdurdodau C" goruchel sy'n llywodraethu'r Eglwys Sefydl- edig. Genau yw'r cyfnodolyn misol hwn, i roi mynegiant cyhoeddus i opiniynau'r "Church- man's Union," a gellir gosod allan gyffes ffydd yr undeb hwn o dan bedwar o bennau. Yn gyntaf, maentumla'r gymdeithas hon fod gan yr Eglwys bob hawl i osod allan ei chrediniaeth o gyfnod i gyfnod fel y datguddir gwirionedd iddi gan yr Ysbryd, ac mai hyn yw ei dyled- swydd; yn, ail, y dylid edrych ar bob pwnc sydd yn: "non-essential" gyda phob cydymdeimlad a god'defgarwch Cristionogol; yn drydydd, y dyl- id cefnogi'r sawl sy'n amddiffyn, yn onest a theyrngar, wirioneddau ein crefydd yn wyneb ysgolheigdod ac ymchwil diweddar; yn bed- werydd, y dylid annog a chefnogi pob ymdrech a wneir i ddwyn Eglwys Loegr ac eglwysi er- aill yn nes at eu gilydd mewn ysbryd brawdgar- wch a chariad. I'n darllenwyr goleuedig, ymneilltuwyr meddylgar, nid oes yn y pedwar pwnc rhag- ddywededig ddim afresymol; ymddangosant fel cyffredineddau a phethau digon synhwyrol; ond i liaws mawr o Eglwyswyr yn, ein gwlad ni. ac yn Lloegr nid ydynt namyn y gwylltineb eithaf —anathema. Ymgais i arddangos pa mor syn- hwyrol yw'r ensyniadau uchod sydd gan, ein haw- dur yn ei gyfrol sy'n dwyn y teitl uchod. Y mae am leihau nifer ein "sylfaenolion" a syml- eidd'io ein credoau. Gesyd ar ei wyneb-ddalen ddau arwyddair. Benthycia un o Baxter- "goreangu ein credo a gwneud mwy o sylfaen- olion nag a wnaeth Duw erioed fu pla yr Eg- lwys dros fil o flynddoedd a'r Hall oddiwrth Esgob Carlisle—"Po mwyaf cymhleth ein credo, tywyllaf ein Crist." Y mae'r amser wedi dod pryd y mae gan yr Eglwys benderfynu rhwng dau allu mawr—a yw Ysbryd Crist i fod yn uchaf, neu ynte a yw'r hen athrawiaethau traddodiadol, a hen arferion, a threfniannau i fod yn gydradd ag ef. Ac eto nid inconoclast chwild'roadol yw ein hawdur; nid yw'n chwen- nych collfarnu popeth a aeth o'r blaen; eithr yn hytrach eu cyfaddasu at anghenion yr oes ac yn unol ag amodau y cyfnod presennol. Gellir edrych ar y grefydd Gristionog-ol oddiar chwe safbwynt—y moesol, y cymdeith- asol, yr ysbrydol; yr athrawiaethol, y sefydl- iadol, y gwyrthiol. Nid y tri olaf ywr pwysicaf o'r chwech. Yr hyn sy'n dra phwysig yw ein proiiad o berthynas i'r tri cyntaf, a rhaid i'r eglwys bwysleisio y tri hynny os yw i wneud ei gwaith a bod yn fifynhonnell goleuni a dylan- wad i'r byd. A gorffwys y giorchwyl hwn ar ysgwyddau swyddogion ein Heglwysi-gweini- dogion, blaenoriaid ac athrawon ein Hysgolion Sul. Nid yw athrawiaethau unrhyw eglw-ys yn anghyfnewidiol ac anffaeledig er i'r eglwys "The Gospel of Freedom," by the Rev. Henry D. A. Major, M.A., Vice-Principal o,f iRipon Clergy College. London T. Fisher Unwin. Price 2/6. honno ddwyn yr enw "Y Methodistiaid Calfin- aidd," ac er i'r athrawiaethau fod yn gorffor- edig yn y "Cyffes Ffydd." Nid crediniaeth athrawiaethau anffaeledig a gam-enwir felly, a threfniannau sefydlog a'r cyfryw sydd yn bwys- ig, ond Ysbryd Crist yn gweithio mewn profiad personol; ac nis gellir cloi'r Ysbryd mewn sef- ydliad yn y byd, nac mewn cyffes na llyfr, na ffurf anghyfnewidlol ar ymadrodd. Ac wrth ddywedyd hyn,, ni amcenir difrio'r hen gredoau a'r cyffesion. Afresymol fyddai hynny. Ymdrech eneidiau o ddifrif i roi myn- egiant i'r meddyliau a'r profiadau dyfnaf oedd yr hen gredoau. Nid peth difater, fel yr ed- liwiai Gibbon, oedd yr ymladd caled dros yr iota yn y bedwaredd ganrif. Gwnaeth cynllun- wyr yr hen gyffesion eu gwaith yn rhagorol, a haeddant bob parch ac edmygedd am eu gwaith; ond ofer yw ceisio rhwymo'r Ysbryd wrth y rhai'n. Gair D'uw nis rhwymir; nid oes atal ar ei ymchwydd ef, ac wrth ddadIeu dros ryddid yr efengyl, yr ydym yn canlyn y Meistr ei Hun, a Phaul, yr hwn y gellir ei alw'n ap- ostol mawr Rhyddid. Dyna ydyw Cristionog- aeth, Efengyl Rhyddid. Dyna oedd Luther— amddiffynydd rhyddid crefyddol yn erbyn, gor- mes y Babaeth a chaethwasiaeth deddfol. Fe ddaeth ein Hathraw i'n rhyddhau oddiwrh "orchmynion dynion" a osodasid i fyny gan vsgrifenyddion vn lie y wir ddysgeidiaeth. bangosodd yr Iesu na ellid rhoi gwin newydd yr efengyl mewn hen gostrelau ordinhadau Idd- ewig. Rhoes i ni waredigaeth rhag pob iau ynglyn a gwasanaeth lleol ac allanol pan gyhoeddodd1 mai Ysbryd yw Duw, a rhaid i'r rhai a'i haddolant ei addoli mewn ysbryd a g'wirionedd. Y cyfryw y mae'r Tad yn eu ceisio. Dyna un o wirioneddau sylfaenol yr Efengyl. Gwir fod amryw o hen sefydliadau ac ordinhadau na charem weled eu diddymu, oblegid i ni gael ynddynt gymaint o wir fodd- had ac adeiladaeth a bendith ysbrydol; ond rhaid cofio nad ydym yn rhwym wrthynt na than, orfod i'w cadw—nid ydynt ymhlith hanfodion yr Efengyl. Ni chyrhaeddir y rhyddid hwn ond trwy addysg; n,id addysg llyfrau, ond addysg fel y darnodir gan Plato, sef troi yr en- aid tua'r goleuni; ac o wneud hynny, chwaneg- ir at nerth a dylanwad yr eglwys mewn, cyff- redinolrwydd a bywyd. Yr ydym wyneb yn wyneb a phynciau mawr fel y canlynol—yr Ysgrythyrau ac Ysbrydoliaeth, yr lawn, yr At- gyfodiad, Cyfrifiad a Phechod Gwreiddiol, Gwyrthiau a Theyrnas Dduw, a rhaid eu heg- luro yng ngoleuni gwyddoniaeth a beirniad- aeth ddiweddar. Ymdrechir yn deg, er yn frysiog, wned hyn yn y gyfrol sydd yn awr ger ,ein bron, gan ddiwinydd gonest a chydwybod- ol sy'n dal gyda chrediniaeth ddiysgog fod Plato, awdur "Y Weriniaeth" yn ogystal ag aw- dur yr Epistol at yr Hebreaid, pwy bynnag yd- oedd, yn wir ddinesydd y Jerusalem Nefol, dinas y Duw bvw.

RHYFERTHWY IWROP. *

A PLEA FOR PURITY."