Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Llyfrau Cyhoeddedig ac Argraffedig yn Swyddfa'r "Cymro," Dolgellau. Esboniad i Blant ar Efengvl Marc (I-VIII). GAN Y PARCH H. LEFI JONES. CROESOR PRIS CEINIOG. I'w cael yn Swyddfa'r Cymro.' GWERSLYFR AR Hanes Moses, Josua, Samson a Samuel, Maes Llafur i'r Plant o dan i6eg oed yn Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd yn Lleyn ac EifLonydd, Ebrill, 1915- M.awrth, 1916. « Gan y PARCH W T. ELIJS, B. v B. D., PORTHMADOG. PRIS DWY GEINIOG. Gwersi Esboniadol ar vr Epistol at vr Hebreaid. GAN Y Parch. T. E. DAVIES, Abertawe. Pris mewn Amlen Bapur, is. 6c.; mewn Llian, 2s. Trwy'r Post, IS. 8c. a 2s. 2c. I'w cael oddiwrth yr Awdwr— FFYNONE TERRACE, ABERTAWE. f Opposite the British Museum. Great Russell Street, London. I Thackerav Hotel Near the British Museum. I Kingslev Hotel Hart Street, Bloomsbury Square,London. I Bedroom, Attendance and Table d'Hote Breakfast Single from 5s. 6d. I With Table d'HSte Dinner, from Be. 6d. With Table d'HSte Dinner, from 8s. 6d. Full Tar iff and Testimonials on Application. Tel.—Regent 2041 (2 lines). 2083 (2 lines). Tel. Add.—' Thackeray London. Bookeraft London." V v ( Use, | KEEHBRI Sflf-Raising { • FLBUR It Makes Perfect J PastrScones, &c. f SOL][ WHoLitsALz AGawn- K maRRIS & JONES, Lhrowol i mad JHtiMlwtiaff V r,o q Telegraphic Address GWALIATEL, London. Telephone Nos. 5010 & 5011 City. HOTEL GWALIA, .nPJPEIEt WOBURN PALCE. LONDON. w.o. CENTRALLY SITUATED. (Within 5 minutes walk of Euston Station and 20 minutes from Paddington by Underground Rail- way to Gower Street Station). BED, BREAKFAST, BATH & ATTENDANCE, 5s. EACH PERSON. I SO luxurloumly Fur 11mbed. Passengers Lift to all floors. Fireproof Building. JOHN M. JENKINS, Manager.
CENHADAETH Y TENT.
News
Cite
Share
CENHADAETH Y TENT. GAN Y PARCH. J. MORGAN JONES, CAERDYDD. iVsGRiFENAis gryn amser yn ol gyda golwg ar t, ddyffryn y Rhymney, y modd y mae yr afon a red ar hyd-ddo yn gwahanu Mynwy oddi- wrth Forgannwg, ac felly yn ol y ddeddf sydd mewn grym yn awr, fod y tafarndai ochr Morgannwg oil ynghau ar y Saboth, tra y maent yn agored ochr Mynwy. Y mae dy- lanwad y tafarndai agored yn dra niweidiol; golyga gynnydd llygredigaeth ac amlhad troseddau. Ardal ar ochr Mynwy yw Aber- bargoed, lie y mae anghrefydd ac anfoes yn ffynnu. Gwnaeth y Cyfarfod Mi sol ymdrech deg i ddarpar ar gyfer anghenion ysbrydol y trigolion, trwy adeiladu ysgoldy eang a, sefydlu eglwys yno. Ond cyn hir deallwyd fod yr eglwys wedi ei meddiannu yn ormodol igan ysbryd yr ardal, a bu raid ei dadgorffori a chau yr ysgoldy. Yn wyneb hyn neidiodd y Symudiad Ymosodol i'r adwy, rhag i'r gelyn gael cyfle i. orfoleddu, a dannod fod efengyl gogoniant y bendigedig Dduw wedi profi yn fethiant, ac anfonwyd y Parch. J. W. Perry yno i lafurio. Bu yn gweinidog- aethu yn y lie am dros iflwyddyn heb un eg- lwys, yn pregethu, yn cynnal Ysgol Sul, ac yn ymweled a'r teuluo-edd, a dechreuodd gael gafael ar y bobl. Erbyn hyn y mae ynoeg- lwys, er nad yw yr aelodau yn lluosog. Ryw chwech wythnos yn ol penderfynasom wneud ymosodiad eg'niol ar baganiaeth ac an- ifoes y He trwy Genhadaeth y Tent, Apostol yr hon yw Mr. W. H. Griffiths. Pentewyn wedi ei achub o'r tan yw Mr. Griffiths, bu unwaith yn nodedig am ei ddrygfoes, ond yn awr y mae yn gystal cofgolofn o ras Duw a'r Apostol Paul, ac fel yntau pregetha y ffydd yr hon gynt a anrheithiasai. Efallai mai prin y gellir lei alw yn bregethwr mawr, nid yw ei ddirnadaeth o athrawiaethau cre- fydd yn eang, ac nid yw yn meddu ar geinder iaith, na meddylddrychau barddonol. Yr hyn sydd ganddo i'w gyhoeddi yw yr hyn a wnaeth Crist iddo ef sef yr hyn y methodd yr heddgeidwaid a'r ustusiaid a holl swydd- ogion y carchar ei wneud. Medd ei areith- (yddliaeth syml ddylanwad gorchfygol ar ddosbarth neilltuol. Cynorthwyid Mr. Griffiths, gan ddau o ef- rydwyr Coleg Diwinyddol Abersytwyth, sef .Mri. Sydney Elvans, B.A., a Cynolwyn Pugh, B.A., a faint bynnag o dda y buont yn offer- ynnoi i'w gyflawni, y mae yn sicr i'w heneid- iau hwy eu hunain gael 11 awn cymaint o les. Addefant ill dau na phregethant byth yr un fath eto. Cychwynent ar eu gwaith trwy gynnal cyfarfod byr mewn ystryd boblog. Mr. Pugh, yn arwain gyda'i -gornet, ac yn tynnu y bobl i'r ffenestri a'r drysau. Gwedi darllen rhannau o'r Gair, ac annerch gorsedd gras, traddodai un o honynt anerchiad difrif- 01 a gorffennid trwy i Mr. Griffiths wahodd y bobl i'r tent. Come to, the Tent," medd- ai Come as you are. The seats are free, hymn-books are provided, and salvation is without money and without price. God bless you." Yn y tent bydda-i dwy gynulleidfa, sef un oddilewn, cynwysedig o- ddynion wedi eu difrifoli i ryw raddau, ac un arall oddi- allan yn clustfeinio' trwy y tyllau yn y cynfas.. Ymysg y rhai olaf hyn byddai un o.'r efengyl- wyr yn myned o gwmpas gan eu hannog i adael eu ffyrdd drygionus a derbynyr Arglw.ydd Iesu. Drannoeth wedi y cyfarfod aent i'r ystryd drachefn gan alw ymhob ty er cael ymddiddan a'r rhai a drigent yno. Caent dderbyniad siriol gai-i bawb ond gan y Pabyddion. Dy- wedai y rhai hynny fod ganddynt eu crefydd eu hunain, eu bod am lynu' wrthi, ac nad oeddent am wrandoi ar unrhyw grefydd arall. Ond fel rheol siaradai y bobl yn rhwydd ac yn rhydd. Profodd yr ymweliadau hyn yn dra bendithiol, a chafwyd cymaint 01 ffrwyth arnynt ag ar y pregethu cyhoeddus. Caf- vyd o hyd i g'annoedd a fuasent gyda chrefydd unwaith. Dywedai yr efengylwyr iddynt ddarganfod digon o wrthgilwyr per- thynol i'r Methodistiaid i ffurfio eglwys gref. Wedi ymosod yn y modd hwn ar un ystryd, troai yr efengylwyr i ystormio ystrydoedd eraill y pentref poblog a gwasgarog, ac ni ro.isant i fyny nes ymweled a phob ty. Cad- went g-yfarfodydd hefyd ar ffordd y dynion yn myned i'r gwaith ac yn dychwelyd o'r gwaith. Syniad hapus o'u heiddo hefyd oedd cael gafael ar y plant, eu gwahodd wrth yr ugein- iau i'r tent, a dysgu iddynt gydganau cre- fyddol tarawiadol. Dysgai y rhai bychain yn gyflym, a byddent wrth eu bodd yn datgan eu caneuon, megis O'h it is glory all the way, glory every day Jesus is my guide, mv help and shield." Canent yn y modd hwn ar hyd yr heolydd, wrth. fyned i'r ysgol a dychwelyd o- honi, ac hefyd yn eu cartrefi. Llanwyd yr holl ardal am dro a miwsig crefyddol, a byddai eu lleis- iau melus yn dylanwadu. yn ddirfawr ar .V bobl mewn oed. Daeth un penteulu dan wylo i'r cyfarfod, gan ddweyd fod ei blentyn wedi ei orchfygu, a'i fod yn teimlo y rhaid iddo roddi ei hun i Iesu Grist. Pa ddaioni gyflawnwyd trwy y Genhad- aeth? Wel, anhawdd yw dweyd yn awr, y mae yn rhy fuan i geisio eyfrif yr ysbail. Gwnaed hyn beth bynnag; dygwyd yr efengyl i sylw cannoedd na fyddent un amser z, y yn myned i le o addoliad; boddodd miwsig yr emynau swn y cablu a'r maswedd, a daeth icrefydd a'i hawlia.u yn destun ystyriaeth Credaf hefyd fod yr had da wedi disgyn ar dir da yng nghalonnau ugeiniau o blant ieu- ainc, ac na fedr holl ddichell y diafol ei ddad- wreiddio. Rhyw uga,in neu ddeg ar hugain o bersonau mewn oed ddarfu ddatgan yn gy- hoeddus eu bod am adael eu ffyrdd drygionus a chanlyn yr Arglwydd Iesu. Ymwelai yr efengylwyr a'r dychweledigion hyn yn eu tai, gan ddysgu iddynt ffordd Duw yn fanylach a'u hannog o lwyrfryd calon i lynu wrth yr Arglwydd. Cafwyd rhai enghreifftiau rhyfedd o allu gras dynion wedi bod unwaith yn flaenllaw gyda chrefydd, ac wedi crwydro fel yr afradlon yn y ddameg i wlad y cibau, yn ca-el eu gorchfygu yn hollol gan yr efengyl, ac yn ymostwng ger bron Duw mewn edifeirwch. Ymysg y dychweledigion yr oedd un Gipsy; iei henw yw Smith, ac yn berthynas agos yn of y cnawd i'r efengylwrenwog Gipsy Smith. Buasai hi unwaith yn wrthrych dirmyg y lie, a phawb yn edrych i lawr ami; ond teimlodd euogrwydd cydwybod o herwydd ei bywyd drygionus, a daeth ymlaen trwy dewder y dorf i ddatgan ei hedifeirwch, ac i weddio am icirugaredd. Gyda llaw yr oedd rhai o'r ,gweddiau cyhoeddus mor rhyfedd ac eto roor syml, fel y gwnelent i'r efengylwyr wenu trwy eu dagrau. Un bachg'en ieuanc a ofyn- nai i'r Arglwydd am faddeu yr holl bechodau oedd wedi gyflawni erioed, ac hefyd y pech- odau a fuasai yn gyflawni oni bae ei fod wedi dod iTr oedfa. Fel yr awgrymais, amhosibl penderfynu eto faint 0 ddaioni gwirioneddol ac arhosol sydd wedi ei gyflawni, na ph a, nifer 01 r rhai ddarfu broffesu edifeirwch a barhant hyd Y dfiwedd. Ys dywedai Morgan Howells, Doctor Time yn unig a wna esbonio hynny. Ond yr ydym yn llawenychu fod rhuthr eff- eithiol wedi cael ei wneud ar deyrnas y tywyll- wch yn y man y mae ei gallu cryfaf.