Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

CYMRU A'R RHYFEL.

News
Cite
Share

CYMRU A'R RHYFEL. Mae mab arall i, Mr. F. Llewelyn Jones, Wyddgrug, wedi ymuno a'r fyddin, ac wedi cael comisiwn yn yr 2ofed Fataliwn. Mae nifer fawr o'r 7f,ed Fataliwn R.W.F., wedi eu ymud o'r Dardanelles, ac yn awr yn warchodlu ar y carcharorion Tyrcaidd yn un o'r ynysoedd cyfagos. Awgrymir y byddai yn dda i Mr. Lloyd George droi staff y Dirprwywyr Eglwysig i wneud cyfarpar, a dywedir fod y Dirprwywyr Yswiriol i droi at yr un g waith Mae Mr. Ithel Davies, mab Mr. Jonathan Davies, Y.H., Porthmadog", wedi dyfod yn ol o'r Dardanelles yn wael. Cyrhaeddbdd i Borthmadog yr wythnos ddiweddaf. Dywed Syr Herbert Roberts y bydd y rhan o gostau'r Rhyfel a ddisgyn ar Gymru tua chan' miliwn o bunnau. Dylai'r wlad syl- weddoli sefyllfa pethau ar unwaith a pharatoi •ar ei gyfer. Bwriedir codi gweithfeydd i wneud defn yddiau at y rhyfel ym Mhorthmadog a Chaer- narfon. Gwneir llawer yng Ngwrecsam er ys wythnosau, ac y mae ym Meirion wneuth- urfa fawr yn cael ei hadeiladu. Mae Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi rhestr o holl efrydwyr y tri choleg cenedlaethol sydd wedi ymuno a'r fyddin. Dylai darllen y rhestr godi cywilydd ar rai teuluoedd amlwg yng Nghymru sy'n cadw'n glir o'r fyddin. Ar gais Arglwydd Kitchener y mae Syr Ivor Phillips, A. S., wedi ail ymgymeryd a'i waith fel prif swyddog y Fyddin Gymreig. Bydd Mr. Gwilym Lloyd George yn dychwelyd i'r fyddin gydag ef. Dau symudiad pwysig dan Gyngor Sir iDrefaldwyn vdvw,-ffu,r-fi;ad pwyllgo,rau o amaethwyr i geisio gwella cynnrych y tir, a'r llall, oeisio dwyn gwasanaeth y nyrses yn fwy cyffredinol. Dyma ddau bwnc pwysig, a dyla.i siroedd eraill ddilyn esiampl Sir Drefaldwyn. Mae y Parch. Walter Williams, rector Tref- nant, sydd yn awr yn gaplan gyda'r Fyddin yn y Dardanelles, mewn llythyr at ei chwaer, yn adrodd hanes cyfarfod crefyddol a gyn- haliwyd mewn vsgubor ar brynhawn Saboth. Yr oeddynt yn rhy agos at y Tyrciaid i ganu, a threuliwyd y cyfarfod i adrodd adnodau. Dyddorol i lawer fydd gwybod mai Cymro jo waed coch cyfan yw Dr. Gwynne, Esgob Khartoum, benodwyd yn ddiweddar yn Is- Gaplan y Fyddin yn Ffrainc. Ganwyd ef yn ymyl Abertawie, ac yn y,sgo-lion y dre' honno yr addysgwyd ef. Brawd iddo yw Golygydd talentog y Morning Post." Myn'd i fyny o hyd wna bechgyn Cymru. Anfonodd hen Volunteer, ac un oedd wedi bod yn y fyddin dirioga-ethol am flynyddoedd, g-a,is amgael ymuno a'r fyddin ac yn ei gais, dywedodd ei fod ar hyd ei oes yn llwyrym- wrthodwr. Cafodd air yn ol yn dweyd mai nid llwyrymwrthodwyr yw'r ymgeiswyr g-oreu. Tybed nad yw yn ormod o'r dydd i :1 oddef peth fel hyn ? Parod yw rhywrai i fynegi nad oes dim lewydd dan yr haul, ond fe ddigwyddodd peth lollol newydd yn Eglwys Gadeiriol Winches- er y Sul o'r blaen, canys am y waith gyntaf Tll. hanes yr adeilad henafol cynhaliwyd yno vasanaeth Cymraeg er budd y cannoedd mil- vyr Cymreig sydd yng nghyffiniau'r ddinas, chanwyd yn Gymraeg rai o emynau anwylaf genedl. Ynglyn a mudiad canmoladwy y Y.M.C.A. gysuro a chalonogi ein milwvr yn Ffrainc, :11aeMa,dam Novello Davies wedi ymgymeryd 'r cyfrifoldeb o ddarparu un babell i'r perwyl wn, a chasglu adnoddau i'r pwrpas trwy Ifferynüliaeth ei Chor Merched. Merch ydyw el v gwyddis i Mr. Jacob Davies, un o flaen- Priaidi ffyddlonaf eglwys Salem, Canton, 'aerdydd. Ii,,} Allan o boblogaetJi o 33,000, mae 5000 wedi ymuno a'r fyddin yn Ebbw Vale. Mae y Parch. Llewelyn R. Hughes, Llan- dudno, wedi ei benodi yn Divisional Chaplain i'r Fyddin Gymreig. Bydd clerigwr arall yn y Z, cael ei ddewis i'w gynorthwyo. Mae Mr. Hughes gyda'r Fyddin yn Winchester. Dymuna y Parch. Waldo Lewis, Mount Hill Farm, Carmarthen, hysbysu ei fod yn myned i lafurio dros y Y.M.C.A., ym Malta, ac y bydd yn bleser ganddb glywed oddiwrth ber- thynasau milwyr sy'n g'lwyfedigion .yn yr ys- bytai yno. Daeth y newydd yr wythnos o't blaen fod Lieut. Malcolm Lewi's, mab y Parch. Elfed Lewis, King's Cross, Llundain, wedi ei glwyfo yn Ffrainc. Nid ydyw'r niweidiau yn drwm, a disgwylir y medr ail-uno a'i gat- rawd ymhen ychydig amser. Vn ol y newydd diweddaraf o ysbyty Alex- andria mae Capten T .H. Parry, A.S., yn dod ymlaen yn wir dda, a chredir y gellir ei symud i'r wlad hon ymhen ychydig- ddyddiau. Caf- odd Mr. Parry ei saethu yn ei droed, ac ofnir nas gall ail-uno a'r fyddin am rai misoedd. Rhoddodd Cymraes o'r enw Miss Ma,ry Davies ei hun at wasanaeth y meddygon yn y Pasteur Institute yn Paris er mwyn iddynt weled beth fydd'ai effaith rhyw feddyginiaeth newydd ar wenwyniad gyda nwy. Daliodd y prawf, er iddo effeithio yn ddirfawr ar ei hiechyd. Nid ydyw'r awdurdodau milwrol yn bwr- iadu cyhoeddi dim o'r manylion parthed yr ymweliadau diwedda,raf gan awyrlongau y gelyn. Mae'r difrod wnaed ganddynt yn bur drwm mewn rhai cylchoedd, ond hyderir y daw'r deyrnas i'r adwy gan ddigolledu v rhai oeddent heb yswirio. Profediga,eth lem dd'aeth i deulu Mr. Robert Lloyd, County Road, Penygroes. Yn ddi- weddar derbyniodd y teulu newydd fod dau o'r meibion ar goll yn y Dardanelles. Eff- eithiodd hyn ar gorff bregus y tad, a nos Sul diweddaf bu farw. Brawd tawel a pharchus oedd Robert Lloyd, ac wedi cael rhan helaeth iawn o brofedigaethau y byd hwn. Y mgyn- hullodd llu mawr prynhawn Sadwrn diweddaf i dalu'r gymwynas olaf iddo, y Parch. J. M. Williams (A.), ei weinidog', yn gwasanaethu.

PERSONOL.