Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

NODIADAU WYTHNOSOL.

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. X Gyllideb. Cyflwynodd Mr. McKenna, Canghellor y Trysorlys, ei Gyllideb gyntaf i Dy llawn a disgwylgar nos Fawrth. Gwyddid ymlaen Haw fod y Gyllideb hon i daflu pob Cyllideb fir erioed o'i blaen i'r cysgod, a bod yn rhaid i'r Canghellor roi beichiau aruthrol ar ys- gwyddau pob dosbarth yn y wlad. Oddia,r brotiad y gorffennol naturiol y bernid y bydd- ai'r gofynion newyddion yn amhoblogaidd, ac y collai Mr. McKenna'r clod a'r enw da y mae wedi eu mwynhau er ei ymgymeriad a phwrs y wlad. Gwir fod gwahanol ddosbarthiadau wedi datgan eu parodrwydd i ddwyn eu rhan. o'r baich; ond un peth yw addaw penagored felly, a pheth arall yw derbyn y baich yn ddi- rwgnach pan roir ef ar yr ysgwydd. O'nd rhyfedd yr ysbryd newydd mae rhyfel fel y presennol wedi ei ddwyn i mewn. Er yn gofyn ac yn tolli yn aruthr, cafodd Mr. Mc- Kenna'r pleser o w ran do ar ganmoliaeth a chlod forced gan rai gynrychiolent bob dos- barth yn y Ty. Cytunid yn gyffredinol hefyd fod ei araith yn hynod 0 g'lir a meistralgar. Mae'r Canghellor yn gwbl gartrefol ym myd ffigyrau, fel y profai ei waith yn gosod y cyn- hygion, a gynhwysent y fath symiau aruthrol a'r fath drefniant cymhleth, allan gyda'r fath symledd ac eglurder. Deallai pob dosbarth a.r unwaith beth olygai'r gwahanol gynhyg- ion iddynt hwy; ond er hynny, teimlid eu bod ar y cyfan wedi eu tynnu allan yn deg", a di- duedd. Y,r Alwajd a'r Diffyg. Mae'r ffigyrau roddodd Mr. McKenna ym- hell y tuhwnt i'n hamgyffred, ac mor aruthrol fel na freuddwydiodd y dychymyg' gwylltai erioed y byddai raid i unrhyw Ganghellor fyth eu hwynebu. Mae holl dreuliau'r wladwr- iaeth am y flwyddyn yn cyrraedd Zi, igo,ooo, 000, tra na ddisg'wylir i'r derbyniadau fod ond £305,ooo,00o,-yn gadael diffyg 0 £:1, 285',000',000'. Bydd v IDdyled wladol dro's ddwy fil o filiynau; ond cynhwysa'r SWill hwn y bentbyciadau i'r Cynghreiriaid a'r Trefedig- aethau, fydd i'w had-dalu wedi'r ek>'r rhyfel heihio. Erbyn hyn yr ydym wedi cynefino a'r son am symiau anferth, fel y derbyniwyd y datganiad gan y Ty heb unrhyw aryvyddion o ofn na phanic. Mae arddull Mr. McKenna hefyd gyda'r oreu bosibl i gy-flwy-no, synedig- aethau cyffrous, am nad oes ynddi liw o syn- edigaeth na chyffro. Gallesid meddwl fod y fantolen uchod, a arweiniai bron i'r anher- fynol, y peth mwyaf cyffredin a naturiol. Cerddai mor sicr ar lwybrau'r miloedd o fil- iynau a phe bai yn delio' a mil o geiniogau, a rhoddai hynny help mawr i gymryd y peth yn dawel. Tolli'r Incwm. D(iang,.en, yw yma fanylu ar holl ddarpar- iaethau'r Llywodraeth i godi'r swm ° gant a saith o filiynau ° bunnau trwy dollau newydd- ion. Rhoddwyd hwy mor syml a, chlir yn y Ty, fel y mae pawb trwy'r wlad bron yn galiu eu hadrodd oil ardafod-leferydd. Yn gyntaf oil daw treth yr incwm, y ffynhonnell bennaf a mwyafnaturiol i dynnu o'ho'nr. Godir 40 y cant ar dreth yr incwm; dygir lleiafswm yr incwm sydd i'w d'olli 0 £160 i « £ I3°) a'r abatements o £1601 i £120 ac o £150' a 4,120 i ;C.Tooi. Am y chwe' mis sy'n aro,s o,'r flwyddyn ariannol bresennol, nid yw'r codiad i fod, ûnd 20' y cant. Gweithia'r ychwanegiad- au fel y canlyn,-Ar incwm heb fod yn enill- ion, codir o 2s. 6c. i 3s. 6c. y bunt; ac ar in- cwm enillcdig o is. 6c. i 2s. ic. Gan mai 20 y cant godir eleni bydd yr ychwaneg'iad y tro nesaf yn 3s. ar yr unearned,' ac yn is., gle. ar yr ',earned income.' Gan fod y cynhygion yn dwyn i fewn nifer o'r dosbarth gweithiol, sy'n ennill £ 2 10s. yn yr wythnos, da iawn yw'r trefniant wneir i gael talu'n chwarterol yn lie yn flynyddol. Yn ychwanegol at dreth yr incwm arferol, gofynir i rhai sydd a'tt hin- CWm díros wyth mil o. bunnau, d'alu ychwaneg Tia,- o,'r blaen 0 uwchdoll; codir y dreth hon 0 2s. ioc. i 3s. 6c. y bunt. Tra y bydd y .gwiekhiwr a enilla £ 2 i5s. yr wythnos ° gyflog1 yn talu 12S, IC. y chwarter, bydd y igfwr goludog sy'n derbyn can' mil 0 bunnau yn y flwydd'yn yn gorfod tdlu toll 01 dros ^34,000, neu ychydig dros y drydedd ran o'i lnewm. Tolli Elw Rhyfel. P'rin y mae neb wedi codi ei lef yn erbyn y tolli trwm uchod ar eu henillion a'u' derbyn- iadau, yr hyn a sierydi yn uchel am ysbryd y dosbarthiadau helaeth sydd i'w dwyn. Diau y bydd achosion o ddioddef ac o anghyfartal- edd yng nghymdbgaeth godre'r rhestr; ond mae'n amlwg fod y genedl yn barod i wneud aberth hyd at ddioddef er cario allan y rhyfel yn fuddugoliaethus. Datgenir llawenydd 'mawr yn bur gyffredinol fod enillion eithriad- ol oherwydd y rhyfel i gael eu tolli hefyd. Yin-hob achos lie y bydd yr enillion eleni yn ,fwy o dros £ 100 nag ydoedd y llynedd, tollir yr elw i, hanner cant y cant. Tollau'r Dyn Tlawd. Nid yw'r tlawd a'r rheidus yn cael ei dolli yn uniongyrchol mwy nag o'r blaen. Nis gellir gwneud hynny ond nid oes neb i ddianc rhag pwysau ofnadvvy y baich newydd. Tala'r tlawd ei doll bob amser yn y siop wrth brynu ei angenrheidiau; a thrwy y gyllideb newydd y mae i dalu uwch pris am doreth ei angen- rheidiau byw. Codir v d'oll ar siwgr o is. roc. i 9s. 4c. y cant; ond y mae'r LJywodr- 'aeth wedi darparu ar gyfer hyn, fel ag i gael gostyngiad yn y pris delid yn awr, a bernir na fydid y codiad i'r prynwr ond dimai y pwys. 'Codir y doll ar de, myglys, cocoa, coffi, chicory a ffrwythau sych, hanner cant y cant; dyblir y doll ar 'patent medicines,' a chodir 3c. y galwyn ar motor spirit,' ifc Tollau Diffynnol. Ar adeg arall buasai'r cynhygion i dolli nwyddau ddadforir i'r wlad hon o wledydd erai'll yn creu ystorm o gyfeiriad caredigion Masnach Rydd; ond yn awr cymerir y cyn hygion wneir gan y Llywodraeth yn bur dawel. Codir toll o 33 J y cant ar foduron tra- mor, films, clociau, watches, offerynau cerdd, hetiau1 &c. Mae rhai o'r rhydd-fasnachwyr puraf yn pryderu rhag ihyn brofi yn y pen draw yn arweiniad i mewn i ddiffyndollaeth ar raddfa fwy ond cytunir yn gyffredinol mai amcan gwahanol sydd i'r ychydig dollau hyn ar hyn o bryd sef ceisio cadw'r fantol yn fwy gwastad rhawng ein hallforion a'n dadforion, a chadw'n dyled i wledydd tramor i lawr, ar adleg pan y gorfodir ni i brynu llawer mwy nag a allwn anfbn allan yn gyfnewid. Y Stamp Dimai. O'nd y mae un o'r cynhygion yn y Gyllideb sy'n amlwg wedi codi gwrthwynebiad digon cryf a chyffredmol i beri iddo gael ail-ystyr- ia,eth y Canghellor a'r Llywodraeth. Cyfeirio yr ydym at y cynhygion ynglyn a'r llythyrdy air- yn bennaf oil, y cynhygiad i ddidd'ymu'r llythyrnod dimai. -Nid1 oes eisiau ond munud o ystyriaeth i weled fod hyn yn chwildroad a brofai'n ddinistr i amryw ffurfi!au ar fasnach. Gwel gwneuthurwyr v picture postcard fod dydd eu masnach hwy ar ben, os y gwneir i ffwrdd a'r stamp dimai; ac y mae'r newydd- iaduron yn fyw i'r hyn olyga iddynt hwythau. Gellir dweyd yn ddibetrus y profai hyn y try- chineb mwyaf gyfarfu a'r papurau Cymraeg, ac a llawer o bapurau Saesneg, yng Nghymru ac allan o Gymru hefyd o ran hynny. Nid ydym yn credu am funud y carir hyn allan. Yn wir, byddai'n waeth nag ofer i'r Llywodr- aeth ei hun. Disgynnai'r d'rafnidiaeth gymaint fel yr amheuwn a ddyg'ai'r doll newydd ddimai 0 ychwanegiad i'r Cyllid. Ei hunig" g'anlyniad fyddai lladd ami i fasnach. Y Sefyllfa Wleidyddol. Da gennym fod yr argyfwng gwleidyddol, i bob ymddangosiad, drosodd, am y pryd; a phawb wedi, boddloni i aros am ddatganiad y Cabinet ar gwestiwn gorfodaeth. Gwnaeth llythyr grymus Mr. Lloyd George lawer i ostegu anwybodiaeth dynion ffolion a gor- selog'. Blin gennym ar yr un pryd weled fod rhai o'i hen edmygwyr a'i gyfeillion yn dal i wneud yr hyn sydd, yn ein barn ni, yn annheg ac anheilwng. Mae awgryinu fod Mr. Lloyd George yn chwarae i ddwy law gwyr fel Arg- .lwyddi Northcliffe, Curzon, a Milner, yn athrod ar brif wladweinydd y werin, ac en- synio iddo unrhyw gydymdeimlad a chynllwyn i gael gwared a Mr. Asquith a Syr Edward Grey yn greulondeb. Mae'r Daily New s wedi gwneud gwasanaeth gwerthfawr lawer gwaith trwy ddadlwmu'r wasg felen; ond heddyw mae mewn perygl o efelychu'r wasg honno trwy ei ensyniadau eithafol a disail. Os yw Mr. Lloyd George wedi ei argyhoedcli y rhaid am fwy o drefn gydag ymrestru, ni ddychrynir ef ac ni ddistewir ef gan ensyniad- au am ei gymhellion personol. Dywedir fo,d 8b,000 yn y ffrynt ag y barna Mr. Lloyd George y dyient fod yn gweithio1 yn y ffactris ar arfau rhyfel, ac yn wyneb y disgyniad yn yr ymrestru ei fod yn credu y rhaid am drefn well er cael darpariaet'h ddigonol mewn pryd. Nid oes neb 01 honom yn caru gorfodaeth filwrol; ond nis gellir cau llygad ar y ffaithi 'fod ymhob man deuluoedd o fechgyn abl a chryfibn yn cadw'n ol tra y mae miloedd o weddwon ac eraill wedi rhoddi ymaiith eu hunig fab, neu gymaint oil ag a, feddent. Beirw yn y Balkans. Cynhyrchwyd cryn lawer o gyffro gan y newydd fod Bwlgaria wedi dyfod i gytundeb a Thwrci, ac yn crynhoi ei milwyr ynghyd' yn barod i ryfel. Ceisiai. Bwlgaria daflu llawer o ddirgelwch dros ei gweithrediadau, a phro- ffesai nad oedd ei chytundeb a Thwrci yn golygu iddi ymladd drosti. Nid oedd, medd- ai, ond yn troi' ei hamhleidioldeb yn un arfog. Fodd bynnag, cesglid ar unwaith ei bod yn ymfyddino yn erbyn Serbia, Ymhen ychydig ddyddiau cyhoeddwyd fod Groeg' yn ym- fyddino mewn atebiad; ac yn awr ymddengys fod cynllwyn Germani i gael Bwlgaria i'r maes yn erbyn Serbia i droi a Han yn gam- gymeriad. Cyfrifai'r Kaiser yn ddiau ar Frenin Groeg; yr hwn unwaith o'r blaen at- aliodd y wlad, dan arweiniad Venizelos, i gymryd y macs. Ond dylasai gofio fod Groeg wedi dychwel Venizelos i awdurdod gyda grym mawr, ac nas g'all hyd yn oed ei chwaier a'i frawd yng nghyfraith edrych ar frad Bwl- garia yn erbyn Serbia heb i Groeg gymryd ei He ochr yn ochr a hi, fel y gwnaeth yn ail ryfel y Balkans. Newyddion Gwell. Mae'r newyddion o'r maes y dy ddiau di- weddaf yn we'll nag y buont er ys amser maith. Yn ystod yr wythnos llwyddodd Rwsia i daro'n ol gyda grym mawr mewn amryw rannau o'r llinell, a throi'r giClyn yn ol mewn rhai mannau. Ofnid fod Arglwydd Kitchener yn rhy obeithiol pan ddywedai fod Germani wedi dyfod bron i ben ei thennyn yn y dwyrain; ond mae'n amlwg nad oedd yn siarad dan ei ddwylaw. Faint bynnag all wneud yno etc, mae ei nerth yn amlwg wedi ei wanhau, a'i symudiad wedi ei arafu ar hyd v ffordd, ei atal mewn llawer man, a'i droi yn 01 mewn rhannau eraill. Ffrainc a Flanders. Ddechreu'r wythnos hon daeth y newyddion goreu gafwyd o'r Gorllewin er ys llawer iawn o amser. Gwyddom fod llinellau y German- iaid wedi eu tan-belennu bron yn ddiorffwys er ys mis o amser; ond rhyfeddem fod y rhuthr yn cael ei oedi. Yn awr, daeth y rhut'hr cyntaf, gan y Ffrancod yn Champagne a'r Prydeiniaid yn La Bassee. Gwnaed y symudiadau hyn yr un pryd, a llwyddodd y naill a'r Hall i dorri rheng flaenaf y gelyn, Cymerodd ein milwyr ni y ffosydd cyntaf am bellter o dros bum"' milltir, ac enillasant 0 ddwy i dair milltir o dir ar hyd y llinell honno. Cymerwyd tir o amgylch Hulluch, pentref ly Lrüos a"r mwnfeydd o'i gylch a Bryn 70. Enillwyd yn Hooge hefyd, ond collwyd yno drachefn,—mewn un rhan. Rhifai'r carchar- orion gymerwyd tua 1,7°°, a; chafwyd gynnau lawer. En ill odd y Ffrancod tua 16 milltir o'r ffosydd, a chymcrasant dros 12,000 yn gar- charorion. Marw Keir Hardie. Bu farw Mr. Keir Hardie ddydd Sul yn Glasgow, wedi cystudd o rai misoedd. Er mai Ysgotyn ydoedd o genedl, cynrychiolai etholacth Gymreig, sef Merthyr Tydfil, yn y Senedd. Gwr eithafol ydoedd Keir Hardie, ac ymladdwr o'r bru. Dechreuodd ei yrfa yn y pwll pan yn saith oed. Dywedir ei fod heb ddysgu ysgrifennu ei enw pan yn 16eg oed. Fodd bynnag daeth yn gynnar yn arweinydd ymysg y g'weithwyr, a. diwylliodd ei hun, fel ag i ddod yn olygydd papur lleol yn Scot- land. Gwneud plaid Llafur yn annibynnol ar bob plaid arall oedd ei nod, a llwyddodd yn rhyfedd mewn ychydig flynyddoedd.