Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

PNODION CYMREIG.

News
Cite
Share

PNODION CYMREIG. Bydd rhif yr efrydwyr yn y Colegau Cen- edlaethol yn fychain y tytrior nesaf. Yn groes i'r disgwyliad mae rhif yr efrydwyr iliwihyddol a'r ymgeiswyr am y weinidogaeth lyn cadw i fyny. -+- -+- -+- Yn y cyfwng hwn pan mac masnachwyr y wlad wedi cyhoeddi rhyfel yn erbyn masnach Germani, awgryma rhywun y priodoldeb i bregethwyr gyhoeddi rhyfel yn erbyn diwin- yddiaeth Germani. A diau' ei fod yn gyngor yn ei le, canys yn y blynyddoedd basiodd rhoddwyd iddi lawer gormod o Ie ym mhul- pudau Cymru. -+- -+- -+- Rhyfedd fel mae gan swyddogion eglwysi syniadau amrywiol, parthed cymhwysder pre- gethwyr i lanw eu pulpudau.. Gwelais ar hysbyslen, fod un o'n gweinidogion mwyaf poblogaidd i bregethu mewn capel ar y Goror yr olaf Sul ym Medi, ac,ar w aelod y' placard, dalier sylw,—" Chaplain to the High Sheriff of A -+- -+- -+- Nid heb achos y teimla Sir Fynwy yn falch or anrhydedd osodwyd yn anuniongyrchol arni ynglyn a materion ariannol P'rydain Fawr, canys wele ddau o'i chynryychiolwyr yn Ganghellwyr y T'rysorlys. F'e hir gofir am gyllideb Syr William Harcourt pan yn aelod dros y Sir, ond teflir honno i'r cysgod gan eiddo'r Canghellydd presennol. -+- Bu y Parch. Rhondda Williams yn ddi- weddar yn gwrando ar ddau bregethwr Meth- odist yn pregethu yn y Gogledd, ac ni phe- trusa gondemnio un yn llawdrwm, a chymer- adwyo'r llall i'r eithaf. Y gwyn fawr sydd ganddo ar y naill law, a baich ei gymeradwy- aeth ar y llaw arall, yw cysylltiad y pregethu glywodd a bywyd y wlad heddyw. Beth byn- nag ddywedir am y feirniadaeth, ni ddylid anwybyddu hyn. -+- -+- -+- r Mae Mr. Llewelyn Williams, yr Aelod Sen- eddol dros Sir Gaer, yn cyflym ddatblygu an- tnibyniaeth, ac yn ergydio ar y dde a'r aswy law. Y dydd o>'r blaen yr oedd mewn gwrth- darawiad a'r mwyafrif o'i gyd-aelodau ar fater arbennig, ac yn awr daw Mr. Lloyd George dan ei ffl'angell 'a rhaid cyffesu ei fod yn gallu "torri i'r byw." Ond gwylied er hynny rhag iddo fyn'd yn Esau a'i law yn erbyn pawb. -+- -+- -+- Beth ellir ei gymeradwyo i, ieuenctid ein hard aloe dd ? Beth yw'r moddion effeithiolaf i wrthweithio hudoliaethau y gelyn-ddyn? Beth i'w wneud yn nhymor y' gaeaf ? Pa fodd y gellir ei ddefnyddioj'r fantais oreu? Dyma rai 0'1" gofyniadau ag y disgwylir i Gymdeith- asau Pobl leuainc ein Heglwysi i'w hwynebu ar hyn o bryd wrth ddarpar ar gyfer y mis- oedd dyfodol. Ymhlith llawer o bethau eraill elIid eu hawgrymu, un fendith fawr fyddai i bob Cymdeithas benderfynu a* ryw un neu ddau o lyfrau teilwng, dalent am eu darllen a'u hastudio, ac nis gwyddom am un atebai well diben na Chaniadau El fed, cyhpeddedig gan Gwmni Addysgol Caerdydd. Yn ychwanegül at y ffaith fod y cynhyrchion yn boblogaidd, apeliant at bob dosbarth, ac nkl "P-s yr un gan yn y Llyfr heb eii chenadwri, a gellir troi'r oil yn fywyd, yn weithredoedd da, ac yn gymeriad pur. Mae ynddynt faeth i feddwl ac enaid. Onid moddion gras fyddai ♦i'bob plentyn ddysgu ar ei gof Du a Gwyn," ac ysbrydiaeth i bawb fyddai gwybod Paid rhoi Fyny," a Rhagorfraint y Gweithiwr," heblaw eraill ellid eu henwi. Maa arolygydd Bwrdd y Llywodraeth Lieol yn cymell y gwarcheidwaid i gau bron yr oil o dlotai Gogledd Cymru. Dywed y bydd i hynny yru y crwydriaid i rywle arall, ac y gellir uno, i gadw'r tlodion cartrefol mewn un sefydliad canolog. Dyma yn union yr hyn y dadleuai un dosbarth drosto- ar adeg sefydl- iad y tlotai yng iNghymru. A ffyliaid y cyf- rifid hwy y pryd hwnnw! Rhyfedd fel y mae pethau yn newid -+- -+- Gwr ledd hawl i ddweyd ei farn am Bre- g-ethu" yw y Parch. F. B. Meyer, D.D., a choindcmnia yn ddiarbed yr arfer o ddefnydd- io papur yn y pulpud. UnNvaith -erio,ed," meddai, "y gorfu i mi ei wneud, a methiant truenus a fu." Creda ef mewn darllen a meddwl a pharatoi ymlaen, llaw yn dda, ond fchydig ffydd sydd ganddo mewn ysgrifennu. Mynnych," meddai, yr af i'm gwely nos Sadwrn heb wybod beth fydd fy nhestun trannoeth, ond ni fethodd y genadwri erioed a dod." -+- --+- -+- Gwnaeth yr Is-brifgwnstabl Guest gais at ynadon Llandudno am iddynt atal trwydded Clwb Goif Rhos-ün-Sea. Cafodd yr heddlu le i ameu a oedd pethau yn cael eu cario ym- laen fel y dylent yn y clwb, a danfonwyd heddgeldwaid yno mewn dillad plaen. Gwerthwyd diod i'r ymwelwyr heb ofyn yr un cwestiwn iddynt. Ond barnodd yr ynadon mai gwell oedd peidio1 gweithredu yn rhy galed gyda'r Clwb y tro cyntaf, ac arbedwyd y drwydded. -+- -+- -+- Cafodd Capten Ormsby Gore gyfle i osod cwynion yr Eglwyswyr yn erbyn ymddygiad y Llywodraeth at D'eddf Dadgysylltiad o flaen Ty y Cyffredin dydd Iau. Cwynai fod y Dir- prwywyr yn ymyryd pan yr oedd y Llywodr- aeth wedi addaw aros hyd ddiwedd y Rhyfel. Ond pan yr oedd ar ganol siarad galwyd sylw at y ffaith nad oedd ganddo ddeugain o wran- dawyr! A daeth yr eisteddiad i derfyniad swta. -+- -+- -+- Yng nghyfarfod diweddaf Cyngor Sirol Meirion, sicrhaodd Mr. L. J. Davies, Llan- uwchllyn, fod mân-ddalliadau Sir Feirionydd yn clirio eu ffordd. Ar y, cyfrif diweddaf gwnaed elw cliro _1-102 IOS. Mewn cyfeiriad arall y mae Cyngor Meirion mewn cryn helbul, gan fod y ddyled yn y bane yn ^19,240. Gwrthoda y Llywodraeth roi arian at godi yr ysgolion ag y mae'r Bwrdd Addysg yn dweyd y rhaid eu cael! Gofynir i Mr. Haydn Jones, A.S., gyfryngu rhwng y Cyngor Sir a'r Llywodraeth. Diau y daw pethau i'w lie yn y man. -+- Rhoddir yn flynyddol bum' medal arian coffadwriaethol Mr. a Mrs. Gee i aelodau hynaf yr Ysgol Sul trwy Gyngrair Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru. Rhaid i'r ym- geiswyr fod yn 70 oed, ac yn parhau ifynychu yr ysgoil. Eleni derbyniwyd 92 o geisiadau, ac wedi ymchwiliad manwl, dyfarnwyd y medals am 1915 i Thomas Jones, Angorfa, Dwyran, Mon, oed 91, yn aelod o'r Ysgol Sul 0"i febyd, ac yn parhau yn ffyddlawn. Mary Jones, Galrdd Efa, Llanfrothen, Mon, oed 90, yn aelod o'r Ysgoil Sul o'i mebyd, ac yn par- hau yn selog. Margaret Griffiths, Bwlch- gwyn, g'er Wrecsam, oed go, wedi dilyn yr Ysgol Sul ar hyd ei hoes. Evan Evans, Felin Glyno-wen, Cross Inn, Aberystwyth, oed 89, svn yr ysgol er yn blentyn, ac yn dal ar hyd ei Itoes. Bydd yn bresennol gyda'i ddosbarth boh Sabo-th. Margaret Thomas, Henllan DinVch, oed 89, yn hynod fryddlawn i'r Ys- gol SlM er yn blentyn ac ar hyd ei hoes, ac yn parhau telly. Beth yw pryd 0 fwyd 1 A ydyw bara a chaws yn bryd o fwyd "? Dyna'r cwest- iwn y golynwyd i ynadon Gwrecsam ei ateb. Gorchymynasid i'r Red Lion gael ei chau i beidio gwerthu diodydd meddwol ond gyda bwyd. Aeth dau ddyn ym>, a chawsant gwrw gyda bara a chaws. Felly y cododd y cwest- iwn. Gallai fod amheuaeth mewn llys barn a yw bara a chaws yn bryd o fwyd. Ond dyma hoff ymborth miloedd o weithwyr. A daw cwrw i mewn hefyd i'w ddinistrio. Oni bai am y cwrw, anodd meddwl am fyr-bryd mwy iach a danteithiol. -+- -+- -+- Dywedir fod yna weinidog Cymreig yn ddiweddar, oblegid anhwylder neilltuol, wedi myned i ymgynghori ag un o specialists Llundain, yr hwn. wed'i ei archwilio yn fanwl, a ofynood iddo os oedd yn arfer siarad yn ei gwsg. Nac wyf," meddai yntau, "ond byddaf dan orfod yn fynych i siarad a phobl eraill yn eu cwsg." "O," medd'ai'r meddyg, "beth gan hynny yw eich gwaith? "Pre- gethu," meddai yntau. Ond chwarae teg i'r gwrandawyr hefyd. Yn ami iawn y mae cymaint o fai ar y pregethwr am gysgad- rwydd ei gynuUeidfa ag sydd ar y gwranda- wyr. -+- -+- -+- Da gennyf weled fod. Undeb y Cymdeithas- au C'ymreig yn cymeradwyo cynllun cywrain Mr. J. H. Manuel, Llanidloes, o ddysgu'r treigliadau. Pregethwr ieuanc a fu gynt yn swyddfa un o'r prif weithfeydd sebon yw Mr. Manuel, a phan oedd yn efrydydd yn ysgol Trefecca canfu drwy brofiad mor anodd yd- oedd i'r sawl a ddysgai Gymraeg heb eu geni'n freiniol wybod pa fodd i dreig'lo geir- iau'n iawn. Gan hynny dyfeisiodd fath o rod bapur i'r disgyblH ei throi er gweled pa gydseiniaid a atebai i'w gilydd yn ol d'eddfau Gramadeg. Priodol y gellid galw'r gyfun- drefn hon yn Manuel's Manual," Treigl- iad Treigliadau," neu "Ddysg ar ddisc." Dygir tystiolaeth effeithiol yn y Times i werth gorffwysfa'r Saboth mewn ystyr natur- iol.' D'ywed y gohebydd fod y rhai orfodir i weithio saith niwrnod o'r wythnos ynglyn a'r rhyfel bron yn ddieithriad yn torri lawr dan y baich, ac yna daw y cyfaddefiad hwn: "It seems clear that the week-end rest is after all the most economical solution of the problem; the men return to work on Monday stronger and better, and work harder in consequence, while the wastage through breakdown and' illness is reduced." Dyma brawf effeithiol fod y Saboth wedi ei wneuthur er mwyn dyn, a hynny gan yr Hwn wyddai angen dyn. Da fyddai pe gellid gwahardd pob math 0' waith diangenrhaid arno1. -+- -+- Yn y 'Sunday School Chronicle,' ceir tabl ystadegol am fynychwyr yr Ysgol Sul yn Lloegr a Chymru. Rhoddir yr ychwanegiad mewn blwyddyn i lawr yn 9,641, a'r Ileihad yn 67,847. Y mae'r lleihad yn saith waith cymaint a'r mwyhad, a chynddrwg a hynny yw darllen fod bron y cwbl 01'1" lliosogiad yn cael ei wneud i fyny gan ddau ddosbarth, sef Byddin yr lachawdwriaeth a Chenhadaeth Dinas Llundain. Rhydd yr ystadegydd hwn ei reswm dros y gwaethygiadau hyn 01 ddau gyfeiriad, sef oddi wrth y rhyfel, yr Eglwys, yr Ysgol Sul ei hun, a'r cartref; ac yn ail, oddi wrth bleserdeithiau diwedd wythnos, y cinema,' llacrwydd cynhyddol at hen sefydl- iadau crefyddol, cyfarfodydd eraill nad ydynt y I Y yn uniongyrchol nac yn fwriadol wedi eu trefnu er mwyn crefydd, yn cael eu cynnal ar y Sabothau, ac amheurwydd ac aflerweh yr Ysgol Sul yn ei haddysgwaith.