Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

CYMRU A R RHYFEL.

News
Cite
Share

CYMRU A R RHYFEL. Dywedir fod pump o feddygon Llandudno wedi penderfynu myned allan i weinii ar y mil- wyr clwyfeclig. Mae mab hynaf y diwddar Dr. T. F. Jones, cenhadwr Amricanaidd, fu yn llafurio yn India, yn y rhyfel yn y Dardanelles. Mae Llifon wedi rhoi gofalaeth eglwys Llan- ddulas.ii fyny, ac wedi dechreu ar ei waith vm- hlith y milwyr yn Kinmel Park. Mae Cymry America wedi anfon 3,470]). o ddoleri drosodd i ddarpar cysuron i'w brodyr o Gymru sydd yn y rhyfel. Mae Capten W. Henry Williams, yr ymgeis- ydd undebol am sedd Gorllewin Dinbych, yn wael mewn clafdy yn Alexandria. Tarawvd ef yn wael pan yn ymlad'd yn y Dardanelles. Mae Miss J. A. Roberts, Bodeuron, Llan- dudno, yn ymadael i weithio dan y Groes Goch, ac ar ei hymadawiiad cyflwynwyd iddi gan ael- odaui eglwys Siloh oriawr aur a bag. Gadawodd Lieut, yr Anrhyd. Charles Doug- las-Pennant, trydydd fab Arglwydd Penrhyn, eiddo gwerth 31,010p. Cafodd ei ladd yn y Rhyfel ar y 2gain o Hydref. Mr. Rees T. Davies, B.A., mab Mr. Davies, Mynydd Hir, Llanwddyn, sydd wedi ei benodi yn athraw yn ysgol air y Bala. Graddiodd Mr. Davies o Goleg Bangor yn Gorffennaf. Yn ol gorchymyn y Cyfrin-gyngor nid yw Deddf Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru 21 yn dyfod i rym hyd ddiwedd y Rhyfel presen- nol. Gan fed bwthynod coed wedi eu darpar i fwy o tua dau gan" mil o filwyr nag sydd yn barod i'w disgyblu, nid yw yn debyg y bydd milwyr yn lletya mewn dim o'r trefi ar lannau y mor y gaeaf nesaf. "William a'i Nain," ebai Dr. Daniel Wil- liams, sy'n gyfrfol am y rhyfel presennol. Priodi Prince C,on,sort,-Prine,e Frederick William o Prwsia,—mae'n ymddangos cedd bai Victoria. Mae'r Milwriadi David: Davies, Llandinam, yn rhoddi ei fodur at wasanaeth y Caplan P. Jones Roberts yn Winchester er mwyn. iddo gynnal gwasanaeth mewn gwahanol ganolfan- n,au. Dywedir fod llawer o Gymry ymysg y carchar- ,-0 orion sydd yn cael eu gorfodi i weithio' yn Ger- mani,—rhai ohonynt yn torri halen, eraill yn y glofeydd. Cwynir fed yr ymborth a roddir iddynt yn sal iawn. Bu Mrs. Lloyd George a Miss Megaa Lloyd George yn y Clafdv Cenedlaethol yn N etky yr wythnos ddiweddaf. Yno gwelsant 204 o fil- wyr ac 8 o swyddogion clwyfedig, y nifer fwv- af ohonynt wedi cyrraedd o'r Dardanelles y noson cynt. Cynhelir Cynhadledd yn Llundain y mis nesaf o holl gaplaniaid yr Annibynwyr a'r Bedydd- wyr, &c. Cynhwvsa'r caplaniaid hyn nid yn unig y rhai sydd gyda'r fyddin adref ac oddi- cartref, lond (hefyd yr 'officrati'ing ministers swyddogol yn nhrefi'r gwersylloedd, a'r gweini- dogion sy'n swyddog'ol yn gweini ar y milwyr clwyfedig yn yr ysbytai. Bydd amryw o Gym- ry ynddi. Gyda Haw, byddai yn dda i berth- ynasau milwyr anfon gair at y swyddogion hyn. Yng Nghaerdydd golygydd y Tyst sy'n gofalu .am y milwyr Annibynol .cymreig yn y gwersyll- oedd, a'r Parchn. W. C. Parry a D. R. Jones, M.A., sy'n gofalu am yr Annibynwyr clwyfedig yn yr ysbytai. Mae tri o Annibynwr ieuainc ymysg y meddygon milwrol yng Nghaerdydd, sef Capten Dr. Ivor Davies, mab y diweddar Mr. E. H. Davies, Pentre; Lieut. Dr. Joseph Lloyd, mab Mr. David Lloyd, Abertawe; a Lieut. Dr. Rufus Bowen, mab y Parch. W. Bowen, Penygroes. Cydymdeimlir a Mr. John Jones. Ty C,)I(J¡, Llanfaglan, un o fiaenoriaicl capel y M.C. ym Mhen y Graig, ger Caernarfon, ar farwolaeth ei fab, John. Ymunodd y mab a'r fyddin yn fuan wedi ,i'r rhyfel dorri allan, ac ymhen am- ser aeth allan gyda'i gatrawd i'r Dardanelles. Clwyfwyd ef yno, ac wedi cyrraedd yr ysbyty yn Alexandria bu farw. Nid oedd ond 23 oed. Mae yn gweithio ymhlith y milwyr Cymreig yn Bedford dri chaplan perthynol i'r Eglwys Sefvdledig, un gyda'r Pabyddion, un gyda'r Wesleyaid, un gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac un dros y Bedyddwvr, y Primitive Method- ist a'r United Methodist, -y tri enwad wedi uno i gynnal un oenhadwr. Mae yr adran sydd yno yn awr yn cael ei galw yn 68th Welsh Division. Mae Mr. David Glynne Owen, mab Mr. a Mrs. Owen Owens, Aelybryn, Pwllheli, yn gwella yn, raddol mewn ysbyty get y Dardan- elles. Ymunodd ef a'r R.A.M.C., a bu yn gweinyddu ar y cleifion er mis Ebrill. Mewn llythyr a anfonodd adref yn ddiweddar edrydd hanesyn clyddorol iawn am ysgwrs a glywodd rhwng dau filwr Cymreig. Y mae yr adran y cvsylltwyd ef a hi yn ymladd yn egniiol er's misoedd i geisio rymryd rhyw fynydd pwysig ac yn cael eu gorfodi i'w ildio yn ami pan bron a chyrraedd e gopa. Pan yr oeddynt yn gorff- wyso un dydd ar y gwastatir, a miloedd o fil- b wyr yn ymgomio a'u gilydd daeth ),iir o Gym- raeg i'w glustiiau ar edyn yr awel. Telmlai ei hun yn cynhesu trwyddo wrth glywed gair o'r hen iaith. yn y fan honno. Yr oedd hynny cyn i'r miIwyr Cymreig (R.W.F.) lanio yno. Pen- derfynodd weithio ei ffordd i gyfeinad y llais, ac yn fuan gwelai dQiau filwr mewn ymgom wresog, ac un ohonynt yn pwysleisio a'i ddwy- law pan yn siarad. Nid oedd ganddo awydd am wrando eu cyfrinach o gwbl, ond nis gallai b beidio ac ymwasgu atynt. A chlywodd un ohonynt yn dweyd wrth y llall, "Wyddost ti beth sydd ar fy meddwl heddyw, fachgen?" Na wn 1, meddai y llall. "Wel," meddai, testun y Parch. John Williams, Brynsiencyn." "0 felly," meddaii ei gyfaill, "sut yr oedd hwnnw?" "0, fel hyn," meddai yntau, gan edrych yn hiraethus ar y mynydd crilog, "0 Arglwydd, dyro imi y mynydd yma."

PERSONOL.